Agenda item

Cais amlinellol ar gyfer codi 5 tŷ sy'n cynnwys dau dŷ deulawr pedair llofft, un tŷ deulawr tair llofft, a dau dy unllawr

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Angela Russell

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gwrthod – rhesymau

 

1.    Ni ddarparwyd unrhyw wybodaeth ynglŷn ac effaith y datblygiad ar yr Iaith, ac felly ni ellir sicrhau nad yw’r bwriad yn groes i ofynion polisi PS1 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017 a Chanllaw Cynllunio Atodol Cynnal a Chreu Cymunedau Nodedig a Chynaliadwy.

 

2.    Mae’r bwriad yn annerbyniol ac y byddai yn debygol o gael effaith sylweddol ar fwynderau trigolion cyfagos a’r ardal o ran aflonyddwch a sŵn, ynghyd ac effaith sylweddol ar ddiogelwch ffyrdd o ran darparu mynediad i gerbydau, diffyg darpariaeth i gerddwyr a defnyddwyr beics a’r ddarpariaeth parcio. Mae’r bwriad felly yn groes i ofynion maen prawf 7 o bolisi PCYFF 2 a polisïau TRA 2 a 4 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017.

 

3.    Nid yw’r cais yn cyfeirio at ddarparu tai marchnad lleol na tai fforddiadwy o gwbl ac nid oes gwybodaeth wedi ei ddarparu o ran cyfiawnhau’r tai eu pris fforddiadwy a sut fydd y bwriad arfaethedig yn cyfarch anghenion y gymuned leol, felly i’r perwyl hynny nid yw’n cydymffurfio a gofynion polisïau TAI 5, PS17,  TAI 15 na PS1 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017.

 

Cofnod:

Tir Ger  Dolwar, Ffordd Pedrog, Llanbedrog, Pwllheli, LL53 7PA

 

Cais amlinellol ar gyfer codi 5 tŷ sy'n cynnwys dau dy deulawr pedair llofft, un tŷ        tair llofft, a dau dy unllawr

 

a)            Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais amlinellol ydoedd ar gyfer codi 5 tŷ oedd yn cynnwys dau dŷ deulawr pedair llofft, un tŷ deulawr tair llofft, a dau dŷ unllawr ar safle wedi ei leoli o fewn ffin ddatblygu pentref Llanbedrog. Nodwyd bod y ffurflen gais yn nodi fod materion mynediad, edrychiad a gosodiad yn ffurfio rhan o’r cais a bod tirweddu a graddfa wedi ei gadw’n ôl.

 

Adroddwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn ffin ddatblygu Llanbedrog fel y nodir yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (CDLl) ac nad ydoedd wedi ei ddynodi neu ei warchod ar gyfer unrhyw ddefnydd penodol yn y Cynllun. Nodwyd mai’r ddarpariaeth tai dangosol i Lanbedrog dros gyfnod y Cynllun yw 16 uned ac yn ystod y cyfnod rhwng 2011 a 2022, cwblhawyd 19 uned yn Llanbedrog (pob un o'r rhain ar safleoedd ar hap). Ymddengys bod y ffigwr yn uwch na’r ffigwr cyflenwad dangosol a gan fod yr anheddle wedi gweld ei lefel twf disgwyliedig trwy unedau wedi eu cwblhau roedd angen cyfiawnhad gyda’r cais yn amlinellu sut fydd y bwriad arfaethedig yn cyfarch anghenion y gymuned leol.

 

Yn y CDLl adnabyddi’r Llanbedrog fel Pentref Arfordirol ym Mholisi TAI 5 ‘Tai Marchnad Lleol’; sy’n nodi, yn amodol ar ofynion Polisi TAI 15 ynglŷn â darparu tai fforddiadwy, mai tai marchnad lleol sy’n cael eu caniatáu o fewn ffiniau datblygu’r aneddleoedd sydd yn berthnasol i’r polisi. Ni fyddai darparu unedau marchnad agored yn Llanbedrog yn dderbyniol. Gwybuwyd yr asiant ar adeg cofrestru’r cais fod angen tystiolaeth o angen lleol ar gyfer cydymffurfio gyda gofynion polisi TAI 5, ond ni dderbyniwyd gwybodaeth o’r fath.

 

Ategwyd nad oedd y cais yn cyfeirio o gwbl at ddarparu tai marchnad lleol na tai fforddiadwy ac nad oedd gwybodaeth wedi ei ddarparu o ran cyfiawnhau’r tai eu pris fforddiadwy a sut fyddai’r bwriad arfaethedig yn cyfarch anghenion y gymuned leol. I’r perwyl hynny, nid oedd yn cydymffurfio a gofynion polisïau TAI 5, PS17 na TAI 15 o’r Cynllun Lleol.

 

Yng nghyd-destun materion trafnidiaeth a mynediad nodwyd bod bwriad defnyddio dwy ffordd i gael mynediad i’r safle. Eglurwyd bod y  ddwy ffordd yn gul, un oddi ar Ffordd Pedrog ac un oddi ar stad Cae Hendy. Nid yw’r ffyrdd ddigon llydan i gerbydau basio ei gilydd nac ar gyfer darparu llwybr cerdded. Er bod bwriad darparu system un ffordd ble fyddai cerbydau yn defnyddio un ffordd i gael mynediad a’r ffordd arall i adael, nid oedd manylion sut y byddai cerddwyr yn gallu cyrraedd a gadael y safle yn ddiogel, na manylion ynglŷn â sut byddai’r system un ffordd yn cael ei weithredu a’i orfodi, h.y. arwyddion, bariau mynediad ayyb wedi eu cyflwyno.

 

Nodwyd bod yr Uned Drafnidiaeth  wedi cadarnhau nad oedd yr un o’r ffyrdd yn addas i’w defnyddio fel mynediad ac nad ydynt yn cwrdd gyda safonau mynediad diogel. Ymhellach i hyn nid oes modd darparu llwybr troed ac mae’r ffordd sy’n arwain at Cae Hendy gyda thro a fyddai’n anodd i gar cyrraedd a gadael y safle heb ystyried unrhyw gerbyd mwy megis cerbydau argyfwng neu ddanfoniadau. Roedd yr Uned Drafnidiaeth hefyd yn cadarnhau nad oedd y ddarpariaeth parcio yn ddigonol.

 

Yng nghyd-destun materion yn ymwneud ag ystyriaeth i’r Iaith Gymraeg ac yn unol â maen prawf (1b) ym Mholisi PS 1 'Yr Iaith Gymraeg a’r Diwylliant Cymreig' gan fod y ddarpariaeth tai yn Llanbedrog eisoes wedi mynd dros y ffigwr ar gyfer y cyflenwad dangosol a osodwyd ar gyfer yr anheddle yn y CDLl, rhaid cyflwyno Datganiad Iaith Gymraeg ar gyfer y bwriad.

 

Adroddwyd na ddarparwyd unrhyw wybodaeth ynglŷn ag effaith y datblygiad ar yr Iaith, ac oherwydd y gwrthwynebiad sylfaenol o’r bwriad, ni aethpwyd i ofyn am y wybodaeth gan asiant y cais. Er gwaethaf hyn, gan nad oedd gwybodaeth ddigonol wedi ei gyflwyno ar gyfer asesu’r bwriad yn erbyn gofynion polisi PS1 ac CCA Cynnal a Chreu Cymunedau Nodedig a Chynaliadwy, ac nad yw’r angen ar gyfer y tai fforddiadwy na’r tai marchnad agored yn glir, ystyriwyd y bwriad yn groes i ofynion y polisi a’r canllaw yma.

 

O ganlyniad i’r asesiad, ystyriwyd fod y bwriad yn annerbyniol oherwydd y materion isod:

 

·         Diffyg gwybodaeth o’r effaith ar yr Iaith Gymraeg

·         Effaith sylweddol ar ddiogelwch ffyrdd o ganlyniad i’r mynediad/allanfa bwriedig, diffyg darpariaeth i gerddwyr a defnyddwyr beics a diffyg parcio digonol

·         Effaith sylweddol ar fwynderau tai penodol o ran goredrych ac effaith sylweddol cyffredinol o ran sŵn ac aflonyddwch o ganlyniad i’r system mynediad unffordd a’r diffyg darpariaeth i gerddwyr

·         Diffyg gwybodaeth ynglŷn â’r angen am y tai marchnad lleol a thai fforddiadwy a’u pris.

 

Tynnwyd sylw at addasiad i’r ail reswm gwrthod yn y ffurflen sylwadau hwyr

 

b)            Cynigiwyd ac eiliwyd gwrthod y cais yn unol â’r argymhelliad

 

PENDERFYNWYD: Gwrthod

 

1.         Ni ddarparwyd unrhyw wybodaeth ynglŷn ac effaith y datblygiad ar yr Iaith, ac felly ni ellir sicrhau nad yw’r bwriad yn groes i ofynion polisi PS1 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017 a Chanllaw Cynllunio Atodol Cynnal a Chreu Cymunedau Nodedig a Chynaliadwy.

 

2.         Mae’r bwriad yn annerbyniol ac y byddai yn debygol o gael effaith sylweddol ar fwynderau trigolion cyfagos a’r ardal o ran aflonyddwch a sŵn, ynghyd ac effaith sylweddol ar ddiogelwch ffyrdd o ran darparu mynediad i gerbydau, diffyg darpariaeth i gerddwyr a defnyddwyr beics a’r ddarpariaeth parcio. Mae’r bwriad felly yn groes i ofynion maen prawf 7 o bolisi PCYFF 2 a polisïau TRA 2 a 4 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017.

 

3.         Nid yw’r cais yn cyfeirio at ddarparu tai marchnad lleol na thai fforddiadwy o gwbl ac nid oes gwybodaeth wedi ei ddarparu o ran cyfiawnhau’r tai eu pris fforddiadwy a sut fydd y bwriad arfaethedig yn cyfarch anghenion y gymuned leol, felly i’r perwyl hynny nid yw’n cydymffurfio a gofynion polisïau TAI 5, PS17,  TAI 15 na PS1 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017        

 

Dogfennau ategol: