Cyflwyno Adroddiad Rheolwr Masnachol Hafan a Harbwr Pwllheli
Diweddariad
ar Faterion Rheolaethol yr Harbwr
Ystadegan
Hafan a Harbwr Pwllheli
Adroddiad
Cyllidol 2022 – 2023
Herio Perfformiad Hafan a Harbwr Pwllheli 2022
Penderfyniad:
Nodi a derbyn yr adroddiad
Cofnod:
Cyflwynodd y Rheolwr Masnachol Hafan a Harbwr Pwllheli ei hun yn
ffurfiol i’r Pwyllgor gan gyfeirio at y papur oedd yn rhoi diweddariad ar
Faterion Rheolaethol a Gweithredol yr Harbwr a Hafan. Ehangodd ar rai materion fel a ganlyn
1.1
Cod Diogelwch Morol Porthladdoedd
Cadarnhawyd bod y Swyddog Harbyrau yn edrych mewn manylder ar y Cod
Diogelwch. O ran y Deilydd Dyletswydd,
cadarnhawyd ei fod nawr wedi ei drosglwyddo i’r Cynghorydd Nia Jeffreys fel y
deilydd portffolio Economi a Chymuned a’i bod eisoes wedi ymweld.
Cadarnhawyd bod cwynion ynglŷn â diogelwch wedi dod i law, yn
cynnwys
· Dim Harbwr
Feistr ym Mhwllheli
· Dim
rheolaeth o fadau personol, a’r pryder y bydd rhywun yn cael niwed
Mewn ymateb, nodwyd bod newidiadau staffio wedi eu gwneud gan gynnwys
apwyntio Harbwr Feistr Cynorthwyol, a bod y tîm yn gyflawn ar hyn o bryd. Hefyd
cadarnhawyd fod Is-Reolwr Harbwr, Will Williams, yn Harbwr Feistr Pwllheli
Cadarnhawyd bod y Meistr Hafan ac Angori wedi bod allan i geisio arafu y
badau personol a bod gwaith i roi uwch-seinydd ar adeilad yr harbwr feistr, a
fydd yn barod erbyn tymor yr haf blwyddyn nesaf. Cyfeiriwyd at y gwaith o hyrwyddo a hysbysu y
cyflymder a chadarnhawyd bod cwch yr Heddlu wedi bod ar y dŵr am
bythefnos.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r bwriad i roi rhifau adnabod ar
fadau personol, cadarnhawyd eu bod i fod i gael rhifau erbyn hyn, ac er tegwch
bod y niferoedd helaethaf gyda.
Cadarnhawyd bod y Masnachwyr Morwrol yn rhannu y neges ddiogelwch ond
bod rheoli mynediad yn gallu bod yn broblemus.
Cadarnhawyd bod camerâu cylch cyfyng wedi eu gosod ar y llithrfa a bod
gwaith monitro y Cwmnïau Parcio a Lansio yn digwydd er mwyn ceisio sicrhau
diogelwch i bawb. Nodwyd bod y camera yn
pigo i fyny rhifau, yn enwedig wrth y cei tanwydd, ac yn ychwanegol bod pobl yn
rhannu fideos a lluniau personol gyda y Cyngor.
Cadarnhawyd bod y camerâu wedi eu gosod o geg y Marina er mwyn ceisio
cael llygaid ym mhobman.
Cwestiynwyd a oes erlyniad wedi bod yn dilyn rhai o’r pethau gwirion mae
pobl yn ei wneud, ond nodwyd er bod damweiniau wedi bod nad oedd erlyniadau
wedi dod o hyn, yn bennaf gan nad oedd badau personol yn cael eu cynnwys fel
llongau. Nodwyd nad oes modd rheoli yr
arfordir i gyd yn anffodus.
1.2 Carthu’r
Sianel
Cadarnhawyd bod y gwaith hwn wedi bod yn llwyddiannus iawn ym mis Mai,
ac y bydd yr un ymdrech yn cael ei roi ar ddechrau 2023, yr amseriad penodol yn
ddibynnol ar amseru y dŵr isel.
Cadarnhawyd bod trafodaeth wedi digwydd gyda Dŵr Cymru ynglŷn
â phrynu neu brydles ar y tir. Her arall
yw gwagio basn y marina, ond adroddwyd bod gwaith ar y cyd gyda Ymgynghoriaeth
Gwynedd ar y gweill i weithio ar raglen tymor hir, er y nifer heriau.
Holiwyd am dystiolaeth bod y grwyn newydd yn gwneud ei waith a
chadarnhawyd bod yr arolwg rheolaidd sydd yn cael eu cynnal yn dangos bod y geg
yn mynd yn llai a llai. Cwestiynwyd pam
na fyddai modd ei bwmpio i ochr Glan y Don neu hyd yn oed gofyn i Dwr Cymru
werthu y darn tir dan ystyriaeth?
Cadarnhawyd bod nifer o opsiynau o dan ystyriaeth, yn enwedig gan fod y
strategaeth wedi rhedeg ei hoes, gan gynnwys edrych ar y brydles tir gyda
Dŵr Cymru.
Cadarnhawyd y byddai pwmpio dros y wal yn
creu pryder i’r Gwasanaeth Bad Achub, yn enwedig petai yn adeiladu i fyny ac yn
caledu, ond cadarnhawyd y byddai unrhyw drafodaeth o’r math yn cynnwys y Bad
Achub.
Cwestiynwyd y dyddiad pryd fydd y marina yn
cael ei garthu (o dan y pontŵn) a chadarnhawyd fod y gwaith yn mynd allan
i dendr ddechrau 2022, a’r gobaith oedd Gaeaf 2022, ond wrth gwrs bydd yn rhaid
gwneud y gwaith gwagio y lagŵn yn iawn cyn hynny.
1.3 Materion
Ariannol
Cyfeiriwyd at y ffigyrau oedd eisoes wedi eu
rhannu oedd yn nodi gorwariant o £200,000 mewn taliadau trydan yn unig, a bod
yr incwm yn gryf gyda sefyllfa lawn.
Cyfeiriwyd at y gwelliannau oedd wedi eu gwneud o gwmpas Hafan
Nodwyd bod tanwariant wedi digwydd o ran
materion staffio, gyda llai o staff wedi eu cyflogi dros yr Haf.
Cyfeiriwyd at y gwariant ar gei tanwydd newydd yn y flwyddyn newydd.
Holiwyd tybed a fyddai modd neilltuo rywfaint o arian ar gyfer y dyfodol
(e.e. mae y pontwns yn dod i ddiwedd eu hoes) yn hytrach na bod angen arian gan
y Cyngor? Cyfeiriwyd at y Rhaglen
Buddsoddi, dan arweiniad y Pennaeth Cynorthwyol Economi a Chymuned, er mwyn
sicrhau buddsoddiad hirdymor.
Adroddodd Cynrychiolydd Cymdeithas Deiliaid Angorfeydd Marina Pwllheli
ei bod wedi derbyn adborth positif gan Aelodau ynglŷn â’r sustem diogelwch
newydd, rac beics a’r teledu cylch cyfyng ar y llithrfa.
Atgyfnerthodd y Cynrychiolydd Cymdeithas Masnachwyr Morwrol Pwllheli y
sylwadau gan nodi bod y camerâu cylch cyfyng yn wych, a’r sustem uwch seinydd,
ac y byddai cael y camerâu cylch cyfyng ar y llithrfa yn dda, a nodwyd y byddai
modd edrych i mewn i hyn.
Nodwyd nad oedd wastad yn bosib lletya cychod ymwelwr oedd angen 5 i 6
troedfedd o ddyfnder a holiwyd a fyddai modd edrych i mewn i’r posibilrwydd o
angorfa ddal, fel modd o ddod ac incwm i mewn gan fod 3 pentwr pob ochr, fyddai
o bosib yn ddigonol i 20 cwch. Nodwyd
efallai y byddai modd ystyried hwn ar gyfer buddsoddiad tymor hir.
Nodwyd bod rhai materion esthetig angen sylw e.e. y bin baw cwn a
chadarnhawyd fod y mater wedi ei ddwyn i sylw i Swyddog priodol. Chwyn o gwmpas
yr harbwr. Diffyg addasrwydd mynediad i draeth Marian y De gan nad yw yn
ymarferol gyda phlant a chadarnhawyd bod rhaglen waith ar gyfer y gaeaf i
edrych ar hwn.
Atgyfnerthwyd yr awgrym o neilltuo arian, gan
fod yr Hafan yn llawn ac wedi gwneud elw da.
1.4 Ffioedd a
Thaliadau 2023/24
Cadarnhaodd y Rheolwr Masnachol Hafan a Harbwr bod cyfarfod ar y gweill
i edrych ar y sefyllfa ariannol, yn benodol y sefyllfa chwyddiant. Er nad oedd ffigyrau pendant ar gael, nid
oedd y sefyllfa yn edrych yn addawol iawn.
Yn sgil hyn, cyfeiriwyd at yr angen am ddarn o waith i edrych ar
bŵer trydan, neu rywbeth cynaliadwy er mwyn gostwng y costau trydan. Cadarnhawyd y byddai’r Rheolwr yn rhannu y
ffigyrau pan fyddent ar gael.
Atgoffodd y Cynrychiolydd Cymdeithas Deiliaid Angorfeydd Marina Pwllheli
pawb na fu codiad yn y ffi y flwyddyn ddiwethaf, a bod llawer o gychod ar werth
yn y Marina ar hyn o bryd. Holodd tybed
a fyddai modd cael y wybodaeth am y codiad mewn ffioedd cyn gynted â phosib,
ynghyd a holi am fonws ffyddlondeb?
Cadarnhaodd y Rheolwr bod gwaith ar y gweill, ond bod rhoi gostyngiad i
un grŵp yn effeithio grŵp arall, ond cadarnhaodd na fydd dim yn ei le
y tymor hwn. O ran y costau trydan,
atgoffwyd y Pwyllgor bod pob cwch, beth bynnag ei maint, yn talu 10% at y
trydan a chwestiynwyd a yw hyn yn deg o ran natur wahanol faint gwahanol
gychod?
O ran gweld buddsoddiadau mawr, cyfeiriwyd at y Cynllun Strategol, gan
nodi bod Prosiect Penodol i Dref Pwllheli ble mae trafodaethau ar y
gweill. Ehangodd y Pennaeth Cynorthwyol
Economi a Chymuned ar y gwaith cychwynnol sydd ar y gweill i adnabod cronfeydd
o San Steffan, ond na fyddant yr un maint o fuddsoddiad ac unrhyw fuddsoddiad
blaenorol o Ewrop. Nododd y bwriad i
edrych beth sydd ar gael, ond na fydd yn hawdd.
1.5 Eitemau
Gweithredol
Cyfeiriodd y Rheolwr Masnachol at faterion
mordwyo, cei tanwydd 2023 a llithrfa Hafan, gan gadarnhau bod gwaith wedi ei
wneud ar y llain galed ble roedd cychod yn cael eu storio.
Nododd bod yr ystadegau yn bositif iawn gyda
100% o’r angorfeydd wedi eu llenwi a 10 ar y rhestr aros. Nodwyd bod gwaith ar y gweill i chwynnu y
rhestrau aros, ond bod gobaith y byddent yn llawn eto flwyddyn nesaf.
Cyfeiriwyd at y Cynllun Strategol, gan nodi
bod tri wedi datgan diddordeb yn y briff, gyda’r gogwydd masnachol. Nododd Aelodau’r Pwyllgor ei bod yn bwysig
adeiladu ar y Cynllun Strategol, gan ei bod yn edrych y bydd y Marina am gael
blwyddyn neu ddwy dda. Nodwyd yr angen i
gael Cynllun Strategol yn barod, wedi ei gostio, fel byddai modd symud ymlaen.
O ran cadw yr arian sydd yn cael ei
gynhyrchu yma i’w wario yma, cadarnhawyd bod sgwrs wedi cymryd lle a bod arian
y gronfa am y tair blynedd nesaf wedi ei glustnodi.
PENDERFYNWYD :
Nodi a derbyn yr adroddiad
Dogfennau ategol: