skip to main content

Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Ioan Thomas

Penderfyniad:

Mabwysiadwyd y Cynllun Costau Byw Dewisol.

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas 

 

PENDERFYNIAD

 

Mabwysiadwyd y Cynllun Costau Byw Dewisol.  

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai pwrpas yr adroddiad hwn yw i dderbyn cymeradwyaeth i Gynllun Dewisol y Cyngor i gynorthwyo gyda costau byw. Eglurwyd fod hwn yn gynllun a ddatblygwyd ar y cyd rhwng y Gwasanaeth Trethi a’r Tîm Cefnogi Teuluoedd.

 

Mynegwyd fod y Cynllun Dewisol yn ddilyniant i’r Cynllun Craidd, ble mae’r Cyngor eisoes wedi dosbarthu £150 yr un i oddeutu 40,000 o aelwydydd o fewn Gwynedd. Nodwyd fod angen i’r aelwydydd fod yn byw mewn eiddo Bando Treth Cyngor A i D er mwyn derbyn y cymorth drwy’r Cynllun Gostyngiad Treth Cyngor. Pwysleisiwyd fod y cynllun wedi bod yn llwyddiannus ac mai’r Cyngor oedd yr Awdurdod cyflymaf drwy Gymru i gyflawni’r gwaith yma.

 

Esboniwyd fod Llywodraeth Cymru wedi clustnodi £25m i ddarparu cymorth dewisol at ddibenion eraill sy’n ymwneud â chostau byw, ac eglurwyd fod y cynllun hwn yn amlygu bwriad y Cyngor ar sut i ddefnyddio cyfran Cyngor Gwynedd o’r arian. Yn gyntaf, nodwyd y bydd taliad o £150 i aelwydydd nad oedd yn gymwys i dderbyn taliad dan y cynllun gwreiddiol a’i bod yn derbyn eithriad Treth Cyngor. Amlygwyd nad oedd eiddo a oedd yn derbyn eithriad o’u Treth Cyngor ar 15 Chwefror yn gymwys i dderbyn taliad, ac ar ben hynny bydd y cynnig yn rhoi taliad i aelwydydd lle mae incwm yr aelwyd wedi ei gyfyngu gan mai un person sydd yn byw yno.

 

Pwysleisiwyd fod ail ran y cymorth arfaethedig yn rhoi cyfraniad ariannol tuag at y Rhwydwaith Hybiau Cefnogi Pobl. Credir fod rhoi cyfraniad i’r rhwydwaith yn ffordd effeithiol iawn o sicrhau cefnogaeth i aelwydydd y mae cangen cymorth arnynt gyda’u costau byw. Mynegwyd fod yr aelod cabinet yn credu fod y cynllun hwn yn ffordd effeithiol ac effeithlon o wneud defnydd o’r grant ychwanegol hwn, gan dargedu’r arian tuag at aelwydydd mwyaf anghenus y sir. Nodwyd er fod yr arian hwn i’w groesawu ei fod ymhell o fod yn ddigonol i ddiwallu anghenion teuluoedd mwyaf bregus y sir.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾    Diolchwyd am yr adroddiad a’r gwaith sydd yn cael ei wneud o fewn y maes. Holwyd fod cynlluniau ar gyfer cefnogi pobl mewn dalgylchoedd penodol ond er enghraifft ym Mangor mae Maesgeirchen yn cael ei nodi ond dim gweddill Bangor. Holwyd os bydd gwaith yn cael ei wneud tu hwnt i’r ardaloedd. Mynegwyd y bydd hybiau yn cael ei sefydlu mewn lleoliadau difreintiedig ond y bydd lleoliadau lloeren yn cael eu hagor tu hwnt i’r prif hybiau. Eglurwyd y bydd rhwydwaith cefnogi a digwyddiadau i’w gweld tu hwnt i’r prif hybiau yn ogystal.

¾    O ran y gefnogaeth i Gynlluniau Bwyd gofynnwyd am fwy o fanylion. Eglurwyd fod sawl cefnogaeth ar gyfer cynlluniau bwyd, nodwyd fod grantiau ar gael i Banciau Bwyd, Grwpiau Rhannu Bwyd ynghyd â grwpiau sy’n creu Pryd ar Glyd neu Glybiau Cinio Cymunedol.

¾    Mynegwyd ei bod yn wych fod y Cyngor yn gallu cynorthwyo i drefnu arian er mwyn delio ar broblem, ond nodwyd ei bod yn ofnadwy fod trafodaethau a cynlluniau fel hyn yn cael ei gynnal o fewn y chweched gwlad gyfoethocaf yn y byd.

¾    Nodwyd mai cynllun argyfwng yw hwn, ac mae’r gofyn i weithredu yn gyflym. Diolchwyd i’r adran gyllid am allu sicrhau fod yr arian yn cael ei rannu yn gyflym i unigolion mewn angen. Amlygwyd mai dim ond un cam ymhlith nifer o gamau o fewn y Cynllun Cefnogi Pobl yw’r cynllun yma. 

 

Awdur:Bleddyn Jones a Catrin Thomas

Dogfennau ategol: