Agenda item

Aelod Cabinet: Cynghorydd John Wynn Jones

 

Ystyried Adroddiad  Pennaeth Priffyrdd a Bwrdeistrefol

Cofnod:

a)     Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet  yn amlygu gofynion y Cabinet i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau ystyried yn ehangach gynllun arbedion effeithlonrwydd yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol i drefn wahanol o newid lampau stryd. Bydd sylwadau’r Pwyllgor Craffu yn cael ei gyfeirio yn ôl i’r Cabinet am benderfyniad terfynol.

 

Mae’r drefn newid crynswth yn golygu bod y Cyngor yn newid lampau ar amlder o 3 blynedd mewn un stryd neu ardal, er bod rhai llusernau yn parhau i weithio. Yn sgil datblygiadau diweddar mewn  technoleg goleuo, lle gwelir oes weithredol lampau megis LED yn ymestyn dros fwy o flynyddoedd, mae’n disodli’r angen am drefn grynswth. O ganlyniad gellid diddymu'r drefn o newid lampau ar amlder o 3 blynedd a rhagwelir y gall hyn sicrhau arbedion o £97,000 yn flynyddol i’r Cyngor mewn costau cynnal goleuadau stryd. Yn ychwanegol, drwy gyflwyno lampau LED mae swîts rheoli goleuo megis pylu yn caniatáu ymestyn oes y llusern ymhellach. Bydd hyn hefyd yn lleihau costau ynni ac allyriadau carbon.

 

b)     Mewn ymateb gwnaed y sylwadau canlynol:

-       Bod yr egwyddor yn cael ei groesawu ond angen sicrwydd bod y goleuni yn ddigonol

-       Rhaid sicrhau nad oed effaith ar ddiogelwch y cyhoedd

-       Bod oes y  lampau newydd o 7 – 10 mlynedd yn gywir a realistig

-       Bod angen ystyried bod gofynion gwahanol ar gyfer gwahanol wardiau. Y newid eisoes wedi ei groesawu mewn rhai cymunedau

-       Bod angen cynnal trafodaethau gyda’r cynghorau cymuned o ran awgrymu syniadau a threfniadau diffodd

-       Beth fydd yn digwydd i’r trydanwyr gan na fydd agen newid lampau mor aml?

-       Sut mae’r cynllun yn cydymffurfio a chreu statws awyr dywyll?

 

c)     Mewn ymateb i’r sylwadau nodwyd bod gan y Cyngor 17 mil o lampau a bod y cynllun yn golygu newid 10 mil ohonynt i dechnoleg LED (1mil ohonynt yn rhannol – nos). Amlygwyd bod y Cabinet wedi cytuno i’r Adran ddefnyddio £1.4m o gyllid buddsoddi i arbed y Cyngor i wneud y gwaith am y rheswm y bydd y lampau LED newydd yn cynnig 260k o arbedion costau ynni. Yn ychwanegol, nodwyd bod creu effaith pylu a defnyddio lampau LED yn cydymffurfio a chynllun awyr dywyll; bod y goleuadau newydd yn taflu golau i’r llawr yn hytrach nac i fyny ac i’r ochr; bod pylu am gael ei dreialu mewn rhai wardiau rhwng 10 yr hwyr a 6 y bore. O ran cynnal y newid, amlygwyd y bydd angen un trydanwr yn llai ar gyfer newidiadau crynswth ac un trydanwr ychwanegol am gyfnod o dair blynedd ar gyfer y newidiadau LED. Ar ôl pedair blynedd bydd rhaid rhesymoli nifer y trydanwyr er bydd angen cynllun yn ei le erbyn hynny i gyflwyno lampau addas ar gyfer y ffyrdd a’r cyffyrdd.

 

ch)    O ran diogelu’r gymuned, rhaid arfer gyda’r goleuadau cyn dod i farn arbennig bod newid i ymddangosiad y golau yn beryg. Rhaid cadw safonau o ran diogelu’r cyhoedd ac felly os bydd unrhyw achos sydd yn peri pryder, bydd rhaid tynnu sylw'r Adran ato.

 

PENDERFYNWYD DERBYN YR ADRODDIAD.

 

 

Y Pwyllgor  Craffu yn fodlon gyda’r arbediad ac ei fod yn gwella’r profiad i drigolion Gwynedd. ar yr amod,

i)              bod yr Adran yn cadw golwg ar raddfa allbwn y goleuadau o ran diogelwch i’r cyhoedd

ii)             a thrafod gyda Cynghorau Cymuned yng nghyd-destun diffodd rhannol os yn berthnasol

Dogfennau ategol: