Agenda item

Cyflwyno adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau.

Penderfyniad:

Nodi a derbyn yr adroddiad

.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiadau isod, a gwahoddwyd yr Aelodau i gynnig sylwadau am eu cynnwys a gofyn cwestiynau.

 

Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau yn rhoi diweddariad cryno i’r pwyllgor ar faterion yr harbwr ar gyfer y flwyddyn a ddaw i ben Mawrth 2023.

 

·       Atgoffwyd yr aelodau fod cylch gorchwyl pwyllgorau’r harbwr wedi cael ei greu o dan Adran 102 Deddf Llywodraeth Leol 1972 a bod Cabinet y Cyngor yn cadarnhau’r aelodaeth.

·       Eglurwyd fod Aelod Cabinet Economi a Chymuned yn cael gwahoddiad i fynychu’r cyfarfodydd er mwyn trafod materion pwysig gyda’r aelodau, cyn adrodd yn ôl i’r Cabinet ble fydd angen.

·       Datganwyd fod lleihad yn y nifer o gychod ar angorfeydd yr harbwr. Mae hyn yn achosi pryder gan fod gostyngiad o tua 30% wedi bod yn y ffigyrau hyn yn y blynyddoedd diwethaf, Er hyn, cadarnhawyd fod gwaith yn cael ei wneud er mwyn hysbysebu’r angorfeydd er mwyn cynyddu’r nifer o ddefnyddwyr unwaith eto.

·       Pwysleisiwyd fod yr harbwr dal i fod yn brysur iawn. Fe welir tystiolaeth o hyn yn y ffaith fod nifer uchel iawn o bobl wedi cofrestru i gadw eu cychod ar yr harbwr. Nodwyd hefyd fod defnydd cyffredinol o gychod yn uchel iawn. Er bod y ffigyrau wedi lleihau ychydig, mae’r defnydd o’r harbwr yn uchel iawn o’i gymharu gyda harbyrau eraill y sir.

·       Cadarnhawyd bod cyfarfod herio perfformiad wedi cael ei gynnal ar 21ain Hydref 2022.

·       Mynegwyd diolchiadau i bawb o fewn y Clwb Hwylio, Outward Bound, y Clwb Rhwyfo a’r Bad Achub am gydweithio mor effeithiol gyda’r harbwr yn ystod y flwyddyn.

 

·       Canmolwyd y cwmni sydd wedi bod yn brysur yn ddiweddar yn gwneud gwaith adeiladu o gwmpas yr harbwr drwy adnewyddu wal y cei. Roedd aelodau yn falch iawn fod grisiau pwrpasol yn cael ei ymgorffori fewn i wal y cei ac y bydd y grisiau hyn yn defnyddiol er mwyn bod o gymorth i’r rhai fydd yn ceisio mynediad at ei cychod wrth ymweld ac Aberdyfi.

o   Nodwyd bod un cornel o adeilad yr harbwr yn disgyn 10mm ac mae gwaith yn cael ei wneud er mwyn sicrhau fod strwythur yr adeilad yn parhau i fod yn gadarn

·       Holiwyd am leoliad cywir y grisiau. Yn wreiddiol, credwyd bod y ddau set o risiau yn mynd i’r lanfa er mwyn cynorthwyo’r cychod. Bellach mae un set o’r grisiau ar y lanfa ger swyddfa’r harbwr ac un arall o flaen y Clwb Hwylio.

o   Cadarnhawyd fod y grisiau yn cael eu rhannu ar gyfer y defnydd gorau i’r holl ddefnyddwyr cyn decaf â phosibl. Bydd cynllun y gwaith adeiladu yn cael ei rannu gyda’r aelodau fel rhan o grŵp ffocws er mwyn iddynt allu gweld sut bydd yr harbwr yn edrych yn dilyn yr holl waith adeiladu sy’n mynd yn ei flaen ar hyn o bryd.

 

Côd Diogelwch Morol Phorthladdoedd

 

·       Manylwyd fod yr harbwr wedi cymryd rhan mewn dau asesiad diweddar gan Wylwyr y Glannau. Mae’r canlyniadau o’r asesiadau hynny yn dangos fod yr harbwr yn cydymffurfio â’r côd.

·       Cadarnhawyd bod holl asesiadau risg wedi cael eu cwblhau ac yn cael ei ail asesu yn rheolaidd er sicrhau ei bod yn addas ar gyfer y pwrpas.

·       Datganwyd bod digwyddiad wedi bod dros yr haf ble roedd dau gwch wedi gwrthdaro a'i gilydd, ond nid oedd neb wedi cael eu hanafu ac felly nid oedd rhaid gwneud ymchwiliad pellach. Mae’r Awdurdod Harbwr wedi adrodd ar y digwyddiad i MAIB (Marine Accident Investigation Branch) fel rhan o adroddiad digwyliedig.

·       Adroddwyd bod canlyniadau cadarnhaol iawn wedi cyrraedd yn dilyn archwiliad gan Dŷ’r Drindod, sef awdurdod goleudy cenedlaethol. Bu cadarnhad o fewn yr archwiliad fod y cynorthwyon mordwyo wedi aros yn y man cywir ar ôl eu lleoli.

 

·       Mynegwyd pryder am y defnydd o fadau dŵr personol (jet ski) yn yr ardal, gan eu bod yn gallu bod yn beryglus i ddefnyddwyr eraill y môr.

o   Cadarnhawyd bod Cyngor Gwynedd wedi cysylltu â Chyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Ceredigion er mwyn gweld os ydynt yn awyddus i fabwysiadu system o gofrestru badau dŵr fel sydd wedi bod yn llwyddiannus yng Ngwynedd.

o   Pwysleisiwyd byddai swyddogion yn cysylltu gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Ceredigion unwaith eto er mwyn eu annog i fabwysiadu’r system hon. Nodwyd gan yr Arweinydd Portffolio Economi a Cymuned a Deilydd Dyletswydd Côd Diogelwch Harbyrau ei bod yn awyddus i gysylltu gyda’r awdurdodau hyn er mwyn gwella’r system.

o   Cydnabuwyd bod y broblem yma hefyd yn berthnasol i bobl sy’n badl fyrddio ond pwysleisiwyd fod gwaith yn cael ei wneud er mwyn sicrhau bod arwyddion diogelwch yn cael eu gwella er mwyn lleihau’r risg o niwed.

 

Materion Staffio

 

·       Diolchwyd i’r holl staff am ei ymrwymiad at waith yr harbwr a thraethau cyfagos dros y cyfnod diwethaf a chadarnhawyd na rhagwelir bydd lleihad yn nifer o aelodau staff yn y dyfodol agos.

·       Datganwyd fod y traeth wedi cael cyfnod prysur iawn dros yr haf ac mae’r wardeniaid wedi bod yn cwblhau eu gwaith yn effeithiol iawn. Pe bydd yn bosib, bydd ystyriaeth yn cael ei roi i ymestyn eu tymor cyflogaeth y tymor nesaf ac edrych ar y cyfleusterau er mwyn sicrhau nad oes rhaid i unrhyw un weithio ar eu pen eu hunain.

 

·       Mynegwyd bod y wardeniaid traeth angen caban gwell na’r un sydd ar y safle yn bresennol, gan nad yw’n addas.

o   Cadarnhawyd fod y broblem yma yn cael ei ddelio gydag o dan gynlluniau gwelliannau traethau os bydd digon o gyllideb. Mae datblygiadau eraill hefyd yn cael ei wneud ar y traeth megis gwella’r toiledau cyhoeddus.

·       Trafodwyd y broblem barhaus o gronni tywod sy’n digwydd ar y traeth. Byddai’n syniad i gael datrysiad o sut i atal y tywod rhag cael ei chwythu i’r pentref ac ar draws llithrfa’r bad achub. Pryderwyd bydd y tywod yn mynd allan o’r traeth ac yn gorchuddio’r maes parcio, gan greu costau ychwanegol i’r Cyngor yn y blynyddoedd nesaf os na fydd datrysiad.

o   Cydnabuwyd bod ardal Conwy wedi cael llwyddiant yn ddiweddar wrth fewnosod pwmp yn yr ardal i helpu atal y broblem hon.

o   Pwysleisiwyd bod difrifoldeb y broblem yn wybyddus i bawb ac mae sawl opsiwn yn cael ei drafod er mwyn ceisio datrys y broblem yma yn effeithiol ac yn barhaol.

o   Cytunwyd bydd cyfarfod rhwng defnyddwyr yr harbwr yn fuan er mwyn trafod y mater hwn ymhellach ac i rannu syniadau.

 

Materion Ariannol

 

·       Adroddwyd bod gorwariant wedi bod mewn rhai adrannau o’r gyllideb eleni. Mae’r rhain i’w gweld yn feysydd staff a thrafnidiaeth. Er hyn, mae tanwariant i’w weld ym meysydd eiddo, offer ac incwm.

·       Cadarnhawyd y rhagwelir tanwariant o £8,828.00 yn y flwyddyn ariannol hon.

·       Pwysleisiwyd nad ydi rhai pethau megis wal y cei a wardeniaid y traeth heb gael eu cysidro o fewn y gyllideb hon gan bod eu cyllideb yn deillio o fannau eraill.

·       Ystyriwyd cyfraddau ffioedd am y flwyddyn ariannol nesaf. Nid ydi'r rhain wedi cael eu cyflwyno i’r pwyllgor ar hyn o bryd gan fod chwyddiant yn cynyddu yn dilyn y wasgfa ariannol bresennol. Gobeithir canfod dull o beidio codi ffioedd i ddefnyddwyr yr harbwr gan fuasai’r cynnydd hwn yn effaith mawr ar ddefnyddwyr a chynyddu’r risg o leihau’r nifer o ddefnyddwyr yn y dyfodol.

 

·       Gofynnwyd os bydd yr arian o’r tanwariant hwn yn cael aros yn Aberdyfi, neu ydi o’n debygol iddo fynd i gynorthwyo harbwr arall pe bai’r angen yn codi.

o   Cadarnhawyd mai’r bwriad yw cadw’r arian yn yr ardal ond nid ellir rhoi sicrwydd bod modd gwneud hyn.

 

Adroddiad yr Harbwr Feistr yn crynhoi’r materion Mordwyo a Gweithredol a wnaed ac a brofwyd yn y cyfnod rhwng mis Mawrth a Hydref 2022, gan gynnwys materion cynnal a chadw.

 

·       Cadarnhawyd bod trefniant wedi ei gyrraedd gyda’r cychod pysgota er mwyn iddyn nhw parhau i ddefnyddio’r harbwr dros y gaeaf.

·       Rhannwyd pryderon am y lanfa yn Aberdyfi gan fod cerbydau wedi bod yn dreifio arno. Mae asesiadau risg cychwynnol yn dangos bod hwn o risg uchel iawn a thrafodwyd y posibilrwydd o osod polion i atal cerbydau rhag dreifio arno.

·       Ystyriwyd y cawellu sydd ar y cei a phenderfynwyd bod angen symud rhai ohonynt i ffwrdd o safle er mwyn sicrhau diogelwch defnyddwyr.

·       Rhoddwyd diweddariad ar bont newydd i Fryn Llestair, gan nodi fod y gwaith adnewyddu bron wedi ei gwblhau, a bydd y ffordd yn cau dros nos yn fuan er mwyn ei osod yn iawn cyn i ddefnyddwyr ei groesi.

·       Cynhaliwyd sawl digwyddiad dros y cyfnod diwethaf a diolchwyd i bawb am gydweithio mor effeithiol i’w cynnal.

 

·       Holiwyd pa drefniadau sydd mewn lle ar gyfer codi angorfeydd dros y gaeaf yn sgil y gwaith sydd yn cael ei wneud ar yr harbwr ar hyn o bryd.

o   Eglurwyd bod yr harbwr yn disgwyl am gadarnhad gan gontractwr yr angorfeydd i weld pryd fydd yr angorfeydd yn cael eu codi dros y gaeaf er mwyn sicrhau ei fod yn ddiogel ac yn addas i bawb.

 

PENDERFYNWYD

 

Nodi a derbyn yr adroddiadau.

 

Dogfennau ategol: