Agenda item

I godi ymwybyddiaeth y Pwyllgor am y newidiadau deddfwriaethol a pholisi cynllunio cenedlaethol sydd ar y gweill.

Penderfyniad:

(i)      Derbyn yr adroddiad, gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

(ii)    Bod adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Pwylllgor yng nghyfarfod 9 Mawrth 2023, yn edrych ar yr opsiynau ardaloedd posib lle gellir tystiolaethu’r defnydd o Gyfarwyddyd Erthygl 4.

(iii)   Gofyn i’r Adran gynnwys gwybodaeth am yr ymgynghoriad a recriwtio yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Amgylchedd, Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd a Rheolwr Cynllunio (Polisi Cynllunio ar y Cyd). Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

-      Eglurwyd bod trafferthion wedi bod yn y gorffennol wrth geisio rheoli niferoedd ail gartrefi yng Ngwynedd. Roedd hyn gan nad oedd rheoliadau mewn lle i atal pobl rhag diwygio defnydd eu tai, heb yr angen i ymgeisio am ganiatâd cynllunio.

 

-      Manylwyd bod dosbarth defnydd newydd wedi cael ei wneud ar gyfer trosi tai i dai myfyrwyr yn ninasoedd Cymru a bod hyn wedi gyrru ymchwiliad craffu i edrych ar y posibilrwydd o greu dosbarth defnydd newydd ar gyfer tai oedd yn cael ei drosi yn ail dau neu dai gwyliau.

 

-      Comisiynwyd ymchwiliad gan y Cabinet yn 2019 er mwyn edrych i mewn i’r maes hwn a mabwysiadwyd adroddiad yr arolwg ym mis Hydref 2020 a oedd yn cynnwys argymhellion ar seiliau cynllunio, trwyddedu a chyllid. Bu i Lywodraeth Cymru wneud ymchwiliad pellach gan wneud canfyddiadau tebyg iawn.

 

-      Cadarnhawyd bod tri dosbarth defnydd newydd bellach wedi dod i rym, sef:

 

o   C3 – Prif Gartref

o   C5 – Ail Gartref

o   C6 – Llety Gwyliau byr dymor

 

-      Nodwyd bod gan berchnogion yr hawl i newid rhwng y dosbarthiadau defnydd hyn heb ganiatâd cynllunio. Er mwyn gallu rheoli hyn, mae angen cyflwyno cyfarwyddyd Erthygl 4. Nodwyd byddai hyn yn rhoi grymoedd i’r Cyngor ei wneud yn ofynnol i berchnogion ymgeisio am ganiatâd cynllunio cyn newid dosbarth defnydd eu tai.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol:

 

Tynnwyd sylw at ymgyrchoedd eraill a gyfranodd at y datblygiadau hyn megis adroddiad Simon Brooks a mudiad Hawl i Fyw Adra.

 

Holwyd sut byddai’r broses o gasglu tystiolaeth a data yn cael ei ariannu.

 

-      Mewn ymateb i’r ymholiad, cydnabodd Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd  bod tair cam er mwyn sicrhau fod erthygl 4 yn dod yn weithredol. Ar hyn o bryd mae’r adran yn blaenoriaethu’r cam cyntaf, sef casglu tystiolaeth oedd yn cael ei wneud gan y Gwasanaeth Polisi ar y Cyd. Gan fod y gwaith hwn yn ddigynsail, rhagwelir angen i gael arweiniad gan Cwnsel ac angen felly am arian ychwanegol.

-      Cadarnhawyd bydd angen recriwtio swyddogion cynllunio ychwanegol pan ddaw erthygl 4 yn weithredol. Mae’n debygol y byddai hyn yn digwydd yn ystod 2023/24. Cyflwynwyd cais i Lywodraeth Cymru ers mis Medi 2022 yn gwneud cais am adnoddau ychwanegol er mwyn sicrhau bod y Cyngor mewn sefyllfa gref i weithredu yn effeithiol pan ddaw erthygl 4 i rym.

-      Eglurwyd bod recriwtio yn broblem ehangach o fewn yr adran yn dilyn pwysau cymhwyso a phwysau ieithyddol y swyddi. Cadarnhawyd fod gwaith yn cael ei wneud i sicrhau bod swyddi’r adran yn apelio i raddedigion. Mae’r adran yn rhannu’r cyfleoedd sydd ar gael gyda phrifysgolion er mwyn denu ymgeiswyr.

 

Gofynnwyd a oes modd cael adroddiad ar ddatblygiadau’r broses recriwtio er mwyn gallu ystyried os bydd yr amserlen o allu gweithredu erthygl 4 ar ddechrau 2024 yn gyraeddadwy.

 

-      Mewn ymateb i’r ymholiad, cytunodd Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd byddai recriwtio yn gallu bod yn rhan o adroddiad yr adran yng nghyfarfod mis Mawrth 2023, ond y bydd yr adroddiad yn canolbwyntio’n bennaf ar yr opsiynau ar gyfer ardaloedd lle gellir cyfiawnhau cyfarwyddyd erthygl 4. Pwysleisiwyd ei fod yn fwriad i gwrdd â’r amserlen ar hyn o bryd ond gall hyn newid gan ei bod yn anodd rhagweld pa rwystrau gall godi o wybod fod y broses yn ddigynsail.

-      Esboniwyd bod y newidiadau i ddosbarth defnydd yn weithredol ers 20 Hydref 2022. Ers hynny mae’r Adran wedi bod yn gweithredu ar y ddeddfwriaeth pan yn delio gyda ceisiadau cynllunio am dai newydd drwy ddefnyddio amod cynllunio i ddiddymu’r hawl i newid o ddefnydd prif gartref (C3) i ddefnyddiau C5 a C6. Yn sgil hyn,  bydd angen i gael caniatâd ffurfiol i newid dosbarth defnydd tai, a’r amcan yw bod hynny yn cael ei wneud rŵan cyn i erthygl 4 ddod i rym.

 

Ystyriwyd hefyd os fyddai’r ddeddfwriaeth yn debygol o greu problemau mewn ardaloedd lle nad oedd ail dai yn ofid ar hyn o bryd. Gofynnwyd a oedd ystyriaeth yn cael ei wneud ar gyfer ardaloedd a oedd yn ymylu gydag awdurdodau eraill ac os oedd gwaith cydweithio yn digwydd gyda’r awdurdodau hynny er mwyn i bawb ddilyn yr un rheolau.

 

-      Mewn ymateb i’r ymholiad, cydnabodd y Rheolwr Cynllunio (Polisi Cynllunio ar y Cyd) bod rhaid gofalu nad ydi’r system yn creu problemau mewn ardaloedd ble nad oes problem yn bodoli eisoes. Er mwyn ceisio atal hyn, mae’r adran yn dilyn proses casglu tystiolaeth yn barhaus.

-      Cadarnhawyd bod gwaith cydweithio yn digwydd gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn rheolaidd. Mae’r dystiolaeth a gesglir yn cael ei rannu gyda nhw, ac mae’r broses cydweithio yn gadarnhaol iawn hyd yma.

 

Nododd aelod yr angen i roi ystyriaeth i ‘buffer zones’. Mewn ymateb i gwestiwn yng nghyswllt maint ardaloedd gweithrediad cyfarwyddyd erthygl 4, nododd Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd y gallai ardal fod ar sail ward etholiadol neu ardal benodol. Ymhelaethodd ni ddiystyrir unrhyw opsiwn o ran maint ardal a chytunodd bod angen rhoi ystyriaeth i ardaloedd ar gyrion ardal lle fyddai cyfarwyddyd yn weithredol.

 

Cwestiynwyd sut mae ardaloedd sydd angen cyfarwyddyd erthygl 4 yn cael eu hadnabod, a holiwyd os oes meini prawf penodol ar gyfer ei dderbyn.

 

-      Mewn ymateb i’r ymholiad, nododd (Rheolwr Cynllunio (Polisi Cynllunio ar y Cyd) bod llawer o dystiolaeth yn mynd i mewn i adnabod ardal sydd angen y cyfarwyddyd. Mae’r rhain yn cynnwys yr iaith Gymraeg, sefyllfaoedd ysgolion a faint o dai sydd yn cael eu rhentu allan fel Llety Gwyliau byr dymor. Mae’r dystiolaeth a gesglir ar bob agwedd ac yn cael ei ystyried yn fanwl er mwyn gweld os bydd yr ardal angen cyfarwyddyd erthygl 4 a bydd y wybodaeth hefyd yn cael ei ddefnyddio er budd polisïau newydd y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig.

 

Gofynnwyd a oes ymholiadau yn cael ei wneud gyda’r cyhoedd er mwyn cael llais pobl yr ardal.

-      Mewn ymateb i’r ymholiad, nododd (Rheolwr Cynllunio (Polisi Cynllunio ar y Cyd), fod strategaeth ymgynghori yn cael ei ddatblygu gyda’r tîm cyfathrebu. Nid oes esiamplau penodol o sut mae gwneud hyn ond bydd angen sicrhau ein bod yn cwrdd a’r gofynion statudol ag yn rhoi cyfle i bobl yr ardal leisio eu barn.

 

Holwyd os oes rhaid rhoi blwyddyn o rybudd i newid dosbarth defnydd tŷ, beth sy’n digwydd i dai sydd yn cael ei werthu cyn i’r cyfarwyddyd erthygl 4 dod i rym, a bod y dosbarth defnydd yn newid.

 

-      Mewn ymateb i’r ymholiad, nododd Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd, yn anffodus, nid oes modd  o atal newidiadau rhwng y dosbarthiadau defnydd yn ystod proses gwerthiant tai nes bod cyfarwyddyd erthygl 4 wedi dod i rym. Er nad oes dim a ellir ei wneud ar sail cynllunio ar hyn o bryd (heblaw gyda ceisiadau am dai newydd fel yr eglurwyd eisoes), mae’n bosibl bydd gan y perchennog newydd ymyraethau eraill megis trethiant i’w gysidro.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD

(i)     Derbyn yr adroddiad, gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

(ii)    Bod adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yng nghyfarfod 9 Mawrth 2023, yn edrych ar yr opsiynau ardaloedd posib lle gellir tystiolaethu’r defnydd o Gyfarwyddyd Erthygl 4.

(iii)  Gofyn i’r Adran gynnwys gwybodaeth am yr ymgynghoriad a recriwtio yn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: