skip to main content

Agenda item

Cymeradwyo’r Cynllun Gwella Hawliau Tramwy ar gyfer ei fabwysiadu gan Gabinet Y Cyngor.

Penderfyniad:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Amgylchedd, Rheolwr Cefn Gwlad a Phennaeth Cynorthwyol Amgylchedd. Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

-      Eglurodd Aelod Cabinet Amgylchedd bod y cynllun drafft wedi bod gerbron y Pwyllgor hwn cyn mynd allan i ymgynghoriad ac fe’i datblygwyd yn dilyn ymgynghoriad a gynhaliwyd dros yr haf. Roedd yr ymgynghoriad yn cynnwys 7 cwestiwn a oedd wedi eu selio ar y camau gweithredu

-      Cafwyd 294 o ymatebion i’r ymgynghoriad, gyda rhan helaeth o ymatebion yn dangos bodlonrwydd cyffredinol gyda’r cynllun gwella hawliau tramwy

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol:

 

Holwyd os oedd yr adran wedi cysidro chwilio am wirfoddolwyr i’w cynorthwyo i wella hawliau tramwy. Credir fod pobl yn awyddus i wirfoddoli gan ei fod yn tynnu cymunedau at ei gilydd. Byddai hyn hefyd yn ffordd dda o gydweithio gyda chynghorau tref a chymuned.

 

-      Mewn ymateb i’r ymholiad, nododd Rheolwr Cefn Gwlad ei fod yn her i swyddogion gyd-lynu gwirfoddolwyr. Gall ymateb i ddiddordeb fod yn heriol ar brydiau gan nad ydi’r adnoddau ar gael i gefnogi gwirfoddolwyr yn barhaus. Rhaid cofio hefyd bod angen cysidro materion iechyd a diogelwch gyda rhai agweddau o wirfoddoli. Er hyn, cydnabuwyd nad oes digon o fanteisio ar wirfoddoli wedi cael ei gynnwys yn y cynllun ac mae lle i wella yma.

-      Aeth y Rheolwr Cefn Gwlad ymlaen i gadarnhau fod perthynas cryf gyda chynghorau cymuned a thref yn enwedig gyda materion ariannu a grantiau. Mae gwaith parhaus yn cael ei wneud i gydweithio gyda chynghorau tref a chyrff cyhoeddus.

 

Nodwyd bod angen i wirfoddolwyr dderbyn hyfforddiant iechyd a diogelwch ac y gallent wneud y gwaith o arolygu llwybrau. Datganwyd clod i waith y gwasanaeth o ystyried y toriadau i’w gyllideb.

 

Gofynnwyd sut byddai’r cynllun yn caniatáu i geffylau fynd ar y llwybrau yn ddiogel wrth gysidro rhwystrau fel giatiau ac agosatrwydd at  draffig ar y ffyrdd.

           

-      Mewn ymateb i’r ymholiad, cadarnhaodd Rheolwr Cefn Gwlad y derbynnir ceisiadau yn rheolaidd gan gymdeithas ceffylau i gael caniatâd i ddefnyddio mwy ar y llwybrau. Mae rhai llwybrai yn addas yn barod megis Lonydd Las Ogwen Mae’r llwy’r yma yn llydan a gwastad sydd yn addas ar gyfer ceffylau a beiciau.

-      Aeth y Rheolwr Cefn Gwlad ymlaen i ddweud fod anghysondeb yn y mathau o lwybrau sydd yn rhan o’r rhwydwaith felly nid ydi ceffylau a beiciau yn gallu mynd ar bob un. Mae gwaith yn cael ei wneud er mwyn cael cysondeb dros y rhwydwaith Lonydd Glas cyfan ac i gael asesiad diogelwch er mwyn i bob defnyddiwr fod yn saff wrth ddefnyddio’r llwybrau.

 

Holiwyd os oes gwaith yn cael ei wneud er mwyn gwneud y llwybrau yn fwy hygyrch i bobl gydag anawsterau symudedd neu i bobl gyda nam golwg. Tybir fod rhai pobl yn cael trafferthion defnyddio’r llwybrau oherwydd pellter arwyddion oddi wrth ei gilydd, yn enwedig os nad ydynt yn gweld yn dda iawn.

 

-      Mewn ymateb i’r ymholiad, nododd Rheolwr Cefn Gwlad ei fod yn ymwybodol o’r trafferthion hyn. Mae’r adran wedi bod yn gweithio ers rhai blynyddoedd i leihau nifer o rwystrau sydd ar y llwybrau - megis newid camfa am giât ac os yn bosibl gwaredu’r giât gan adael adwy ddi-rwystr.

-      Ymhelaethwyd bod y gwaith hwn yn cael ei adolygu yn rheolaidd. Mae’r adran yn dysgu wrth i bobl ddefnyddio’r llwybrau ac fe baratoir asesiad effaith  cydraddoldeb ar gyfer y cynllun.

           

Gofynnwyd a oes modd derbyn adroddiad gan yr adran ar gyflwr y rhwydwaith llwybrau.

 

-      Mewn ymateb i’r ymholiad, cadarnhaodd Rheolwr Cefn Gwlad fod sampl o gyflwr 6 cymuned ar gael. Mae’r samplau hyn yn dangos anghysondeb yn y rhwydwaith. Gall hyn fod am sawl rheswm megis tirwedd. Mae system newydd o reoli ac ymateb i gwynion erbyn hyn. Wrth edrych ar y cwynion, gellir edrych ar y mathau o ymholiadau sydd yn dod i mewn er mwyn gwneud asesiad pellach o gyflwr y llwybrau.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

PENDERFYNWYD

(i)      Derbyn yr adroddiad gan gymeradwyo’r Adran Amgylchedd i baratoi fersiwn terfynol o’r Cynllun Gwella Hawliau Tramwy, ac i ymgorffori argymhellion y Pwyllgor Craffu yng nghyswllt cynnwys mwy o wybodaeth o ran gwirfoddolwyr a materion mynediad i bawb.

(ii)    Argymell i’r Cabinet fabwysiadu’r Cynllun Gwella Hawliau Tramwy.

 

Dogfennau ategol: