Agenda item

Diweddariad ar y Strategaeth Llifogydd Lleol.

Penderfyniad:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Priffyrdd a Bwrdeistrefol ac Ymgynghoriaeth Gwynedd, Pennaeth Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol a Phennaeth Cynorthwyol Ymgynghoriaeth Gwynedd . Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

-      Esboniodd Pennaeth Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol fod y ddogfen yn manylu ar risgiau llifogydd mewndirol ac arfordirol ond bod y rhain yn cael eu cysidro ar wahân.

-      Trafodwyd risgiau llifogydd mewndirol gan egluro fod pob ardal yn cael eu cysidro yn annibynnol er mwyn datgan y risgiau sy’n effeithio gwahanol rannau o’r sir. Ystyriwyd bod ystyriaeth rhy leol wedi cael ei wneud yn y gorffennol ac felly mae’r adran yn awyddus i edrych ar ardaloedd fesul dalgylch er mwyn canfod risgiau mwy real.

-      Trafodwyd risgiau arfordirol. Pwysleisiwyd bod yr adran eisiau canfod yr ardaloedd mwyaf bregus er mwyn ymgeisio am grantiau i gael deunyddiau i’w gwarchod.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol:

 

Holwyd tua faint mae lefelau’r môr yn mynd i godi yn sgil effaith newid hinsawdd, beth ellir ei wneud er mwyn ei atal a’r sefyllfa yn ardal Friog.

           

-      Mewn ymateb i’r ymholiad hwn, nododd Pennaeth Cynorthwyol Ymgynghoriaeth Gwynedd bod rhagdybiaeth y bydd lefel y môr yn cynyddu tua metr yn y dyfodol oherwydd newid hinsawdd. Eglurodd bod cynllun penodol ar gyfer ardal Friog yng nghyswllt lliniaru effaith a’r effaith gymunedol. Nododd y gwneir asesiad effaith ar y gymuned.

 

Cyfeiriwyd at fwriad yr adran i edrych ar y dalgylchoedd yn rheolaidd i adolygu eu risgiau llifogydd. Gofynnwyd sut mae’r adran am fynd o gwmpas i wneud hyn.

 

-      Mewn ymateb i’r ymholiad, cadarnhaodd Pennaeth Cynorthwyol Ymgynghoriaeth Gwynedd bod nifer o brosiectau bychan ar waith o fewn y dalgylchoedd er mwyn cael gwybodaeth eglur ym mhob ardal. Mae’r prosiectau yma yn cael eu hunioni cyn cyflwyno gwybodaeth i Gyfoeth Naturiol Cymru sydd yn bwydo’r wybodaeth i’w bas data.

-      Ymhelaethwyd bod modd defnyddio map Cyfoeth Naturiol Cymru i weld faint o dai bydd mewn ardal risg uchel yn y dalgylch. Gan fod gwybodaeth yn cael ei fwydo i mewn yn rheolaidd i mewn i’r bas data, mae’r wybodaeth yma yn debygol o newid yn gyson. Wrth i’r adran weithio ar ardaloedd o risg uchel a datrys problemau, bydd y wybodaeth yn cael ei fwydo yn ôl i Gyfoeth Naturiol Cymru er mwyn iddynt ddiweddaru eu gwybodaeth.

-      Pwysleisiwyd er bod y broses yma yn cymryd amser, bydd y blaenoriaethau bydd angen eu dilyn yn newid gydag amser er mwyn sicrhau bod cymorth atal llifogydd yn mynd i’r ardaloedd sydd eu hangen fwyaf. Mae’r wybodaeth yn cael ei symud o’r adran i Gyfoeth Naturiol Cymru dwywaith y flwyddyn. Mae hyn yn ddigonol i’r adran.

 

Nodwyd ei fod yn allweddol i gysidro pa sgil-effeithiau ar ardaloedd cyfagos gaiff prosiectau i warchod yr arfordir mewn un dalgylch. Mae’n bosib fod datrys risgiau llifogydd arfordirol mewn un gymuned yn cael effaith negyddol ar ardal arall. Mae’n bwysig cymryd y risgiau yma i ystyriaeth wrth geisio llunio fframwaith.

 

Mewn ymateb i sylwadau yng nghyswllt risg llifogydd ym Mhwllheli a Porthmadog, nodwyd mai Cyfoeth Naturiol Cymru oedd yn arwain ar gynlluniau yn yr ardaloedd yma. Eglurwyd bod mewnbwn gan yr Adran ac fe wneir ymholiadau o ran amserlen. Pwysleisiodd aelod ar bwysigrwydd cyfathrebu gyda chymunedau.

 

Cyfeiriwyd at strategaeth yr adran i edrych ar risgiau llifogydd mewndirol ac arfordirol ar wahân. Gofynnwyd a oes risg i’r darlun llawn gael ei golli wrth beidio ei chysidro fel un.

     

-      Mewn ymateb i’r ymholiad, pwysleisiodd Pennaeth Cynorthwyol Ymgynghoriaeth Gwynedd na fydd hyn yn broblem. Gan fod prosiectau yn gweithredu fel rhannau o ddalgylchoedd, ni fydd yr effeithiau hyn yn cael ei golli.

-      Ymhelaethwyd bod cydweithio yn digwydd gyda llawer o gyrff megis cyfoeth naturiol Cymru, cynghorau tref a cymuned. Yn y gorffennol mae cydweithio wedi bod yn heriol. Erbyn hyn mae’r sefyllfa wedi gwella ac mae pawb yn rhannu gweledigaeth a dyhead.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

PENDERFYNWYD

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

 

Dogfennau ategol: