Agenda item

(a)  Ystyried unrhyw gwestiynau gan aelodau o’r cyhoedd y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.18 y Cyfansoddiad.

 

Cwestiwn gan Mr Paul D.Gill (cyfeiriad wedi’i ddarparu yn unol â gofynion y Cyfansoddiad)

 

Pam bod y Cyngor yn cynyddu’r Premiwm Treth Cyngor mewn ardal sy’n ddibynnol iawn ar y diwydiant twristiaeth a gwariant lleol gan dwristiaid heb ymchwil annibynnol ac adroddiad ar hynny i’r Cyngor ar effaith polisi o’r fath ar yr economi leol o gofio y bydd gorfodi’r cynnydd yn arwain at lai o wario’n lleol gan dwristiaid gan roi swyddi a busnesau lleol mewn perygl yn arbennig mewn cyfnod o chwyddiant a biliau ynni uchel? 

 

(b)  Ystyried unrhyw gwestiynau gan aelodau etholedig y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad.

 

Cofnod:

 

(Cyhoeddwyd atebion ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau ymlaen llaw.)

 

(A)      Cwestiwn gan Aelod o’r Cyhoedd

 

          Cwestiwn gan Mr Paul D.Gill (cyfeiriad wedi’i ddarparu yn unol â gofynion y Cyfansoddiad)

 

Pam bod y Cyngor yn cynyddu’r Premiwm Treth Cyngor mewn ardal sy’n ddibynnol iawn ar y diwydiant twristiaeth a gwariant lleol gan dwristiaid, heb ymchwil annibynnol ac adroddiad ar hynny i’r Cyngor ar effaith polisi o’r fath ar yr economi leol, o gofio y bydd gorfodi’r cynnydd yn arwain at lai o wario’n lleol gan dwristiaid gan roi swyddi a busnesau lleol mewn perygl, yn arbennig mewn cyfnod o chwyddiant a biliau ynni uchel?

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Cyllid, Y Cynghorydd Ioan Thomas

 

Wrth roi’r grym i gynghorau i godi Premiwm ar Dreth Cyngor ail gartrefi ac anheddau gwag hirdymor, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau statudol ar gyfer gweinyddu’r Premiwm, sef Canllawiau Gweithredu Premiymau’r Dreth Gyngor ar Gartrefi Gwag Hirdymor ac Ail Gartrefi yng Nghymru.

 

Mae’r Canllawiau Statudol yn amlinellu’r math o ffactorau all fod o gymorth i awdurdodau lleol eu hystyried pan yn fwriad cyflwyno Premiwm.  Pob tro mae’r Cabinet a’r Cyngor llawn yn ystyried y Premiwm, mae’n ystyried y canllawiau hyn.

 

Mae’r Canllawiau Statudol yn gyfrwng i gynorthwyo awdurdodau lleol i adfer defnydd cartrefi gwag hirdymor er mwyn darparu cartrefi saff, diogel a fforddiadwy, a hefyd i gynorthwyo awdurdodau lleol i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy a gwella cynaladwyedd cymunedau lleol.

 

Nod y Premiwm yw cynorthwyo’r maes tai, ac mae ymrwymiad gwariant y Cynllun Gweithredu Tai yn dystiolaeth o hyn.

 

Mae’r Premiwm yn ffordd ddiffuant o geisio taro balans rhwng effaith ail gartrefi ac eiddo gwag ar ein cymunedau a chynnal yr economi ymwelwyr.  Mae’r Cabinet yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd y diwydiant twristiaeth.  Rhaid i ni gael twristiaeth gynaliadwy a bydd hynny yn destun astudiaeth ar wahân maes o law.  Credwn mai sail economi gadarn yw economi lle mae gan bobl Gwynedd gartrefi, ac yn cyfrannu i’r economi leol. Allwn ni ddim anwybyddu sefyllfa lle amcangyfrifir y bydd 1,400 o unigolion wedi cyflwyno eu hunain yn ddigartref erbyn diwedd eleni – sef dwbl y nifer oedd yn cyflwyno cyn Covid-19.  Byddwn fel Cyngor yn lletya dros 600 o bobl mewn llety dros dro eleni, lle’r oedd y ffigwr oddeutu 200 cyn cyfnod Covid.  Nid dyma yw sylfaen economi gadarn, gynaliadwy.

 

Nid yw codi a chynyddu’r premiwm yn fater hawdd ac nid yw Cyngor Gwynedd erioed wedi honni ei fod yn ddewis syml.  Mae gofyn i aelodau bwyso a mesur nifer o ffactorau cyn dod i benderfyniad heddiw, gan gynnwys effaith y premiwm ar yr economi ymwelwyr.  Mae hyn yn un o’r negeseuon sy’n dod o ganlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus ac yn cael sylw yn yr astudiaethau y cyfeirir atynt yn yr adroddiad cynhwysfawr y bydd yr aelodau yn ystyried heddiw.

 

Cwestiwn Atodol gan Mr Paul D.Gill

 

Beth ydych chi’n ddweud wrth bobl leol sydd â busnesau lleol, fel rhai o’r bobl sydd yma heddiw, y bydd busnesau llawer ohonynt yn wynebu niwed sylweddol, gan gynnwys rhai fel Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri, rhan o Safle Treftadaeth Byd UNESCO?  Os byddwch yn gosod unrhyw bremiwm pellach, rhaid mai chwi fydd yr unig gyngor yn unman fyddai’n peryglu bodolaeth rhan o Safle Treftadaeth Byd.  Bydd rhai busnesau’n mynd yn fethdalwyr hyd yn oed o ganlyniad uniongyrchol i osod premiwm pellach.  A pheidiwch â dweud wrthyf na fyddai’n gwneud hynny, oherwydd mi fydd yn gwneud hynny, fel y byddai’r Cyngor yn gwybod petai wedi cyflawni asesiad economaidd priodol.

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Cyllid, y Cynghorydd Ioan Thomas

 

Fel aelod o’r Cyngor sy’n cynrychioli ward yng Nghaernarfon, sy’n Safle Treftadaeth Byd, rwy’n ymwybodol iawn o bwysigrwydd sicrhau a diogelu'r statws yma.  Rydw i’n derbyn ei bod yn bosib’ y bydd rhai busnesau yn cael eu heffeithio, ond rwy’n meddwl eich bod chi wedi mynd yn llawer iawn rhy eithafol yn son am gwmnïau yn fethdalwyr, ayb, ond rwy’n meddwl bod y codiad yma yn un rhesymol iawn.

 

(B)      Cwestiynau gan Aelodau Etholedig

 

(1)       Cwestiwn gan y Cynghorydd Delyth Lloyd Griffiths

 

Pa ganran yn union o’r bwyd sydd yn cael ei ddefnyddio gan y Cyngor mewn ysgolion, lleoliadau gofal a chanolfannau eraill, sydd wedi ei dyfu neu ei brosesu yng Ngwynedd?  Gan fod angen diogelu'r gadwyn fwyd leol oherwydd costau a phroblemau rhyngwladol ar hyn o bryd, gofynnaf i’r Aelod Cabinet sicrhau fod yr holl fwyd sydd yn cael ei bwrcasu yn tarddu yn lleol neu wedi ei brosesu yn lleol.  O dderbyn bod y Cyngor yn prynu canran uchel o fwyd gan ddosbarthwyr lleol, a allaf gael gwarant fod y bwyd yn tarddu o fewn Gwynedd neu siroedd cyfagos?

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol, y Cynghorydd Menna Jones

 

1.         Mae’r Cyngor wedi cynnal proses dendro yn Hydref 2019 i sefydlu cytundebau i gyflenwi a dosbarthu bwyd i Ysgolion a Chartrefi Preswyl Cyngor Gwynedd.

2.         Fel rhan o’r gwaith i hybu darparwyr bychan i gystadlu, rhannwyd y cytundeb i gategorïau bwyd ac ardaloedd daearyddol o fewn Gwynedd.  Yn ogystal â hyn cynhaliwyd ymgysylltiad cynnar gyda’r farchnad (18 mis cyn i’r tendr gael ei gyhoeddi) ynghyd â chefnogaeth tendro un i un trwy Fusnes Cymru.

3.         Yn dilyn hynny, gwelwn fod 71% o’r cynnyrch rydym yn ei brynu yn cael ei ddosbarthu gan gwmnïau sydd wedi eu lleoli yng Ngwynedd. Yn dilyn ymdrechion gan ein cyfanwerthwyr i dderbyn cynnyrch lleol a Chymreig ble’n bosib, gwelwn fod y 100% o'r caws rydym yn ei brynu yn cael ei gynhyrchu yng Ngwynedd ac rydym yn derbyn 40% o’r tatws sydd ei angen o Wynedd.  Mae 100% o Gig Eidion, 80% o’r Cig Oen a 100% o’r Llefrith yn tarddu o Gymru.

4.         O safbwynt tarddiad yr holl fwyd sy’n cael ei gyflenwi gan ein cyfanwerthwyr, nid yw’n bosib darparu’r wybodaeth i’r lefel o fanylder mae’r Aelod yn dymuno ei dderbyn ar hyn o bryd.  Hynny oherwydd yr ystod sylweddol o gynhwysion a bwydydd sy’n cael ei gyflenwi a hefyd natur y gadwyn gyflenwi.

 

5.         Mae’n rhaid cydnabod hefyd bod prynu cynnyrch o Wynedd yn anodd gyda’r prif rwystrau yn cynnwys:

 

·                Nid yw’r cynnyrch ar gael yn lleol h.y. mae hinsawdd a thirwedd Gwynedd a Chymru yn cyfyngu'r hyn all gael ei gynhyrchu.

·                Nid yw cynhyrchwyr lleol yn gallu darparu'r hyn sy’n ofynnol yn y meintiau sydd eu hangen, neu nid yw’r pris yn un cystadleuol.

·                O safbwynt cig yn benodol, i’r lladd-dai gytuno i roi'r adnodd i sicrhau bod y cig yn tarddu o Wynedd, byddai yn ofynnol i ni brynu symiau a thalu premiwm sylweddol am y cig.

·                Mae rhan helaeth o lefrith o ffermydd Gwynedd yn mynd i Hufenfa De Arfon i wneud caws a chynhyrchion llaeth eraill, nid ydynt yn gwerthu llefrith.

·                Mae’r gadwyn gyflenwi ar gyfer nifer o’r cynnyrch sy’n ofynnol yn un rhyngwladol ac nid lleol.

·                Mae’n rhaid hefyd cydnabod nad yw’n bosib i ni fynnu bod cynnyrch yn tarddu o Wynedd gan fod hyn yn groes i reoliadau cyfreithiol cenedlaethol.

 

6.         I geisio cynyddu’r gyfradd o gynnyrch o Wynedd a Chymru, mae’r Cyngor yn:

 

·                cydweithio gyda’r cyfanwerthwyr a thrwy hynny mudiadau megis Undeb Ffermwyr Cenedlaethol (NFU), Ffermwyr Ifanc, Larder Cymru ac eraill i godi ymwybyddiaeth o gyfleoedd sy’n berthnasol i’r sector gyhoeddus.

·                adolygu’r fwydlen mewn ysgolion er mwyn gweld os all addasiadau gael eu gwneud fydd yn hybu mwy o gynnyrch Cymreig.

·                Adolygu ein trefniadau prynu yn barhaus er mwyn rhoi’r cyfle gorau i gyflenwyr lleol gystadlu yn y farchnad.

 

7.         Bydd y Cyngor yn ail-dendro’r Cytundeb Bwyd yn yr Hydref, 2023 a byddwn yn parhau i gefnogi’r farchnad leol er mwyn annog i gyflenwyr lleol gystadlu ac ennill cytundebau.

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Delyth Lloyd Griffiths

 

Gofynnaf i’r Aelod Cabinet edrych i mewn i’r cymal ‘Mae’n rhaid hefyd cydnabod nad yw’n bosib i ni fynnu bod cynnyrch yn tarddu o Wynedd gan fod hyn yn groes i reoliadau cyfreithiol cenedlaethol’ a gweld ydi’r rhwystr yna yn rhywbeth y gallwn ni ei oresgyn yn y dyfodol er mwyn prynu mwy yn lleol. 

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol, y Cynghorydd Menna Jones

 

Mae rheolau caffael yn eu lle i sicrhau cystadleuaeth deg a rhydd i bob ymgeisydd.  Mae hyn yn golygu na allwn ofyn am gynnyrch o leoliad penodol na gofyn am frand penodol oherwydd bydd hyn yn cyfyngu cystadleuaeth, ac o bosib’ yn rhoi mantais annheg i ddarparwyr penodol.  Er na allwn fynnu bod cynnyrch yn tarddu o Wynedd, rydym yn y broses o dreialu trefn gaffael fydd yn gwobrwyo ymdrechion darparwyr i uchafu’r buddion lleol, economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ynghlwm â’r cytundeb i’r ardal leol, ac mi fyddaf yn edrych i mewn mwy iddo.

 

(2)       Cwestiwn gan y Cynghorydd Richard Glyn Roberts

 

Pa drefniadau a wnaed i baratoi asesiad trylwyr o effaith ieithyddol cynyddu’r Premiwm Treth Gyngor, yn unol â pharagraff 10.5 Polisi Iaith Gwynedd, ac yn neilltuol yr effaith ar niferoedd neu ganran siaradwyr Cymraeg mewn cymunedau?

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Cyllid, y Cynghorydd Ioan Thomas

 

Bydd fy nghyd-aelodau’n ymwybodol fod angen iddynt ystyried yr adroddiad ar y Premiwm Treth Gyngor yn nes ymlaen prynhawn yma, yn eitem 8 ar raglen y cyfarfod.

 

Mae’r adroddiad fydd yn cael ei gyflwyno i chi yn ymestyn at 30 o dudalennau, mae’n cynnwys tri atodiad, ac mae dolenni i nifer o astudiaethau, rhai wedi cael eu cyflawni gan gyrff allanol, a rhai yn fewnol gan y Cyngor.  Mae’r astudiaethau hyn yn ystyried effaith y Premiwm ar gymunedau lleol, yn ogystal ag effaith ail gartrefi ac eiddo gwag ar y cymunedau hyn.  Mae yna dystiolaeth glir yn yr adroddiad sydd gerbron fod effaith y Premiwm ail gartrefi ac eiddo gwag ar yr iaith wedi cael sylw ar bob cam. 

 

Rydw i’n nodi nad yw pob un o’r astudiaethau y cyfeirir atynt yn yr adroddiad yn dod i’r un casgliad ynglŷn ag effaith gwahanol bolisïau ar yr iaith Gymraeg, ond rydym yn cymryd sylw o’r risgiau sy’n cael eu hamlygu ynddynt i gyd, yn arbennig y rhai sy’n ymwneud â’r Iaith Gymraeg.  Nid oes astudiaeth academaidd ar wahân wedi cael ei gomisiynu wrth baratoi’r adroddiad.

 

Rwyf yn pwysleisio fod ystyriaeth o negeseuon yr astudiaethau hyn, a’r risgiau a amlygwyd ynddynt i'r Gymraeg ac i'n cymunedau, yn rhan allweddol o ystyriaeth y Cabinet i beidio argymell Premiwm uwch na 150% ar ail gartrefi ar hyn o bryd, er bod y ddeddf yn caniatáu codi Premiwm uwch.

 

O’r ymgynghoriad cyhoeddus, barn yr ymatebwyr oedd na fyddai codi’r Premiwm yn cael effaith ar yr iaith.

 

Mae gan y Cyngor Gynllun Gweithredu Tai yn ei le, a bwriad penodol hwn yw cyflwyno mesurau i gryfhau cymunedau Gwynedd a gwireddu’r Strategaeth Tai.  Bydd cymunedau sefydlog, cynaliadwy law yn llaw â mesurau eraill yn gam yn ein gweledigaeth i gryfhau’r defnydd o’r Gymraeg yn ein cymunedau.

 

Mae’r Asesiad Effaith Cydraddoldeb sy’n cael ei gyflwyno gyda’r adroddiad heddiw yn ein hatgoffa fod nifer o nodweddion ac agweddau yn ogystal ag effaith economaidd-gymdeithasol angen eu hystyried wrth ddod at benderfyniad polisi, yn ogystal â’r effaith ar yr Iaith.

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Richard Glyn Roberts

 

Ydi’r Aelod Cabinet wir yn credu bod 3 brawddeg mewn adroddiad effaith cydraddoldeb o 15 tudalen yn gyfystyr ag asesiad effaith ieithyddol?

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Cyllid, y Cynghorydd Ioan Thomas

 

Fel rydw i wedi crybwyll o’r blaen, mae yna nifer o astudiaethau, yn cynnwys yr effaith ar yr iaith.

 

Dogfennau ategol: