Agenda item

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid.

 

Penderfyniad:

 

Ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24, bod Cyngor Gwynedd yn:

·         Caniatáu DIM disgownt ar ail gartrefi dosbarth A, yn unol ag Adran 12 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (h.y.dim newid o 2022/23).

·         Caniatáu DIM disgownt ac yn CODI PREMIWM O 150% ar ail gartrefi dosbarth B, yn unol ag Adran 12B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (h.y. cynyddu o 100% i 150%)

·         Caniatáu DIM disgownt i gartrefi sydd wedi bod yn wag am 6 mis neu fwy ac yn CODI PREMIWM O 100% ar gartrefi sydd wedi bod yn wag am 12 mis neu fwy, yn unol ag Adran 12A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (h.y. dim newid o 2022/23).

 

Cofnod:

 

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid, y Cynghorydd Ioan Thomas, adroddiad yn gofyn i’r Cyngor am gadarnhad ffurfiol am 2023/24 o’r penderfyniadau blaenorol i beidio caniatáu disgownt i ail gartrefi a pheidio caniatáu disgownt ar eiddo gwag, ac i godi Premiwm o 150% neu 100% ar eiddo perthnasol o’r fath.

 

Rhoddodd y Pennaeth Cyllid amlinelliad o brif bwyntiau’r ymgynghoriad cyhoeddus, gan ddiolch i’r Tîm Cyfathrebu ac Ymgysylltu a’r Tîm Ymchwil a Gwybodaeth am eu gwaith amhrisiadwy wrth baratoi’r ymgynghoriad a dadansoddi ei ganlyniad.  Diolchodd hefyd i’w gyd-weithwyr yn yr Adran Gyllid oedd wedi cynorthwyo gyda’r gwaith.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau. 

 

Nododd aelod:-

 

·         Ei fod yn croesawu’r ychwanegiadau i’r hyn fu gerbron y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, ond nad oedd yn argyhoeddedig bod yr ychwanegiadau, ac yn benodol y cyfeiriad at adroddiad Simon Brookes ar ail-gartrefi, wedi’u hystyried yn ddwys iawn.

·         Bod effaith tŷ haf ar broffil ieithyddol ardal yn llai nag effaith aelwyd breswyl ddi-gymraeg, ac nad oedd yr adroddiad yn llwyr ystyried yr effaith debygol o gynyddu’r Premiwm ar y ganran o’r boblogaeth sy’n siarad Cymraeg yn yr ardaloedd hynny, na’r effaith uniongyrchol sy’n debygol o fod ar y boblogaeth frodorol.

·         Bod peryg’ i’r cynnig, fel yr oedd, esgor ar ganlyniadau anfwriadol a gwyrdroëdig, sef yn bennaf, cymell brodorion i werthu eiddo i estroniaid a chymell perchnogion tai haf i’w troi’n aelwydydd preswyl.

·         Na chredai fod yr adroddiad yn rhoi ystyriaeth i’r posibilrwydd o weithio o adref, effeithiau’r pandemig na dyfodiad Ffordd Osgoi Bontnewydd, oedd i gyd yn hwyluso’r shifft ddemograffig.

·         Nad oedd yna boblogaeth ddihysbydd o siaradwyr Cymraeg yn yr ardaloedd yma na galw cyfatebol am dai i nifer y tai haf sydd gennym yn yr ardaloedd.  Roedd y sefyllfa ddemograffig/ieithyddol yn y bröydd yma yn neilltuol fregus, ac roedd adroddiad Brookes yn cyfeirio at ganlyniadau catastroffig symud yn rhy sydyn i leihau niferoedd tai haf.

 

Ar sail y dadleuon hyn, cynigiodd yr aelod y gwelliant canlynol, a gafodd ei eilio:-

 

Na ddylid cynyddu’r Premiwm ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24, ac y dylid cael asesiad effaith ieithyddol cynhwysfawr o effeithiau tebygol cynyddu’r Premiwm, eglurder ynglŷn â’r eithriadau, gan hefyd roi ystyriaeth lawn i’r mesurau eraill i reoli tai haf.

 

Nododd aelod y byddai’n well petai’r Cyngor yn pleidleisio ar dri chymal yr argymhelliad ar wahân, gan fod yma rai pethau yma y byddai’n eu cefnogi, ac eraill y byddai’n eu gwrthwynebu.

 

Cefnogwyd y gwelliant gan nifer o aelodau.  Nodwyd:-

 

·         Os cynnal ymgynghoriad cyhoeddus, na ddylid diystyru’r canlyniadau, ac roedd 75% o’r ymatebwyr yn gwrthwynebu codi’r Premiwm am resymau ieithyddol ac economaidd.

·         Bod perchnogion ail-gartrefi yn gwario’n lleol, ac y byddai cynyddu’r Premiwm yn cael effaith andwyol ar fusnesau’r ardal, megis siopau, bwytai a thafarndai, adeiladwyr, plymwyr a thrydanwyr, wrth i fwy a mwy o ail gartrefi gael eu rhoi ar y farchnad.

·         Gan fod Llywodraeth Cymru wedi cytuno o’r diwedd i wahaniaethu rhwng cartref a thŷ haf, ac wedi cyflwyno Erthygl 4, fel bod modd i awdurdod lleol benderfynu pa drothwyon sy’n dderbyniol mewn unrhyw gymuned, roedd perygl y gallai cynyddu’r Premiwm ar hyn o bryd danseilio’r broses honno, sy’n fregus beth bynnag, yn yr ystyr y gallai’r adwaith i’r penderfyniad hwnnw fod yn bellgyrhaeddol.

·      Nad oedd cynyddu’r Premiwm am wneud tai yn fwy fforddiadwy i bobl leol, a’r diffyg swyddi o safon a’r cyflogau isel yn yr ardal oedd yn gyfrifol am y ffaith bod pobl yn methu fforddio tai, neu hyd yn oed yn mynd yn ddigartref.

·      Nad oedd modd i deuluoedd lleol yn y diwydiant twristiaeth dalu mwy o Bremiwm, a beth am y bobl hynny sy’n etifeddu tŷ sydd wedi bod yn y teulu ers cenedlaethau?

·      Holwyd pam na allai’r Cyngor brynu rhai o’r tai sydd ar y farchnad yn Aberdyfi, a’u  hadnewyddu i bobl leol eu prynu neu eu rhentu, e.e. gellid addasu tai 3 llawr yn 3 fflat.  Mewn ymateb i’r sylw, nododd yr Aelod Cabinet Tai fod yna gynllun o fewn y Cynllun Gweithredu Tai, a bod yr Adran yn brysur iawn yn prynu tai sy’n dod ar werth drwy’r sir, yn cynnwys Aberdyfi, i’w rhentu neu eu gwerthu i bobl leol. 

·      Y credid y byddai Premiwm o 150% yn gwneud mwy o ddrwg nag o les i’r gymuned.

·      Bod llawer o arian wedi’i godi drwy’r Premiwm eisoes, ond nad oedd yn cael ei wario.

 

Gwrthwynebwyd y gwelliant gan nifer o aelodau eraill.  Nodwyd:-

 

·      Er bod Llywodraeth Cymru wedi cynnig rhai atebion i’r sefyllfa tai haf, nad oedd hynny’n gyfystyr â Deddf Eiddo, ac nid oedd yr atebion hynny yn rhai cynhwysfawr fyddai’n mynd i wraidd y broblem.

·      Mai’r bobl fwyaf bregus yn ein cymuned yw’r dioddefwyr yn y sefyllfa yma, ac nid perchnogion ail-gartrefi, ac na chafodd y dros 3,000 o bobl sy’n wynebu digartrefedd ac ar y rhestrau aros am dai y cyfle i fod yn rhan o’r drafodaeth.

·      Bod cael cartref cysurus a diogel yn un o’n hanghenion mwyaf sylfaenol, a bod clywed y bydd 1,400 o bobl wedi mynd yn ddigartref erbyn diwedd y flwyddyn yn ddychrynllyd.  Hefyd, mae’r ffigurau ynglŷn â’r gost ychwanegol i’r Cyngor er mwyn cyflawni ei ddyletswydd statudol i gartrefu’r bobl yma yn frawychus, gyda gwariant dros £4.7m gros dros gyllideb eleni, a £6m dros gyllideb y flwyddyn nesaf.

·       Y byddai cynyddu’r Premiwm i 300% dros nos yn annheg ac yn afresymol, ac y gallai’r canlyniadau fod yn niweidiol iawn.  Ar y llaw arall, pe derbynnid y gwelliant i aros ar 100%, byddai’r Cyngor yn colli’r £3m sydd ei angen i ymdrin â’r argyfwng digartrefedd, a’r unig ffordd o gyfarch y bwlch wedyn fyddai drwy dorri’r Cynllun Gweithredu Tai, y mae’r Premiwm yn helpu i’w ariannu.  Credid y byddai hynny’n gamgymeriad mawr gan y byddai’n golygu torri ar gynlluniau hirdymor i atal digartrefedd ac i helpu pobl ifanc i mewn i’r farchnad yn lleol. 

·      Nad cynnydd yn y Premiwm fydd yn cau busnesau lleol, eithr polisïau’r ddwy Lywodraeth dros y 12 mlynedd ddiwethaf - mesurau llymder, chwyddiant a rhyfeloedd. 

·      Bod dros 800 o bobl y sir yn ddigartref, rhagor na 200 yn byw mewn gwely a brecwast/ gwestai, 3,000 yn gorfod aros dros 3 blynedd i gael tŷ cymdeithasol a 60% o bobl Gwynedd yn methu fforddio un tŷ, heb son am ddau. 

·      Ein bod angen arfau cynllunio / tai ac adnoddau i greu’r math o gymunedau sydd eu hangen, ac er y gwerthfawrogid y ffaith bod y Llywodraeth bellach yn cydnabod ei bod yn argyfwng arnom, nid oedd yr arfau hynny yn dod yn ddigon sydyn, os o gwbl. 

·      Bod yna gynlluniau yn y Cynllun Gweithredu Tai i gynorthwyo pobl leol sydd wedi etifeddu tai i rentu’r tai hynny i deuluoedd lleol, yn hytrach na’u gwerthu.

·      Bod mwy a mwy o bobl yn gweld ein tai fel cyfle busnes ac yn prynu’r stoc i’w osod fel Airbnbs yng Ngwynedd.  Fodd bynnag, drwy gynyddu’r Premiwm i 150%, roedd gan y Cyngor y cyfle heddiw i yrru’r neges allan nad ydym ar werth, ac i gymryd hoe er mwyn ail-edrych ar y sefyllfa.

·      Nad oedd yn afresymol disgwyl i berchnogion ail-gartrefi dalu ychydig mwy na phawb arall, gan gofio, wrth gwrs, bod ganddynt yr opsiwn o dalu’n fisol.

·      Bod gwestai’n dioddef gan nad oes neb yn aros ynddynt, a byddai’n well petai’r arian sy’n cael ei godi yn mynd tuag at helpu’r gwestai bach yma i gynnal eu hunain.

·      Y cefnogid y cynnig ar yr amod y bydd yna fwy o dai fforddiadwy yn cael eu hadeiladu a bod yr arian yn mynd tuag at sicrhau bod y digartref yn cael cartref yng Ngwynedd.

·      Y cefnogid twristiaeth gynaliadwy y gellir ei rheoli yn y lle iawn ac o’r maint iawn, ond nid twristiaeth oedd dan sylw yma, eithr tai sy’n cael eu prynu o’r stoc tai ac yn aros yn wag am ran helaeth o’r flwyddyn.  Hefyd, ni chredid bod y ddadl ynglŷn â’r effaith ar fusnesau lleol yn dal dŵr gan fod y bobl hynny sy’n byw yma drwy gydol y flwyddyn yn defnyddio’r gwasanaethau hynny.

·      Bod llawer o son am effaith cynyddu’r Premiwm ar frodorion, ond mae’r bobl hynny sy’n aros mewn llety dros dro yn frodorion hefyd.  Mae llawer o ddigartrefedd yn gudd - nid cysgu ar y stryd ydyw bob tro, ac mae’r elfen gudd yn gwneud i ni beidio sylwi neu droi llygaid dall. 

·      Na chredid bod y cymal Adran 106 yn rhwystr i bobl gael morgais bellach, ac y dylid annog defnyddio’r cymal hwnnw ar y tai newydd sy’n cael eu datblygu.

·      Bod yna ganfyddiad nad oes swyddi ar gael yng Ngwynedd, ond mae digon o swyddi ar gael.  Mae yma brinder gofalwyr, gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr iechyd, athrawon, cymorthyddion dosbarth, doctoriaid, ayb, a mynegwyd gobaith y bydd pobl leol yn ymgeisio am y swyddi hyn, a hefyd yn ymgeisio am le yn yr Ysgol Feddygol newydd fydd yn dod i Fangor, ac yn aros yn yr ardal i weithio maes o law.

 

Galwyd am bleidlais gofrestredig ar y gwelliant i beidio cynyddu’r Premiwm ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24, ac i gael asesiad effaith ieithyddol cynhwysfawr o effeithiau tebygol cynyddu’r Premiwm, eglurder ynglŷn â’r eithriadau, gan hefyd roi ystyriaeth lawn i’r mesurau eraill i reoli tai haf.

 

Yn unol â’r Rheolau Gweithdrefn, cofnodwyd y bleidlais ganlynol ar y gwelliant:-

 

O blaid

21

Y Cynghorwyr Glyn Daniels, Anwen Davies, Dylan Fernley, John Brynmor Hughes, Louise Hughes, Anne Lloyd Jones, Gwilym Jones, Eryl Jones-Williams, Beth Lawton, Dewi Owen, Gareth Coj Parry, Nigel Pickavance, John Pughe, John Pughe Roberts, Richard Glyn Roberts, Peter Thomas, Rob Triggs, Hefin Underwood, Eirwyn Williams, Gareth Williams a Gruffydd Williams

Yn erbyn

37

Y Cynghorwyr Craig ab Iago, Beca Brown, Dafydd Owen Davies, Elwyn Edwards, Elfed Wyn ap Elwyn, Alan Jones Evans, Delyth Lloyd Griffiths, Annwen Hughes, R.Medwyn Hughes, Iwan Huws, Elin Hywel, Elwyn Jones, Berwyn Parry Jones, Dawn Lynne Jones, Elin Walker Jones, Gareth Tudor Jones, Huw Wyn Jones, Kim Jones, June Jones, Menna Jones, Cai Larsen, Dafydd Meurig, Dilwyn Morgan, Edgar Wyn Owen, Gwynfor Owen, Llio Elenid Owen, Rheinallt Puw, Arwyn Herald Roberts, Gareth A.Roberts, Meryl Roberts, Paul Rowlinson, Dyfrig Siencyn, Ioan Thomas, Rhys Tudur, Einir Wyn Williams, Elfed Williams a Sasha Williams.

Atal

0

 

 

Yn ei sylwadau cloi, nododd yr Aelod Cabinet:-

 

·         Nad oedd gwarant bod rhai o’r datblygiadau sydd gan Lywodraeth Cymru ar y gweill am ddigwydd fory, a byddent yn cymryd cryn dipyn o amser i’w gwireddu.

·         O ran y peilot yn Nwyfor, bod yna 2,138 o ail-gartrefi a 2,110 cais ar agor am dŷ cymdeithasol yn yr ardal.

·         Y credai bod codi’r Premiwm i 150% yn rhesymol.

 

Nododd aelod nad oedd yr adroddiad yn cynnwys data digon trylwyr yn mesur yr effaith ar gymunedau a wardiau unigol, o ran faint o dai sy’n symud, ac ati, a gofynnodd i’r cynigydd ystyried ychwanegiad i’r cynnig bod effaith y Premiwm ar gymunedau yn cael ei fonitro’n dymhorol, fel y gellid gweld yr effaith o fis i fis.  Mewn ymateb, eglurodd y Prif Weithredwr nad oedd angen ychwanegu at y cynnig gan y byddai yna waith monitro effaith yn digwydd beth bynnag, ac y byddai’r Cyngor yn ystyried y mater hwn eto'r flwyddyn nesaf.

 

Nododd yr Arweinydd ei fod yn credu bod y pwynt a godwyd yn un teg, ac y dylid gofyn i’r Aelod Cabinet a fyddai’n fodlon derbyn yr ychwanegiad i’r cynnig.  Mewn ymateb, nododd y Swyddog Monitro na chredai ei bod yn briodol newid geiriad y cynnig ar y pwynt yma gan nad oedd y mater wedi’i ystyried fel rhan o’r drafodaeth.  Hefyd, roedd sicrwydd wedi’i roi y byddai’r gwaith yn cael ei wneud beth bynnag.

 

PENDERFYNWYD ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24, bod Cyngor Gwynedd yn:

·                Caniatáu DIM disgownt ar ail gartrefi dosbarth A, yn unol ag Adran 12 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (h.y. dim newid o 2022/23).

·                Caniatáu DIM disgownt ac yn CODI PREMIWM O 150% ar ail gartrefi dosbarth B, yn unol ag Adran 12B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (h.y. cynyddu o 100% i 150%)

·                Caniatáu DIM disgownt i gartrefi sydd wedi bod yn wag am 6 mis neu fwy ac yn CODI PREMIWM O 100% ar gartrefi sydd wedi bod yn wag am 12 mis neu fwy, yn unol ag Adran 12A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (h.y. dim newid o 2022/23).

 

 

Dogfennau ategol: