Agenda item

Adroddiad gan Dewi A.Morgan (Swyddog Cyllid Statudol) a Sian Pugh (Cyfrifydd Grwp).

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r:

·         Adroddiad ‘ISA 260’ gan Archwilio Cymru ar gyfer y BUEGC

·         Datganiad o Gyfrifon Terfynol y BUEGC (ôl archwiliad) am 2021/22

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dewi Morgan (Swyddog Cyllid Statudol) ac Yvonne Thomas (Archwilio Cymru).

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r:

·            Adroddiad ‘ISA 260’ gan Archwilio Cymru ar gyfer y BUEGC.

·            Datganiad o Gyfrifon Terfynol y BUEGC (ôl archwiliad) am 2021/22.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Cyflwynwyd y fersiwn derfynol (ôl-archwiliad) o’r Datganiad o’r Cyfrifon am 2021/22.  Roedd y prif newidiadau ers y fersiwn cyn archwiliad wedi’u hamlinellu yn rhan 16 o’r adroddiad ac Atodiad 3 ‘ISA260’ Archwilio Cymru.

 

Gofynnid i Gadeirydd y Bwrdd, ynghyd â’r Pennaeth Cyllid, ardystio’r Llythyr Cynrychiolaeth, yn electronig (Atodiad 1 i adroddiad Archwilio Cymru) wedi i’r BUEGC gymeradwyo’r uchod.

 

Wedi iddo dderbyn y Llythyr Cynrychiolaeth wedi’i ardystio gan y Cadeirydd a’r Pennaeth Cyllid, byddai Archwilydd Cyffredinol Cymru (Adrian Crompton) yn cyhoeddi’r dystysgrif ar y cyfrifon.

 

TRAFODAETH

 

Manylwyd ar y cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd.

 

Nododd y Swyddog Cyllid Statudol:-

 

·         Bod paragraff 10 o adroddiad Archwilio Cymru yn nodi eu bod yn bwriadu cyhoeddi barn archwilio ddiamod ar gyfrifon eleni unwaith y byddai’r Bwrdd Uchelgais wedi rhoi Llythyr Sylwadau i Archwilio Cymru yn seiliedig ar yr hyn a nodwyd yn Atodiad 1 i’r adroddiad.

·         Bod Atodiad 3 i adroddiad yr archwilwyr yn tynnu sylw at un cywiriad a wnaed i’r cyfrifon yn ystod yr archwiliad, a bod hynny’n fater technegol yn unig yn ymwneud â phensiynau.

 

Nododd y Swyddog Cyllid Statudol ymhellach y dymunai ddiolch i Yvonne Thomas a’r tîm yn Archwilio Cymru am eu gwaith ar yr archwiliad, ac i Sian Pugh (Cyfrifydd Grŵp - Corfforaethol a Phrosiectau) a’r tîm yn Adran Gyllid Cyngor Gwynedd am eu gwaith yn paratoi’r Datganiad o Gyfrifon.

 

Croesawyd Yvonne Thomas (Archwilio Cymru), i’r cyfarfod, ac fe’i gwahoddwyd i ddweud gair:-

 

Nododd Yvonne Thomas ei bod yn falch o ddweud bod Archwilio Cymru o’r farn bod y cyfrifon yn ddarlun gwir a theg o sefyllfa ariannol y Bwrdd Uchelgais ar gyfer y flwyddyn ariannol.  Tynnodd sylw at ambell bwynt yn yr adroddiad, sef:-

 

·         Nad oedd archwilwyr byth yn gallu rhoi sicrwydd cyflawn bod cyfrifon wedi’u datgan yn gywir.  Yn lle hynny, pennid lefel o berthnasedd i geisio adnabod a chywiro camddatganiadau a allai, fel arall, beri i’r sawl sy’n defnyddio’r cyfrifon gael ei gamarwain, ac ar gyfer archwiliad eleni, pennwyd lefel perthnasedd o £57,000.

·         Nad oedd yr archwiliad wedi’i gwblhau ar adeg drafftio’r adroddiad, ond y gellid cadarnhau erbyn hyn bod yr archwiliad wedi’i gwblhau ac nad oedd yna unrhyw faterion ychwanegol wedi eu codi.

·         Bod yr adroddiad yn sôn am effaith Covid ar archwiliad eleni o ran yr amserlen a’r dull archwilio, ac o ystyried gweithio o bell parhaus, bwriedid defnyddio llofnodion electronig ar gyfer cymeradwyo ac ardystio cyfrifon eleni.

·         O ran materion arwyddocaol sy’n codi o’r Archwiliad, ei bod yn bleser adrodd mai man wallau naratif a chyflwyniadol yn unig oedd yn codi o’r archwiliad, ac roedd y ffaith bod cyn lleied o faterion wedi codi yn neges bositif ac yn adlewyrchu’n dda ar y trefniadaeth sydd mewn lle ar gyfer paratoi’r cyfrifon.

·         Y dymunai ddiolch i Sian Pugh (Cyfrifydd Grŵp - Corfforaethol a Phrosiectau) a’r tîm am eu cymorth i gwblhau’r archwiliad.

·         Bod yr un cywiriad a wnaed i’r cyfrifon yn welliant cyflwyniadol yn unig, ac na chafodd unrhyw effaith arall ar y datganiadau ariannol.

 

Nododd y Cadeirydd fod yr adroddiad yn un positif oedd yn cadarnhau bod gennym dîm effeithiol o fewn Adran Gyllid Cyngor Gwynedd.

 

Dogfennau ategol: