Agenda item

Adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans (Rheolwr Gweithrediadau)

Penderfyniad:

 

1.    Nodi Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi'i diweddaru.

 

2.    Cymeradwyo cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol.

 

Cofnod:

Cyflwynodd Alwen Williams (Cyfarwyddwr Portffolio) drosolwg o uchafbwyntiau’r adroddiad, a manylodd y Rheolwyr Rhaglen ar y diweddariadau rhaglen, fel a ganlyn:-

 

·         Ynni Carbon Isel - Henry Aron (Rheolwr Rhaglen Ynni);

·         Digidol – Stuart Whitfield (Rheolwr Rhaglen Digidol);

·         Tir ac Eiddo - David Matthews (Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo);

·         Bwyd-Amaeth a Thwristiaeth ac Arloesi mewn Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel – Robyn Lovelock (Rheolwr Rhaglen Cynllun Twf).

 

Yna cyflwynodd Alwen Williams (Cyfarwyddwr Portffolio) dabl yn tracio’r gwaith o gyflawni prosiectau a chyflwynodd Henry Aron (Rheolwr Rhaglen Ynni) drosolwg o’r prif risgiau.

 

PENDERFYNIAD

1.         Nodi Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi'i diweddaru.

2.         Cymeradwyo cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae adrodd chwarterol ar gynnydd yn erbyn Cynllun Twf Gogledd Cymru yn un o ofynion Cytundeb Terfynol y Cynllun Twf.  Yn dilyn ystyriaeth gan y BUEGC, caiff yr adroddiadau eu rhannu gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol.

 

TRAFODAETH

 

Manylwyd ar y cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd.

 

Gan gyfeirio at Gytundeb Menter ar y Cyd Parc Bryn Cegin, Bangor (Rhaglen Tir ac Eiddo), gofynnwyd am eglurhad o’r sylw a wnaed yn ystod y cyflwyniad bod y trafodaethau wedi cyrraedd y cam lle’r mae’r risgiau ariannol i’r Bwrdd wedi’u capio.  Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Rhaglen, er na ellid cadarnhau nad oes cynnydd mewn costau, na fyddai’r Bwrdd yn gwario uwchlaw’r swm yr oedd wedi’i ddynodi ar gyfer y cynllun, a phetai’r gost yn llai na’r swm a ddynodwyd, yna byddai gan y Bwrdd yr hawl i ail-ddefnyddio’r arian ar gyfer prosiect gwahanol o fewn y Cynllun Twf.

 

Gan gyfeirio at y Ganolfan Opteg a Pheirianneg Menter (Rhaglen Arloesi mewn Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel), gofynnwyd am eglurhad o’r sylw a wnaed yn ystod y cyflwyniad bod amcangyfrif 30-40% o gynnydd yng nghostau sefydlu’r ganolfan.  Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Rhaglen fod yna ddau fwlch ariannu, un o fewn y Rhaglen Bwyd-Amaeth a Thwristiaeth a’r llall o fewn y Rhaglen Arloesi mewn Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel.  O ran bwlch ariannu costau prosiect Canolbwynt Economi Gwledig Glynllifon, nodwyd bod y tîm yng Ngrŵp Llandrillo Menai yn edrych ar dri opsiwn ar hyn o bryd, sef:-

 

·         Lleihau sgôp y prosiect

·         Ceisio sicrhau arian ychwanegol ar gyfer y prosiect

·         Tynnu’r prosiect yn ôl.

 

O ran bwlch ariannu costau sefydlu’r Ganolfan Opteg a Pheirianneg Menter, nodwyd bod y tîm ym Mhrifysgol Glyndŵr yn datblygu opsiynau hefyd.  Nid oedd yn glir eto beth yn union fyddai’r opsiynau hynny, ond gofynnwyd iddynt gyflawni ymarferiad tebyg i un Grŵp Llandrillo Menai, gan edrych ar newid sgôp y prosiect ac ystyried unrhyw gamau lliniaru eraill posib’ ar gyfer rheoli’r bwlch.  Nodwyd eu bod hefyd yn edrych ar newidiadau i amseriad y prosiect.

 

Nododd cynrychiolydd Prifysgol Glyndŵr ei bod yn anorfod y byddai yna oedi sylweddol gyda phrosiect y Ganolfan Opteg a Pheirianneg Menter, ond y dymunai gadw meddwl agored o ran y posibilrwydd o gyflwyno’r achos busnes llawn i’r Bwrdd i’w ystyried rywle rhwng y dyddiad a ragwelwyd yn wreiddiol, sef Mawrth 2023, a’r dyddiad sy’n cael ei nodi ar hyn o bryd, sef Medi 2023.

 

Nododd y Cadeirydd y byddai hynny’n newydd i’w groesawu. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag amseru prosiectau yn gyffredinol, nododd y Cyfarwyddwr Portffolio y croesawid pob cyfle i ddod â phenderfyniadau i sylw’r Bwrdd yn gynt, sy’n golygu osgoi cynnydd di-angen mewn costau yn yr hinsawdd sydd ohoni.  O ran y prosiect penodol dan sylw, credid ei bod o fewn rheolaeth Prifysgol Glyndŵr i ddod â’r achos busnes ymlaen, a chadarnhawyd y byddai Swyddfa Rheoli’r Portffolio, y Rheolwr Rhaglen Cynllun Twf a’r tîm yn gwneud popeth i hwyluso hynny petai’r achos busnes yn barod i’w gymeradwyo.

 

Nododd cynrychiolydd Grŵp Llandrillo Menai, tra’n derbyn bod posib’ parhau i roi’r cynlluniau busnes at ei gilydd, ei bod yn anodd cyfiawnhau'r egni a’r gost o wneud hynny os nad yw’r pecyn cyllidol yn ei le.  Ychwanegodd ei fod yn falch o’r gwaith oedd wedi digwydd dros yr wythnosau diwethaf, yn benodol gyda’r Rheolwr Rhaglen Cynllun Twf a’r tîm yn nhermau ceisio dod at opsiynau, ond yr hoffai feddwl y gellid dod â phapur yn fuan i’r Bwrdd, gan y byddai hynny yn ei dro yn arwain at godi egni mawr i symud ymlaen i’r camau nesaf.

 

Gan gyfeirio at y gofrestr risg, nodwyd:-

 

·         Y deellid pam bod dwy o’r risgiau, sef Adfer yr Economi a Chytundeb Gweithredu a Masnach yr UE / y DU wedi cau.  Roedd risgiau yn anorfod, ond gellid bod yn ffyddiog bod gan y Bwrdd y gallu a’r set sgiliau i reoli’r risgiau hynny a symud y cynlluniau yn eu blaenau.  

·         Nad oedd y risgiau yn cael eu dileu mewn gwirionedd, ond yn hytrach yn cael eu disodli gan risgiau mwy yn anffodus.

 

Dogfennau ategol: