Agenda item

Cais o dan Adran 73 i amrywio amod 1 a 3 ar ganiatâd cynllunio C16/1164/16/MW (Cais o dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 i benderfynu ar amodau dan adolygiad cyfnodol) er mwyn ymestyn yr amser ar gyfer cloddio a gweithio deunydd hyd at 2035, ymestyn amser ar gyfer adfer y safle hyd at 2037 a diwygio cynlluniau er mwyn cynnwys estyniad i'r ardal cloddio

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Beca Roberts

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Dirprwyo'r hawl i Bennaeth yr Adran Amgylchedd gymeradwyo'r cais, gydag amodau'n ymwneud â'r hyn a ganlyn:

 

  1. Hyd y cyfnod gweithio 31/12/2035 a'r cyfnod adfer hyd at 31/12/2037.
  2. Gweithgareddau a ganiateir a chydymffurfiaeth â’r manylion/cynlluniau a gyflwynwyd (yn cynnwys ardal yr estyniad).
  3. Marcio ffin y safle ac ardaloedd cloddio am fwynau.
  4. Oriau Gweithio.
  5. Cyflwyno cais i ymestyn cyfnod cau a gwyro Hawliau Tramwy Cyhoeddus rhifau 46 a 50.
  6. Oriau Gweithio ar wyneb y gwaith
  7. Dull gweithio a chyfyngiadau ffrwydro
  8. Adferiad a chynllun creu ac adfer cynefinoedd manwl yn unol â manylion y cais
  9. Cynllun adfer ar gyfer safle'r peiriannau erbyn 31 Rhagfyr 2035.
  10. Adolygiad bob pum mlynedd o’r gweithrediadau
  11. Rheoli goleuo allanol
  12. Rheoli cyfyngiadau sŵn ar gyfer y dydd a’r nos
  13. Rheoli llwch a ryddheir a darparu/cynnal a chadw gorsaf dywydd
  14. Priddoedd a storio cyfryngau adfer
  15. Cyfyngu ar yr hawliau datblygu a ganiateir
  16. Cyfyngu ar glirio llystyfiant ar adegau penodol o’r flwyddyn oni bai y gellir profi yn ysgrifenedig na fydd y gwaith yn amharu ar adar ac ymlusgiaid;
  17. Gwaith monitro cen wedi'i ddiweddaru
  18. Cynllun rheoli cynefin gweundir ar gyfer yr ardal ddigolledu amgylcheddol yn unol â'r manylion a ddarparwyd
  19. Cynllun monitro hirdymor ar gyfer y ffrwd.
  20. Monitro cynefinoedd Gwaen Gynfi
  21. Cofnodi a lliniaru archeolegol
  22. Gwarchod adar sy'n nythu.
  23. Cynllun rheoli cen.
  24. Mesurau diogelu ymlusgiaid.
  25. Atal da byw rhag cael mynediad i ardaloedd sydd wedi'u hadfer.
  26. Monitro rhywogaethau ymledol.

Cofnod:

Breedon, Chwarel Penrhyn, Bethesda, Bangor, Gwynedd, LL57 4YG

 

Cais o dan Adran 73 i amrywio amod 1 a 3 ar ganiatâd cynllunio C16/1164/16/MW (Cais o dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 i benderfynu ar amodau dan adolygiad cyfnodol) er mwyn ymestyn yr amser ar gyfer cloddio a gweithio deunydd hyd at 2035, ymestyn amser ar gyfer adfer y safle hyd at 2037 a diwygio cynlluniau er mwyn cynnwys estyniad i'r ardal cloddio

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)    Amlygodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau mai cais ydoedd dan Adran 73 Deddf Cynllunio 1990 i amrywio amodau 1 a 3 ar gais cynllunio C16/1164/16/MW (Adolygu Hen Hawliau Cynllunio Mwynau dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (ROMP)) i ymestyn cyfnod y gwaith cloddio llechi a gweithrediadau cysylltiol am dair blynedd, caniatáu mwy o amser i adfer y safle a diwygio cynlluniau i wneud lle i estyniad arfaethedig i'r ardal sy'n cael ei gweithio ar hyn o bryd.

 

Eglurwyd bod safle'r cais yn cynnwys y chwarel yn ei chyfanrwydd a'i gweithrediadau; cloddio am fwynau (yn cynnwys ardal yr estyniad arfaethedig), tomenni gwastraff mwynau, prosesu, pentyrru, tynnu tomenni gwastraff mwynau hanesyddol, swyddfa'r safle/cyfleusterau lles, pont bwyso ac ardaloedd sydd wedi'u hadfer. Dan y caniatâd cynllunio cyfredol hwn (ROMP), dywed amod 1 y caiff yr holl weithrediadau hyn barhau hyd at 31/12/2032 gyda'r adferiad terfynol i gael ei gwblhau erbyn 31/12/2034. Byddai'r newid arfaethedig i'r amod yn newid dyddiad rhoi'r gorau i'r gwaith i 31/12/2035 a'r gwaith adfer i'w gwblhau erbyn 31/12/2037.

 

Nodwyd bod egwyddor ymestyn cyfnod gwaith y chwarel ar y safle  yn seiliedig ar Bolisi Mwynau Strategol PS 22 a Pholisi MWYN 3 CDLl lle nodi’r  y bydd y Cyngor yn cyfrannu at y galw parhaol yn lleol a rhanbarthol am gyflenwad o fwynau trwy gynnal gwerth o leiaf saith mlynedd o fanc tir o Dywod a Graean a banc tir deg mlynedd wrth gefn o agregau cerrig mâl yn unol ag arweiniad cenedlaethol.

 

Yng nghyd destun materion traffig, hawliau tramwy cyhoeddus a thir comin, adroddwyd nad oedd y cynnig yn cynnwys bwriad i gynyddu symudiadau HGV o’r safle. Derbyniwyd sylwadau gan Uned Drafnidiaeth y Cyngor yn nodi dim gwrthwynebiad i’r cynnig gan ei fod yn annhebygol o gael unrhyw effaith ar y rhwydwaith priffyrdd.

 

Yn ogystal, nodwyd bod yr Uned Hawliau Tramwy Cyhoeddus wedi cadarnhau fod llwybr caniataol wedi'i sefydlu a'i fod yn dilyn y llwybr a ddefnyddiwyd i gludo cwsmeriaid i'r wifren uchaf yn Zip World. Cytunwyd ar y llwybr hwn gyda'r Cyngor ac mae ar hyn o bryd yn destun peth gwaith er mwyn medru agor y llwybr i'r cyhoedd. Felly, ystyriwyd er bod yr Hawliau Tramwy Cyhoeddus gwreiddiol oedd yn croesi'r chwarel wedi cael eu heffeithio am gyfnod sylweddol, mae'r llwybr caniataol a gytunwyd iddo yn darparu mynediad diogel rhwng Llandygai a'r llethrau sy'n esgyn uwchben y chwarel. Ategwyd y bydd camau i sicrhau'r cyfnod cau a'r cytundeb ar gyfer llwybr caniataol i gyd-fynd â dyddiad gorffen gwaith y chwarel yn cael eu cynnwys fel amodau ar y caniatâd hwn. Ystyriwyd y byddai'r camau hyn yn ddull derbyniol i sicrhau llwybr i'r cyhoedd ac i sicrhau nad yw'r cynnig yn achosi niwed annerbyniol i Hawliau Tramwy Cyhoeddus er mwyn cydymffurfio â pholisi TRA y CDLl

 

Wrth drafod materion hydroleg a hydroddaeareg, tynnwyd sylw at y dulliau rheoli dŵr sy'n cael eu gweithredu'n bresennol ar y safle sy’n cynnwys; draenio a sianeli agored, draenio drwy bwmpio, teneuo dŵr wyneb, lagŵns setlo ynghyd â ffrwd rwystro a gafodd ei gweithredu fel rhan o'r estyniad yn 2012. Nodwyd bod y ffrwd yn rhedeg ar hyd ffin gwagle'r chwarel a ffin yr estyniad arfaethedig, gan ddal dŵr wyneb a'i ailgyfeirio i wlypdir a thir mawnog Gwaun Gynfi. Ategwyd, er bod Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi dweud eu bod yn derbyn y mwyafrif o'r canfyddiadau, fodd bynnag, roeddynt yn amheus ynghylch effeithiolrwydd y ffrwd ac felly wedi datgan y dylid gosod amod ar unrhyw ganiatâd cynllunio i sicrhau cynllun monitro hirdymor.

 

Yng nghyd-destun yr economi, nodwyd bod y cynnig y mae'r cais yn ymwneud ag o yn hollol hanfodol i gyfraniad economaidd y cwmni i’r dyfodol.  Nodwyd bod y cwmni’n gwneud cyfraniad uniongyrchol a sylweddol i’r economi leol a chyflogaeth uniongyrchol/anuniongyrchol o ganlyniad i weithrediadau'r chwarel.  Yn ychwanegol, bydd cadw gweithwyr lleol yn cael effeithiau positif ar ddiwylliant, ac yn fwy penodol, ar statws y Gymraeg yn yr ardal. Ystyriwyd felly y bydd y bwriad yn gwneud cyfraniad positif i economi’r ardal yn unol â Pholisi Strategol PS 13 y CDLl a NCT 23.

 

Ystyriwyd fod y datblygiad arfaethedig yn cydymffurfio â'r holl bolisïau ac ystyriaethau cynllunio perthnasol ac argymhellwyd y dylid cymeradwyo'r cais cynllunio gydag amodau priodol.

 

b)    Nododd y Cadeirydd fod y Cyng Beca Roberts (Aelod Lleol) wedi nodi mewn e-bost ei bod o blaid y cynnig

 

          ch)  Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais yn unol ar argymhelliad

 

 

PENDERFYNWYD: Dirprwyo'r hawl i Bennaeth yr Adran Amgylchedd gymeradwyo'r cais, gydag amodau'n ymwneud â'r hyn a ganlyn:

 

1.         Hyd y cyfnod gweithio 31/12/2035 a'r cyfnod adfer hyd at 31/12/2037.

2.         Gweithgareddau a ganiateir a chydymffurfiaeth â’r manylion/cynlluniau a gyflwynwyd (yn cynnwys ardal yr estyniad).

3.         Marcio ffin y safle ac ardaloedd cloddio am fwynau.

4.         Oriau Gweithio.

5.         Cyflwyno cais i ymestyn cyfnod cau a gwyro Hawliau Tramwy Cyhoeddus rhifau 46 a 50.

6.         Oriau Gweithio ar wyneb y gwaith

7.         Dull gweithio a chyfyngiadau ffrwydro

8.         Adferiad a chynllun creu ac adfer cynefinoedd manwl yn unol â manylion y cais

9.         Cynllun adfer ar gyfer safle'r peiriannau erbyn 31 Rhagfyr 2035.

10.       Adolygiad bob pum mlynedd o’r gweithrediadau

11.       Rheoli goleuo allanol

12.       Rheoli cyfyngiadau sŵn ar gyfer y dydd a’r nos

13.       Rheoli llwch a ryddheir a darparu/cynnal a chadw gorsaf dywydd

14.       Priddoedd a storio cyfryngau adfer

15.       Cyfyngu ar yr hawliau datblygu a ganiateir

16.       Cyfyngu ar glirio llystyfiant ar adegau penodol o’r flwyddyn oni bai y gellir profi yn ysgrifenedig na fydd y gwaith yn amharu ar adar ac ymlusgiaid;

17.       Gwaith monitro cen wedi'i ddiweddaru

18.       Cynllun rheoli cynefin gweundir ar gyfer yr ardal ddigolledu amgylcheddol yn unol â'r manylion a ddarparwyd

19.       Cynllun monitro hirdymor ar gyfer y ffrwd.

20.       Monitro cynefinoedd Gwaen Gynfi

21.       Cofnodi a lliniaru archeolegol

22.       Gwarchod adar sy'n nythu.

23.       Cynllun rheoli cen.

24.       Mesurau diogelu ymlusgiaid.

25.       Atal da byw rhag cael mynediad i ardaloedd sydd wedi'u hadfer.

26.       Monitro rhywogaethau ymledol.

 

Dogfennau ategol: