I ystyried yr adroddiad a gyflwynir, a chynnig unrhyw sylwadau neu awgrymiadau perthnasol.
Penderfyniad:
Awgrymiadau:
·
Cynnwys sylw ar yr effaith gadarnhaol mae cwynion yn cael ar
berfformiad y Cyngor
·
Cynnwys crynodeb o’r prif feysydd / meysydd datblygol sydd yn
derbyn cwynion
·
Categoreiddio neu osod
cyd-destun ehangach ar gyfer yr adrannau hynny sydd yn derbyn y mwyafrif o
gwynion, fel bod modd deall yr amgylchiadau
·
Y Cadeirydd i ail ymweld â chyfrifoldebau’r Pwyllgor - a oes angen rhoi trosolwg ar ‘holl
adrannau’r Cyngor’ (gan gynnwys
Gwasanaethau Gofal ac Addysg sydd â threfn statudol eu hunain) ?
Cofnod:
a) Cyflwynwyd adroddiad gan Pennaeth yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol yn
cynnig trosolwg o drefniadau a pherfformiad y Cyngor yng nghyswllt ymdrin â
chwynion a gwella gwasanaethau yn ystod 2021/22 gan amlygu llwyddiannau,
sialensiau a datblygiadau. Atgoffwyd yr Aelodau bod gofyn statudol ar y
Pwyllgor i sicrhau bod gan y Cyngor drefniadau effeithiol ar gyfer ymdrin â
chwynion. Amlygwyd mai dyma’r tro cyntaf i’r adroddiad gael ei gyflwyno i’r
Pwyllgor ac felly yn gyfle i’r Aelodau gynnig sylwadau ar gynnwys a fformat yr
adroddiad.
Rhoddwyd cefndir ac
eglurhad cryno o’r drefn cwynion gan ategu bod gwaith ar y gweill i ddatblygu
ymateb cwynion gan Aelodau etholedig am wasanaethau.
b) Diolchwyd am yr adroddiad
c) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y
sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Bod yr adroddiad i’r groesawu ynghyd ar sesiwn
hyfforddiant diweddar a dderbyniwyd - ‘Trosolwg ar ymarfer da o Wella
Gwasanaeth o Gwynion’
·
Bod cynnydd mewn cwynion
yn ‘dderbyniol’
·
Croesawu diwylliant cwynion iach
·
Awgrym cynnwys nodyn yn mynegi'r effaith gadarnhaol
mae cwynion yn gael ar berfformiad y Cyngor - bod cwynion yn arwain at newid a
gwella gwasanaethau’r Cyngor
·
Awgrym i gategoreiddio cwynion o ystyried bod dwy
adran yn derbyn llawer mwy o gwynion nac eraill. Cais i ystyried gosod
cyd-destun ehangach i’r gwasanaethau hynny
·
Bod cyfartaledd ymateb o 7 diwrnod ar draws y
gwasanaethau yn un i’w longyfarch
·
Bod y wal lwyddiannau yn
syniad da ac yn bwysig i forâl staff
·
I’r dyfodol, cais i’r adroddiad gael ei gyflwyno
i’r Pwyllgor cyn y Cabinet fel bod modd cyflwyno sylwadau.
·
Derbyn nad yw’r drefn yn berthnasol i ddefnyddwyr
Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg oherwydd trefn cwynion ar wahân, ond angen
gwirio cyfrifoldebau’r Pwyllgor o gadw trosolwg ‘dros holl adrannau’r Cyngor’
ch) Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â mesur y
perfformiad yn erbyn Cynghorau eraill, ac y byddai cynnwys hyn yn yr adroddiad
yn fuddiol, nodwyd bod modd sicrhau hyn i’r dyfodol. Ategwyd bod y wybodaeth yn
cael ei gynnwys yn adroddiad chwarterol yr Ombwdsman. Nodwyd bod y sesiwn
hyfforddiant diweddar wedi ei gynnal ar y cyd gyda swyddfa’r Ombwdsman (hyn yn
torri tir newydd i’r Cyngor) ac yn rhoi cyfle i Aelodau ystyried ffyrdd
gwahanol o fesur perfformiad (nid nifer y cwynion yn unig) drwy roi ystadegau
Gwynedd mewn cyd-destun cenedlaethol.
Mewn ymateb i sylw ynglŷn â’r categori
‘diffyg ymateb’, nodwyd bod angen ystyried a deall cyd-destun y diffyg gan
gynnig, fel enghraifft, mai ‘diffyg gweithredu oherwydd dim cyllideb’ sydd yn
rhwystro ymateb. Mewn ymateb i gwestiwn dilynol ynglŷn ag addasu geiriad y
categori nodwyd bod trafodaethau yn cael eu cynnal ar y mater.
Mewn ymateb i gais am ddadansoddiad mwy manwl
o’r cwynion fesul gwasanaeth, nodwyd bod y wybodaeth ar gael, ond heb ei
gynnwys yn yr adroddiad. Nodwyd er hynny, oherwydd bod rhai gwasanaethau yn
cynnig gwasanaethau rheng flaen ac o ganlyniad yn derbyn mwy o gwynion, bod y
nifer cwynion yn gallu bod yn gamarweiniol. Ategwyd mai dim y nifer cwynion
sydd yn flaenoriaeth - trefn ymateb i’r
gŵyn a gwella gwasanaethau yw’r nôd. Mewn
ymateb, nododd yr Aelodau y byddai modd efallai gynnwys crynodeb i’r prif
feysydd sydd yn creu problemau.
d)
Cynigiwyd ac eiliwyd
derbyn yr adroddiad
PENDERFYNWYD:
·
Derbyn bod trefniadau a
pherfformiad y Cyngor yng nghyswllt ymdrin â chwynion a gwella gwasanaeth yn effeithiol iawn
·
Bod yr adroddiad, i’r dyfodol,
yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio cyn y Cabinet
Awgrymiadau:
1.
Cynnwys sylw ar yr effaith gadarnhaol
mae cwynion yn cael ar berfformiad Cyngor
2.
Cynnwys crynodeb o’r prif
feysydd / meysydd datblygol sydd yn derbyn cwynion
3.
Categoreiddio neu osod
cyd-destun ehangach ar gyfer yr adrannau hynny sydd yn derbyn y mwyafrif o
gwynion, fel bod modd deall yr amgylchiadau
4.
Y Cadeirydd i ail ymweld â
chyfrifoldebau’r Pwyllgor - a oes angen
rhoi trosolwg dros ‘holl adrannau’r Cyngor’
(gan gynnwys Gwasanaethau Gofal ac Addysg sydd â threfn statudol eu
hunain) ?
Dogfennau ategol: