Penderfyniad:
Bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer
trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd
Cofnod:
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y byddai'r penderfyniad yn cael ei
wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd
mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau
ar y meini prawf wrth ystyried
cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r
cyhoedd drwy sicrhau :
• Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol
• Nad yw'r unigolyn yn
fygythiad i'r cyhoedd
• Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl
anonest
• Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu
• Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu
• Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn
hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad
ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio
preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol. Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r
Is-bwyllgor wrthod y cais.
Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu
ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir
y collfarnau ar ei drwydded a’i
amgylchiadau personol.
PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd
yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded
gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat
gyda Chyngor Gwynedd.
Wrth gyrraedd eu penderfyniad,
roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol :
·
Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat
a Cherbydau Hacni Cyngor
Gwynedd’
·
Ffurflen gais yr ymgeisydd
·
Adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad
DBS
·
Sylwadau ar lafar gan yr ymgeisydd
Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol
Cefndir
Yn Nhachwedd 2011, derbyniodd
yr ymgeisydd 3 collfarn :
·
defnyddio cerbyd heb yswiriant yn groes
i Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988 A143 (2). Cafodd ddirwy o £120 ac arnodiad ar ei
drwydded.
·
gyrru cerbyd modur gyda gormodedd o alcohol yn groes
i Ddeddf Traffig A988 A.5
(1) (A). Cafodd ddirwy o
£120 a chostau o £85 a’i wahardd o yrru am 18 mis
·
gyrru cerbyd modur heb fod hynny
yn unol â thrwydded - na ellid ei ardystio yn
groes i Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988 A.87 (1). Cafodd ddirwy o £40, arnodiad ar ei
drwydded a chostau ychwanegol o £15.
Yn Hydref 2013 derbyniodd
yr ymgeisydd gollfarn am siop ladrata
yn groes i Ddeddf Dwyn 1968 A.1 a methu ac ildio
i’r ddalfa ar yr amser a nodwyd,
yn groes i Ddeddf Mechnïaeth 1976 A.6 (1). Cafodd ddirwy o £50 costau o £100 a chostau ychwanegol o £20.
Yn Mehefin 2014 derbyniodd
3 collfarn am ;
·
wrthsefyll neu rwystro Cwnstabl, yn groes
i Ddeddf yr Heddlu 1996
A.89 (2). Cafodd ddirwy o
£90
·
defnyddio cerbyd heb yswiriant, yn groes
i Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988 S 143 (2). Cafodd ddirwy o £110, costau o £85, ei wahardd am
yrru am 12 mis a chostau ychwanegol
o £20
·
gyrru heb fod hynny yn unol
â thrwydded, yn groes i Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988 A 87(1). Cafodd ddirwy o £50 ac arnodiad ar
ei drwydded.
CYMALAU PERTHNASOL Y POLISI
Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r
Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd
i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd
rhag cael trwydded, ond bydd
disgwyl iddo fod yn rhydd
rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir
yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn
addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi
ei fod yn
berson addas a phriodol.
Mae paragraff 2.4 yn nodi
pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn
euog o drosedd(au) neu fod mater arall/materion eraill i'w (h)ystyried yng nghyswllt hynny,
ni chaiff y cyngor adolygu rhinweddau'r gollfarn honno na'r mater arall hwnnw.
Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run
ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.
Ystyriwyd paragraff 8.0 o’r Polisi sydd yn cyfarch troseddau
o anonestrwydd gyda pharagraff 8.1 yn nodi y cymerir golwg ddifrifol
ar unrhyw gollfarn sy'n ymwneud
ag anonestrwydd. Mae paragraff
8.2 yn nodi bydd cais fel arfer
yn cael ei
wrthod os bydd gan yr ymgeisydd
gollfarn am drosedd a restrir, a bod y gollfarn yn llai na
3 blynedd cyn dyddiad y cais. Nodwyd bod y rhestr troseddau yn cynnwys,
ymhlith eraill, lladrata.
Ystyriwyd paragraff 11.0 sydd yn cyfarch
troseddau o yfed a gyrru. Ym mharagraff
11.1 fe nodir y byddai ystyriaeth ddifrifol i gollfarnau
am yrru neu fod yn gyfrifol am gerbyd dan ddylanwad alcohol / cyffuriau. Bydd un sydd wedi ei
gael yn euog
o droseddau yn ymwneud ag yfed a gyrru yn annhebygol
o gael trwydded hyd nes iddo
fod yn rhydd
rhag collfarn(au) o’r fath am 3 blynedd
o leiaf. Ymdrinnir yn yr un modd a chollfarn am ‘wrthod neu fethu darparu sampl’
Mae rhan
12 o’r Polisi yn ymwneud â chollfarnau moduro gyda pharagraff
12.4 yn nodi y gwrthodir cais fel arfer
gan ymgeisydd sydd wedi cyflawni
mwy nag un Drosedd Traffig Difrifol, o fewn y 5 mlynedd diwethaf, ac ni ddylid ystyried unrhyw gais pellach
hyd nes bod cyfnod o 3 blynedd o leiaf wedi mynd
heibio yn rhydd rhag collfarnau
o'r fath neu faterion eraill i'w hystyried.
Mae paragraff 16.1 o’r Polisi yn ymwneud
ag ail-droseddu. Rhaid yn gyntaf sicrhau
bod y collfarnau’n bodloni canllawiau’r polisi yn unigol, ond
gyda’i gilydd yn creu hanes
o ail-droseddu sydd yn dangos diffyg
parch at les eraill ac eiddo. O dan y Polisi rhaid
bod 10 mlynedd wedi mynd heibio ers
y gollfarn fwyaf diweddar.
CASGLIADAU
Daeth yr Is-bwyllgor i gasgliad bod gan yr ymgeisydd nifer o gollfarnau oedd yn bodloni'r meini
prawf fel collfarnau unigol ar gyfer caniatáu
trwydded, ond bod angen ystyried darpariaethau polisi oedd yn ymwneud
ag ail-droseddu a’r disgwyl bod 10 mlynedd wedi mynd heibio
ers y gollfarn ddiwethaf.
Ystyriwyd bod y troseddau yn edrych yn
rhai difrifol yn enwedig gan
eu bod yn ymwneud â gyrru, anonestrwydd a diffyg parch tuag at yr heddlu. Roedd angen felly ystyried yn ofalus
os oedd rheswm
i gyfiawnhau caniatáu trwydded er nad oedd 10 mlynedd
wedi mynd heibio.
Ystyriwyd eglurhad yr ymgeisydd am y troseddau a rhoddwyd cryn bwysau
ar y ffaith fod wyth mlynedd
a hanner wedi pasio ers derbyn
y collfarnau olaf yn 2014. Derbyniwyd bod yr ymgeisydd yn ifanc
ar y pryd, bod y digwyddiadau wedi digwydd o fewn cyfnod o dair mlynedd
i’w gilydd ac yn dilyn y digwyeddiadau,
bu cyfnod o sefydlogrwydd
lle na fu troseddu pellach. Roedd hyn, ynghyd
â’r ffaith fod ei amgylchiadau
personol wedi newid yn sylweddol
a bod ganddo gyfrifoldeb dros ddau o blant.
O ganlynaid, roedd yr is-bwyllgor o’r farn
bod y ffactorau hyn yn cyfiawnhau gwyro
oddi wrth y disgwyliad i 10 mlynedd fod wedi
pasio.
Wedi pwyso a mesur y wybodaeth yn ofalus daethpwyd
i benderfyniad mwyafrifol bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i gael
trwydded gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat. Serch hynny roedd
yr Is-bwyllgor yn pwysleisio bod y cyfrifoldeb o yrru tacsi yn
un difrifol a bod disgwyl iddo arddel y safon
uchaf o ymddygiad wrth wneud hynny.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r
penderfyniad yn cael ei gadarnhau
yn ffurfiol drwy lythyr i’r
ymgeisydd.