Penderfyniad:
Bod yr
ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd
Cofnod:
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud
yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd.
Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod
canllawiau ar y meini prawf wrth
ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau
:
• Bod yr unigolyn yn unigolyn addas
a phriodol
• Nad yw'r unigolyn
yn fygythiad i'r cyhoedd
• Bod y cyhoedd wedi'u
diogelu rhag pobl anonest
• Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu
• Bod pobl ddiamddiffyn
wedi'u diogelu
• Bod y cyhoedd yn
gallu bod yn hyderus wrth
ddefnyddio cerbydau trwyddedig
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad
ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr C am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio
preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol ac adroddiad Asiantaeth
Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau.
Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu
ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir
y drosedd amgylcheddol a’i amgylchiadau personol. Mewn ymateb i gwestiwn pam nad oedd
manylion y drosedd amgylcheddol wedi ei gynnwys ar
y ffurflen gais, nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd nad oedd wedi
ystyried bod trosedd amgylcheddol yn berthnasol i gais gyrrwr tacsi
PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas
a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda
Chyngor Gwynedd.
Wrth gyrraedd
eu penderfyniad, roedd yr
Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol :
·
Gofynion ‘Polisi
Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’
·
ffurflen gais yr ymgeisydd
·
adroddiad yr Adran
Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS ac adroddiad Asiantaeth
Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau
·
sylwadau ar lafar gan yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd /ddarpar gyflogwr
Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol
Cefndir
Yng Ngorffennaf
2019 cafwyd yr ymgeisydd yn euog o drosedd
o weithredu cyfleuster rheoledig heb drwydded
amgylcheddol ; Rheoliadau
Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru
a Lloegr) 2007 Rheoliad38(1) (a).
Yn Medi 2020 derbyniodd yr ymgeisydd 3 pwynt cosb am
yrru tu hwnt i derfyn cyflymder ar ffordd gyhoeddus
(SP30)
CYMALAU PERTHNASOL Y
POLISI
Er nad
yw’r Polisi’n cyfeirio yn benodol
at droseddau sy'n ymwneud â Throseddau Amgylcheddol, bydd troseddau o'r fath
yn berthnasol i'w hystyried. Mae pob trosedd a gyflawnwyd
gan Unigolyn sy'n dymuno bod yn Yrrwr Tacsi,
yn berthnasol ar gyfer ystyried
os yw unigolyn
yn ‘berson addas a phriodol’. Roedd y swyddogion o’r farn bod gweithredu Cyfleuster Rheoledig heb drwydded amgylcheddol
yn fater difrifol.
Mae rhan
13 yn ymwneud a mân droseddau traffig
ac yn cyfeirio yn bennaf at droseddau
sydd heb eu rhestru ym
mharagraff 12.2 o’r Polisi.
Ystyriwyd paragraff 13.2 sydd yn amlygu
gall un gollfarn am fan drosedd
gyrru arwain at wrthod y cais.
CASGLIADAU
Daeth yr Is-bwyllgor i gasgliad
nad oedd y drosedd SP30 yn broblem o ystyried darpariaethau’r polisi - nid oedd y drosedd
SP30 yn mynd a chyfanswm yr ymgeisydd dros y cyfyngiad 7 pwynt a nodi’r ym Mholisi Goryrru
Cyngor Gwynedd cyn ei fod yn effeithio
ar y cais neu gais i adnewyddu
Bathodyn Gyrrwr Tacsi.
Er nad
oedd y drosedd amgylcheddol y cael ei nodi yn y polisi
ystyriodd yr Is-bwyllgor fod dros 3 mlynedd
wedi mynd heibio ers y drosedd
yn ogystal â’r ffaith nad
oedd gan y drosedd gysylltiad gyda gyrru tacsi.
Penderfynodd yr Is-bwyllgor o blaid
caniatáu y cais a bod yr ymgeisydd felly yn berson addas a phriodol i ddal trwydded
gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat
am flwyddyn
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r
penderfyniad yn cael ei gadarnhau
yn ffurfiol drwy lythyr i’r
ymgeisydd.