I ystyried yr adroddiad er gwybodaeth
Penderfyniad:
Cofnod:
a)
Cyflwynwyd, er gwybodaeth adroddiad yn amlygu gwir
weithgarwch Rheolaeth Trysorlys y Cyngor yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol.
Yng nghyfarfod y Cyngor Llawn ym Mawrth 2022 cymeradwywyd y Strategaeth
Rheolaeth Trysorlys ar gyfer y flwyddyn 2022/23. Amlygwyd, yn ystod y chwe mis
rhwng y 1af o Ebrill a 30 Medi 2022 bod gweithgarwch benthyca’r Cyngor wedi
aros o fewn cyfyngiadau a osodwyd yn wreiddiol ac nad oedd unrhyw fanciau lle'r
oedd y Cyngor wedi adnau arian wedi methu ad-dalu. Ategwyd yr amcangyfrifir bod
incwm buddsoddi’r Cyngor yn uwch na’r incwm disgwyliedig yng nghyllideb 2022/
23.
Eglurwyd, yn y cyd-destun allanol
bod y cyfnod wedi bod yn un heriol o fewn y marchnadoedd gydag ansicrwydd
gwleidyddol ac effaith gwrthdaro Wcráin yn parhau. O ganlyniad, mae chwyddiant
wedi cynyddu’n eithriadol yn ogystal â’r gyfradd llog sylfaenol.
Cyfeiriwyd at grynodeb o reolaeth
trysorlys lle nodwyd, ar 30ain o Fedi 2022, bod y sefyllfa yn gadarn gyda
£104.8 miliwn o fenthyciadau, a £110.5 miliwn o fuddsoddiadau. Amlygwyd, er y
posibilrwydd o dalu rhywfaint o’r benthyciadau gyda’r buddsoddiadau, nodwyd y
byddai’r gost o ad-dalu’r benthyciadau hyn yn uchel iawn oherwydd bod cyfradd
llog uchel hanesyddol arnynt, ond gyda cyfraddau llog yn codi bydd y sefyllfa
yn cael ei asesu yn barhaus rhag ofn y bydd mantais o ad-dalu’n gynnar.
Yng nghyd-destun materion benthyca, cyfeiriwyd at y
Strategaeth Benthyca lle nad oedd angen
benthyca ychwanegol yn ystod y cyfnod. Prif amcan y
Cyngor yw taro cydbwysedd risg isel priodol rhwng sicrhau costau llog isel a
sicrhau sicrwydd cost dros y cyfnod y mae angen cyllid ar ei gyfer, gyda
hyblygrwydd i ail-negodi benthyciadau pe bai cynlluniau hirdymor y Cyngor yn
newid yn amcan eilaidd. Mae Strategaeth
Fenthyca’r Cyngor yn parhau i fynd i’r afael â mater allweddol fforddiadwy heb
gyfaddawdu ar sefydlogrwydd dyledion tymor hir y portffolio benthyca.
Pe byddai angen benthyca rhyw dro yn y dyfodol, nodwyd
bod canllawiau benthyca PWLB (Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus) wedi eu
haddasu ac nid ydynt bellach yn caniatáu benthyca er mwyn i’r Cyngor wneud elw.
Ategwyd nad oedd hyn yn arferiad gan y Cyngor beth bynnag.
Yn nhermau gweithgareddau
buddsoddi, cyfeiriwyd at y mathau o fuddsoddiadau y buddsoddir ynddynt sydd, yn
unol ar arfer, yn cynnwys banciau a chymdeithasau adeiladu, awdurdodau lleol,
cronfeydd marchnad arian, cronfeydd cyfun a’r swyddfa rheoli dyledion.
Adroddwyd bod cyfraddau llog y buddsoddiadau wedi gwella o tua 1.5% yn ystod y
cyfnod dan sylw, a rhagweliwyd y bydd y cyfraddau yn codi ymhellach yn y
misoedd nesaf. Golygai hyn felly y bydd y lefel llog disgwyliedig am y flwyddyn
ariannol yn sylweddol uwch na’r gyllideb (y gyllideb yn £0.4 miliwn, ond
disgwylir incwm o £1.8 miliwn).
Cadarnhawyd bod gweithgareddau
rheoli trysorlys a gynhaliwyd yn ystod y cyfnod yn cydymffurfio gyda Chod
Ymarfer CIPFA a Strategaeth Rheoli Trysorlys. Nodwyd mai’r unig ddangosydd gyda
diffyg cydymffurfiaeth oedd ‘dangosydd risg cyfradd llog’. Eglurwyd bod y
dangosydd yma wedi ei osod pan roedd y gyfradd llog yn 0.1% ac nad oedd modd
rhagweld cynnydd mor sylweddol yn y gyfradd llog ar y pryd - yn rhesymol felly
bod y symiau yn uwch a gan nad oes benthyca cyfnewidiol (variable) gan y
Cyngor, nid yw’n golygu risg ariannol i’r Cyngor, er yn rhoi cyfle efallai o
ddenu incwm llog sylweddol uwch.
b)
Diolchwyd am yr adroddiad.
c)
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn
â lleihad o £0.6m yn y Cronfeydd Cyfun ac mai bwriadol oedd hyn o ystyried bod
Cronfeydd Cyfun yn aneniadol / eraill yn fwy diogel, nodwyd mai £10m oedd y
buddsoddiad gwreiddiol a bod y gwerth wedi amrywio dros y blynyddoedd. Er
hynny, ategwyd mai dyma’r unig fuddsoddiad marchnad agored ac nad oedd bwriad ei werthu, ond parhau i
fuddsoddi mewn tymor canolig / hir hyd fydd y £10m wedi ei adennill.
PENDERFYNWYD:
Derbyn yr adroddiad, er gwybodaeth
Dogfennau ategol: