I ystyried
y wybodaeth yn yr adroddiad a’r atodiadau er mwyn dod i gasgliad ar briodoldeb
y gweithrediad ac yw’r risgiau wedi cael eu lliniaru
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
1. Bod angen cwblhau asesiad
ieithyddol cynhwysfawr yn unol â Pholisi Iaith y Cyngor
2. Bod angen ystyried effaith y premiwm ar allu ‘brodorion’ i wneud
bywoliaeth
3. Bod angen gweld ystadegau sydd yn dangos effaith y premiwm ar
adfer tai gwag
4. Bod angen tystiolaeth am lwyddiant y premiwm. Beth sydd wedi ei
gyflawni hyd yma?
5. Bod angen ymgynghori pellach ar ddefnydd y premiwm.
Beth yw’r cyfiawnhad o ddefnyddio premiwm ail gartref i
gyllido digartrefedd? Derbyn bod yr egwyddor yn dderbyniol, ond beth yw’r
dystiolaeth tu cefn i’r penderfyniad?
6. Bod angen cydblethu
ystyriaethau’r premiwm gyda deddfwriaethau a mesurau Llywodraeth Cymru o reoli
ail dai
Cofnod:
a) Cyflwynwyd yr adroddiad er mwyn canfod barn a sylwadau’r Pwyllgor o’r
drefn o gyflwyno adroddiad i’r Cabinet
fyddai’n argymell i’r Cyngor Llawn wneud penderfyniad ar osod lefelau
Premiwm Treth Cyngor ar gyfer 2023/24. Nodwyd bod gofyn statudol ar y Pwyllgor
i adolygu a chraffu materion ariannol y Cyngor gan gynnwys sicrhau fod y Cyngor
yn gweithredu’n briodol a bod y wybodaeth sy’n cael ei gyflwyno i’r Cabinet a’r
Cyngor Llawn i wneud penderfyniadau, yn wybodaeth gadarn.
Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried;
• Ydi’r
wybodaeth yn egluro’r gofyn statudol yn glir.
• Ydi’r
Asesiad Effaith Cydraddoldeb yn addas?
• Ydi’r
Cyngor wedi ymgynghori â rhanddeiliaid mewn modd
priodol?
• Ydi’r
adroddiad yn glir am oblygiadau'r penderfyniad a geisir?
• Ydi’r
risgiau yn eglur?
Adroddwyd bod y Cyngor, ar yr 8fed o Ragfyr 2016,
wedi penderfynu codi Premiwm o 50% ar Dreth Cyngor ail gartrefi ac eiddo gwag
hir dymor, yn weithredol o 1 Ebrill 2018.
Ar y 4ydd o Fawrth 2021, penderfynodd y Cyngor y byddai’n cynyddu’r
Premiwm i 100%, sef y lefel uchaf bosib dan y ddeddfwriaeth, ar gyfer blwyddyn
ariannol 2021/22, ac ar 2 Rhagfyr 2021 penderfynodd gadw lefel y Premiwm yn
100% ar gyfer 2022/23.
Erbyn hyn ,mae Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Anheddau
Gwag Hirdymor ac Anheddau a Feddiennir yn Gyfnodol)
(Cymru) 2022 (SI 2022/370 Cy.90) wedi addasu Adrannau 12A a 12B Deddf 1992 sy’n
rhoi grym i’r Awdurdodau godi premiwm o hyd ar 300% ar Dreth Cyngor ail gartrefi
ac eiddo gwag hirdymor ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24 a blynyddoedd
ariannol dilynol.
Lansiwyd ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 30 Medi 2022
a 28 Hydref 2022 a derbyniwyd 7,330 o ymatebion i’r holiadur (7,277 o ymatebion
i’r holiadur ar-lein a 53 o ymatebion papur - dyma’r nifer fwyaf o ymatebion
mae’r Cyngor wedi ei dderbyn i unrhyw ymgynghoriad yn y blynyddoedd diwethaf).
Amlygwyd, yng nghyd-destun dyletswydd statudol i
gynnal asesiadau effaith ar gydraddoldeb, bod Asesiad Effaith Cydraddoldeb wedi
ei ddiweddaru i adlewyrchu gofynion a datblygiadau, amgylchiadau newidiol a
chanlyniadau’r ymgynghoriad diweddar. Ategwyd y byddai unrhyw argymhelliad gan
y Cabinet yn gorfod sicrhau cyfiawnhad dros y cynnydd a bod gwaith ymchwil
perthnasol yn cadarnhau bod angen gweithredu yn rhesymol ar y mater.
Cyfeiriwyd at 3 opsiwn
·
Cadw
lefel y Premiwm yn 100% yn 2023/24
·
Cynyddu’r
Premiwm i’r uchaf a ganiateir dan y gyfraith, sef 300% yn 2023/24.
·
Gosod
y Premiwm rhywle rhwng 100% a 300% yn 2023/24
Nodwyd petai’r premiwm yn cael ei ddiddymu, byddai Cynllun Gweithredu
Strategaeth Tai Gwynedd yn dioddef.
Amlygodd yr Aelod Cabinet Cyllid bod adroddiad i’r Cabinet 22-11-22
eisoes wedi ei gyhoeddi, yn argymell cynyddu’r premiwm i gyfradd o 150% Byddai’r
cynnydd yn ychwanegu oddeutu £3m o incwm blynyddol ychwanegol ac yn cyfrannu
tuag at ariannu’r pwysau ariannol ar sefyllfa digartrefedd y Sir.
b) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Bod yr ymateb i’r effaith ar yr Iaith Gymraeg yn
ymddangos yn ‘ddiniwed’ o gymharu â gweddill yr adroddiad - dylid ystyried Polisi Iaith y Cyngor sydd
yn nodi y dylai unrhyw benderfyniad fod yn destun effaith ieithyddol (mewn
niferoedd / canrannau)
·
2,200 o dai haf yn Nwyfor - dim tystiolaeth bod galw cyfatebol am dai
·
Nad oedd ystyriaeth i’r effaith ar y Cymry Lleol
sydd yn gosod eu tai i wneud bywoliaeth a chadw asedau yn lleol
·
Nad oedd ystyriaeth holistaidd o’r premiwm ochr yn
ochr â mesurau eraill - angen gweld sut mae gosod lefel y premiwm yn cydblethu
a mesurau eraill Llywodraeth Cymru o ran rheoli ail dai.
·
Bod angen mwy o wybodaeth ynglŷn â’r cyfanswm
arian sydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer tai gwag
·
Bod angen rhoi ystyriaeth i’r rhai hynny fydd yn
colli gwaith yn yr ardal o ganlyniad i leihad mewn cynnal a chadw ail dai /
gosod tai
·
Derbyn mai adfer defnydd tai hir dymor sydd yma
gyda nôd o wella cymunedau a chadw pobl yn lleol, ond
er bod y premiwm wedi bod mewn lle ers 4 mlynedd, dim cyfeiriad yn yr adroddiad
i’r hyn sydd eisoes wedi ei gyflawni - pa mor llwyddiannus ydyw? Pa mor
effeithiol yw'r premiwm?
·
Derbyn yr awgrym fod canran o’r premiwm yn ymateb i
faterion digartrefedd, ond rhaid sicrhau bod cynllun tymor hir mewn lle i
ddatrys problem ddigartrefedd y Sir ac nid defnyddio arian i lenwi bwlch
·
Beth yw’r cyfiawnhad dros ddefnyddio premiwm 2il
gartref ar gyfer materion digartrefedd? Beth yw’r dystiolaeth tu ôl i’r
penderfyniad?
·
Dymuniad gweld ystadegau ar effaith y premiwm ar
adfer tai gwag
·
A yw’n deg bod arian premiwm tai haf o un ward yn y
Sir yn ymateb i broblemau digartrefedd mewn wardiau eraill o’r Sir?
·
850 ar y rhestr aros yn Nwyfor
v 2500 o dai haf. Nid oes prinder tai ond prinder tai addas.
·
Bod yr adroddiad yn ymateb i’r gofynion ond angen
eglurder gyda rhai materion
c) Cynigwyd ac eiliwyd derbyn yr adroddiad
PENDERFYNWYD:
·
Derbyn
bod y wybodaeth yn yr adroddiad a’r atodiadau yn cydymffurfio gyda'r canllawiau
statudol a gofynion deddfwriaethol
·
Cynnig y sylwadau isod i’r Cabinet eu
hystyried wrth benderfynu ar argymhelliad i’r Cyngor Llawn wneud penderfyniad
terfynol ar y lefelau premiwm:
1.
Bod angen cwblhau asesiad
ieithyddol cynhwysfawr yn unol â Pholisi Iaith y Cyngor
2.
Bod
angen ystyried effaith y premiwm ar allu ‘brodorion’ i wneud bywoliaeth
3.
Bod
angen gweld ystadegau sydd yn dangos effaith y premiwm ar adfer tai gwag
4.
Bod
angen tystiolaeth am lwyddiant y premiwm. Beth sydd wedi ei gyflawni hyd yma?
5.
Bod
angen ymgynghori pellach ar ddefnydd y premiwm.
Beth yw’r cyfiawnhad o
ddefnyddio premiwm ail gartref i gyllido digartrefedd? Derbyn bod yr egwyddor
yn dderbyniol, ond beth yw’r dystiolaeth tu cefn i’r penderfyniad?
6.
Bod angen cydblethu ystyriaethau’r
premiwm gyda deddfwriaethau a mesurau Llywodraeth Cymru o reoli ail dai
Dogfennau ategol: