Agenda item

I ystyried y wybodaeth yn yr adroddiad a’r atodiadau er mwyn dod i gasgliad ar briodoldeb y gweithrediad ac yw’r risgiau wedi cael eu lliniaru

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

  • Derbyn bod y wybodaeth yn yr adroddiad a’r atodiadau yn cydymffurfio gyda'r canllawiau statudol a gofynion deddfwriaethol
  • Cynnig y sylwadau isod i’r Cabinet eu hystyried wrth benderfynu ar argymhelliad i’r Cyngor Llawn wneud penderfyniad terfynol ar y lefelau premiwm:

1.    Bod angen cwblhau asesiad ieithyddol cynhwysfawr yn unol â Pholisi Iaith y Cyngor

2.    Bod angen ystyried effaith y premiwm ar allu ‘brodorion’ i wneud bywoliaeth

3.    Bod angen gweld ystadegau sydd yn dangos effaith y premiwm ar adfer tai gwag

4.    Bod angen tystiolaeth am lwyddiant y premiwm. Beth sydd wedi ei gyflawni hyd yma?

5.    Bod angen ymgynghori pellach ar ddefnydd y premiwm.

Beth yw’r cyfiawnhad o ddefnyddio premiwm ail gartref i gyllido digartrefedd? Derbyn bod yr egwyddor yn dderbyniol, ond beth yw’r dystiolaeth tu cefn i’r penderfyniad?

6.    Bod angen cydblethu ystyriaethau’r premiwm gyda deddfwriaethau a mesurau Llywodraeth Cymru o reoli ail dai

 

Cofnod:

a)    Cyflwynwyd yr adroddiad er mwyn canfod barn a sylwadau’r Pwyllgor o’r drefn o gyflwyno adroddiad i’r Cabinet  fyddai’n argymell i’r Cyngor Llawn wneud penderfyniad ar osod lefelau Premiwm Treth Cyngor ar gyfer 2023/24. Nodwyd bod gofyn statudol ar y Pwyllgor i adolygu a chraffu materion ariannol y Cyngor gan gynnwys sicrhau fod y Cyngor yn gweithredu’n briodol a bod y wybodaeth sy’n cael ei gyflwyno i’r Cabinet a’r Cyngor Llawn i wneud penderfyniadau, yn wybodaeth gadarn.

 

Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried;

 

     Ydi’r wybodaeth yn egluro’r gofyn statudol yn glir.

     Ydi’r Asesiad Effaith Cydraddoldeb yn addas?

     Ydi’r Cyngor wedi ymgynghori â rhanddeiliaid mewn modd priodol?

     Ydi’r adroddiad yn glir am oblygiadau'r penderfyniad a geisir?

     Ydi’r risgiau yn eglur?

 

Adroddwyd bod y Cyngor, ar yr 8fed o Ragfyr 2016, wedi penderfynu codi Premiwm o 50% ar Dreth Cyngor ail gartrefi ac eiddo gwag hir dymor, yn weithredol o 1 Ebrill 2018.  Ar y 4ydd o Fawrth 2021, penderfynodd y Cyngor y byddai’n cynyddu’r Premiwm i 100%, sef y lefel uchaf bosib dan y ddeddfwriaeth, ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22, ac ar 2 Rhagfyr 2021 penderfynodd gadw lefel y Premiwm yn 100% ar gyfer 2022/23.

 

Erbyn hyn ,mae Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Anheddau Gwag Hirdymor ac Anheddau a Feddiennir yn Gyfnodol) (Cymru) 2022 (SI 2022/370 Cy.90) wedi addasu Adrannau 12A a 12B Deddf 1992 sy’n rhoi grym i’r Awdurdodau godi premiwm o hyd ar 300% ar Dreth Cyngor ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24 a blynyddoedd ariannol dilynol.

 

Lansiwyd ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 30 Medi 2022 a 28 Hydref 2022 a derbyniwyd 7,330 o ymatebion i’r holiadur (7,277 o ymatebion i’r holiadur ar-lein a 53 o ymatebion papur - dyma’r nifer fwyaf o ymatebion mae’r Cyngor wedi ei dderbyn i unrhyw ymgynghoriad yn y blynyddoedd diwethaf).

 

Amlygwyd, yng nghyd-destun dyletswydd statudol i gynnal asesiadau effaith ar gydraddoldeb, bod Asesiad Effaith Cydraddoldeb wedi ei ddiweddaru i adlewyrchu gofynion a datblygiadau, amgylchiadau newidiol a chanlyniadau’r ymgynghoriad diweddar. Ategwyd y byddai unrhyw argymhelliad gan y Cabinet yn gorfod sicrhau cyfiawnhad dros y cynnydd a bod gwaith ymchwil perthnasol yn cadarnhau bod angen gweithredu yn rhesymol ar y mater.

 

Cyfeiriwyd at 3 opsiwn

·         Cadw lefel y Premiwm yn 100% yn 2023/24

·         Cynyddu’r Premiwm i’r uchaf a ganiateir dan y gyfraith, sef 300% yn 2023/24.

·         Gosod y Premiwm rhywle rhwng 100% a 300% yn 2023/24

 

Nodwyd petai’r premiwm yn cael ei ddiddymu, byddai Cynllun Gweithredu Strategaeth Tai Gwynedd yn dioddef.

 

Amlygodd yr Aelod Cabinet Cyllid bod adroddiad i’r Cabinet 22-11-22 eisoes wedi ei gyhoeddi, yn argymell cynyddu’r premiwm i gyfradd o 150% Byddai’r cynnydd yn ychwanegu oddeutu £3m o incwm blynyddol ychwanegol ac yn cyfrannu tuag at ariannu’r pwysau ariannol ar sefyllfa digartrefedd y Sir.

 

b)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Bod yr ymateb i’r effaith ar yr Iaith Gymraeg yn ymddangos yn ‘ddiniwed’ o gymharu â gweddill yr adroddiad  - dylid ystyried Polisi Iaith y Cyngor sydd yn nodi y dylai unrhyw benderfyniad fod yn destun effaith ieithyddol (mewn niferoedd / canrannau)

·         2,200 o dai haf yn Nwyfor  - dim tystiolaeth bod galw cyfatebol am dai

·         Nad oedd ystyriaeth i’r effaith ar y Cymry Lleol sydd yn gosod eu tai i wneud bywoliaeth a chadw asedau yn lleol

·         Nad oedd ystyriaeth holistaidd o’r premiwm ochr yn ochr â mesurau eraill - angen gweld sut mae gosod lefel y premiwm yn cydblethu a mesurau eraill Llywodraeth Cymru o ran rheoli ail dai.

·         Bod angen mwy o wybodaeth ynglŷn â’r cyfanswm arian sydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer tai gwag

·         Bod angen rhoi ystyriaeth i’r rhai hynny fydd yn colli gwaith yn yr ardal o ganlyniad i leihad mewn cynnal a chadw ail dai / gosod tai

·         Derbyn mai adfer defnydd tai hir dymor sydd yma gyda nôd o wella cymunedau a chadw pobl yn lleol, ond er bod y premiwm wedi bod mewn lle ers 4 mlynedd, dim cyfeiriad yn yr adroddiad i’r hyn sydd eisoes wedi ei gyflawni - pa mor llwyddiannus ydyw? Pa mor effeithiol yw'r premiwm?

·         Derbyn yr awgrym fod canran o’r premiwm yn ymateb i faterion digartrefedd, ond rhaid sicrhau bod cynllun tymor hir mewn lle i ddatrys problem ddigartrefedd y Sir ac nid defnyddio arian i lenwi bwlch

·         Beth yw’r cyfiawnhad dros ddefnyddio premiwm 2il gartref ar gyfer materion digartrefedd? Beth yw’r dystiolaeth tu ôl i’r penderfyniad?

·         Dymuniad gweld ystadegau ar effaith y premiwm ar adfer tai gwag

·         A yw’n deg bod arian premiwm tai haf o un ward yn y Sir yn ymateb i broblemau digartrefedd mewn wardiau eraill o’r Sir?

·         850 ar y rhestr aros yn Nwyfor v 2500 o dai haf. Nid oes prinder tai ond prinder tai addas.

·         Bod yr adroddiad yn ymateb i’r gofynion ond angen eglurder gyda rhai materion

 

c)    Cynigwyd ac eiliwyd derbyn yr adroddiad

 

PENDERFYNWYD:

           

·         Derbyn bod y wybodaeth yn yr adroddiad a’r atodiadau yn cydymffurfio gyda'r canllawiau statudol a gofynion deddfwriaethol

·         Cynnig y sylwadau isod i’r Cabinet eu hystyried wrth benderfynu ar argymhelliad i’r Cyngor Llawn wneud penderfyniad terfynol ar y lefelau premiwm:

1.    Bod angen cwblhau asesiad ieithyddol cynhwysfawr yn unol â Pholisi Iaith y Cyngor

2.    Bod angen ystyried effaith y premiwm ar allu ‘brodorion’ i wneud bywoliaeth

3.    Bod angen gweld ystadegau sydd yn dangos effaith y premiwm ar adfer tai gwag

4.    Bod angen tystiolaeth am lwyddiant y premiwm. Beth sydd wedi ei gyflawni hyd yma?

5.    Bod angen ymgynghori pellach ar ddefnydd y premiwm.

Beth yw’r cyfiawnhad o ddefnyddio premiwm ail gartref i gyllido digartrefedd? Derbyn bod yr egwyddor yn dderbyniol, ond beth yw’r dystiolaeth tu cefn i’r penderfyniad?

6.    Bod angen cydblethu ystyriaethau’r premiwm gyda deddfwriaethau a mesurau Llywodraeth Cymru o reoli ail dai

 

Dogfennau ategol: