Agenda item

I ystyried cais gan Mr A

 

(copi arwahan i aelodau’r Is bwyllgor yn unig)

 

Penderfyniad:

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

       Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

       Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

       Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

       Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

       Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

       Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol, adroddiad yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) ynghyd a datganiad personol yr ymgeisydd oedd yn rhan o’i ffurflen gais. Adroddwyd nad oedd collfarn ar yr adroddiad DBS ond bod rhybudd ar y drwydded gyrru o ganlyniad i dderbyn 7 pwynt cosb. Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor ganiatáu y cais.

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir y pwyntiau cosb ar ei drwydded a’i amgylchiadau personol.

 

PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

·      GofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·      ffurflen gais yr ymgeisydd oedd yn cynnwys datganiad personol

·      adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS ac adroddiad Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau

·      sylwadau ar lafar gan yr ymgeisydd

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol

 

Cefndir

 

Yn Mawrth 2020 derbyniodd yr ymgeisydd 3 pwynt cosb am achosi (neu’n debygol o achosi) perygl oherwydd llwyth heb ei raffu ar gefn lori fechan (CU50)

 

Yng Ngorffennaf 2020 derbyniodd yr ymgeisydd 4 pwynt cosb am yrru tu hwnt i derfyn cyflymder ar ffordd gyhoeddus (SP30)

 

CYMALAU PERTHNASOL Y POLISI

 

Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol. Mae paragraff 2.4 yn nodi pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn euog o drosedd(au) neu fod mater arall/materion eraill i'w (h)ystyried yng nghyswllt hynny, ni chaiff y cyngor adolygu rhinweddau'r gollfarn honno na'r mater arall hwnnw.

 

Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.

 

Mae rhan 13 o’r Polisi yn ymwneud a mân droseddau traffig ac yn cyfeirio yn bennaf at droseddau sydd heb eu rhestru ym mharagraff 12.2 o’r Polisi. Ystyriwyd paragraff 13.3 sydd yn nodi y gallai mwy nag un gollfarn am fân drosedd traffig neu fater arall i'w ystyried arwain at wrthod cais, yn enwedig os oes sawl collfarn neu faterion eraill i’w hystyried ar gyfer yr un drosedd, e.e. goryrru a / neu os oes mwy na dwy drosedd a / neu gyfanswm o 6 phwynt neu fwy ar y drwydded.

 

 

CASGLIADAU

 

Daeth yr Is-bwyllgor i gasgliad bod digwyddiadau 2020 yn ymwneud â mân droseddau traffig. Ystyriwyd paragraff 13.2 o'r Polisi, a daethpwyd i farn na ddylai'r troseddau fod yn sail i wrthod y cais. Derbyniwyd eglurhad llawn a gonest yr ymgeisydd dros y ddau achos a phenderfynwyd, gan nad oedd patrwm i’r troseddau, nac awgrym bod y sefyllfa yn anniogel, y gellid caniatáu y cais. Nid oedd tystiolaeth o droseddu pellach ac roedd yr Is-bwyllgor, yn unol â’r Polisi, yn fodlon bod cyfnod priodol o amser wedi mynd heibio ers y dda ddigwyddiad.

 

Penderfynodd yr Is-bwyllgor o blaid caniatáu y cais a bod yr ymgeisydd felly yn berson addas a phriodol i ddal trwydded gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd.