Agenda item

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Beca Brown

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod.

 

*11.30yb – 12.00yp

 

 

*TORIAD AM GINIO – 12.00yp – 12.45yp

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad a chyflwyno diweddariad i’r pwyllgor pan fydd y cynllun wedi ymestyn ar draws y sector cynradd, gyda sylw penodol ar y gwaith sy’n cael ei wneud i godi’r niferoedd ac i edrych ar y rhesymau pam nad yw rhai disgyblion yn cymryd cinio ysgol, a sicrhau bod ystyriaeth yn cael ei roi i ansawdd y bwyd, gan hefyd geisio cadw’r budd yn lleol.

 

Cofnod:

Croesawyd yr Aelod Cabinet a swyddogion yr Adran Addysg i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd adroddiad cynnydd yr Aelod Cabinet Addysg ar y prosiect cinio am ddim mewn ysgolion.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun a rhoddodd yr Uwch Reolwr Ysgolion amlinelliad o gynnwys yr adroddiad.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Mynegwyd syndod bod canran y disgyblion sy’n dewis cinio am ddim dan y cynlluniau UPFSM (Universal Primary Free School Meals) ac EFSM (Entitlement to Free School Meals) mor isel (70% ym Medi a 66% yn Hydref) a nodwyd pryder y bydd ysgolion yn colli allan ar grantiau eraill oherwydd na fydd rhieni sy’n gymwys i hawlio cinio ysgol am ddim dan y cynllun EFSM yn gwneud hynny bellach, gan y bydd eu plant yn cael cinio ysgol am ddim beth bynnag.

·         Bod y prosiect cinio am ddim mewn ysgolion i’w groesawu, a phwysleisiwyd pwysigrwydd dwyn pwysau gwleidyddol i sicrhau bod y swm y pryd a ddarperir gan Lywodraeth Cymru yn cael ei amddiffyn, neu hyd yn oed ei godi, wrth i ni fynd i mewn i gyfnod o doriadau.

·         Y dylid dathlu’r ffaith bod 1305 o blant UPFSM, na fyddai wedi derbyn cinio ysgol am ddim fel arall, wedi dewis cinio ysgol ym Medi, a bod hynny’n golygu bod gan y rhieni arian ychwanegol yn eu pocedi i’w wario’n lleol gobeithio, a thrwy hynny roi hwb i’r economi leol.

·         At y dyfodol (gan dderbyn bod yr Adran yn brysur iawn ar hyn o bryd gyda’r gwaith o gyflwyno’r prosiect ar draws yr ysgolion), gallai fod yn fuddiol cynnal ymgynghoriad blynyddol gyda rhieni a phlant mewn ymgais i gynyddu’r ganran sy’n derbyn y prydau.

·         Bod y prydau a ddarperir yn yr ysgolion yn gytbwys a maethlon, ond y gallai mwy o hyblygrwydd o ran y dewis o fwyd sydd ar gael fod yn fodd o gynyddu’r niferoedd sy’n derbyn y cinio ysgol.

·         Ei bod yn bwysig nad yw ansawdd y prydau’n dioddef o ganlyniad i gostau uwch cynhyrchu pryd bwyd.

·         Croesawyd y bwriad i ymestyn y cynnig i Flwyddyn 2 erbyn Ionawr 2023.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, ac i gwestiynau gan aelodau, nodwyd:-

 

·         Mai ffigwr cyfartalog ar draws holl ysgolion cynradd y sir oedd y 70% a’r 66%, a bod y ganran bron yn 100% mewn rhai ysgolion, gydag ysgolion eraill yn profi’n lawer mwy o her.  Nodwyd ymhellach bod arian ar gael i benodi swyddog i edrych i mewn i’r rhesymau pam bod plant yn gwrthod cinio ysgol, ac y byddai’r gwaith yma yn canolbwyntio ar yr ysgolion hynny lle mae yna batrwm o blant sydd â hawl i ginio am ddim, ond ddim yn ei gymryd.

·         Bod Llywodraeth Cymru wedi adnabod swm y pryd o £2.90 ar gyfer pob disgybl ar gyfer y wedd gyntaf, a hynny’n seiliedig ar gyfartaledd y disgyblion sy’n bwyta cinio ysgol yn y sir.  Bwriedid ail-edrych ar y ffigwr yma ar gyfer yr ail wedd, fyddai’n digwydd ar ôl y Pasg.  Gan fod y gost o gynhyrchu prydau mewn ysgolion wedi cynyddu’n sylweddol ers pan drafodwyd y cynllun gyntaf, roedd adolygiad ar y gweill o’r swm y pryd y bydd awdurdodau’n derbyn, ond nid oedd y trafodaethau hynny wedi dod i ben eto.

·         Bod yr angen i lywodraeth leol ariannu unrhyw ran o’r cynllun neu beidio yn ddibynnol ar ddigonolrwydd y swm y pryd fydd yn cael ei bennu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer pob awdurdod.  Roedd yn llawer haws a rhatach cynhyrchu pryd bwyd mewn dinas nag mewn siroedd gwledig, lle mae yna nifer fawr o ysgolion bach wedi’u gwasgaru ar draws ardal eang, ac felly roedd yn rhaid aros i weld a fydd y swm y pryd fydd yn cael ei bennu gan Lywodraeth Cymru yn ddigonol i ddiwallu’r costau yng Ngwynedd.

·         Nad oedd yna gapasiti na chyllid ar gael i ymestyn y cynllun i’r sector uwchradd, ond petai Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi bwriad i wneud hynny a’i ariannu, yna byddai’r Gwasanaeth yn sicr yn ei groesawu.  Er hynny, ni fyddai’r sefyllfa mor rhwydd yn yr uwchradd, gan fod disgyblion uwchradd yn cael dewis o fwydydd gwahanol a nifer llai ohonynt yn cymryd cinio ysgol beth bynnag.  Hefyd, byddai’r gwaith o adnabod anghenion ysgolion o ran gofod paratoi bwyd a gofod bwyta yn heriol iawn mewn ambell ysgol uwchradd.

·         Bod angen edrych ar y darlun ehangach er mwyn ceisio deall pam bod plant yn dewis peidio cymryd cinio ysgol, ac i weld oes yna newidiadau syml y gellir eu gwneud i wella’r sefyllfa, e.e. deellid bod plant cinio ysgol a phlant bocs bwyd yn cael eu rhoi i eistedd ar wahân mewn un ysgol, ac felly bod rhai plant yn mynnu bocs bwyd er mwyn cael eistedd hefo’u ffrindiau.  Nodwyd ymhellach ei bod yn fwriad gan yr Adran wneud darn o waith mawr a phwysig o ran edrych ar wir gost anfon plant i’r ysgol, a chredid y byddai’r gwaith hwn yn taflu goleuni ar yr holl gostau cudd sy’n mynd ymlaen yn y cefndir. 

·         Ar brydiau’n ddiweddar, bod cyflenwyr bwydydd ysgolion wedi methu cyflenwi rhai o’r bwydydd oedd wedi’u rhestru yn y cytundeb gyda’r Cyngor, ac wedi cyflenwi bwydydd ychydig yn wahanol yn eu lle.  Yn sicr, dylai’r bwydydd hynny fod o’r un safon â’r bwydydd arferol, ac yn bodloni’r rheoliadau o safbwynt maeth, ac ati.

·         O ran staffio, bod yr Adran yn dysgu o brofiad y tymor hwn o safbwynt faint o blant sy’n derbyn y pryd am ddim, ac efallai bod y canrannau’n wahanol mewn gwahanol ysgolion, a hynny wedyn yn effeithio ar faint o staffio ychwanegol sydd ei angen.  Fodd bynnag, roedd cyflwyno’r cynllun yn raddol yn rhoi cyfle i’r Adran ddeall y patrymau’n well yn y gwahanol ysgolion.  Byddai’r staffio ychwanegol yn gyfuniad o ychwanegu at oriau staff presennol lle bo hynny’n bosib’, ynghyd â rhai penodiadau o’r newydd, a byddai hyfforddiant yn cael ei ddarparu o fewn y gwasanaeth yn y mwyafrif o’r achosion.  Fel mewn sawl gwasanaeth arall, roedd llenwi’r swyddi yn profi’n her, ond yn hytrach na dibynnu ar hysbysebion yn y wasg ac ar y cyfryngau cymdeithasol yn unig, roedd yr Adran hefyd yn cydweithio â chwmni sy’n arbenigo ar gael pobl yn ôl i’r gweithle.

·         Y byddai’r ysgolion yn barod i gynnig cinio am ddim i bob plentyn Blwyddyn 2 yn Ionawr 2023, a phob plentyn cynradd ym Medi 2023.  Roedd y gwaith o wneud estyniadau i rai ysgolion yn parhau, ac eraill yn disgwyl i offer gael ei osod.  O ran ysgolion sydd heb ofod cynhyrchu bwyd, nid oedd bwriad i greu ceginau o’r newydd, a byddai’r bwyd yn parhau i gael ei gludo i’r ysgolion hynny.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth, nododd y Pennaeth Addysg fod y prosiect hwn wedi bod yn enghraifft dda o weithio trawsadrannol, yn cael ei arwain gan yr Aelod Cabinet Addysg a’r Aelod Cabinet Tai (sy’n arwain ar faterion Eiddo), a diolchodd i’r Tîm Eiddo, sydd wedi gweithio’n agos gyda’r Uwch Reolwr Ysgolion a’r Tîm.  Nododd ymhellach:-

 

·         O ran y sylw gan aelod bod angen rhoi pwysau gwleidyddol o safbwynt parhau i gyllido’r cynllun yn briodol, bod y prif swyddogion addysg hefyd yn dwyn pwysau rheolaidd ynglŷn â hyn yn eu cyfarfodydd cenedlaethol.

·         Y cytunid â’r sylw gan aelod bod angen ychydig mwy o hyblygrwydd o ran y dewis o fwyd er mwyn cynyddu’r niferoedd sy’n cymryd cinio ysgol, ac er bod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu’r egwyddor glodwiw o ddarparu prydau poeth maethlon o safon, credid y byddai hefyd yn bosib’ creu byrbrydau sydd yr un mor faethlon ac o safon.

 

I gloi, dymunwyd yn dda i’r Uwch Reolwr Ysgolion ar ei ymddeoliad yn y flwyddyn newydd, a diolchwyd iddo am ei holl waith ar hyd y blynyddoedd.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chyflwyno diweddariad i’r pwyllgor pan fydd y cynllun wedi ymestyn ar draws y sector cynradd, gyda sylw penodol ar y gwaith sy’n cael ei wneud i godi’r niferoedd ac i edrych ar y rhesymau pam nad yw rhai disgyblion yn cymryd cinio ysgol, a sicrhau bod ystyriaeth yn cael ei roi i ansawdd y bwyd, gan hefyd geisio cadw’r budd yn lleol.

 

Dogfennau ategol: