Agenda item

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Menna Jones

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod.

 

*10.30yb – 11.30yb

 

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan ofyn i’r Gwasanaeth adrodd yn ôl ar ganlyniad y peilot ‘Caffael Arloesol – Methodoleg Caffael Gwerth Cymdeithasol’, a hefyd casglu’r data fel sydd wedi ei godi yn ystod y cyfarfod, ac adrodd yn ôl i’r pwyllgor ymhen y flwyddyn (neu pan fo’n amserol).

 

Cofnod:

Croesawyd yr Aelod Cabinet a swyddogion yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol yn dilyn cais yr aelodau i dderbyn diweddariad ar gynnydd y Prosiect Cadw’r Budd yn Lleol, sef un o’r prosiectau blaenoriaeth o fewn Cynllun y Cyngor.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun a rhoddodd y swyddogion amlinelliad o gynnwys yr adroddiad.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Er bod y crynodeb ar ddiwedd yr adroddiad yn nodi bod cynnydd da wedi’i wneud dros y 5 mlynedd ddiwethaf er mwyn cynyddu’r ganran o wariant y Cyngor sy’n aros yn lleol, sylwyd bod y ganran ond wedi cynyddu 3% dros y cyfnod, a bod y ffigwr i lawr o gymharu â 4 blynedd yn ôl, a llynedd.  Nodwyd y deellid y rhwystrau, ond cwestiynwyd llymder yr hunan-arfarnu y tu ôl i hyn.

·         Y byddai’n fuddiol pe gellid casglu data ynglŷn â faint o gwmnïau lleol sydd wedi cyflwyno tendr, ond heb fod yn llwyddiannus, a pha adborth a roddwyd i’r cwmnïau hynny, gan adrodd yn ôl i’r pwyllgor ymhen tua blwyddyn.

·         Ei bod yn bwysig bod cyrff mawr yn yr ardal, fel Cyngor Gwynedd, yn pwrcasu’n lleol er mwyn helpu’r economi.

·         Bod y Preston Model yn hollbwysig, ond na fyddai’n gweithio’n effeithiol yng Ngwynedd gan ei fod yn fodel trefol.

·         Mai un o’r pethau pwysicaf y gallwn ei wneud fel Cyngor yw edrych ar sut i alluogi cwmnïau bychan i ddod at ei gilydd a gweithio ar y cyd, a byddai unrhyw fuddsoddiad sy’n mynd i mewn i hynny yn cael ei weld, nid fel cost, ond fel budd cymdeithasol ynddo’i hyn.

·         Y dywedir yn aml fod gan Gymru yn ei chyfanrwydd fusnesau bach iawn a busnesau mawr iawn, ond ddim llawer o fusnesau canolig o ran maint, a’r busnesau canolig hynny fyddai’n creu’r budd mwyaf i’n cymunedau ni.

·         Ein bod oll yn siomedig â’r canlyniadau hyd yn hyn, ac eisiau gweld ffyrdd ymlaen.

 

Ar nodyn technegol, a gan gyfeirio at y graff ‘Gwariant Lleol Blynyddol’ ar dudalen 19 o’r rhaglen, cwestiynwyd cywirdeb y ffigur £43m (cyfalaf a refeniw) ar gyfer 2017/18, gan ei fod yn llai na’r ffigwr £56m (refeniw yn unig).  Cadarnhawyd mewn ymateb bod y ffigwr yn wallus.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, ac i gwestiynau gan aelodau, nodwyd:-

 

·         O safbwynt llymder yr hunan-arfarnu, bod Gwynedd yn un o’r ychydig gynghorau sy’n mesur y math yma o weithgaredd o ran cadw’r budd yn lleol.  Yn y cyflwyniad ar gychwyn yr eitem, roedd son am gyflwyno mesurau eraill, ac roedd hynny’n cyfeirio at y Ddeddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol yn fwy na’r ganran leol o ran gwariant yn unig.  Roedd y ffigwr yna wedi aros yn eithaf cyson ers nifer o flynyddoedd, ac er bod 1% o newid yn golygu £1.5m o wariant, roedd yn eithaf statig.  Nodwyd ymhellach ein bod wedi cyrraedd trothwy erbyn hyn a’i bod yn anodd cynyddu’r ffigwr yn uwch na hynny oherwydd y rhwystrau a’r cyfyngiadau cyfreithiol eithaf llym sydd arnom ar hyn o bryd.  Os mai dyna’r sefyllfa, roeddem yn edrych ar fethodoleg ychydig bach yn wahanol bellach i fesur buddion eraill y cytundeb i Wynedd, yn hytrach na’r buddion ariannol yn unig, ac roedd yn brosiect eithaf arloesol i edrych ar y buddion eraill, o ran cyflogaeth, ayb, fyddai’n gallu dod yn sgil y cytundeb.

·         Er bod canran y gwariant lleol yn eithaf cyson, bod cyfanswm y gwariant caffael wedi cynyddu o £97m yn 2017/18 i £140m yn 2021/22 o ganlyniad i chwyddiant a’r galw cynyddol am wasanaethau’r Cyngor, yn arbennig ym maes gwasanaethau cymdeithasol.

·         O ran cynorthwyo cyflenwyr lleol i allu cystadlu ac ennill contractau, cydnabyddid bod gwariant cyfalaf yn fwy o broblem na gwariant refeniw, ond gan fod prosiectau cyfalaf yn brosiectau mwy ar y cyfan, roedd y cwmnïau sy’n cystadlu ac yn ennill y contractau hynny yn tueddu i fod yn gwmnïau all-sirol.  Yn yr achosion hynny, roedd y gwasanaeth yn ceisio gweithio gyda’r prif gontractwr er mwyn gweld beth yw’r cyfleoedd is-gontractio sydd ar gael, ac yn gwneud pob ymdrech i hysbysebu’r cyfleoedd hynny, fel bod busnesau lleol yn gallu ymgeisio i fod yn rhan o’r gadwyn gyflenwi.  Er hynny, roedd rhai o’r rhwystrau, megis diffyg awydd, arbenigedd ac adnodd i ymgeisio, yn wir am gyfleoedd is-gontractio hefyd, ac nid oedd cymaint o fusnesau lleol yn cystadlu ac yn ennill rhai o’r is-gontractau hynny ag y dymunid.

·         Yn wahanol i’r trefniadau hanesyddol o ran buddion cymdeithasol, bod methodoleg caffael gwerth cymdeithasol yn cyflwyno elfen sgorio, a bod cwmnïau’n derbyn cyfres o fesurau fel bod modd iddyn nhw ddewis pa fuddiannau i’w cyflwyno, er y gallai’r Cyngor hefyd amlygu beth yw ei flaenoriaethau.  Nodwyd ymhellach bod y mesurau yn seiliedig ar amcanion y Ddeddf Llesiant, ac yn cynnwys sbectrwm o ddewisiadau megis creu swyddi, yr amgylchedd, yr iaith Gymraeg ayb.

·         Y credid bod yr hyblygrwydd yma’n helpu cwmnïau lleol oherwydd bod cwmni sydd wedi’i leoli’n lleol yn fwy tebygol o allu cynnig buddiannau, gan fod rhaid i’r buddiannau hynny ddigwydd o fewn y sir, yn hytrach nag o fewn Cymru neu Brydain.  Byddai tendr yn cael ei werthuso, yn amlwg ar sail pris a’r gwasanaeth a gynigir, ond gellid hefyd roi rhwng 10% ac 20% o’r gwerthuso tendr ar sail yr effaith lleol mae’r cwmni’n gael.

·         Bod mentrau cymdeithasol yn gyffredinol mewn lle da i gystadlu am dendr ac i gynnig buddiannau lleol, nid yn unig o ran eu natur a’u ffordd o weithio, ond hefyd o ran sut rydym yn caffael a rheoliadau caffael.

·         Bod y Cyngor yn dal i ddilyn yr un rheoliadau caffael ers Brexit.  Disgwylid cyflwyno rheolau contractau newydd ddiwedd 2023, ond ni chredid y byddai’r rheolau hynny’n sylweddol wahanol i’r rhai presennol, ac eithrio rhai newidiadau technegol, a byddai disgwyl o hyd i ni gynnal cystadleuaeth agored o fewn Prydain efallai, yn hytrach nag ar draws Ewrop fel o’r blaen.

·         Bod disgwyl i gynghorau cymuned ddilyn yr un rheoliadau caffael â’r Cyngor hwn, ond efallai nad oedd ganddynt yr arbenigedd na’r adnoddau i gynnal yr un prosesau ag sydd gan y cynghorau sir.

·         Er bod y peilot Methodoleg Caffael Gwerth Cymdeithasol wedi cychwyn ers dros flwyddyn bellach, 3 chyfle yn unig a gafwyd i ymarfer y fethodoleg newydd hyd yma, ac roedd y gwasanaeth yn awyddus i gynnwys mesur fframwaith fel rhan o hyn hefyd.  Gan hynny, credid ei bod yn gynamserol i wneud asesiad llawn o’r fethodoleg ar hyn o bryd.  Hefyd, roedd y gwasanaeth yn gweithio mewn gwagle polisi cenedlaethol ynglŷn â hyn, ac yn awyddus i’r Llywodraeth ddal i fyny â ni a’n goddiweddyd, fel bod modd iddynt osod cyfundrefn bolisi i ni weithio oddi fewn iddi.  Dymunid i’r pwyllgor gael cyfle i fynd dan groen y fethodoleg a chraffu canlyniadau’r peilot cyn cymeradwyo unrhyw newid polisi yng Ngwynedd.  Ni ellid rhoi amserlen bendant ar gyfer hynny ar hyn o bryd.  Ni chredid bod 3 peilot yn sail ddigonol ar gyfer gosod polisi.  Roedd angen nifer sylweddol mwy, ond ni ellid cadarnhau faint yn union ar hyn o bryd, gan fod hynny’n ddibynnol ar lwyth gwaith y timau caffael a pha gytundebau sy’n addas i fynd drwy’r fethodoleg.

·         Nad oedd y swyddogion yn ymwybodol o gynllun gan y Cyngor i swmp brynu tanwydd ar ran trigolion i’w helpu gyda chostau gwresogi eu tai, ond y byddent yn holi’r Rheolwr Ynni i weld os oes cynllun yn bodoli, neu fwriad i wneud cynllun o’r fath.

·         Bod y gwasanaeth yn edrych ar y Model Preston yn reit ofalus a bod y fethodoleg buddion cymdeithasol sy’n cael ei datblygu yng Ngwynedd yn rhannol seiliedig ar y model hynny.  Yn amlwg, roedd gan Preston y fantais o fod yn gweithio o fewn cyfundrefn gyfreithiol fymryn gwahanol i Gymru, a debyg hefyd bod yna nifer uwch o gyflenwyr yn yr ardal honno yn gallu cyflenwi.

·         Lle fo’n bosib’, bod cytundebau yn cael eu torri i lawr i lotiau gwahanol er mwyn ei gwneud yn haws i gyflenwyr lleol gystadlu ar dir mwy gwastad na phetai’n un cytundeb mawr.

·         Er y credid bod cadw yn ein hunfan wedi bod yn rhyw elfen o lwyddiant yn yr amgylchiadau presennol, na ddymunid cyfyngu ein huchelgais gwariant lleol i 60%, a bod angen parhau i edrych ar bob mathau o ffyrdd o hwyluso cwmnïau bach ledled y sir. 

·         Bod yr adroddiad dan sylw yn son am drefniadau caffael yn benodol, ond bod yna ymdrech gan y Cyngor cyfan i gefnogi busnesau lleol, yn arbennig felly yn y maes economi, a bod sut mae cwmnïau bach yn cydweithio ac yn ffurfio cyfundrefn lle mae modd iddynt gystadlu ar y cyd am dendrau yn rhywbeth y mae’r Adran Economi yn benodol yn edrych arno.

·         Bod angen i’r gwasanaeth gydweithio gydag adrannau eraill y Cyngor i adnabod cyfleoedd i brynu’n lleol, gan hefyd gysylltu â chwmnïau i’w hysbysu o’r cyfleoedd sydd ar gael.

·         Bod y dadansoddiad o’r math o fusnesau sy’n bodoli o fewn y sir y cyfeirir ato dan ‘Y Camau Nesaf’ yn yr adroddiad wedi’i gwblhau, ac ar gael ar gyfer yr aelodau.

·         Yr edrychwyd ar ffurfio consortiau fel rhan o ddigwyddiadau Cwrdd â’r Prynwr ac y lluniwyd canllawiau ar sut i wneud hyn, a beth yw’r ystyriaethau.  Fodd bynnag, gwelwyd nad oedd busnesau’n awyddus ar y cyfan i ffurfio consortiau, a hynny oherwydd yr elfen o gystadleuaeth rhyngddynt.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad gan ofyn i’r Gwasanaeth adrodd yn ôl ar ganlyniad y peilot ‘Caffael Arloesol – Methodoleg Caffael Gwerth Cymdeithasol’, a hefyd casglu’r data fel sydd wedi ei godi yn ystod y cyfarfod, ac adrodd yn ôl i’r pwyllgor ymhen y flwyddyn (neu pan fo’n amserol).

 

Dogfennau ategol: