Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cllr. Berwyn Parry Jones

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

Cofnod:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Berwyn Parry Jones. 

 

PENDERFYNIAD 

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. 

 

TRAFODAETH 

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan gyfleu gwerthfawrogiad yn y lle cyntaf i’r gweithwyr sydd yn gweithio dan amgylchiadau anodd a phrysur yn graeanu yn sgil y tywydd oer diweddar a diolchwyd am eu gwaith. Adroddwyd bod y gwasanaethau Casglu a Thrin Gwastraff wedi cael eu trosglwyddo i’r Adran Amgylchedd a bod yr Adran Ymgynghoriaeth Gwynedd wedi symud i fod yn rhan o’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol. Dymuna’r Aelod Cabinet nodi ei werthfawrogiad o waith holl swyddogion yr Adran gan gydnabod y cyfraniad allweddol a wnaethpwyd ganddynt yn ystod y cyfnod hwn. Amlygwyd y bwriad i newid enw’r Adran yn sgil y symudiadau diweddar. Yr enw a ffafrir yn dilyn ymgynghori â staff yw Adran Priffyrdd, Peirianneg a YGC. 

 

Nodwyd bod cryn dipyn o waith yn wynebu’r Adran dros y misoedd nesaf sy’n cynnwys adolygiad o’r Gwasanaeth Glanhau Stryd a hefyd gwaith manwl yn ymwneud â’r gyllideb. Adroddwyd ar y prosiectau yng Nghynllun presennol y Cyngor sy’n cynnwys y prosiect Cymunedau Glan a Thaclus, Cryfhau Cyfathrebu ac Ymgysylltu a’r prosiect Mapio Gwasanaethau. O dan y prosiect hwn bwriedir gosod gwahanol asedau’r Adran ar fap ble bydd modd i drigolion weld statws yr ased ac adrodd ar unrhyw ddiffygion e.e. lampau stryd neu finiau halen. 

 

Tynnwyd sylw at y Strategaeth Fflyd gan gymryd y cyfle i bwysleisio’r penderfyniad a wnaethpwyd gan y Bwrdd Newid Hinsawdd, sef na ddylai unrhyw Reolwr adnewyddu na gwaredu unrhyw gerbyd heb drafod yn gyntaf efo’r Rheolwr Fflyd. Esboniwyd bod hyn yn hanfodol i lwyddiant y Strategaeth Fflyd. Roedd hyn yn sgil canfyddiad bod gormod o brynu cerbydau wedi digwydd ar sail ad-hoc yn y gorffennol. Credwyd y bydd y cyfarwyddyd hwn yn cael ei rannu ag Adrannau yn fuan. 

 

Amlygwyd prosiectau eraill yr adroddwyd arnynt megis y prosiect Fairbourne cyn symud ymlaen i adrodd ar berfformiad yr Adran gan nodi bodlonrwydd ynglŷn â’r perfformiad. Cyfeiriwyd at y gwaith o amnewid holl oleuadau stryd y Cyngor i dechnoleg LED yn ogystal â’r gwaith glanhau strydoedd, cynnal priffyrdd a'r gwasanaeth toiledau cyhoeddus. 

 

I gloi soniwyd am waith Ymgynghoriaeth Gwynedd (YGC) sydd yn wasanaeth sy’n dod ag incwm sylweddol i’r Cyngor ac yn ymgymryd â swyddogaethau statudol yn y maes dŵr a rheoli llifogydd cyn cyfeirio at sefyllfa ariannol yr Adran. Mynegwyd bod gorwariant o £600,000 o fewn yr Adran bresennol Priffyrdd a Bwrdeistrefol yn dilyn trosglwyddo rhai gwasanaethau i’r Adran Amgylchedd ond bod gwaith ar y gweill i ddeall y rhesymau dros y gorwariant ac i roi mesurau mewn lle i unioni'r sefyllfa. Adroddwyd bod YGC yn tanwario bron i £30,000.   

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth 

·                  Diolchwyd am yr adroddiad a chroesawyd newid enw’r Adran. 

·                  Mynegwyd ansicrwydd ynglŷn â pha Adran mae rhai cyfrifoldebau ac agweddau gweithredol y Cyngor yn gorwedd a bod elfen o gymhlethdod yma. 

·                  Ategwyd gwerthfawrogiad i waith yr Adran yn y tywydd oer diweddar gan ychwanegu bod angen i yrwyr neu gerddwyr ystyried os yw eu teithiau yn angenrheidiol gan na all y Cyngor yn anffodus raeanu pob man. 

·                  Credwyd y dylid cyfleu trefn blaenoriaethu graeanu’r ffyrdd i holl Aelodau’r Cyngor fel eu bod yn glir bod trefn yn bodoli. Ategwyd bod trefn o ran graeanu llwybrau dosbarth cyntaf a bod pwysau ar yr Adran i ymateb i bob lleoliad. Cytunwyd y dylid amlygu’r drefn i Aelodau’r Cyngor drwy efallai gyfeiriad ym mwletin yr Arweinydd neu nodyn gan y Pennaeth Adran. Soniwyd hefyd am App Gwynedd sy’n rhestru pa ffyrdd sy’n cael eu graeanu.  

·                  Mynegwyd bod llawer o newyddion da a calonogol yn ymddangos yn yr adroddiad. Credwyd bod cynlluniau cadarn a realistig yn eu lle ar gyfer cwrdd â’r gorwariant at y dyfodol. 

·                  Cyfeiriwyd at yr incwm sy’n cael ei greu o dan y gwasanaeth Ymgynghoriaeth Gwynedd gan holi os oedd targed yn bodoli ar gyfer yr elw yma. Cadarnhaodd y Pennaeth Adran bod targed yn bodoli ond nad yw’r union ffigwr ganddo ar hyn o bryd. Eglurwyd bod bwriad dod ag adroddiad ger bron y Tîm Arweinyddiaeth ar y maes YGC yn y flwyddyn newydd a gellir cyfeirio at yr elfen incwm yn yr adroddiad yno. 

·                  Holwyd os gellir pylu goleuadau yn enwedig yng nghanol y nos. Nodwyd y bydd hyn yn cael ei gynnwys yn y cynllun arbedion.  

·                  Cyfeiriwyd at y pwyntiau gwefru sy’n cael eu gosod ac os oes incwm yn cael ei dderbyn ohonynt. Cadarnhawyd bod y pwyntiau gwefru sydd mewn meysydd parcio yn eistedd o dan gyfrifoldeb yr Adran Amgylchedd.  

 

 

Cymerwyd y cyfle ar ddiwedd y cyfarfod i ddymuno Nadolig Llawen i drigolion y Sir ac i Gyd-aelodau a Swyddogion y Cyngor.  

 

 

 

Dechreuodd y cyfarfod am 1:00pm a daeth i ben am 2:05pm 

 

 ________________________

CADEIRYDD 

 

 

Awdur:Steffan Jones

Dogfennau ategol: