Agenda item

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho o dan Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Huw Rowlands yn cynnig fel a ganlyn:-  

 

Cynigiaf fod Cyngor Gwynedd yn ysgrifennu at y Llywodraethau a’r cwmnïoedd trên perthnasol, gan fynegi anfodlonrwydd am safon y gwasanaethau trên a ddarperir gan Avanti West Coast a Thrafnidiaeth Cymru yng Ngwynedd, ac effaith negyddol hynny ar drigolion ac economi’r Sir.

Penderfyniad:

Bod Cyngor Gwynedd yn ysgrifennu at y Llywodraethau a’r cwmnïoedd trên perthnasol, gan fynegi anfodlonrwydd am safon y gwasanaethau trên a ddarperir gan Avanti West Coast a Thrafnidiaeth Cymru yng Ngwynedd, ac effaith negyddol hynny ar drigolion ac economi’r Sir.

 

Cofnod:

 

(A)  Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Huw Rowlands o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

 

Bod Cyngor Gwynedd yn ysgrifennu at y Llywodraethau a’r cwmnïoedd trên perthnasol, gan fynegi anfodlonrwydd am safon y gwasanaethau trên a ddarperir gan Avanti West Coast a Thrafnidiaeth Cymru yng Ngwynedd, ac effaith negyddol hynny ar drigolion ac economi’r Sir.

 

Gosododd yr aelod y cyd-destun i’w gynnig gan nodi:-

 

·                Bod y prisiau a godir am docynnau yn hollol anghymesur gyda safon y gwasanaeth, gyda threnau’n hwyr, wedi eu canslo, yn orlawn a budr, a dim gwarant o sedd, er y gall gostio hyd at £100 i deithio un ffordd o Fangor i Gaerdydd ar rai gwasanaethau.

·                Bod pobl sy’n teithio i’r gwaith yng Ngwynedd, ac yn ddibynnol ar y gwasanaeth trên i wneud hynny, yn aml yn hwyr i’r gwaith wedi i drenau gael eu canslo’n ddirybudd, neu’n gorfod sefyll drwy gydol y daith.

·                Bod yna enghreifftiau lu o drenau gorlawn yn mynd i Gaerdydd ar ddiwrnodau gemau rygbi a phêl-droed rhyngwladol, gyda’r trenau’n llawn yn gadael Bangor hyd yn oed, a dim ond 2 gerbyd, er gwaetha’r ffaith bod Trafnidiaeth Cymru yn gwybod am y gemau fisoedd ymlaen llaw.

·                Bod hyn oll yn cael effaith niweidiol ar economi a lles pobl Gwynedd, a hefyd ar ein delwedd yn rhyngwladol gan ymwelwyr o dramor.

·                Bod £100bn yn cael ei fuddsoddi yn Lloegr er mwyn creu gwasanaeth HS2, a hynny gydag arian trethdalwyr, gan gynnwys trethdalwyr Cymru, sef arian nad ydym ni yng Ngwynedd yn cael unrhyw fudd ohono.

·                Bod y gwasanaeth uniongyrchol o Fangor i Lundain wedi’i gwtogi’n sylweddol ers y cyfnod Covid, a dim dyddiad pendant pryd y bydd y gwasanaethau yma’n cael eu hail-gychwyn i’w lefel blaenorol, os o gwbl.  Dylid cofio hefyd bod y gwasanaeth o Fangor i Lundain yn cysylltu prif ddinasoedd Dulyn a Llundain, ac nid trac i unlle ydyw.

·                Y gwelwyd gostyngiad sylweddol hefyd yn nifer y trenau sy’n rhedeg yn uniongyrchol o Fangor i Gaerdydd.

·                Pam ddylai trigolion Gwynedd fod yn drigolion eilradd a gorfod newid yn Crewe er mwyn dal trên o Fanceinion i Lundain?

·                Bod pryder hefyd ynglŷn â safon y gwasanaeth cwsmer a diffyg argaeledd rhai math o docynnau.

·                Bod y gwasanaeth trên yng Ngwynedd wedi gwaethygu, nid gwella, dros y blynyddoedd diwethaf, a bod pobl Gwynedd yn haeddu gwell na derbyn yn ddi-gwestiwn gwasanaeth sydd ymhlith y salaf yn Ewrop.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.  Nodwyd:-

 

·         Ei bod yn bwysig peidio cymharu Avanti West Coast gyda Rheilffordd y Cambrian a’r llinell rhwng Aberystwyth ac Amwythig, gan fod y Cambrian yn gwrando ar gwynion ac wedi buddsoddi’n sylweddol yn y rheilffordd.

·         Bod angen cyswllt llawer mwy clir a hawdd a rheolaidd i’r byd o Bwllheli. 

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r cynnig, sef:-

 

Bod Cyngor Gwynedd yn ysgrifennu at y Llywodraethau a’r cwmnïoedd trên perthnasol, gan fynegi anfodlonrwydd am safon y gwasanaethau trên a ddarperir gan Avanti West Coast a Thrafnidiaeth Cymru yng Ngwynedd, ac effaith negyddol hynny ar drigolion ac economi’r Sir.