I dderbyn
adroddiad Blynyddol Cronfa Bensiwn Gwynedd 2021/22
Cofnod:
Croesawyd pawb i gyfarfod blynyddol y Gronfa Bensiwn.
Cyflwyniad Cyfarwyddwr y
Gronfa
Adroddwyd bod gwerth y Gronfa Bensiwn wedi cynyddu o £2,528 miliwn i £2,776 miliwn a ystyriwyd yn gynnydd sylweddol o £248 miliwn yn ystod 2021/22. Ategwyd, er
cyfnod yr ansicrwydd a oedd yn y marchnadoedd byd-eang yn nechrau 2020, cafwyd
cyfnod hir o adferiad, ac er yn perfformio tu ôl i’r meincnod, cafwyd
perfformiad cryf o 10.0% gan y Gronfa, sydd bellach yn y chwartel uchaf o’r
cronfeydd Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol CPLlL (cyf ystadegau swyddogol PIRC am 2021/22).
a) Gweinyddiaeth Pensiynau:
Yn ystod 2021/22 adroddwyd bod
defnydd y system ‘Fy
Mhensiwn Ar-lein’ yn cynyddu yn
flynyddol, gyda dros 16,000 wedi cofrestru hyd yma
ac oddeutu 500 o aelodau yn defnyddio’r safle pob mis. Anogwyd cyflogwyr i hyrwyddo’r safle
yn y gweithle i sicrhau bod staff yn cymryd mantais
o’r gwasanaethau a gynigir. Nodwyd bod cwmni meddalwedd yn y broses o greu fersiwn newydd o’r system hunan wasanaeth a bod bwriad o lansio’r
system yn ystod Gwanwyn 2023 ynghyd ag ymgyrch i gynyddu
aelodaeth y Gronfa. Eglurwyd bod yr Uned Weinyddu hefyd yn y broses o uwch-lwytho slipiau pensiwn y pensiynwyr i’r safle fydd yn
galluogi’r pensiynwyr i weld eu slipiau
pensiwn pob mis
Adroddwyd ar ddefnydd system i-Connect
sydd yn diweddaru data tâl a chyfraniadau ar y system yn fisol. Ategwyd bod i-Connect yn darparu buddion sylweddol i aelodau CPLlL drwy gyflwyno data clir, cywir ac amserol a bod 100%
o gofnodion aelodau yn cael eu diweddaru trwy’r system bellach. Diolchwyd i’r
holl gyflogwyr am ddefnyddio’r system.
Tynnwyd sylw at Arolwg Boddhad Aelodau sydd yn cael ei
anfon at aelodau’r Gronfa ar ddiwedd pob proses, e.e. ymddeoliadau a thalu ad-daliadau, i’r aelodau
roi eu barn ar ansawdd y gwasanaeth a dderbyniwyd ac am y gwasanaeth a
ddarperir gan staff yr adran.
Adroddwyd bod dros 96% o aelodau unai yn cytuno’n gryf neu’n cytuno bod
ansawdd y gwasanaeth o safon uchel, a bod 98.12% o’r defnyddwyr yn cytuno’n
gryf neu’n cytuno bod ansawdd y gwasanaeth a ddarperir gan y staff o safon
uchel. Er mwyn cyflawni’r sgoriau uchel hyn, nodwyd bod cydweithrediad y
cyflogwyr yn hanfodol, a diolchwyd i’r cyflogwyr am eu parodrwydd i ddarparu’r
wybodaeth yn brydlon.
b) Perfformiad
Buddsoddi
Bod Gwerth Marchnad y Gronfa yn £1.9 Biliwn yn
2020 (ar
ôl cwymp Covid Mawrth 2020). Erbyn diwedd Mawrth
2021, roedd Gwerth Marchnad y Gronfa yn
£2.5 Biliwn (gyda’r farchnad stoc wedi atgyfodi i’w lefel cyn Covid erbyn diwedd Mai 2021). £2.775 Biliwn ar 31 Mawrth 2022)
ond £2.628 Biliwn ar 30 Medi 2022 wedi 6 mis caled i’r farchnad stoc gyda’r dirwasgiad byd-eang
Wrth
amlygu perfformiad y Gronfa yn erbyn y meincnod, nodwyd er bod methiant i
guro’r meincnod yn siom, roedd hyn o ganlyniad i gael portffolio byd-eang gyda
dibyniaeth mewn marchnadoedd datblygol (oedd yn cynnwys Rwsia a China), ac
hefyd o’r penderfyniad i fuddsoddi mewn prosiectau sydd yn parchu’r amgylchedd
yn hytrach na dal stociau ynni a thanwydd traddodiadol, sydd wedi ffynnu yn
hinsawdd 2022. Er yn derbyn bod y rhain yn rhinweddau cyffredin ar draws
cronfeydd y CPLlL, ategwyd, wrth gymharu perfformiad
Cronfa Bensiwn Gwynedd gyda’r 86 o gronfeydd CPLlL ar
draws Cymru a Lloegr, bod Cronfa Bensiwn Gwynedd yn safle 23ain am berfformiad
2021/22.
Wrth
amlygu perfformiad hir-dymor y Gronfa, nodwyd, o gymharu ag eraill bod y
perfformiad yn rhagorol ac wedi gwella dros y ddau ddegawd diwethaf. Amlygwyd
mai un o’r ffactorau tu ôl i hyn oedd perfformiad cryf yr asedau twf, lle
buddsoddwyd yn gymharol drwm mewn ecwiti. Ategwyd, oherwydd y sefyllfa gadarn,
bod cyfle i gymryd camau i ddad-risgio, o wneud
rhywbeth yn llai peryglus neu'n llai tebygol o olygu colled ariannol, a chadw
rhai o enillion y blynyddoedd diweddar drwy symud o ecwiti i gategorïau eraill
o asedau, megis isadeiledd, benthyca preifat, a bondiau corfforaethol.
c) Cyd-weithio
yng Nghymru
Wrth drafod Partneriaeth Pensiwn
Cymru (PPC), adroddwyd bod y cydweithio yn mynd o nerth i nerth ers ei sefydlu
yn 2017 . Ers y cyfnod clo, amlygwyd bod holl ddigwyddiadau’r bartneriaeth wedi bod yn rhithiol, gyda
swyddogion yn cwrdd yn rheolaidd,
y gwaith yn parhau, cronfeydd newydd wedi’u lansio
a nifer o ddigwyddiadau wedi cymryd lle. Bellach mae 83% o Gronfa
Bensiwn Gwynedd wedi ei bwlio gyda
PPC gyda buddsoddiadau mewn pum is gronfa
a buddsoddiadau mewn ecwiti byd-eang, incwm sefydlog a marchnadoedd datblygol. Trwy fanteision maint gweithredu
fel aelod o bartneriaeth sydd a chyfanswm o dros ugain biliwn o asedau, ceir
hyblygrwydd i fentro o fuddsoddiadau traddodiadol i amrywiol gategorïau o
asedau amgen, a buddsoddi’n uniongyrchol ar farchnadoedd preifat.
Cwestiwn: Sut mae'r
pwyllgor yn gweld y broses o weithio gyda Phartneriaeth Pensiynau Cymru, o ran
effeithiolrwydd cyfathrebu'r gofynion o ran dad-fuddsoddi o danwydd ffosil?
Ateb: Bod cydweithio
gyda PPC wedi
darparu sawl cyfle i fuddsoddi’n fwy cyfrifol eleni; Enghraifft ddiweddar o hyn
yw, ym Mhwyllgor Pensiynau 21/11/22 gwnaed penderfyniad i ddyrannu tua £250
miliwn yng nghronfa ecwiti cynaliadwy PPC, ac hefyd i fuddsoddi £10 Miliwn mewn
prosiectau ynni glân yng Nghymru.
ch) Buddsoddi
Cyfrifol
Cyfeiriwyd at bresenoldeb
penaethiaid 120 gwlad yn Sharm El Sheikh ar gyfer Cop 27, i drafod atal cynhesu
byd-eang. Ategwyd, ers Cop 26 Glasgow 2021, nad oedd cynnydd digonol
wedi ei weld.
Cwestiwn: Wrth
i COP27 ddod i ben, ni all unrhyw un fethu â gweld sut mae ein caethiwed i
danwydd ffosil yn creu hafoc gyda bywyd ar draws ein
Daear. Hoffwn ofyn i bwyllgor GPF eto i
ddarparu datganiad ar swm eu buddsoddiadau mewn Tanwydd Ffosil. Yr amcangyfrif
diwethaf o'u daliadau gan Gyfeillion y Ddaear oedd dros 51,500,000. Mae'r
pwyllgor wedi anghytuno â'r ffigwr hwn ond heb ddarparu cyfrifiad arall eto ers
gofyn am hyn dros flwyddyn yn ôl. Mae'r diffyg tryloywder hwn yn ei gwneud hi'n
anodd asesu a yw'r Pwyllgor o ddifrif ynghylch
datgarboneiddio ac yn cymryd camau go iawn i gyrraedd y nod hwnnw. Mae geiriau
Prif Weinidog Barbados, Mia Mottley yn taro deuddeg.
"Gofynnaf i bobl y byd ac nid dim ond yr arweinwyr, .. beth fyddwch chi'n
dewis ei wneud? .. beth fyddwch chi'n dewis ei arbed?“
Ateb: Bod Cronfa Bensiwn Gwynedd wedi
ymrwymo i fod yn sero net erbyn 2050 a hyn wedi’i gefnogi gan ymrwymiad i asesu
dichonoldeb y Gronfa i gyrraedd sero net 5, 10 neu 20 mlynedd ynghynt. Er bod
penderfyniad wedi ei wneud i beidio gosod targed cyn eleni, oherwydd;
a. bod athroniaeth meddylfryd
systemau ‘Ffordd Gwynedd’ yn annog mesur cynnydd a chyfeiriad yn hytrach na
gosod targedau,
b. bod awydd ystyried cynllun ar gyfer gweithredu cyn gosod targed.
Fodd bynnag, ym Mhwyllgor Pensiynau Mawrth 2022 cytunwyd gosod uchelgais
effeithiol fyddai’n anelu at 2030. Cymeradwywyd polisi oedd yn ystyried
ffactorau megis Canllawiau Cyfreithiol, Credoau Buddsoddi, Ymgysylltu, Datgelu
ac adrodd a fframwaith i gefnogi Uchelgeisiau Hinsawdd y Gronfa. Ategwyd bydd y
Tasglu ar Ddatgeliadau Ariannol Cysylltiedig â’r Hinsawdd (‘TCFD’) yn rhyddhau
canllawiau yn 2023 a’r osod fframwaith safonol ddefnyddiol i fesur y sefyllfa
yn deg.
Cwestiwn: Yn gynharach
eleni, pasiodd Llywodraeth Cymru rybudd y byddai'n gweithio â'r sector cyhoeddus i gytuno ar
strategaeth i ddatgarboneiddio pensiynau erbyn 2030. Ydy hyn yn cael
ei gymryd i ystyriaeth yn
llwybr Cronfa Bensiwn Gwynedd tuag at ddatgarboneiddio, a pha gynnydd sydd wedi'i
wneud tuag at ddatgarboneiddio hyd yma?
Ateb: Tra bod Cronfa Bensiwn
Gwynedd yn anelu at ddatgarboneiddio
erbyn 2030, ni ellid
argyhoeddi y bydd datgarboneiddio llwyr
yn bosib erbyn 2050, heb sôn am 2030. Er
bwriad symud yn gyflym tuag at ddatgarboneiddio portffolio
Cronfa Gwynedd, adroddwyd
bod y Pwyllgor eisoes wedi cymryd camau bras i
fuddsoddi’n fwy cyfrifol. Amlygwyd, yn 2015 cafodd y TCFD ei greu mewn ymateb i
gydnabyddiaeth bod marchnadoedd yn methu prisio cyfleodd a risgiau hinsawdd heb
wybodaeth ariannol cywir sy’n ymwneud â’r hinsawdd. Ategwyd bod Pwyllgor
Pensiynau Gwynedd a’r PPC wedi ymateb yn gefnogol i ymgynghoriad diweddar gan y
TCFD am gynigion yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau gweinyddol y CPLlL asesu, rheoli ac adrodd ar risgiau sy’n ymwneud â’r
hinsawdd. Disgwylir i’r rheoliadau ddod i rym
Ebrill 2023.
Cwestiwn: O ystyried bod Llywodraeth Cymru
yn annog awdurdodau lleol i adrodd ar allyriadau buddsoddi sgôp 3, a oes
gennych chi ffigwr pendant ar gyfer allyriadau sgôp 3 Cronfa Bensiwn Gwynedd eto,
ac os ddim, pa bryd fydd y ffigwr yna gennych chi?
Ateb: Nodwyd bod Llywodraeth Cymru yn awyddus i weithio
gyda chronfeydd pensiwn i leihau
allyriadau carbon perthnasol
i’w buddsoddiadau. Ategwyd bod Llywodraeth Cymru hefyd yn annog
awdurdodau lleol i adrodd ar
allyriadau sgôp 3, sydd heb eu
cynhyrchu gan yr awdurdod ei hun,
na’r asedau mae'n berchen arno,
ond gan gyflenwyr
a defnyddwyr yn y gadwyn brisio. Nodwyd bod cryn her i adnabod allyriadau
sgôp 3 y Gronfa, gan fod rhwystrau
at gael at y data priodol e.e., dim gorfodaeth ym Mhrydain ar
denantiaid eiddo busnes i gyflwyno
gwybodaeth i landlord o gymharu, er enghraifft,
gyda Ffrainc, lle mae’r Llywodraeth
wedi gorfodi busnesau i ryddhau’r
wybodaeth.
Cwestiwn: Sut mae'n teimlo, yn y diwylliant
hwn sy'n newid yn gyflym,
i reoli cyfeiriad
Cronfa Bensiwn Gwynedd, gyda'r potensial i ddylanwadu ar
fuddsoddiadau pensiwn ledled y DU tuag at fuddsoddiadau gwirioneddol gyfeillgar o ran natur?
Ateb: Adroddwyd,
ei bod yn deimlad da ceisio gwneud gwahaniaeth gan ddylanwadu a buddsoddi mewn
prosiectau ynni gwyrdd, buddsoddi o’r newydd mewn cronfeydd cynaliadwy,
gweithio gyda’r cwmnïau buddsoddi sy’n rheoli asedau Cronfa Bensiwn Gwynedd er
mwyn addasu’r portffolio i fod yn ‘Paris aligned’,
ayb. Er hynny, nodwyd rhwystredigaeth
fod diffyg data dibynadwy er mwyn tystiolaethu’r camau sylweddol sydd wedi
cymryd mewn blynyddoedd diweddar, ac i fesur effaith penderfyniadau cyffrous
mae’r Pwyllgor wedi eu gwneud yn ddiweddar. Ategwyd mai da fyddai cael modd o
ddangos y cynnydd yn fesuradwy, a bod
hwn yn ddarn o waith sydd ar y gweill.
d) Prisiad
Teirblynyddol 2022
Cyflwynwyd gwybodaeth yn amlinellu canlyniad Prisiad Teirblynyddol o’r Gronfa gan amlygu bod staff y Gronfa
bellach wedi darparu gwybodaeth a’r actiwari wedi
cyfrifo’r data. Nodwyd bod dros ddeugain o gyflogwyr wedi cael gwybod lefel eu
cyfraniadau pensiwn ar gyfer 2023 mewn Fforwm Cyflogwyr gyda’r Actiwari ar y 26ain o Hydref 2022. Amlygwyd hefyd bod y
sefyllfa ariannu wedi gwella i 120% (o 108% yn 2019), gyda hyn yn cymharu'n
ffafriol iawn gyda chronfeydd CPLlL eraill. Atgoffwyd
pawb bod y lefel ariannu yma yn ystyried y gorffennol, ac mai cost pensiynau
i’r dyfodol sydd bennaf yn gyrru cyfradd cyfraniadau pensiwn cyflogwyr.
Adroddwyd, ar draws Prydain, bydd cyflogwyr yn wynebu
blwyddyn gyllidol anodd yn 2023. Y gobaith yw y bydd y gostyngiad yng nghyfradd
cyfraniadau pensiwn prif gyflogwyr ein rhanbarth yn hwb wrth iddynt geisio
mantoli’r gyllideb a cheisio osgoi’r elfen o dorri gwasanaethau. Ategwyd bod
canlyniadau’r cyflogwyr llai yn amrywio ychydig, ond nad oedd neb yn wynebu
cynnydd sylweddol yn eu cyfradd cyfraniadau pensiwn, gyda mwyafrif o’r
cyflogwyr yn gweld gostyngiad bychan.
dd) Camau nesaf
Tynnwyd sylw at Ymgynghoriad
Datganiad Strategaeth Cyllido - Ionawr
2023
Diolchwyd am
yr adroddiad.
Mewn ymateb i
gwestiwn yn ymwneud ag asesu
dichonoldeb targedau net sero gan ystyried
mesur cynnydd yn flynyddol, nodwyd
bod cwmni Hymans wedi cael ei gomisiynu
i ganfod mesurydd addas. Ategwyd bod hyn ar waith ac mai
un o’r rhwystrau oedd derbyn ffigyrau
cyson.
Nododd y
Cadeirydd bod y perfformiad yn un da a bod hyn yn adlewyrchu gwaith a chyngor y
swyddogion. Ategwyd bod cydweithio da ymysg Aelodau’r Pwyllgor Pensiynau a bod
Aelodau’r Bwrdd Pensiwn yn ychwanegu gwerth drwy gynnig trosolwg a chyngor.
Nododd hefyd bod ymuno a PPC wedi arwain
at ganlyniadau da.
PENDERFYNWYD
DERBYN ADRODDIAD BLYNYDDOL Y GRONFA BENSIWN AM 2021/22
Dogfennau ategol: