Trosi a newid defnydd
un annedd i fod yn 6 fflat 1 ystafell wely
AELOD LLEOL: Cynghorydd
Rob Triggs
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau
1.
5
mlynedd.
2.
Yn
unol â’r dogfennau/cynlluniau a gyflwynwyd gyda’r cais.
3.
Unrhyw
addasiadau i wynebau allanol yr adeilad i gael eu gorffen i gydweddu.
4.
Amod i
gytuno cynllun tai fforddiadwy.
5.
Y
fflatiau a ganiateir drwy hyn i fod ar gyfer dosbarth defnydd C3 yn unig o’r
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) (Diwygiad) (Cymru)
2022 ac nid ar gyfer defnydd C5 na C6.
6.
Cyflwyno
a chytuno manylion lle ar gyfer storio biniau gwastraff / ailgylchu.
7.
Oriau
gwaith.
Nodiadau - Dŵr Cymru, Deddf Wal Gydrannol
Cofnod:
Trosi a newid defnydd un annedd i fod yn 6 fflat
1 ystafell wely
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr
a) Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd yn ymwneud a throsi a newid
defnydd un annedd yn 6 fflat 1 ystafell wely.
Byddai 1 fflat ar yr islawr, 2 ar lefel llawr daear ac 1 fflat ar lefel y llawr cyntaf, ail a
trydydd. Yn allanol byddai’r newid yn
cynnwys cyfnewid 1 ffenestr am ddrws ac adeiladu ffrâm ddur cerdded yn y cefn
ar lefel llawr daear. Saif y safle o fewn ffin ddatblygu Abermaw gyda’r eiddo
yn ffurfio rhan o res o dai. Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor gan fod y cais yn
ymwneud â 5 neu fwy o dai.
Adroddwyd
bod Abermaw, yn y CDLl, wedi ei adnabod fel Canolfan
Gwasanaeth Lleol o dan Bolisi TAI 2 sy’n cefnogi datblygiadau tai fyddai’n
cwrdd â strategaeth y Cynllun wedi ei
seilio ar ddarpariaeth dangosol y Polisi. O’r wybodaeth a dderbyniwyd gan Uned
Polisi Cynllunio ar y Cyd, nodwyd mai lefel cyflenwad dangosol Abermaw dros
gyfnod y Cynllun oedd 91 uned gyda 50 uned wedi eu cwblhau rhwng 2011 a 2021, ynghyd a 36 unedau gyda
chaniatâd cynllunio presennol. Byddai’r bwriad yn creu 6 uned byw ychwanegol
fyddai’n golygu bod Abermaw wedi cyrraedd y lefel twf dangosol gyda’r datblygiad
yma ac felly'r bwriad yn dderbyniol yn nhermau Polisi TAI 2 CDLl.
Cyfeiriwyd
at Polisi TAI 9 sy’n caniatáu rhannu eiddo presennol yn fflatiau hunangynhaliol
cyhyd â'u bod yn cydymffurfio â 4 maen prawf y polisi. Tynnwyd sylw penodol at
faen prawf (4) sy’n nodi na ddylai’r cynnig waethygu problemau parcio yn yr
ardal leol. Adroddwyd, er nad oedd llefydd parcio o fewn cwrtil yr eiddo, bod
yr eiddo presennol yn un 9 ystafell wely a byddai’r bwriad yn darparu cyfanswm
o 6 ystafell wely. Ategwyd bod yr Uned Drafnidiaeth yn ystyried, oherwydd
gostyngiad mewn nifer ystafelloedd gwely a ddarperir, yn golygu llai o alw am
lefydd parcio yn lleol ac y byddai’r effaith yn un gadarnhaol ar y ddarpariaeth
barcio leol. Y bwriad felly yn dderbyniol o ran maen prawf (4) Polisi TAI 9
CDLL.
Nodwyd
bod sylwadau gan drydydd parti wedi ei derbyn yn amlygu pryder y byddai’r
fflatiau yn cael eu defnyddio fel fflatiau gwyliau a’r effaith byddai hynny yn
cael ar y dref o ystyried y posibilrwydd y byddai’n mynd yn debyg i ardaloedd
eraill o fewn Gwynedd ac ymhellach draw.
Mewn ymateb, amlygwyd, bod Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref
(Dosbarthiadau Defnydd) (Diwygiad) (Cymru) 2022 a ddaeth i rym 20/10/22 wedi
gwneud newidiadau o ran dosbarthiadau defnydd unedau preswyl gyda dosbarth
defnydd C3 bellach wedi ei nodi fel tai annedd a ddefnyddir fel unig neu brif
breswylfa. Ychwanegwyd dau ddosbarth defnydd - C5 yn dai annedd a ddefnyddir
mewn modd gwahanol i brif neu unig breswylfa
a dosbarth C6 ar gyfer gosod tymor byr o ddim mwy na 31 diwrnod ar gyfer
pob cyfnod o feddiant. Ystyriwyd y
byddai’n briodol felly gosod amod fod y fflatiau i’w gosod ar gyfer dosbarth
defnydd C3 yn unig.
Yn
unol â Pholisi TAI 15, gofynnir am gyfraniad tai fforddiadwy ar ddatblygiadau
preswyl o 2 neu fwy o unedau tai. Gan
fod Abermaw y tu mewn i ardal pris tai 'Arfordir y Gorllewin ac Arfon Wledig’
yn y Cynllun, nodwyd bod darparu 10% o dai fforddiadwy yn hyfyw yma.
Cadarnhawyd bod yr ymgeisydd wedi cynnig y fflat ar lefel yr islawr fel fflat
fforddiadwy ac wedi cytuno arwyddo cytundeb 106 i’r perwyl hynny. Fel rhan o’r
cais cyflwynwyd Datganiad Cymunedol ac Ieithyddol, Datganiad Cymysgedd Tai a
phrisiad ar gyfer y fflat fforddiadwy.
Ystyriwyd fod y bwriad i newid defnydd
yr eiddo i 6 fflat yn cydymffurfio a gofynion y polisïau perthnasol.
b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau
canlynol:
·
Bod y disgwyl am y fflatiau wedi bod yn hir
·
Bod pobl leol eisoes wedi dangos diddordeb a gwneud ymholiadau
·
Ei fod yn gefnogol ac yn argymell i’r Pwyllgor ganiatáu
c)
Cynigiwyd ac eiliwyd
caniatáu y cais yn unol ar argymhelliad
ch) Gwnaed sylw bod
cynlluniau fflatiau 4 a 5, er ar gyfer un person, yn amlygu en-suite
ac ystafell ymolchi ynghyd a swyddfa yn awgrymu efallai i’r dyfodol, y gall eu
haddasu yn ail ystafell wely a /neu at ddefnydd tŷ gwyliau. Angen sicrhau
bod yr amod dosbarth defnydd yn cael ei orfodi.
PENDERFYNWYD: Caniatáu gydag
amodau
1. 5
mlynedd.
2. Yn
unol â’r dogfennau/cynlluniau a gyflwynwyd gyda’r cais.
3. Unrhyw addasiadau i wynebau allanol yr
adeilad i gael eu gorffen i gydweddu.
4. Amod
i gytuno cynllun tai fforddiadwy.
5. Y fflatiau a ganiateir drwy hyn i fod ar
gyfer dosbarth defnydd C3 yn unig o’r Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref
(Dosbarthiadau Defnydd) (Diwygiad) (Cymru) 2022 ac nid ar gyfer defnydd C5 na
C6.
6. Cyflwyno a chytuno manylion lle ar gyfer
storio biniau gwastraff / ailgylchu.
7. Oriau
gwaith.
Nodiadau - Dŵr Cymru, Deddf
Wal Gydrannol
Dogfennau ategol: