Agenda item

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrthi o dan Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Llio Elenid Owen yn cynnig fel a ganlyn:- 

 

“Mae Ambiwlans Awyr Cymru (AAC) yn wasanaeth meddygol brys tyngedfennol a hollol hanfodol i drigolion Gwynedd. Mi fyddai cau eu safleoedd presennol yn Ninas Dinlle a’r Trallwng a’i ganoli yng ngogledd ddwyrain Cymru yn arafu’r ymateb brys i’r ardaloedd pellaf ac anoddaf eu cyrraedd. Mae hyn yn bryder eithriadol i’n trigolion yma yng Ngwynedd. Bydd hyn hefyd yn golygu bod gwasanaeth eithriadol o bwysig arall yn symud o ogledd orllewin Cymru i’r gogledd ddwyrain, a hynny ar draul ein cymunedau gwledig.   

 

Mae natur wledig a ffyrdd diarffordd yn gwneud achub bywydau yn ein hardaloedd yma yng Ngwynedd yn heriol, a bydd adleoli AAC yn fwy fyth o her.

 

Rhaid diogelu’r gwasanaeth amhrisiadwy yma.

 

Cynigiaf felly bod Cyngor Gwynedd yn galw ar Ambiwlans Awyr Cymru a’r cyrff perthnasol i gadw’r canolfannau yn Ninas Dinlle a’r Trallwng, ac adeiladu ar y gwasanaethau yn eu lleoliadau presennol.

 

Penderfyniad:

Bod Cyngor Gwynedd yn galw ar Ambiwlans Awyr Cymru a’r cyrff perthnasol i gadw’r canolfannau yn Ninas Dinlle a’r Trallwng, ac adeiladu ar y gwasanaethau yn eu lleoliadau presennol.

 

Cofnod:

 

(B) Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Llio Elenid Owen o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

 

Bod Cyngor Gwynedd yn galw ar Ambiwlans Awyr Cymru a’r cyrff perthnasol i gadw’r canolfannau yn Ninas Dinlle a’r Trallwng, ac adeiladu ar y gwasanaethau yn eu lleoliadau presennol.

 

Gosododd yr aelod y cyd-destun i’w chynnig gan nodi:-

 

·                Ein bod fel cynghorwyr yn awyddus i ddatgan yn glir ein cefnogaeth a’n diolch ni, fel pobl leol, i elusen Ambiwlans Awyr Cymru.  Mae’r gwaith maen nhw’n ei wneud er mwyn darparu gofal brys yn ein cymunedau yn gwbl amhrisiadwy.  Mae gan elusen Ambiwlans Awyr Cymru ran bwysig i’w chwarae yma yng Ngwynedd, mae’n un o’r elusennau sydd agosaf at galonnau pobl, yn arbennig yn fy nghymuned leol i yn ardal Dinas Dinlle.

·                Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn wasanaeth meddygol brys tyngedfennol ac mae’n gwbl hanfodol i drigolion Gwynedd.  Mae’r natur wledig a’r rhwydweithiau ffyrdd yn gwneud achub bywydau yng Ngwynedd yn heriol ar y gorau. Byddai ail-leoli’r gwasanaeth yng ngogledd ddwyrain Cymru, heb os, yn achosi mwy fyth o her i’r ardal.

·                Deellir nad yw hyn yn gyfan gwbl yn nwylo’r elusen.  Mae’r Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru) a’r Pwyllgor Gwasanaeth Ambiwlans Brys yn chwarae rhan yn y cynnig a’r cynlluniau hyn, a chroesawyd y cyfle i gyfarfod â Phrif Weithredwr yr Ambiwlans Awyr, er mwyn deall eu safbwynt a’u sefyllfa hwy.

·                Mae heriau eisoes yn wynebu gwasanaeth Ambiwlans Cymru, ac mae yna gymunedau cyfan yma yng Ngwynedd sy’n hollol ddibynnol ar yr elusen mewn argyfwng.  Sut bydd newidiadau i’r Ambiwlans Awyr yn effeithio ar y gwasanaeth a ddarperir i drigolion Gwynedd?  A fydd hyn yn golygu arafu’r ymateb brys? A fydd yna risg o golli bywydau? A oes sicrwydd na fydd unrhyw newid effaith andwyol ar gyrraedd preswylwyr? 

·                Mae’r Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys yn nodi y bydd y newidiadau i’r gwasanaeth yn lleihau annhegwch daearyddol i gleifion sydd ag anghenion gofal critigol, ond ni ddeellir sut yn union y byddai’r ail-leoli yn cyflawni hynny, ac mae’n anodd gweld sut y gallai hyn arwain at ddim byd ond amser aros hirach am ofal brys mewn rhai ardaloedd.

·                Mae’r cynnig o ail-leoli yn nodi y bydd modd ateb y galw a mynd allan 580 o weithiau yn fwy’r flwyddyn, ond mae yna amheuaeth fawr ynghylch dibynadwyedd y data sy’n cael ei ddefnyddio i drio cyfiawnhau hyn.  Mae hyn wedi cael ei ategu gan ein Haelodau Seneddol, ac mae gormod o gwestiynau pwysig heb eu hateb.  I’r perwyl hynny, mae Aelodau Plaid Cymru yn y Senedd wedi galw ar Brif Weinidog Cymru i gomisiynu dadansoddiad annibynnol eu hunain o’r data hyn.

·                Holl bwrpas yr Ambiwlans Awyr yw gwasanaethu’r ardaloedd mwyaf gwledig, ac nid oes synnwyr o gwbl yn ei symud o Ddinas Dinlle, nac o’r Trallwng, sydd ar gyrion rhai o ardaloedd mwy pellgyrhaeddol a gwledig Cymru, a’i symud i ardal boblog ar gyrion ffordd ddeuol yr A55 yn y gogledd ddwyrain.

·                Mae bywydau ein trigolion yng nghefn gwlad cyn bwysiced â bywydau trigolion yn nhrefi Cymru, ac ni ddylid gwneud unrhyw newid i’r gwasanaeth fydd yn cyfaddawdu hynny.

·                Mae cefnogaeth gref iawn yn lleol i gadw’r safleoedd hyn yn eu lleoliadau presennol, ac mae’r holl drigolion sydd wedi mynychu’r cyfarfodydd cyhoeddus diweddar, a phawb sydd wedi trafod ac anfon negeseuon o bryder, yn dyst i hynny.

 

Mynegodd nifer o aelodau eu cefnogaeth i’r cynnig.  Nodwyd:-

 

·         Bod yr ambiwlans yn aml yn gorfod mynd rownd Dolgellau i gyrraedd cleifion yn ardal Llanbedr, oherwydd diffyg ffordd osgoi i’r pentref, a’i bod felly’n hanfodol bod yr hofrennydd yn gallu dod yno.

·         Bod y cynnig o ail-leoli yn nodi y bydd modd i’r hofrennydd fynd allan 580 o weithiau yn fwy’r flwyddyn, ond mae’r ffigwr yn siŵr o fod yn uwch gan y bydd y gwasanaeth wedi’i leoli mewn ardal fwy poblog.

·         Ei bod yn drist clywed fod Prif Weinidog Cymru wedi dweud, mewn ymateb i Mabon ap Gwynfor AS, mai mater i’r elusen oedd hyn, ond os yw’r mater yn ymwneud â’r Llywodraeth mewn unrhyw ffordd, dylent ddatgan yn glir mai hwy sy’n rhoi'r pwysau.

 

Nododd yr Arweinydd:-

 

·         Y cafwyd cyfarfod hynod gadarnhaol gyda Phrif Weithredwr yr Ambiwlans Awyr ynghyd â swyddog arall, yr Aelod Cabinet Oedolion Iechyd a Llesiant a’r Cynghorydd Llio Elenid Owen.

·         Ei bod yn amlwg o’r drafodaeth honno bod yna ddiffyg cyfathrebu difrifol, a bod yna gefndir llawer iawn mwy cymhleth i’r trefniant nag a feddylid ar y cychwyn.

·         Nad oedd y penderfyniad yn llwyr yn nwylo’r Gwasanaeth Ambiwlans Awyr ei hun, a bod angen sefydlu’r ffeithiau, cael y data allan yn glir ac asesu’r sefyllfa, h.y. os oes angen newid er mwyn gwella’r gwasanaeth, dylai hynny ddigwydd ar sail ffeithiau cadarn a thystiolaeth glir.

·         Bod peryg y bydd yr elusen ei hun yn dioddef oherwydd yr holl ddadleuon o gwmpas y gwasanaeth, a’i fod awyddus i gydweithio cymaint â phosib’ gyda hwy i gyfleu’r negeseuon cywir.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r cynnig, sef:-

 

Bod Cyngor Gwynedd yn galw ar Ambiwlans Awyr Cymru a’r cyrff perthnasol i gadw’r canolfannau yn Ninas Dinlle a’r Trallwng, ac adeiladu ar y gwasanaethau yn eu lleoliadau presennol.