Agenda item

Cymeradwyo cynnig i godi uchafswm prisiau teithiau tacsis gan ystyried sylwadau yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus i godi’r uchafswm prisiau

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

  • Cymeradwyo'r cynnig i godi'r uchafswm pris yn unol â'r argymhellion, yn ddarostyngedig i dynnu'n ôl yr argymhelliad ar gyfer tariff ychwanegol ar gyfer teithiau mewn bws mini lle mae rhwng 5 ac 8 o deithwyr.

 

Uchafbris perthnasol

Cyfraddau presennol

Argymhelliad

 

 

 

Lle mae’r daith yn llai na milltir

£3.60

Dim newid

Lle mae’r daith yn fwy na milltir, am y filltir gyntaf

£3.00

Dim newid

Uchafbris cludo bagiau ychwanegol yn cist y cerbyd

30c

50c

Uchafbris cost ‘valet‘ glanhau proffesiynol

£45

£120

Am logi'r cerbyd rhwng hanner nos a 7:00y.b. unrhyw ddydd neu ar unrhyw amser ar Ŵyl y Banc, heblaw am Ddydd Nadolig a Dydd Calan

50% yn ychwanegol ar y gyfradd sylfaennol

 £4.50

60% yn ychwaegol i’r cyfradd sylfaennol

£4.80

 

 

Cofnod:

a)    Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Trwyddedu yn argymell codi uchaf brisiau teithiau cerbydau hacni yn y Sir. Atgoffwyd yr Aelodau, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 sydd yn gosod dyletswyddau rheoleiddio ar yr Awdurdod Trwyddedu mewn perthynas â gweithredu  uchaf bris a all gael ei godi ar y cyhoedd wrth deithio mewn cerbydau hacni oddi fewn i’r Sir, mae’n ofynnol fod unrhyw gais am newid yn cael ei gyflwyno gan y diwydiant. Cadarnhawyd bod 5 cais diweddar wedi eu derbyn gan berchnogion cwmnïau tacsi i adolygu’r prisiau a bod y prisiau hyn ar gyfer cerbydau hacni yn unig ac nid cerbydau preifat. Mewn cyfarfod ar y 24ain o Hydref, cyflwynwyd argymhellion gan yr Awdurdod Trwyddedu i gynyddu rhai prisiau. Penderfynodd y Pwyllgor gymeradwyo’r argymhellion hynny ynghyd a chynnal ymgynghoriad cyhoeddus am 14 diwrnod. Adroddwyd bod gohebiaeth wedi ei gyflwyno i’r diwydiant tacsi cyn i’r ymgynghoriad ddechrau yn swyddogol gan roi cyfle i’r diwydiant ystyried y cynigion. Derbyniwyd pum gwrthwynebiad gyda sylwadau gan gynrychiolaeth o’r diwydiant - ni dderbyniwyd sylwadau gan y cyhoedd. Eglurwyd, oherwydd bod gwrthwynebiadau i’r cynigion wedi ei derbyn bod rhaid ail gyflwyno argymhellion fel y gall y Pwyllgor roi ystyriaeth ofalus i’r mater cyn dod i benderfyniad terfynol.

 

Cyfeiriwyd at y ffactorau hynny sydd wedi effeithio busnesau tacsi yn ddiweddar (cyfnod clo dros gyfnod covid 19, cynnydd sylweddol yng nghostau tanwydd  ynghyd a chynnydd sylweddol mewn chwyddiant) gan nodi bod rhain yn ffactorau sydd yn effeithio pawb. Nodwyd pwysigrwydd cloriannu effaith y sefyllfa bresennol gan sicrhau tegwch i’r diwydiant ac i ddefnyddwyr tacsi. Ategwyd bod rhaid cynlluniau cymunedol, gyda chefnogaeth grantiau, drwy gyd-weithio gyda hwb cymdeithasol yn cynnig gwasanaeth cludiant i ddefnyddwyr bregus am ddim gan fod prisiau tacsi yn rhy ddrud. Gwelid hyn yn ardal Penygroes a Bethesda

 

Er yn derbyn sylwadau’r diwydiant, roedd yr Uned Trwyddedu yn argymell parhau gyda’r argymhellion gwreiddiol ond yn derbyn y sylw i ddileu’r cynnig o greu tariff ychwanegol ar gyfer teithiau mewn bws mini lle mae rhwng 5 ac 8 o deithwyr. Ystyriwyd bod y cynnig yma, yn unol â sylwadau unfrydol y diwydiant yn agored i’w gamddefnyddio ac nad oedd gwerth iddo.

 

b)     Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:

·         Bod yr adroddiad yn glir a chytbwys

·         Bod rhaid gwarchod y diwydiant ond ar y llaw arall ystyried effaith ar y defnyddwyr

·         Croesawu’r ymgynghoriad a pharodrwydd y Pwyllgor i drafod y sylwadau

·         Anodd cael gwasanaeth yn Nwyfor – gwasanaeth bysus yn lleihau a chostau tacsis y cynyddu

 

c)    Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â bod y sylwadau a dderbyniwyd yn adlewyrchu materion trefol a gwledig, nodwyd bod cymysgedd o sylwadau wedi eu derbyn. Mewn ymateb i gwestiwn atodol ynglŷn ag ymatebion dienw, nodwyd bod enwau a chyfeiriadau personol e-byst yr ymatebwyr wedi eu dileu fel modd o warchod eu preifatrwydd.

 

Mewn ymateb i sylw bod rhai cwmnïau yn osgoi siwrneiau byr, cadarnhawyd bod costau’r daith yn dechrau o’r amser y bydd y defnyddiwr yn cael ei godi ac felly yn derbyn bod rhai cwmnïau yn osgoi teithiau i gasglu cwsmeriaid oherwydd bod y daith yn hir a'r costau cludo yn annigonol i dalu costau’r daith. Ategwyd bod amodau trwyddedu yn nodi bod rhaid casglu defnyddwyr os yw wedi ei gytuno dros y ffôn.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chludiant ar gyfer pobl fregus (gan gyfeirio at  y gwasanaethau cymdeithasol ac apwyntiadau ysbytai), nodwyd nad oedd yr uchaf symiau hyn yn berthnasol i’r teithiau hynny - teithiau o’r fath wedi eu trefnu ymlaen llaw drwy gytundeb.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am faint y diwydiant yng Ngwynedd, nodwyd bod oddeutu 500 o yrwyr tacsi  yn y Sir yn defnyddio oddeutu 400 o gerbydau gydag amrywiaeth  o un gyrrwr yn rhedeg un car, cwmnïau bach gyda 3-5 gyrrwr a thri chwmni ‘mawr’. (dau ym Mangor ac un ym Mhenygroes). Mewn ymateb i sylw bod gyrwyr yn derbyn llai na’r isafswm cyflog, nodwyd bod hyn yn ddibynnol ar deithiau byr yn unig. Ategwyd bod nifer yn gwneud cyfuniad o deithiau sydd yn gwneud mwy o arian a bod rhai o’r cwmnïau gyda chytundebau gyda’r Adran Addysg, Ysbytai a Gwasanaethau Cymdeithasol sydd yn derbyn costau sydd wedi eu cytuno gyda’r cwmni ymlaen llaw. Amlygwyd bod y costau hyn wedi cynyddu yn ddiweddar mewn ymateb i gynnydd mewn costau byw.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â nifer ceir ar gyfer ceir ar gyfer cadair olwyn, nodwyd, yn unol â gofynion y polisi cyfredol, bod rhaid i 1 o bob 7 car mewn cwmni fod yn gar addas ar gyfer cadair olwyn. Er yn anodd gorfodi mwy, amlygwyd bod nifer yn darparu’r gwasanaeth penodol yma gyda chytundebau gyda’r gwasanaethau cymdeithasol ac addysg yn gerbydau mawr, addas. Ategwyd y bydd y polisi yn cael ei  adolygu yn 2023.

 

Mewn ymateb i gynnig am ddarparu ceir trydan a safleoedd gwefru ceir trydan ar gyfer y diwydiant,  nodwyd nad oedd Gwynedd wedi manteisio ar dreialu cynllun peilot yng Ngwynedd gan nad oedd y gyfundrefn gwefru yn bodoli ar gyfer darparu gwasanaeth a gorfodi’r diwydiant i’w ddefnyddio. Ategwyd bod angen gwella’r ddarpariaeth yn gyntaf ac ystyried y rhwystrau sydd i’w goresgyn cyn annog darpariaeth eang o geir trydan.

 

Cynigwyd ac eiliwyd cymeradwyo’r cynnig gan ddileu gosod tariff gwahanol ar gyfer teithiau mini bws lle mae rhwng 5 ac 8 o deithwyr.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cynnig i godi'r uchafswm pris yn unol â'r argymhellion, yn ddarostyngedig i dynnu'n ôl yr argymhelliad ar gyfer tariff ychwanegol ar gyfer teithiau mewn bws mini lle mae rhwng 5 ac 8 o deithwyr.

 

 

 

Dogfennau ategol: