skip to main content

Agenda item

Ystyried adroddiad ar yr uchod.

 

Cofnod:

Croesawyd swyddogion GwE i’r cyfarfod a chyflwynwyd Adroddiad Blynyddol GwE ar gyfer 2021-22.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Nodwyd ei bod yn amhosib’ craffu adroddiad o’r maint yma, ac nid dyma sut y dylai’r pwyllgor graffu gwaith GwE.

·         Mynegwyd pryder ynglŷn ag ymddygiad plant tuag at athrawon, a nodwyd y dylai darpar athrawon gael eu hyfforddi ar sut i ddelio ag ymddygiad heriol, neu ni fydd pobl ifanc yn awyddus i ymuno â’r proffesiwn.

·         Ei bod yn anodd iawn bellach i lywodraethwyr wybod beth yw’r gwaelodlin a mesur safonau yn sgil y cyfnod Cofid, a chredid bod yna rôl i GwE i’w cefnogi a’u cynorthwyo i ail-afael yn eu rôl.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, ac i gwestiynau gan aelodau, nodwyd:-

 

·         Tra’n derbyn bod yr adroddiad yn swmpus, bod yna adroddiadau mwy penodol yn cael eu cyflwyno i’r pwyllgor yn ystod y flwyddyn ar gais yr aelodau, ond bod yr Adroddiad Blynyddol yn dwyn y cwbl at ei gilydd mewn un lle.  Petai’r aelodau’n dymuno canolbwyntio ar themâu penodol, neu drafod elfennau mwy penodol mewn gweithdai, byddai GwE yn fwy na pharod i hwyluso hynny.

·         O ran cyfarch y risg yng nghyswllt anawsterau recriwtio a chynllunio olyniaeth uwch arweinwyr ar draws y rhanbarth, yn enwedig rhai cyfrwng Cymraeg, nodwyd bod llawer o son am effaith y cyfnod Cofid ar ddisgyblion, ond o bosib’ nad oedd yr effaith ar oedolion wedi’i lawn sylweddoli.  Roedd uwch arweinwyr ar draws y rhanbarth yn flinedig iawn, ac roedd chwarter y prif athrawon uwchradd wedi ymddeol yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf.  Hefyd, wrth i bennaeth adael, roedd dirprwy neu berson arall yn camu i mewn i’r rôl, a’r rôl honno wedyn yn wag am gyfnod.  Nodwyd hefyd, yn ystod y cyfnod clo, y bu’n rhaid i benaethiaid roi elfennau mwy arweinyddol y gwaith o’r neilltu, a chanolbwyntio ar reoli, diogelu a sicrhau bod pawb yn saff, ond bellach roedd rhaid iddynt gamu nôl i’r rôl arweinyddol, neu gamu i mewn i’r rôl honno am y tro cyntaf yn achos penaethiaid mwy newydd.  Hefyd, o ran recriwtio, roedd y pwll Cymraeg yn llai, roedd y byd addysg yn wynebu’r newidiadau mwyaf ers 40 mlynedd, ac roedd yn gyfnod ariannol dyrys iawn.  Yn wyneb hyn oll, cwestiynid a oedd y swyddi arweinyddol yma mor ddeniadol i gymaint o bobl bellach.  O ran gallu dwyieithog staff, neu allu staff yn y Gymraeg ar draws y rhanbarth, credid bod yna gydbwysedd, ond o bosib’, wrth sicrhau bod yr arlwy yn gwbl ddwyieithog, bod y Gwasanaeth yn tynnu o bwll y Gogledd Orllewin i raddau helaeth.  Roedd secondiadau tymor byr yn un ffordd o gwmpas hynny, neu brynu amser pobl i ddiwallu bylchau os oes yna ofynion cyfrwng penodol yn codi.

·         Bod y risg o ran cysondeb ac ystod y Daith Ddiwygio yn cyfeirio at gysondeb ar sawl lefel.  Roedd y Gwasanaeth wedi bod yn gweithio gyda’r Athro Donaldson yn rheolaidd i ddeall y gofynion a chyfleu’r negeseuon ar draws y rhanbarth.  Credid, fodd bynnag, bod y Llywodraeth yn dueddol o weithio ar ddwy haen, sef y maes polisi, a hefyd yn y maes sy’n gweithredu’r polisi, ac ar adegau roedd mwy nag un person yn cyfrannu at y dehongli yma.  Gan hynny, roedd rhaid cwestiynu a oedd y negeseuon yn gyson drwy’r amser ac yn cael eu ymarferoli ddigon, ac o ran y Gymraeg, a oeddent yn cael eu ymarferoli ddigon ar gyfer ymarferwyr yn ein hysgolion?  Roedd rhaid canmol pa mor dda roedd y sector gynradd a tua 6 o ysgolion uwchradd wedi cydio yn y cwricwlwm newydd, ac yn cynnig profiadau lleol, pwrpasol i’w disgyblion, ac roedd y Gwasanaeth yn gweithio gyda’r ysgolion i rannu’r ymarferion ymysg ei gilydd fel y gellir gweld beth yw ystod y profiadau maen nhw’n gallu cynnig, ac roedd y Gwasanaeth yn eu cefnogi hefyd yn y systemau sy’n dal effaith, ac yn dal cynnydd dysgwyr.

·         Bod y Gwasanaeth yn gweithio’n agos gyda Phrifysgol Bangor yng nghyswllt hyfforddiant cychwynnol athrawon.  Roedd yna brinder athrawon mewn rhai meysydd penodol fel mathemateg a ffiseg ers blynyddoedd, ac roedd angen mwy o drafodaeth ar hyn, gan o bosib’ adnabod y carfannau o ddarpar athrawon sydd eu hangen, yn hytrach na throi allan gormod sydd wedi arbenigo yn yr un pwnc.  Nodwyd ymhellach bod delio ag ymddygiad heriol yn rhan o hyfforddiant athrawon, ond y gellid cyfleu’r neges i’r Brifysgol ynglŷn â phwysigrwydd medru sicrhau disgyblaeth gadarn mewn dosbarth.

·         Bod newid rôl yr Ymgynghorwyr Her i Ymgynghorwyr Cefnogi Gwelliant wedi cryfhau’r berthynas rhwng yr ysgolion a’r gwasanaeth, a bod y gwasanaeth bellach yn diwallu anghenion ysgolion unigol yn llawer iawn gwell nag yn y gorffennol.

·         O ran y cynlluniau Carlam, ac yn sgil gwaith gyda’r Brifysgol i adnabod yr elfennau sy’n cael y mwyaf o effaith, y bu’r Gwasanaeth yn cefnogi ysgolion i ail-sefydlu beth yw gwaelodlin y disgyblion.  Nodwyd y byddai’r Gwasanaeth yn hapus i ddod ag adroddiad neu roi cyflwyniad i’r pwyllgor i ateb y cwestiwn penodol.  Nodwyd ymhellach yr effeithiwyd ar sgiliau sylfaenol yn y 18 mis diwethaf, a bod hyn wedi effeithio ar y Gymraeg lle nad yw’r Gymraeg yn iaith yr aelwyd, a hefyd mewn pocedi mwy difreintiedig.  Nodwyd ymhellach bod yna garfannau sy’n dod at ei gilydd yn yr ysgolion, fwy mewn rhai dosbarthiadau nag eraill, ond unwaith eto, bod rhaid bod yn benodol iawn o ran y math o gefnogaeth sydd ei hangen ar y disgyblion a’r athrawon wrth roi’r camau nesaf yn nysgu’r plant yn eu lle.

·         Petai yna unrhyw beth penodol sydd ei angen ar lywodraethwyr o safbwynt ail-gydio yn eu rôl yn dilyn y pandemig, y byddai’r Gwasanaeth yn gwneud yn siŵr bod yna weithdy neu arweiniad yn cael ei roi iddynt.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiadau a gofyn i’r Adran Addysg a GwE gymryd sylw o unrhyw sylwadau a godwyd yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ategol: