Agenda item

Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio a Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau i gyflwyno’r adroddiad.

 

Penderfyniad:

 

1.       Cytuno ar y sgôp a'r lleiafswm gofynnol fel y nodir yn yr adroddiad i’r Bwrdd, yn amodol ar ddiwygio’r geiriad ‘Rhaid i gynigion gyflawni ar gyfer cymunedau gwledig’ (Atodiad A – Gofynion Sylfaenol – Ffit Strategol – Rhaglen Bwyd-Amaeth a Thwristiaeth) i ddarllen ‘Dylai cynigion bwysleisio cyflawni ar gyfer cymunedau gwledig’.

2.       Cytuno i'r amserlen a nodir yn yr adroddiad gan gynnwys lansio'n ffurfiol ym mis Ionawr 2023.

3.       Dirprwyo’r awdurdod i'r Cyfarwyddwr Portffolio i weithredu'r Broses Newid Prosiectau fel y nodir yn yr adroddiad ac i gymryd yr holl gamau angenrheidiol i gwblhau'r dogfennau sydd eu hangen i gychwyn y broses.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans (Pennaeth Gweithrediadau) ac ategodd Alwen Williams (Cyfarwyddwr Portffolio) y sylw mai’r dyhead oedd adnabod pecyn uchelgeisiol iawn o brosiectau y gellir eu cyflawni, yn hytrach na phrosiectau sy’n cyfarfod â’r lleiafswm gofynnol yn unig.

 

PENDERFYNIAD

 

  1. Cytuno ar y sgôp a'r lleiafswm gofynnol fel y nodir yn yr adroddiad i’r Bwrdd, yn amodol ar ddiwygio’r geiriadRhaid i gynigion gyflawni ar gyfer cymunedau gwledig (Atodiad A – Gofynion SylfaenolFfit StrategolRhaglen Bwyd-Amaeth a Thwristiaeth) i ddarllenDylai cynigion bwysleisio cyflawni ar gyfer cymunedau gwledig’.
  2. Cytuno i'r amserlen a nodir yn yr adroddiad gan gynnwys lansio'n ffurfiol ym mis Ionawr 2023.
  3. Dirprwyo’r awdurdod i'r Cyfarwyddwr Portffolio i weithredu'r Broses Newid Prosiectau fel y nodir yn yr adroddiad ac i gymryd yr holl gamau angenrheidiol i gwblhau'r dogfennau sydd eu hangen i gychwyn y broses.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae gan Gynllun Twf Gogledd Cymru broses rheoli newid yn ei lle i sicrhau bod newidiadau posib i sgôp y Cynllun Twf a’r prosiectau yn cael eu dal, eu hasesu a lle bo hynny’n berthnasol, eu hystyried gan y Bwrdd.

 

Mae’r Cytundeb Twf Terfynol yn nodi sefyllfa'r bwrdd mewn perthynas â phrosiectau amgen posib:

 

"Rhaid i unrhyw brosiectau newydd neu amgen sydd i'w cyflwyno am ystyriaeth, ddangos eu bod yn cyflawni yn erbyn yr achos busnes rhaglen perthnasol ac amcanion yr achos busnes portffolio. Lle mae'r prosiectau hyn o fewn yr amlen ariannol gytûn bresennol ar gyfer y bartneriaeth, byddai angen i'r Bwrdd Uchelgais Economaidd wneud penderfyniad yn eu cylch."

 

Ym mis Medi 2022, fe wnaeth y Bwrdd gytuno ar gyfres o egwyddorion er mwyn adnabod prosiectau newydd a phroses tri cham, sef Cam 1: Sganio’r Gorwel, Cam 2: Creu Rhestr Hir a Rhestr Fer a Cham 3: Cymeradwyo a Datblygu’r Achosion Busnes. 

 

Gofynnwyd i’r Bwrdd gytuno ar y sgôp a’r lleiafswm gofynnol ar gyfer y cam sganio’r gorwel.

 

TRAFODAETH

 

Manylwyd ar y cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd.

 

Nodwyd yr adroddwyd yng nghyfarfod diweddar Cyngor Busnes Gogledd Cymru bod yr £13m o gyllid y Cynllun Twf nad oedd wedi’i glustnodi ar gael, ond na rannwyd unrhyw fanylion ynglŷn â’r meini prawf a’r angen am gyllid cyfatebol, ac ati.  Yn wyneb hynny, awgrymwyd y dylid cyfleu’r negeseuon hynny cyn gynted â phosib’ er mwyn rheoli disgwyliadau.  Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Gweithrediadau, yn ddarostyngedig i benderfyniad y Bwrdd ar yr eitem hon, y byddai’r wybodaeth yn cael ei rhannu rhag blaen gyda rhai o’n rhanddeiliad allweddol, megis y Cyngor Busnes, ac na fwriedid aros am y lansiad swyddogol ym mis Ionawr

 

Gan gyfeirio at Atodiad A i’r adroddiad – Gofynion Sylfaenol – Ffit Strategol – Rhaglen Bwyd-Amaeth a Thwristiaeth, mynegwyd pryder y gallai’r datganiad ‘Rhaid i gynigion gyflawni ar gyfer cymunedau gwledig’ eithrio prosiectau da yng nghanol trefi.  Mewn ymateb, eglurodd y Pennaeth Gweithrediadau:-

 

·         Bod y Bwrdd Rhaglen Bwyd-Amaeth a Thwristiaeth o’r farn bod y rhaglen hon yn arbennig yn un sy’n cyflawni ar gyfer cymunedau gwledig, ac felly y dylai unrhyw brosiectau amgen gyflawni ar gyfer cymunedau gwledig hefyd.

·         Y credai fod y Bwrdd Rhaglen hefyd o’r farn y dylai unrhyw brosiectau trefol a dderbynnir ym meysydd amaeth, bwyd neu dwristiaeth allu arddangos sut y byddent o fudd i’r cymunedau mwy gwledig yn yr ardaloedd hynny.

 

Nododd y Cynghorydd Charlie McCoubrey, yr Aelod Arweiniol ar gyfer y rhaglen hon, nad oedd rhaid i brosiect fod wedi’i leoli mewn ward wledig er mwyn gallu dod â buddion i’r ward honno, ac y gellid bod yn bragmataidd ynglŷn ag arddangos y buddion, gan weld pa gynlluniau ddaw i law, a bodloni’r ddau beth.

 

Nododd y Cadeirydd y byddai’n bryderus o weld arian a fwriadwyd ar gyfer ardaloedd gwledig yn llifo i ardal drefol, ond cytunodd fod angen aros i weld pa brosiectau ddaw i mewn, ac asesu’r prosiectau hynny yn ôl eu gallu i gyfrannu i’r ardaloedd gwledig.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y pwyntiau a ganlyn:-

 

·         Y credid bod geiriad cyfredol y datganiad yn dal Gogledd Cymru i gyd, gan fod y rhan helaethaf o Ogledd Cymru yn wledig, hyd yn oed y trefi mewn ardaloedd gwledig.

·         Na ddymunid gweld yr ardaloedd gwledig yn cael eu gadael ar ôl, a bod angen sicrhau bod y prosiectau canol tref yn cydweithio â’r ardaloedd gwledig cyfagos.

·         Nad yw trefi megis Wrecsam, Rhyl a Llandudno yn wledig, ond bydd yr ardaloedd gwledig cyfagos yn dibynnu ar wasanaethau yn y trefi hynny.

·         Bod yr ardaloedd gwledig wedi colli allan ar ddatblygiad economaidd yn hanesyddol, a bod angen y math yma o fuddsoddiad yn yr ardaloedd hynny.

·         Y credid bod y drafodaeth yn mynd i’r cyfeiriad anghywir.  Ni ddylai’r pwyslais fod ar yr ardaloedd gwledig, nac yn wir ar ganol trefi, ond yn hytrach dylai’r cynigion gyflawni ar gyfer y rhanbarth yn ei gyfanrwydd.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd y Cyfarwyddwr Portffolio y byddai’n bosib’ diwygio’r datganiad i’w wneud yn fwy cynhwysol.

 

Awgrymwyd y gellid meddalu’r gair ‘rhaid’ yn y datganiad, ond gan barhau i gynnwys y geiriad sy’n cyfeirio at roi pwyslais ar ardaloedd gwledig.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd y gwelliant a ganlyn i’r argymhelliad cyntaf yn yr adroddiad:-

 

Cytuno ar y sgôp a'r lleiafswm gofynnol fel y nodir yn yr adroddiad i’r Bwrdd, yn amodol ar ddiwygio’r geiriadRhaid i gynigion gyflawni ar gyfer cymunedau gwledig (Atodiad A – Gofynion SylfaenolFfit StrategolRhaglen Bwyd-Amaeth a Thwristiaeth) i ddarllenDylai cynigion bwysleisio cyflawni ar gyfer cymunedau gwledig’.”

 

Pleidleisiwyd ar y gwelliant, ac fe gariodd.

 

Nododd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, iddo bleidleisio yn erbyn y gwelliant ar sail pryder oedd ganddo bod y Bwrdd yn symud i gyfeiriad gwahanol i’r amcanion a sefydlwyd ar y cychwyn.

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd y byddai pob prosiect yn derbyn ystyriaeth gyfartal.

 

Dogfennau ategol: