I ystyried cais Mr A
(copi arwahan i
aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)
Penderfyniad:
Cofnod:
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y byddai'r penderfyniad yn cael ei
wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd
mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau
ar y meini prawf wrth ystyried
cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r
cyhoedd drwy sicrhau:
• Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol
• Nad yw'r unigolyn yn
fygythiad i'r cyhoedd
• Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl
anonest
• Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu
• Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu
• Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn
hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad
ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio
preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol, adroddiad yr Asiantaeth Trwyddedu
Gyrwyr a Cherbydau (DVLA)
Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn
argymell i’r Is-bwyllgor ganiatáu y cais.
Mewn ymateb i’r adroddiad, gofynnwyd i’r ymgeisydd pam
roedd wedi nodi ‘na’ ar ei
ffurflen gais mewn ateb i gwestiwn oedd yn holi os oedd ganddo unrhyw
gollfarnau, blaenorol, rhybuddion neu unrhyw gyhuddiadau yn yr arfaeth. Nododd yr ymgeisydd nad oedd wedi
ystyried bod digwyddiad 2007 yn ‘gofnod troseddol’ ac roedd yn
ymddiheuro dros gamddeall y cwestiwn.
Mewn ymateb i ddiffyg cyfeiriad at y collfarnau moduro yn yr adroddiad
oedd wedi arwain at dderbyn 6 pwynt cosb, nododd
y Swyddog Trwyddedu bod 6 pwynt yn cael
ei ystyried fel mater ymylol er yn derbyn bod
paragraff 13.3 o’r polisi yn nodi
6 pwynt fel cyfanswm disgwyliedig at ddibenion polisi. Ategodd bod y collfarnau
hyn angen eu hystyried wrth ddod i benderfyniad.
Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu
ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir
y pwyntiau cosb ar ei drwydded,
cefndir i gollfarn 2007 a’i amgylchiadau personol. Nododd fod digwyddiad 2007 yn gamgymeriad, yn ddigwyddiad hanesyddol, teuluol. Ategodd ei fod
yn gweithio fel goruchwyliwr a bod ganddo nifero
gyfrifoldebau yn y gymuned leol lle
mae angen iddo ymddwyn yn
broffesiynol.
PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd
yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded
gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat
gyda Chyngor Gwynedd.
Wrth gyrraedd eu penderfyniad,
roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:
·
Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat
a Cherbydau Hacni Cyngor
Gwynedd’
·
ffurflen gais yr ymgeisydd
·
adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad
DBS ac adroddiad Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau
·
sylwadau ar lafar gan yr ymgeisydd
Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol
Cefndir
Yn Rhagfyr 2007cafwyd yr ymgeisydd
yn euog o ddau gyfrif o ymosodiad
oedd yn achosi
gwir niwed corfforol (ABH) sydd yn groes i’r
Ddeddf Troseddau Corfforol
Yn Medi 2020 derbyniodd gollfarn
moduro a 3 pwynt cosb (SP30) am dorri terfyn cyflymder
ar ffordd gyhoeddus
Yn Mawrth 2022 derbyniodd
gollfarn moduro a 3 pwynt cosb (SP30) am dorri terfyn
cyflymder ar ffordd gyhoeddus
CYMALAU PERTHNASOL Y POLISI
Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r
Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd
i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd
rhag cael trwydded, ond bydd
disgwyl iddo fod yn rhydd
rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir
yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn
addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi
ei fod yn
berson addas a phriodol.
Mae paragraff 2.4 yn nodi
pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn
euog o drosedd(au) neu fod mater arall/materion eraill i'w (h)ystyried yng nghyswllt hynny,
ni chaiff y cyngor adolygu rhinweddau'r gollfarn honno na'r mater arall hwnnw.
Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run
ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.
Mae paragraff 6.0 o’r Polisi yn cyfarch
troseddau o drais. Ym mharagraff 6.1 nodir, gan fod
gyrwyr trwyddedig yn dod i
gysylltiad agos gyda'r cyhoedd yn rheolaidd y byddai is-bwyllgor yn mabwysiadu safbwynt
cadarn at y rhai hynny sydd â throseddau
yn ymwneud a thrais.
Mae paragraff 6.5 o’r Polisi yn nodi y bydd cais am drwydded
fel rheol yn cael ei
wrthod os oes gan yr ymgeisydd
fater i’w ystyried am ymosodiad cyffredin a/neu ddifrod troseddol a /neu drosedd o dan Ddeddf Trefn Gyhoeddus
1986 sydd yn llai na 3 blynedd
cyn dyddiad y cais.
Mae rhan 13 yn ymwneud a mân
droseddau traffig ac yn cyfeirio yn
bennaf at droseddau sydd heb eu
rhestru ym mharagraff 12.2 o’r Polisi. Ystyriwyd paragraff 13.2 sydd yn amlygu
gall un gollfarn am fan drosedd
gyrru arwain at wrthod y cais. Nodir ym mharagraff
13.3 y gallai mwy nag un gollfarn am fân drosedd traffig neu fater arall i'w
ystyried arwain at wrthod cais, yn
enwedig os oes sawl collfarn
neu faterion eraill i’w hystyried ar
gyfer yr un drosedd, e.e. goryrru
CASGLIADAU
Daeth yr Is-bwyllgor i gasgliad bod digwyddiad 2007 yn ymwneud â throsedd
o drais gan dderbyn esboniad yr ymgeisydd o’r amgylchiadau
a arweiniodd at y gollfarn, sef ffrae
deuluol o dan amgylchiadau anodd. Derbyniwyd ei fod yn
edifar iawn am yr hyn ddigwyddodd a’i fod yn
cydnabod difrifoldeb y drosedd ac wedi bod yn agored a gonest
wrth drafod y cais.
Ystyriwyd hefyd argymhelliad y swyddogion y dylid caniatáu y cais. Roedd cyfnod llawer
hirach na 3 mlynedd wedi mynd
heibio ers y gollfarn ac nid oedd unrhyw drosedd
wedi ei chofnodi
ar ôl hynny.
Ni welai’r Is bwyllgor fod unrhyw reswm
dros beidio dilyn darpariaethau’r polisi yn yr achos
hwn.
Yng nghyd-destun y collfarnu
moduro, atgoffwyd yr ymgeisydd bod ganddo 6 pwynt ar ei
drwydded ac iddo gymryd gofal. Byddai
collfarn foduro arall yn golygu
gwrandawiad pellach.
Penderfynodd yr Is-bwyllgor o blaid
caniatáu y cais a bod yr ymgeisydd felly yn berson addas a phriodol i ddal trwydded
gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r
penderfyniad yn cael ei gadarnhau
yn ffurfiol drwy lythyr i’r
ymgeisydd.