skip to main content

Agenda item

Adroddiad Llafar gan Dewi A Morgan, (Pennaeth Cyllid)

Cofnod:

Rhoddwyd cyflwyniad gan y Pennaeth Cyllid, a gadarnhaodd bod llawer o’r wybodaeth yn newid yn barhaus, ac na fydd ffigwr Setliad Ariannol yr Awdurdod ar gael nes 14 Rhagfyr.  Nododd y Pennaeth Cyllid ei bod yn ymddangos y bydd y setliad yn llai gwael na’r hyn yr oedd wedi ofni, a rhannodd sleidiau gyda’r Fforwm.  Cyfeiriodd at faterion fydd yn cael effaith ar y setliad megis chwyddiant cyffredinol o 10/11%, a bod digartrefedd wedi cynyddu yn y Sir.

 

O ran sefyllfa ariannol y flwyddyn gyfredol (2022/23), cadarnhawyd na fydd grantiau ychwanegol, a disgwylir bydd gorwariant o £7.1 miliwn yn erbyn cyllideb y Cyngor.  Gan na ddisgwylir grantiau ychwanegol eleni, bydd rhaid llenwi’r bwlch trwy ddefnyddio balansau y Cyngor.  Cyfeiriodd y Pennaeth Cyllid at lythyr oedd eisoes wedi ei ddanfon at Benaethiaid ynglŷn â’r bwlch ariannol, ond nodwyd efallai y daw y bwlch i lawr fymryn.

 

Nodwyd bod ffigyrau cyfrifiad 2021 yn dechrau bwydo drwodd hefyd, ac mae llygedyn o obaith y bydd y setliad fymryn yn well na’r hyn oedd wedi ei ragweld.  Cadarnhawyd efallai y bydd posib prynu amser yn 2023/24 ond wrth gwrs mae hyn yn ddibynnol ar gyhoeddiad y Gweinidog.

 

Cyfeiriwyd at yr opsiynau i gau’r bwlch, ond mae yna waith balansio, yn enwedig gan fod y sefyllfa ariannol wedi newid mor annisgwyl ers dechrau’r flwyddyn ariannol gyfredol.

 

Cyfeiriwyd at y drefn blaenoriaethu, gan gadarnhau bod y Prif Weithredwr a’r Cyfarwyddwyr yn edrych ar y cynigion unigol o bob Adran, a bydd hyn yn cael ei ddilyn gan bob Pennaeth yn mynd gerbron y Tîm Arweinyddiaeth 19 a 20 Rhagfyr i drafod ymhellach. 

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Cyllid at fodelu toriadau o 1% i 6% ar gyfer ysgolion, ac er y gellir prynu amser, dim ond am gyfnod mae hyn yn bosib.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Cyllid at y drefn a ffigyrau dangosol gyda thoriad fflat ar draws y sectorau i gyd.  Nododd bod 6% yn gyfystyr â £4.8 miliwn, ond pwysleisiwyd mai ffigyrau dangosol ydy y rhain.

 

Cadarnhawyd yr angen am gyfarfod arall ddiwedd Ionawr/dechrau Chwefror yn ddibynnol ar

ddyddiaduron. 

 

Pwysleisiwyd mai y rhain yw y ffigyrau gwaethaf.

 

Diolchodd y Pennaeth Addysg am gyflwyniad da, eglur, gan nodi bod yn rhaid i bob Adran baratoi, ond nad oedd modd darogan y sefyllfa ar hyn o bryd.

 

Agorwyd y cyfarfod i gwestiynau / sylwadau :

 

Nododd y Cadeirydd mae un peth yw dangos ffigyrau, ond nid yw y ffigyrau yn dangos sefyllfa fregusrwydd plant sydd yn dod dros Covid.  Nododd y Pennaeth Addysg bod gwaith adfer y sefyllfa effaith Covid ar blant.  Yn ychwanegol, cadarnhaodd y Pennaeth Addysg ei fod wedi gorfod darlunio ardrawiad ar bobl Gwynedd wrth wneud cynigion i’r Tîm Arweinyddiaeth.  Nododd y Pennaeth Addysg yr angen i ystyried y toriadau cyffredinol ar draws y tri sector, er bod y dip demograffeg wedi taro y cynradd ac eto i ddod i’r uwchradd. 

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid bod pob cynnig yn cael ei ystyried, ar draws y Cyngor.

 

Cododd Cynrychiolydd yr Undeb gwestiwn ynglŷn ag arian wrth gefn y Cyngor, ynghyd ag unrhyw arian sydd wedi ei glustnodi, gan holi a yw hwnnw ar y bwrdd hefyd, gan ei bod yn bwysig ystyried hynny. Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid bod reserfau/arian wrth gefn a bydd modd edrych arnynt i lenwi bylchau a phrynu cymaint o amser a phosib.  Ychwanegodd bod reserfau ar gyfer prosiectau penodol a phenderfyniadau ar brosiectau wedi eu gwneud ers amser, ond bydd unrhyw dynnu yn ôl yn hollol dryloyw.  Nodwyd mai gwaith ataliol yw y ffordd i ateb gofynion rhai prosiectau.

 

Cwestiynodd un Pennaeth Uwchradd, beth bynnag y canran, mae rhai ysgolion o dan warchodaeth.  Effaith hyn fydd toriadau uwch i rai ysgolion a nododd yr angen i gadw sefyllfa pob ysgol ar wahân.

 

Nododd y Cynrychiolydd Undebau ei bryder am y sefyllfa recriwtio a chadw, ynghyd ai bryder am y negeseuon sydd yn cylchdroi.  Nododd yr angen i ddal i fyny yn syth ar ôl Covid, a bod hyn yn amseru gwael iawn.  Nodwyd bod tair ffordd amlwg o arbed arian sef dosbarthiadau mwy, lleihau ar ynni a thorri a staff a chwestiynwyd a yw ysgolion yn addas i hyn? 

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Cyllid at gynlluniau sydd weithiau yn cael eu hadnabod i ddod ag arian i mewn, ynghyd â’r Cynllun Rheoli Asedau a’r Cynllun Buddsoddi i Arbed, sydd dan drafodaeth yn y cylch hwn.

 

Cwestiynodd un Pennaeth Uwchradd a yw Buddsoddi i Arbed yn agored i Ysgolion unigol, a nododd y Pennaeth Cyllid y byddai yn gwirio hyn ac adrodd yn ôl.

 

Nododd un Pennaeth Cynradd bod arbedion yn anorfod, ond ei bod yn poeni am y plant, a’r cyfrifoldeb tuag at y staff, sydd yn rhoi straen ar ysgolion, a’r sgil effaith o golli Penaethiaid ac athrawon.

 

Gwnaeth y Cadeirydd y sylw, petai ysgol yn derbyn llai o ddisgyblion, y byddai angen rhoi llai o ddosbarthiadau a bydd hyn yn rhesymoli ysgolion.  Cadarnhaodd y Pennaeth Addysg bod y Cyngor wedi gorfod cymryd penderfyniadau anodd a bydd rhaid edrych ar ddemograffig a chynnig gwerth am arian.

 

Cwestiynwyd a ydy y cyllid y tu draw i ysgolion yn cael ei dorri yn yr un modd (e.e. GwE ac ADY), a chadarnhawyd eu bod.

 

Cadarnhawyd y bydd mwy o eglurder ar gael yn y cyfarfod sydd i’w drefnu ar gyfer diwedd Ionawr/dechrau Chwefror o ran gwariant yr Awdurdod ar gyfer 2022/23 ynghyd â’r setliad.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Addysg mai rhannu gwybodaeth oedd pwrpas y cyfarfod ac y bydd y sefyllfa yn fwy aeddfed erbyn Ionawr/Chwefror.  Erfyniodd ar Aelodau y Fforwm i gymryd y cyfle rhwng nawr a’r cyfarfod nesaf i drafod gyda cyd-benaethiaid.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a threfnu cyfarfod cyn gynted â phosib i drafod ymhellach, pan fydd y ffigyrau ar gael.