Agenda item

Codi adeilad i'w ddefnyddio fel masnachwr adeiladu (defnydd sui generis) a strwythurau iard cysylltiedig, mannau llwytho, maes parcio, cynigion tirlunio ynghyd â gwaith cysylltiedig.

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Dafydd Meurig

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i amodau cynllunio perthnasol yn ymwneud gyda:

 

            1. Amser

            2. Cydymffurfio gyda’r cynlluniau

            3. Rhaid gweithredu yn unol ag argymhellion yr adroddiad ecolegol

            4. Amodau Tirlunio

            5. Oriau Agor

            6. Sicrhau arwyddion Cymraeg / Dwyieithog

 

            Nodiadau

 

1.    Dŵr Cymru

2.    Uned Draenio Tir

 

Cofnod:

Codi adeilad i'w ddefnyddio fel masnachwr adeiladu (defnydd sui generis) a strwythurau iard gysylltiedig, mannau llwytho, maes parcio, cynigion tirlunio ynghyd â gwaith cysylltiedig

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer codi adeilad i’w ddefnyddio gan fasnachwr adeiladu (defnydd unigryw) ar Safle Busnes Strategol Rhanbarthol Bryn Cegin sydd  oddeutu 1km i’r de o ffin ddatblygu Canolfan Is Ranbarthol Bangor fel y’i diffinnir gan Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (CDLl) .

 

Bydd llawr gwaelod yr adeilad yn cynnwys man gwerthu, cownter masnach, swyddfa, toiledau, ystafell staff/ffreutur a warws gyda mynediad i gwsmeriaid trwy fynedfa dan do.

 

Cyflwynwyd y cais i bwyllgor oherwydd ei arwynebedd llawr, fe’i ddiffinir fel datblygiad mawr.

 

Adroddwyd bod defnydd fel ‘masnachwr adeiladau’ yn ddefnydd unigryw ac nad oedd yn  disgyn o dan unrhyw ddosbarth defnydd penodol ac felly nid oedd y cais yn gwbl unol â pholisi CYF1. Ystyriwyd polisi CYF5 sy’n caniatáu i dir sydd wedi cael ei warchod i ddefnyddiau B1, B2 a B8 mewn achosion arbennig cael ei rhyddhau i ddefnyddiau amgen. Er bod ‘masnachwr adeiladu’ yn ddefnydd unigryw, mae hefyd yn ddefnydd priodol y disgwylir i’w weld ar stad busnes / diwydiannol. Ategwyd bod y safle yn wag gyda digon o gyfleoedd ar gyfer busnesau B1, B2 a B8 eraill i ddatblygu ar y safle.

 

Ystyriwyd, oherwydd pwysigrwydd y cynllun ar gyfer sicrhau datblygiad busnes cychwynnol ar safle o strategol bwys sydd wedi bod yn wag ers blynyddoedd maith, bod cyfiawnhad eithriadol dros ganiatáu’r datblygiad arfaethedig ar safle cyflogaeth ddynodedig yn unol â Pholisi PS13, CYF1 a CYF5 y CDLl

 

Yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl, cydnabuwyd pryderon a gyflwynwyd gan Wasanaeth Gwarchod y Cyhoedd ynghylch ymyrraeth sŵn a all ddeillio o’r safle gan achosi niwsans cyhoeddus i’r trigolion. Mewn ymateb, derbyniwyd eglurhad pellach gan yr ymgeisydd o natur defnydd y safle. Ategwyd, bod rhaid cydnabod bod y safle yn un diwydiannol dynodedig ac y gall y lleoliad fod yn un ar gyfer defnydd diwydiannol llawer mwy dwys a swnllyd. O gadw at yr oriau agor ac wrth ystyried y sŵn cefndirol o natur brysur y ffyrdd gerllaw ac agosatrwydd stad ddiwydiannol bresennol Llandygai, ni ystyriwyd y bydd y bwriad yn debygol o greu effaith niweidiol ychwanegol arwyddocaol. (Nodwyd bod rheoliadau y tu allan i'r maes cynllunio ar gyfer rheoli sŵn sy'n achosi niwsans cyson i drigolion lleol).

 

Yng nghyd-destun materion trafnidiaeth, ac yn sgil derbyn cynllun safle diwygiedig, nid oedd gan yr Uned Trafnidiaeth unrhyw wrthwynebiad i’r cynllun ac y byddai’r datblygiad yn defnyddio rhwydwaith ffyrdd a ddyluniwyd ar gyfer y stad ddiwydiannol i ymdopi gyda lefelau trafnidiaeth.

 

Yng nghyd-destun materion ieithyddol, ystyriwyd, oherwydd byddai'r datblygiad yn cynnig y cyfle i gadw swyddi presennol a chreu swyddi newydd addas ar gyfer pobl leol, gan gynnig y cyfle iddynt aros yn eu cymuned, y gall y datblygiad fod yn gadarnhaol i sefyllfa’r iaith yn lleol – y cais felly yn gyson gydag amcanion polisi PS 1.

 

Ni ystyriwyd fod y bwriad yn groes i unrhyw bolisi cynllunio perthnasol o fewn y CDLl a bod y datblygiad a gynigiwyd yn briodol ar gyfer y safle ac yn debygol o fod o bwysigrwydd strategol i’r Sir fel man cychwyn ar gyfer datblygiadau busnes ar y safle. Ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn debygol o achosi effeithiau andwyol annerbyniol i drigolion gerllaw na’r gymuned yn gyffredinol.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:

·         Bod y cais yn un ar gyfer datblygu plot ar safle Parc Bryn Cegin ym Mangor trwy godi adeilad i’w ddefnyddio fel masnachwr adeiladu gan gwmni lleol Huws Gray.

·         Bod y cwmni wedi ehangu dros y blynyddoedd diwethaf a bellach yn un o’r cwmnïau masnachwyr adeiladu annibynnol mwyaf ym Mhrydain gyda phencadlys yn Llangefni

·         Bod ganddynt safle presennol ym Mangor wedi ei lleoli ar Stad Ddiwydiannol Llandygai ond byddai’r bwriad yn gweld Huws Gray yn adleoli i Barc Bryn Cegin - y safle presennol yn atal i’r cwmni ehangu gan nad oes digon o le i ganiatáu hynny

·         Byddai’r uned yn darparu arwynebedd llawr ychwanegol; bydd 3 swydd llawn amser ychwanegol yn cael eu creu yn ogystal â holl staff presennol (17 ohonynt) yn symud i’r safle newydd.

·         Bod y staff sydd yn gyflogedig ym Mangor gan Huws Gray i gyd yn bobl leol gyda’r rhan fwyaf ohonynt yn siaradwyr Cymraeg. Disgwylir i’r swyddi ychwanegol fyddai’n cael eu creu, gael eu llenwi gan bobl leol, gan gynnwys siaradwyr Cymraeg. Angen sicrhau bod y sgiliau angenrheidiol ar gael yn lleol.

·         Bod safle’r cais, a rhan helaeth o Barc Bryn Cegin, wedi bod yn wag ers amser er bod caniatâd amlinellol wedi ei roi yn 2005 ar gyfer datblygu’r Parc; bod hyn yn amlygu  nad oedd galw sylweddol wedi bod am ddefnydd B1, B2 a B8 dros y blynyddoedd, ac oni bai bod yna rhyw fath o ddatblygiad yn digwydd ar y safle fyddai’n rhoi hwb i ddatblygiad y Parc, efallai mai gorwedd y wag am flynyddoedd fydd ei stori eto. 

·         Bod asesiad y swyddog yn cadarnhau y gall y bwriad gael ei gefnogi o ran egwyddor o dan bolisi CYF 5.

 

c)    Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais yn unol ar argymhelliad

 

d)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:

·         Croesawu’r bwriad o ail leoli

·         Cefnogi busnes sydd i ddod a swyddi i’r ardal

 

PENDERFYNWYD: Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i amodau cynllunio perthnasol yn ymwneud gyda:

 

            1. Amser

            2. Cydymffurfio gyda’r cynlluniau

            3. Rhaid gweithredu yn unol ag argymhellion yr adroddiad ecolegol

            4. Amodau Tirlunio

            5. Oriau Agor

            6. Sicrhau arwyddion Cymraeg / Dwyieithog

 

            Nodiadau

 

1.    Dŵr Cymru

2.    Uned Draenio Tir

 

 

Dogfennau ategol: