Agenda item

Dymchwel rhan helaeth o'r Ganolfan Ymwelwyr Mynydd Gwefru presennol(ar wahân i'r is-orsaf drydan presennol), newid defnydd y safle i ardal o laswelltir, allosod goleuadau a darparu gwefr bwyntiau ar gyfer cerbydau i'r maes parcio presennol ynghyd a thirlunio cysylltiedig.

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Kim Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau isod:-

 

  1. 5 mlynedd.
  2. Yn unol â’r manylion diwygiedig a gyflwynwyd gyda’r cais.
  3. Cydymffurfio gydag argymhellion o fewn y dogfennau Adroddiad Ecolegol a Datganiad Coedyddiaeth diwygiedig.
  4. Cydymffurfio gydag argymhellion yr Asesiad Canlyniadau Llifogydd diwygiedig.
  5. Amod ni fydd unrhyw dir yn codi uwchlaw lefelau presennol y ddaear.
  6. Cyflwyno Datganiad Dull Dymchwel i’w gytuno yn ysgrifenedig gan yr ACLL ac i gynnwys materion fel lefelau sŵn, oriau gweithio ynghyd a mesurau lliniaru perthnasol.
  7. Diogelu asedau Dwr Cymru drwy gyflwyno Datganiad Dull Asesiad Risg i’w gytuno’n ysgrifenedig gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol
  8. Angen i’r ymgeisydd ymgymryd ag arolwg ffotograffeg o’r adeiladwaith presennol.
  9. Angen ymgymryd ag archwiliad desg i asesu’r risg llygredd dichonol ar y safle.

 

Nodyn: Bydd yn ofynnol derbyn Trwydded Rhywogaeth a Warchodir gan Ewrop (Trwydded EPS) ar gyfer y datblygiad hwn

Cofnod:

Dymchwel rhan helaeth o'r Ganolfan Ymwelwyr Mynydd Gwefru presennol (ar wahân i'r is-orsaf drydan presennol), newid defnydd y safle i ardal o laswelltir, allosod goleuadau a darparu gwefr bwyntiau ar gyfer cerbydau i'r maes parcio presennol ynghyd a thirlunio cysylltiedig.

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio y gohiriwyd y cais hwn ym Mhwyllgor Mehefin, 2022 er mwyn galluogi’r ymgeisydd  i drafod dyfodol y safle a’r defnyddiau amgen a fyddai’n bosibl oddi fewn iddo gyda’r Aelod Lleol ynghyd a’r gymuned.

 

Yn dilyn trafodaethau helaeth, nid yw’r ymgeisydd bellach yn bwriadu symud ymlaen gyda’r cynllun gwreiddiol o greu maes parcio newydd ond, yn hytrach newid defnydd y safle i ardal o laswelltir; creu rhodfa o’r maes parcio presennol er mwyn gwasanaethu’r is-orsaf drydan; allosod goleuadau a darparu gwefr bwyntiau ar gyfer cerbydau i'r maes parcio presennol ynghyd a thirlunio cysylltiedig.

 

Byddai’r ardal o laswelltir yn cael ei ddefnyddio ar gyfer defnydd a digwyddiadau cymunedol achlysurol ynghyd a gosod strwythurau dros dro.

 

Er mwyn cefnogi’r cais cyflwynwyd y dogfennau diwygiedig canlynol - Datganiad Dylunio a Mynediad; Strategaeth Draenio; Asesiad Risg Llifogydd; Datganiad Cynllunio Goleuo Allanol; Adroddiad Ecolegol a Datganiad Coedyddiaeth. Nodir yma nid yw’r Datganiad Trafnidiaeth wedi cael ei ddiwygio gan nad oes oblygiadau diogelwch ffyrdd i’r cynllun diwygiedig.

 

Adroddwyd bod y bwriad yn dderbyniol yn unol ag ail ran o Bolisi ISA 2 o’r CDLL (gyda’r polisi yn cael ei gefnogi gan y ddogfen Canllawiau Cynllunio Atodol: Newid Defnydd Cyfleusterau a Gwasanaethau Cymunedol, Safleoedd Cyflogaeth ac Unedau Manwerthu, 2021) yn datgan bydd y Cyngor yn gwrthsefyll colled neu newid defnydd cyfleuster cymunedol presennol drwy gydymffurfio gydag o leiaf un o’r meini prawf perthnasol. Nid oedd gwrthwynebiadau i faterion gweledol, bioamrywiaeth na llifogydd wedi eu derbyn ac fe roddwyd ystyriaeth lawn i’r sylwadau a dderbyniwyd mewn ymateb i’r ddau gyfnod ymgynghori ac i ymatebion a dderbyniwyd gan yr ymgynghorwyr statudol. 

 

Ni ystyriwyd fod y bwriad diwygiedig yn groes i bolisïau lleol na chenedlaethol - yn dderbyniol yn ddarostyngedig ar gynnwys amodau priodol.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol:

·         Nad oedd yn gwrthwynebu’r bwriad

·         Yn croesawu’r newid i laswelltir  - modd cynnal digwyddiadau cymunedol

 

c)     Cynigiwyd  ac eiliwyd caniatáu y cais

 

PENDERFYNWYD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau isod:-

 

1.         5 mlynedd.

2.         Yn unol â’r manylion diwygiedig a gyflwynwyd gyda’r cais.

3.         Cydymffurfio gydag argymhellion o fewn y dogfennau Adroddiad Ecolegol a Datganiad Coedyddiaeth diwygiedig.

4.         Cydymffurfio gydag argymhellion yr Asesiad Canlyniadau Llifogydd diwygiedig.

5.         Amod ni fydd unrhyw dir yn codi uwchlaw lefelau presennol y ddaear.

6.         Cyflwyno Datganiad Dull Dymchwel i’w gytuno yn ysgrifenedig gan yr ACLL ac i gynnwys materion fel lefelau sŵn, oriau gweithio ynghyd a mesurau lliniaru perthnasol.

7.         Diogelu asedau Dwr Cymru drwy gyflwyno Datganiad Dull Asesiad Risg i’w gytuno’n ysgrifenedig gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol

8.         Angen i’r ymgeisydd ymgymryd ag arolwg ffotograffeg o’r adeiladwaith presennol.

9.         Angen ymgymryd ag archwiliad desg i asesu’r risg llygredd dichonol ar y safle.

 

Nodyn: Bydd yn ofynnol derbyn Trwydded Rhywogaeth a Warchodir gan Ewrop (Trwydded EPS) ar gyfer y datblygiad hwn.

 

Dogfennau ategol: