Agenda item

Ffurfio cae chwaraeon 3G maint llawn gyda ffens 4.5 medr o uchder cysylltiedig, rhwystr acwstig 4 medr o uchder, llif oleuadau 6 x 15 medr o uchder, lloches timau, llawr caled a clawdd tirlunio gyda phlanhigion

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Ioan Thomas

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Caniatáu – amodau

 

1.         Dechrau gwaith o fewn 5 mlynedd.

2.         Cyfyngu oriau agor i 21:00 awr.

3.         Tirlunio.

4.         Cytuno manylion lloches chwaraewyr.

5.         Manylion archeolegol.

6.         Unol a'r cynlluniau ynghyd a dogfennau technegol.

7.         Cytuno lleoliad y cynhwysydd storio.

 

Cofnod:

Ffurfio cae chwaraeon 3G maint llawn gyda ffens 4.5 medr o uchder cysylltiedig, rhwystr acwstig 4 medr o uchder, llif oleuadau 6 x 15 medr o uchder, lloches timau, llawr caled a chlawdd tirlunio gyda phlanhigion

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd i ddatblygu cae chwarae 3G maint llawn ar safle o fewn terfynau'r ysgol a ffin datblygu'r dref. Byddai lleoliad y cae 3G yn terfynu ar adeilad yr ysgol i’r de orllewin ac yn wynebu rhes o dai ar wahân ac ardal breswyl i’r gorllewin. Byddai ochr gogledd dwyreiniol y cae yn terfynu ar gae chwaraeon presennol a’r ochr dwyreiniol yn wynebu adeilad Canolfan Hamdden Arfon.

 

Adroddwyd bod cyfiawnhad a gwybodaeth ychwanegol wedi ei gyflwyno gyda’r cais oedd yn amlinellu cyfraniad sylweddol bydda’i bwriad yn ei wneud i ddatblygu cyfleusterau pêl droed yn gymunedol ac yn rhanbarthol.

 

Cyflwynwyd y cais i’r pwyllgor oherwydd bod maint y safle yn fwy na hanner hectar.

 

Tynnwyd sylw at sylwadau Uned Gwarchod y Cyhoedd oedd wedi datgan rhywfaint o bryder i’r bwriad ond nid oedd gwrthwynebiad i’r bwriad yn ddarostyngedig i amodau.  Bu i’r Gwasanaeth Cynllunio hefyd dderbyn gohebiaeth gan drigolion lleol yn gwrthwynebu y cais yn bennaf oherwydd effaith cynnydd mewn sŵn a gosod golau. Ymhellach i hyn, derbyniwyd datganiad gan yr ymgeisydd yn cynnig lleihau oriau agor i 21.00 awr yn hytrach na 22:00 awr yn ystod yr wythnos a byddai modd cynnwys amod priodol pe byddai’r cais yn cael ei ganiatáu. Er yn  cydnabod y sylwadau a dderbyniwyd, ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn cael effaith andwyol ar fwynderau preswyl a gydag amodau, yn cwrdd gydag anghenion polisi PCYFF 2.

 

Tynnwyd sylw at sylwadau a dderbyniwyd gan Gwasanaeth Cynllunio Archeolegol Gwynedd ar y bwriad oedd yn nodi y byddai’r datblygiad angen gwaith aflonyddu’r tir ar dir sydd heb ei ddatblygu llawer ac mewn tirwedd ble mae potensial da am olion hanesyddol. Byddai unrhyw olion archeolegol yn gwella’r ddealltwriaeth ehangach o’r ardal yn arbennig mewn perthynas â meddiannaeth gynnar yr ardal a’i gyffiniau.  Roedd y Gwasanaeth Cynllunio Archeolegol Gwynedd yn argymell gosod amod i wneud rhaglen o waith archeolegol ar gyfer y datblygiad yn ei gyfanrwydd ac o wneud hynny byddai’r bwriad yn dderbyniol o ran Polisi AT 4 CDLL.

 

O ystyried y materion cynllunio perthnasol, ystyriwyd fod y datblygiad arfaethedig yn cwrdd ag amcanion CDLl drwy gynnig datblygiad o ddyluniad safonol, cyfoes a phriodol i'w leoliad, a fydd yn cyfrannu’n sylweddol tuag at welliannau i gyfleusterau chwaraeon lleol. Cydnabuwyd y pryderon a dderbyniwyd, fodd bynnag, roedd tystiolaeth arbenigol yn amlygu na fydd yr effeithiau yn sylweddol andwyol ac roedd yr ymgeisydd wedi cyflwyno mesurau lliniaru fel rhan o’r cais.

 

b)    Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais

 

c)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:

·         Bod angen cyfleusterau modern i blant yr  ardal

·         Bod angen cae maint llawn - yn gaffaeliaid i’r ysgol ac i’r ardal leol

·         Angen ystyried ‘effaith sylweddol’ y llif oleuadau

·         Angen sicrahu bod y ‘shock absorbers’ ar y ffens (rhwng y ffens a’r polyn) yn cael eu monitro yn rheolaidd – gall y sŵn, heb y shock absorber’ aflonyddu trigolion cyfagos.

 

Mewn ymateb i sylw yn ymwneud a sŵn, nodwyd bod gan Gwarchod y Cyhoedd bwerau gorfodi rheoli sŵn petae niwsans cyhoeddus yn deillio o’r bwriad.

 

PENDERFYNWYD: Caniatáu

Amodau:

1.         Dechrau gwaith o fewn 5 mlynedd.

2.         Cyfyngu oriau agor i 21:00 awr.

3.         Tirlunio.

4.         Cytuno manylion lloches chwaraewyr.

5.         Manylion archeolegol.

6.         Unol a'r cynlluniau ynghyd a dogfennau technegol.

7.         Cytuno lleoliad y cynhwysydd storio.

 

Dogfennau ategol: