Agenda item

Cyflwyno adroddiad Arweinydd y Cyngor.

Penderfyniad:

Mabwysiadu Cynllun Cyngor Gwynedd 2023-28.

 

Cofnod:

Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, adroddiad yn gwahodd y Cyngor i fabwysiadu Cynllun Cyngor Gwynedd 2023-28.  Manylodd hefyd ar y cyd-destun gwleidyddol sy’n sail i’r holl gynllun.  Nododd:-

 

·         I gyflawni’r cynlluniau, bod rhaid cael adnoddau digonol, a bod y pwysau ariannol sylweddol ar y Cyngor o ganlyniad i chwyddiant a’r argyfwng costau byw yn cael effaith ar ein gallu i ddarparu gwasanaethau.

·         Y dymunai wneud yn berffaith glir mai cyfrifoldeb Llywodraeth San Steffan yn bennaf yw hyn, ond bod neges yma hefyd i’r Gweinidogion Llafur yng Nghaerdydd, sy’n rhannu’r un egwyddorion sylfaenol â ni, heblaw am y ffaith ein bod ni’n dymuno gweld ein cenedl yn rheoli ein gwlad ein hunain.

·         Bod y Gweinidogion yn Llundain yn sarhau Llywodraeth Cymru, ein setliad datganoledig a’n gweinidogion, ac yn ein trin gyda sen.  Roedd y Levelling-Up Fund a’r Shared Prosperity Fundyn enghreifftiau clir o hyn.  Rhoddwyd addewid i ni yn flaenorol y byddai Cymru yn derbyn ‘not one penny less of European money, ond byddem yn derbyn £1.2bn yn llai dros y 3 blynedd nesaf.  Nid oedd yna unrhyw beth yn y ‘Shared Prosperity Fund sy’n fwy na’r hyn rydym ni’n haeddu – ein harian ni ydyw!

·         Y bu awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru yn paratoi am flynyddoedd ar gyfer gwneud buddsoddiad rhanbarthol ar gyfer y cyfnod wedi i’r cronfeydd Ewropeaidd ddod i ben, ond roedd Llywodraeth San Steffan wedi diystyru’r cynlluniau hynny yn llwyr.  Nid oedd ganddynt gynllun hirdymor ar gyfer dosbarthu’r arian, ac nid oedd yn glir sut roeddent yn dod i benderfyniad ar nifer o’r cronfeydd yma.

·         Y bu Cyngor Gwynedd yn ffodus o gael arian ar gyfer yr ardaloedd llechi, ond ni lwyddwyd i gael arian ar gyfer ffordd osgoi Llanbedr, ac roedd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, yn ei gyhuddo o fynd y tu ôl i’r drefn ddatganoledig yn y cais i’r gronfa i gael ffordd osgoi i Lanbedr.  Nid oedd am ymddiheuro am hynny, gan mai ein harian ni ydoedd!

·         Y dymunai alw ar ei gyfeillion yn y Blaid Lafur yng Nghymru, sy’n rhannu’r un egwyddorion sylfaenol â ni o ran tegwch cymdeithasol, i sefyll i fyny am unwaith dros Gymru, a gwrthod mynd ar ofyn Llundain.

·         Iddo wneud datganiad yn y dyddiau diwethaf ynglŷn â gwyliau banc, a’i bod yn sarhaus mai Cymru yw’r unig ran o’r wladwriaeth ddatganoledig sydd heb yr awdurdod i benderfynu ar ei gwyliau banc ei hun.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r Rheolwr Gwasanaeth Cefnogi Busnes a’i dîm am y gwaith o baratoi Cynllun y Cyngor.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.  Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Nodwyd bod yr uchelgais a’r weledigaeth i’w gweld yn glir drwy’r cynllun cyfan.

·         Nodwyd bod yna ddyheadau clodwiw yma, ond dyheadau’n unig, a phwysleisiwyd y dylai cynllun gynnwys strategaeth, amserlen a meini prawf i fesur llwyddiant.  Mewn ymateb, eglurwyd bod yna brosiectau yma, ac y bydd yna fesuryddion ac adrodd yn ôl ar y prosiectau penodol hynny. 

·         Mewn ymateb i gwestiwn, nododd yr Arweinydd ei fod o’r farn bod y penderfyniad i roi Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig unwaith eto yn mynd i roi her ychwanegol i’r Cyngor o ran gwireddu’r freuddwyd o Wynedd Ofalgar.  Nododd fod y cydweithrediad rhwng y Cyngor a’r Bwrdd Iechyd yn greiddiol i gyflawni’r gwaith yn effeithiol, a’i fod yn gobeithio y byddai Cadeirydd newydd y Bwrdd Iechyd, Dyfed Edwards (sef cyn-Arweinydd y Cyngor hwn) yn ymdrin â hyn yn ei ffordd resymegol ac egwyddorol ei hun.  Roedd y dasg oedd yn wynebu’r Cadeirydd newydd yn enfawr, ac roedd newid corff fel hyn yn mynd i gymryd blynyddoedd, ond o leiaf roedd yna gydnabyddiaeth o’r broblem, ac roedd yn rhaid datrys y broblem ar ben y corff cyn gallu gweld unrhyw newid yn y ddarpariaeth ei hun.  Nododd ymhellach fod yna gwestiwn ynglŷn â sut rydym yn darparu iechyd a gofal, a bod y Llywodraeth wedi comisiynu grŵp arbenigol i lunio adroddiad ac argymhellion ynglŷn â’r camau tuag at greu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol, a mawr obeithid y byddai modd i’r Cyngor hwn gyfrannu i’r drafodaeth honno.  Nododd hefyd ei fod yn credu y gallai awdurdodau lleol gymryd mwy o ran wrth ddarparu gofal cynradd.

·         Gofynnwyd am sicrwydd y bydd cynlluniau, megis y cartref nyrsio newydd ar safle Penrhos, Pwllheli, sy’n ddibynnol ar gydweithio gyda’r Bwrdd Iechyd, yn mynd yn eu blaenau.  Mewn ymateb, nododd y Prif Weithredwr fod ganddo gyfarfod heddiw gyda Phrif Weithredwr Dros Dro'r Bwrdd Iechyd i geisio’r union sicrwydd yma.  Roedd yna 3 prosiect sylweddol lle mae’r Cyngor yn ddibynnol ar gydweithio gyda’r Bwrdd Iechyd, ynghyd â 6 prosiect arall dan Wynedd Ofalgar sy’n mynd i fod yn ddibynnol i raddau gwahanol ar gydweithio gyda’r Bwrdd Iechyd.  Nododd hefyd fod cyfarfod yn cael ei raglennu gyda Phrif Weithredwr a Chadeirydd newydd y Bwrdd Iechyd, yr Arweinydd ac yntau.

·         Croesawyd y ffaith bod y Prif Weithredwr yn mynd i gyfarfod Prif Weithredwr y Bwrdd Iechyd i geisio sicrwydd ynglŷn â’r cynlluniau sy’n ddibynnol ar gydweithio rhwng y ddau gorff.  Nododd yr aelod hefyd ei fod wedi ceisio darganfod faint o arian mae’r Bwrdd Iechyd yn ei gael i rannu gyda’r cynghorau yng Ngogledd Cymru, ond wedi methu dod o hyd i’r wybodaeth.  Mewn ymateb, nododd yr Arweinydd fod Penrhos yn adnodd pwysig iawn i drigolion Llŷn, Eifionydd a Meirionnydd, ac y byddai’r Cyngor a’r Bwrdd Iechyd yn gwneud pob ymdrech i gyflawni ar y cyd.  Ychwanegodd fod staff rheng flaen y Bwrdd Iechyd yn cyflawni gwyrthiau dan amgylchiadau anodd iawn, ac y dymunai gyfleu’r neges i’r staff ein bod yn llwyr gefnogol ohonynt, ac yn mawr obeithio y bydd yna newid yn yr arweinyddiaeth fydd o gymorth iddynt yn y pen draw.

·         Diolchwyd i’r Gang Cymunedol am eu gwaith ym Mhen Llŷn, ond galwyd am ragor o waith agor ffosydd a glanhau arwyddion ffyrdd yn yr ardal.

·         Nodwyd bod yr ymateb i’r ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynllun yn warthus (643 yn unig mewn sir sydd â phoblogaeth o dros 100,000) ac ni chredid bod yr ymateb yn ddigonol i fedru dod i unrhyw gasgliadau ystyrlon.  Roedd y cynllun yn dweud y byddwn yn ‘ceisio’ cyflawni, ond roedd angen gwneud mwy na hynny.  Cyfeiriwyd at enghreifftiau o golli gwasanaethau yng nghefn gwlad, megis trafnidiaeth, ac awgrymwyd mai cynllun Llywodraeth Cymru yn y pen draw yw cael pobl i adael cefn gwlad am y trefi.  Mewn ymateb, nododd yr Arweinydd ei fod yn rhannu gofidiau’r aelod, ac yn gwneud ei orau i fod yn llais dros gefn gwlad Cymru drwy Fforwm Gwledig Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac fel Cadeirydd Uchelgais y Gogledd.

·         Croesawyd y ffaith bod y cynllun yn cyfeirio at ymestyn cyfleoedd chwarae a chymdeithasu ar gyfer plant a phobl ifanc y sir.  Nodwyd ei bod yn bwysig cofio mai pobl ifanc sydd wedi dioddef fwyaf yn ystod y cyfnod Cofid, gyda phroblemau iechyd a llawer o broblemau eraill ar gynnydd, ac edrychid ymlaen at weld y ddarpariaeth gymdeithasol yma yn cael ei hymestyn dros y 5 mlynedd nesaf.

·         Nododd aelod na allai gefnogi Cynllun y Cyngor oherwydd na allai weld bod y ffaith ein bod yn ceisio taclo tlodi yn mynd law yn llaw â pholisïau sero net erbyn 2030.  Bellach, roedd canran sylweddol o filiau trydan pob un o drigolion Gwynedd yn mynd i dalu am yr ardoll gwyrdd ar y targed o sero net.  Hefyd, os anelu am sero net, roedd angen i’r Cyngor chwilio am gerbydau newydd ar gyfer ei fflyd sydd ddim yn defnyddio batris, gan fod yna brinder metalau sy’n cael eu defnyddio i gynhyrchu batris.  Roeddem wedi cau ein pyllau glo a’n gweithfeydd dur gan nad oedd y math yma o ddiwydiant yn ffitio’r agenda gwyrdd, ond bellach yn prynu’r adnoddau hynny yn ôl gan wledydd megis Tsieina ac India.  Os mynd i lawr y lôn o sero net, ni fydd yna wrtaith ar gael ar gyfer amaethwyr, a gwelwyd prinder llysiau a ffrwythau eisoes.  Brexit sy’n cael y bai am hyn oll, ond nid Brexit yw’r bai, eithr y ffaith bod trydan a gwrtaith yn rhy ddrud.  Rydym yn llwgu ein pobl ein hunain ac yn eu twyllo drwy gynhyrchu'r math yma o gynlluniau, heb ystyried y wyddoniaeth sydd ynghlwm â’r hyn sy’n mynd ymlaen yn y byd.

·         Gan gyfeirio at y bwriad i lunio cynlluniau dalgylch er mwyn helpu i osgoi / ymateb i fygythiadau [llifogydd] presennol a chynyddol i’r dyfodol (tudalen 26 o’r cynllun), mynegwyd pryder y gallai’r ffaith bod y math yma o waith yn digwydd ar y cyd gyda Chyfoeth Naturiol Cymru gael ei ddefnyddio fel esgus dros wneud dim yn y byr dymor.  Cyfeiriwyd at enghreifftiau o bontydd lle mae diffyg carthu’r afonydd, a charthu o gwmpas y pontydd eu hunain, yn creu problemau mawr o ran sylfeini’r pontydd hynny, a mynegwyd dymuniad i weld y cynlluniau dalgylch yn cael eu gweithredu, yn hytrach na’u bod yn gynlluniau ar silff.  Nodwyd hefyd y dylid rhoi pwysau garw ar Gyfoeth Naturiol Cymru i fynd i’r afael â’r materion yma yn y tymor byr.  Mewn ymateb, nododd y Prif Weithredwr ei fod yn cytuno’n llwyr o ran rhoi pwysau ar ein partneriaid i weithredu yn y maes yma, a’i fod yn falch o’r cydweithio rhwng y Cyngor a Chyfoeth Naturiol Cymru, o fewn eu gallu a’u cyllidebau.  Nododd ymhellach nad oedd y Cyngor yn cynhyrchu cynlluniau i’w rhoi ar silff, gan gyfeirio at y cynllun sydd wedi datrys y problemau llifogydd yn Llanberis fel enghraifft o hynny.

·         Mynegwyd gobaith y byddai unrhyw gynlluniau yn hafal drwy Wynedd gyfan.  Cyfeiriwyd at y rhwydwaith llwybrau beicio / cerdded ledled y sir, a nodwyd ei bod yn anodd iawn cael arian ar gyfer De Meirionnydd, e.e. llwybr wrth ochr yr A470 rhwng Mallwyd a Dinas Mawddwy, sy’n hynod beryglus i gerddwyr a beicwyr ar hyn o bryd.  Nododd aelod arall fod y gwaith o greu llwybr beicio yn Llanelltyd yn digwydd ar hyn o bryd, ac y byddai’r llwybr wedi’i gwblhau ymhen tua 9 wythnos.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu Cynllun Cyngor Gwynedd 2023-28.

 

Dogfennau ategol: