Sefydlu maes carafanau teithiol (19 uned) gyda bloc
toiledau a gwaith cysylltiedig
AELOD
LLEOL: Cynghorydd Rhys Tudur
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: gohirio er mwyn
cynnal ymweliad safle
Cofnod:
Sefydlu
maes carafanau teithiol (19 uned) gyda bloc toiledau a gwaith cysylltiedig
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr
a)
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd ar gyfer newid
defnydd tir amaethyddol, i sefydlu safle carafanau teithiol i 19 uned, ymestyn
adeilad presennol i greu bloc toiledau a gwaith cysylltiedig ar dir yn Nhŷ’n Lôn, Afonwen. Byddai’r unedau teithiol wedi eu
lleoli o amgylch terfynau’r cae i’r gogledd orllewin o’r eiddo.
Eglurwyd bod Datganiad
Cynllunio a datganiad cryno am sut roddwyd ystyriaeth i’r Iaith Gymraeg wedi eu
cyflwyno gyda’r cais gwreiddiol ynghyd ag Asesiad Ecolegol Cychwynnol, Arolwg
Botanegol ac Arolwg Moch Daear a Chynllun mesurau lliniaru bywyd gwyllt yn
ddiweddarach. Roedd y cynlluniau gwreiddiol yn gofyn am floc toiledau newydd,
ond fe gyflwynwyd cynlluniau diwygiedig (12 Rhagfyr 2022) yn dangos bwriad i
ymestyn adeilad modurdy presennol ar y safle i greu bloc toiledau/cyfleusterau
yn eu lle.
Cyflwynwyd y cais i’r
Pwyllgor Cynllunio gan fod safle’r cais yn fwy na 0.5 hectar o faint.
Nodwyd mai Polisi TWR 5 o’r
Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (CDLl)
oedd y polisi perthnasol ar gyfer caniatáu datblygiadau ar gyfer carafanau
teithiol. Eglurwyd bod y polisi yn gosod cyfres o feini prawf a chyfeiriwyd at
faen prawf 1 sy’n datgan y dylai unrhyw ddatblygiad carafanau teithiol newydd
fod o ansawdd uchel o ran dyluniad, gosodiad ac edrychiad; wedi’i guddio’n dda
gan nodweddion presennol y dirwedd a / neu mewn lle gellid cydweddu’r unedau
teithiol yn hawdd i’r dirwedd mewn modd nad yw’n peri niwed sylweddol i’w
hansawdd weledol.
Adroddwyd y byddai’r bwriad
arfaethedig wedi ei leoli mewn cae gwastad sydd â choed aeddfed ar y terfynau
ac felly’n guddiedig o leoliadau cyhoeddus. Ategwyd bod bwriad i atgyfnerthu
sgrinio’r safle trwy blannu gwrych newydd o goed cynhenid fel ffin orllewinol
newydd i wahanu’r cae carafanau o’r cae ehangach. Nid yw’r safle o fewn yr
Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) nac o fewn Ardal Tirwedd Arbennig
ac ni ystyriwyd y byddai’r datblygiad yn achosi niwed arwyddocaol i ansawdd y
dirwedd. Mae’r bwriad wedi ei ddylunio i gwrdd â gofynion trwyddedu o safbwynt
gofod a chyfleusterau ac felly derbyniwyd fod y datblygiad yn un safonol.
Nodwyd bod ail faen prawf
Polisi TWR 5 yn gofyn osgoi gormodedd o leiniau caled. Yn yr achos hwn ni
ddangosir unrhyw leiniau caled i’r carafanau – y trac graean sydd yn arwain i
fyny’r cae o’r fynedfa yw’r unig lain caled ac ystyriwyd y gall y trac
ymdoddi’n rhwydd i’r dirwedd. Gan na ddangosir lleiniau caled, ystyriwyd y byddai’n
addas gosod amod bod unrhyw leiniau caled yn cael ei gyfyngu i leiniau’r
carafanau yn unig.
Yng nghyd-destun y trydydd
maen prawf sy’n gofyn sicrhau mai unedau teithiol yn unig fyddai’n defnyddio’r
safle, amlygwyd y gellid rheoli hynny drwy amod cynllunio priodol.
Yng
nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl, ar sail pellter a natur guddiedig
y cae, ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn cael effaith andwyol sylweddol nac
achosi aflonyddwch ar unrhyw drigolion cyfagos. Ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol
o agwedd Polisi PCYFF 2 y CDLl sy’n ymwneud ag
amddiffyn mwynderau defnyddwyr tir cyfagos.
Yng nghyd-destun
trafnidiaeth a mynediad, nodwyd na fyddai angen gwneud addasiadau i’r fynedfa er
gwasanaethu’r bwriad. Ni dderbyniwyd unrhyw ymateb gan yr Uned Drafnidiaeth i’r
cais.
Nodwyd bod yr Uned
Bioamrywiaeth wedi cadarnhau fod yr adroddiadau a dderbyniwyd gan yr ymgeisydd
(Arolwg Botanegol, ac Arolwg Moch Daear a Chynllun Mesurau Lliniaru Bywyd
Gwyllt) wedi eu gwneud i safon dda gan gynghori y dylai’r bwriad ddilyn y
mesurau lliniaru a gwelliannau a gynigiwyd.
Wedi ystyried yr
holl faterion cynllunio perthnasol gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a
chenedlaethol yn ogystal â sylwadau a dderbyniwyd, ystyriwyd fod y bwriad yn
dderbyniol ac na fyddai’n cael effaith niweidiol sylweddol ar y dirwedd,
mwynderau’r gymdogaeth na diogelwch ffyrdd.
b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y sylwadau
canlynol:
·
Ei fod yn gwrthwynebu’r cais ac yn
cytuno gyda sylwadau’r Cyngor Cymuned oedd yn ‘Gwrthwynebu ar sail gor-ddatblygiad a bod
llawer o feysydd carafanau ar hyd yr arfordir yn barod’.
·
Yn gwrthwynebu ar sail gormodedd (meysydd cyffelyb gerllaw) a gor-dwristiaeth
·
Er bod yr adroddiad yn argymell caniatáu, dim ystyriaeth i feysydd
cyfagos sydd yn arwain at ormodedd yn yr ardal. Nid yw’r adroddiad yn pwyso a
mesur yr effaith
·
Angen ystyried Polisi TWR 3
o fewn y CDLl sydd yn nodi’r gallu i brofi na fyddai’r bwriad yw’n arwain at ormodedd o safleoedd
carafanau
·
Cyfeiriwyd at safleoedd cyfagos gan amlinellu nad oeddynt yn
safleoedd bach
·
Bod angen ystyried POLISI TAI 14: DEFNYDD PRESWYL O GARAFANAU sydd yn amlygu y gellid dangos na fuasai’r
bwriad yn cael effaith andwyol arwyddocaol ar y diwydiant twristiaeth. Angen
ystyried y ddadl bod gormodedd o safleoedd mewn ardal fechan yn cael effaith
andwyol ar yr hyn sydd yn bodoli yn barod
·
Annog y Pwyllgor i wrthod, ond os ydynt yn ystyried caniatáu, yna
annog penderfyniad i ohirio fel bod modd cynnal ymweliad safle a chynnal gwaith
ymchwil i’r nifer safleoedd sydd yn yr ardal.
Mewn
ymateb i’r sylwadau, nododd y Rheolwr Cynllunio bod Polisi TWR 3 yn berthnasol
i safleoedd carafanau sefydlog a sialé a llety
gwersylla amgen parhaol tra bod Polisi TWR 5 yn berthnasol i safleoedd
carafanau teithiol, gwersylla a llety gwersylla amgen dros dro. Ategwyd bod
Polisi TWR 3 yn cyfeirio at ormodedd, ond mewn perthynas â safleoedd sefydlog
yn unig; Polisi TWR 5 yn gosod meini prawf ar gyfer elfennau gweledol yn unig.
Defnyddwyd ‘Google Earth’
i amlygu cynllun awyr o’r ardal i ddangos y gwahanol safleoedd o fewn ardal y
cais. Nodwyd, o gymharu ag ardaloedd eraill yng Ngwynedd, megis Penllyn a
Meirionydd, nad oedd gormodedd safleoedd teithiol yn yr ardal yma.
c)
Cynigiwyd caniatáu y cais yn unol ar argymhelliad. Ni chafwyd
eilydd
ch) Cynigiwyd ac
eiliwyd gwrthod y cais ar sail gormodedd a gor-dwristiaeth.
Nodwyd, er
y gall twristiaeth roi hwb economaidd i’r ardal leol gall fod yn niweidiol i’r
amgylchedd a rhoi pwysau ar y boblogaeth leol - gall hefyd greu effaith
negyddol o’r profiad i dwristiaid - hynny yw bod gormod yn ymweld â rhywle ar
unwaith.
Ategwyd y
byddai’r bwriad yn or-ddatblygiad ac yn cael effaith ar y bobl leol a’r Iaith
Gymraeg a bod rhaid ystyried yr effaith gronnol yn yr ardal.
d) Mewn ymateb
i gwestiwn ynglŷn â pheryg amlwg o lifogydd yn yr ardal a'r pryder y gall y safle gael ei ynysu, sydd
yn groes i reolau TAN 15, nododd y Rheolwr Cynllunio bod sawl map gwahanol yn
cael eu defnyddio i amlygu parthau llifogydd ond ar gyfer materion cynllunio fe
ddefnyddir mapiau TAN15. Ystyriwyd nad oedd yr ardal dan sylw o fewn parth
llifogydd ac felly nid yn peri risg. Ategwyd bod y swyddogion wedi ymgynghori
gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ac nid oeddynt wedi amlygu pryder am lifogydd.
Mewn ymateb i awgrym yr
Aelod Lleol i gynnal ymweliad safle ac i’w bryder ef a’r Cyngor Cymuned am
ormodedd ac effeithiau gweledol y safle, awgrymodd yn gryf i’r Pwyllgor ystyried ymweliad safle fel bod
modd gweld y safle yn ei gyd-destun a’i berthnasedd i safleoedd gerllaw.
dd)
Cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant i gynnal ymweliad safle.
PENDERFYNWYD: Gohirio er mwyn cynnal ymweliad
safle
Dogfennau ategol: