skip to main content

Agenda item

Diwygio a dileu amodau ar ganiatâd cynllunio C15/0662/09/LL

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd John Pughe

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau

 

1.            Cwblheir y datblygiad a ganiateir drwy hyn yn llwyr unol â'r manylion a ddangosir ar gynllun(iau) rhif 1137/28, 1137/30-03, 1137/24, 1137/30-1, 1137/02B, 1137/05, 1137/07 V2, 1137/23/1137/25-2, 1137/29 a gyflwynwyd i'r Awdurdod Cynllunio Lleol, ac a gynhwysir yn y ffurflen gais ac mewn unrhyw ddogfennau eraill gyda'r cais, os nad oes amod(au) sy'n ei diwygio wedi ei gynnwys ar y dyfarniad cynllunio hwn.

2.            Dylid gorffen defnyddio’r tir at ddibenion cynhyrchu trydan fel y caniateir yma 35 mlynedd neu’n gynharach o ddyddiad cynhyrchu egni y paneli solar, neu o fewn 6 mis i orffen defnyddio unrhyw baneli solar at ddibenion cynhyrchu trydan (oni bai iddynt gael eu hamnewid o fewn y cyfnod hwnnw) pa un bynnag yw’r cynharaf, ac fe ddylid gwneud hynny yn unol â chynllun gwaith a fydd eisoes wedi ei gyflwyno a’i gytuno’n ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol a bydd hwnnw’n cynnwys rhaglen weithredu.  Cwblheir y cynllun gwaith yn unol â’r manylion a gytunir a bydd y rhain yn cynnwys-

1.    Datganiad dull ar gyfer dad-gomisiynu a datgymalu’r holl gyfarpar ar y safle;

2.    Manylion unrhyw eitemau sydd am eu gadael ar y safle;

3.    Datganiad dull ar gyfer adfer y tir i amaethyddiaeth;

4.    Amserlenni ar gyfer digomisiynu, gwaredu ac adfer y tir;

5.    Datganiad dull ar gyfer gwaredu / ailgylchu priodol cyfarpar / strwythurau segur;

6.    Darpariaeth ar gyfer adolygu’r cynllun fel bo angen.

 

 

3.            Rhaid gweithredu’r Asesiad Risg Bioddiogelwch dyddiedig 9 Rhagfyr 2015 trwy gydol oes y datblygiad, oni bai y cytunir yn wahanol yn ysgrifenedig gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol.

4.            Os y bwriedir gosod system oleuo ar y safle ar unrhyw adeg bydd gofyn cyflwyno a chytuno yn ysgrifenedig gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol fanylion y system oleuo hynny gan dangos math, union leoliad, lefel goleuedd a’r modd o ddiogelu rhag llygredd neu gorlif golau.  Rhaid fydd gosod y system oleuo yn unol gyda’r manylion gytunwyd.

5.            Rhaid i’r datblygiad gael ei weithredu’n llwyr unol gyda’r Cynllun Rheolaeth Tirwedd ac Ecolegol (v5) dyddiedig 10 Mawrth 2021, Adroddiad Monitro Ehedydd cyf S_MSF_V4 dyddiedig 9 Mawrth 2021 a’r Cynllun Tirlunio rhif 1137/29 drwy gydol oes y datblygiad, oni bai y cytunir yn wahanol yn ysgrifenedig gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol.

6.            Ni chaniateir unrhyw ddatblygiad gweithredol gymryd lle yn ystod unrhyw waith yn gysylltiedig gyda’r caniatâd yma o fewn 3 medr naill ochr i linell ganol y pibelli cyflenwad sy’n croesi’r safle.

7.            Rhaid i’r datblygiad gael ei weithredu mewn cydymffurfiaeth lwyr gyda’r Datganiad Dull Cynllun Adeiladu ac Asesiad Risg gan Corylus dyddiedig Rhagfyr 2015 er diogelu cyflwr strwythurol y ddwy bibell cyflenwad sy’n croesi’r safle.  Ni chaniateir cario allan unrhyw ddatblygiad pellach yn gysylltiedig gyda’r caniatâd yma hyd nes y bydd y mesurau diogelu wedi cael eu gweithredu a’u cwblhau

 

Cofnod:

Diwygio a dileu amodau ar ganiatâd cynllunio C15/0662/09/LL

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd i ddiwygio a dileu amodau ar fferm solar yn Nhywyn. Nodwyd bod y caniatâd wedi ei weithredu a’r fferm yn ei lle, ond bod bwriad diwygio amodau i adlewyrchu ceisiadau cynllunio mwy diweddar.

 

Eglurwyd bod y bwriad yn ymwneud yn bennaf gyda diwygio strategaeth lliniaru ehedydd a gytunwyd o dan amod 14 o gais C15/0662/09/LL. Nodwyd bod yr hyn a gytunwyd fel rhan o’r amod yn clustnodi cae i’r gogledd o’r safle solar ar gyfer yr ehedydd, ond fel rhan o’r cais dan sylw mae’r datblygwr am wella’r amodau o fewn y safle er budd yr ehedydd yn hytrach na defnyddio’r cae nodedig.

 

Cyflwynwyd y cais i bwyllgor oherwydd bod y safle dros 0.5 hectar.

 

Adroddwyd, gan fod y cais yn ymwneud a diddymu amodau a osodwyd am resymau cynllunio dilys bod rhaid edrych os yw’r amodau dan sylw’n berthnasol mwyach dan y canllawiau cenedlaethol mewn perthynas ag amodau cynllunio sydd wedi’u cynnwys yng Nghylchlythyr Llywodraeth Cymru 016/2014: Defnyddio Amodau Cynllunio i Reoli Datblygu. Fe restrai’r cylchlythyr chwe phrawf ar gyfer dilysrwydd amodau cynllunio a bod hi’n angenrheidiol ystyried os yw’r amodau yn cyd-fynd â’r profion isod:

     Eu bod yn hanfodol.

     Eu bod yn berthnasol i gynllunio.

     Eu bod yn berthnasol i’r datblygiad sydd i’w ganiatáu.

     Y gellir eu gorfodi.

     Eu bod yn fanwl.

     Eu bod yn rhesymol ym mhob agwedd arall.

 

Amlygwyd nad oedd rheswm dros addasu rhai o’r amodau gwreiddiol ond bod gofyn i’r datblygwr barhau i gydymffurfio a hwy. Gwnaed cais i ddileu amod 13: Cyflwyno a chytuno manylion system goleuo’r safle gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol. Fel rhan o gais C15/1368/09/AC, nodwyd nad oedd bwriad gosod unrhyw oleuadau fel rhan o’r datblygiad a gyda’r gwaith o ddatblygu’r fferm solar wedi ei gwblhau bellach, amlygwyd nad oedd goleuadau wedi eu gosod ar y safle.  Fodd bynnag, petai angen gosod goleuadau ar y safle yn y dyfodol yna nid yw pob math o olau angen caniatâd cynllunio.  Ystyriwyd y gall gosod goleuadau gael effaith posibl ar fwynderau, gweledol a thrigolion lleol, ynghyd a bioamrywiaeth ac felly ystyriwyd y byddai’n briodol diwygio’r amod yn hytrach na’i dileu.  Awgrymwyd gosod amod fyddai yn nodi os bwriedir gosod system oleuo ar safle’r fferm solar bydd rhaid cyflwyno a chytuno'r manylion hynny gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol.  Byddai hyn yn cadw rheolaeth dros unrhyw oleuadau posibl allai gael eu rhoi ar y safle ac ystyrir y byddai amod o’r fath yn rhesymol. 

 

Prif ystyriaeth y cais oedd amod 14 Cyn cychwyn gwaith angen cyflwyno a chytuno gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol gynllun tirlunio a phlannu.  Eglurwyd, fel rhan o gais C15/1368/09/AC, cyflwynwyd a chytunwyd ar Gynllun Rheolaeth Tirwedd ac Ecoleg ynghyd a chynllun tirweddu oedd yn cynnwys bwriad i glustnodi cae i’r gogledd o’r fferm solar fel dôl gwair ar gyfer ehedydd, i blannu eithin a helygen ac i reoli’r tir o fewn y fferm solar ar gyfer pori gan ddefaid.  Bwriad y cais presennol yn bennaf yw diwygio’r amod yma a chyflwyno Cynllun Rheolaeth Tirwedd ac Ecoleg a chynllun tirweddu sydd yn hepgor y cae gogleddol o fod yn ddôl ar gyfer ehedydd.  Nodwyd, fel rhan o’r cais presennol cyflwynwyd Cynllun Rheolaeth Tirwedd ac Ecoleg, cynllun tirlunio a hefyd Adroddiad Monitro Ehedydd. 

 

Tynnwyd sylw bod yr Adroddiad Monitro Ehedydd yn nodi fod dwysedd uchel o ehedydd wedi ei ddarganfod yn ystod yr arolygon ac nad yw’r fferm solar wedi dadleoli’r ehedydd fel yr ystyriwyd yn wreiddiol a bod y niferoedd yn llawer uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol.  O ganlyniad, argymhellwyd fod safle’r fferm solar ei hun yn cael ei rheoli yn benodol ar gyfer cefnogi ehedydd sy’n magu i’r dyfodol yn hytrach na darparu’r cae gogleddol i’r pwrpas yma ac felly yn cynnig gwella amodau o fewn y fferm solar i hybu magu gan ehedydd o fewn y fferm solar ei hun.

 

Cyfeiriwyd at sylwadau'r Uned Bioamrywiaeth oedd yn gwrthwynebu’r bwriad ac am i’r cae gogleddol barhau i fod yn fesur lliniaru ar gyfer ehedydd.  Fodd bynnag, yn bresennol nid oes unrhyw gynllun wedi ei gytuno o ran diogelu’r glaswelltir o fewn y fferm solar er budd ehedydd ac ystyriwyd felly y byddai’n rhesymol rhoi mesurau mewn lle ar gyfer rheoli’r glaswelltir o fewn ardal y fferm solar yn fesur lliniaru digonol o ystyried na chafodd adeiladu’r fferm solar yr effaith negyddol ar ehedydd fel yr ystyriwyd oedd yn bosibl pan oedd y cais gwreiddiol am sefydlu’r fferm solar dan ystyriaeth.  Awgrymwyd felly rhoi amod i gydymffurfio gyda’r Cynllun Rheolaeth Tirwedd ac Ecoleg (v5), yr Adroddiad Monitro Ehedydd a’r Cynllun Tirlunio trwy gydol oes y datblygiad na fyddai’r bwriad yn cael effaith andwyol ar gynefin yr ehedydd a bod y bwriad yn dderbyniol o ran Polisi AMG 5 CDLl.

 

Nodwyd y gellid diwygio amodau 2, 4, 9, 13, 14, 16 ac 17 a dileu amodau 1, 3, 5, 6, 7, 8, 10, 11,12, 15 a osodwyd ar ganiatâd C15/0662/09/LL.

 

b)    Nododd y Cadeirydd bod yr Aelod Lleol, wedi ymddiheuro am na all fod yn bresennol, ond yn dymuno nodi dim gwrthwynebiad i’r cais.

 

c)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:

·         Bod yr adroddiad yn un manwl

·         Bod y  cais yn cynnwys gwelliant dros reolaeth safle'r ehedydd

·         Bod safle nythu priodol wedi ei gynnwys

·         Bod tystiolaeth o nythu a magwraeth o fewn y safle solar

·         Bod bwriad rheoli amseroedd pori a thorri fel bod modd gwarchod y safle mewn modd derbyniol

·         Bod y safle yn cynnig gwell lleoliad a chyfleoedd i adar

·         Bod y fferm solar yn cynnig cynefin amgen i’r adar.

 

ch) Cynigiwyd  ac eiliwyd caniatáu y cais yn unol ar argymhelliad

 

d)  Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:

·         Bod y fferm solar wedi creu ardal i’r ehedydd

·         Bod y fferm solar yn cynnig budd economaidd

 

dd)  Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag amod 5 sy’n cyfeirio at ‘gydol oes y datblygiad’ nododd y Rheolwr Cynllunio bod hyn yn ymarfer cyson o osod caniatâd dros dro i ffermydd solar fel bod modd rheoli ac ail asesu’r safle i’r dyfodol.

 

Diolchwyd i’r swyddogion am y gwaith a’r adroddiad manwl.

 

PENDERFYNWYD: Caniatáu’r cais yn unol â’r amodau isod

1.    Cwblheir y datblygiad a ganiateir drwy hyn yn llwyr unol â'r manylion a ddangosir ar gynllun(iau) rhif 1137/28, 1137/30-03, 1137/24, 1137/30-1, 1137/02B, 1137/05, 1137/07 V2, 1137/23/1137/25-2, 1137/29 a gyflwynwyd i'r Awdurdod Cynllunio Lleol, ac a gynhwysir yn y ffurflen gais ac mewn unrhyw ddogfennau eraill gyda'r cais, os nad oes amod(au) sy'n ei diwygio wedi ei gynnwys ar y dyfarniad cynllunio hwn.

2.    Dylid gorffen defnyddio’r tir at ddibenion cynhyrchu trydan fel y caniateir yma 35 mlynedd neu’n gynharach o ddyddiad cynhyrchu egni y paneli solar, neu o fewn 6 mis i orffen defnyddio unrhyw baneli solar at ddibenion cynhyrchu trydan (oni bai iddynt gael eu hamnewid o fewn y cyfnod hwnnw) pa un bynnag yw’r cynharaf, ac fe ddylid gwneud hynny yn unol â chynllun gwaith a fydd eisoes wedi ei gyflwyno a’i gytuno’n ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol a bydd hwnnw’n cynnwys rhaglen weithredu.  Cwblheir y cynllun gwaith yn unol â’r manylion a gytunir a bydd y rhain yn cynnwys-

a)    Datganiad dull ar gyfer dad-gomisiynu a datgymalu’r holl gyfarpar ar y safle;

b)    Manylion unrhyw eitemau sydd am eu gadael ar y safle;

c)    Datganiad dull ar gyfer adfer y tir i amaethyddiaeth;

d)    Amserlenni ar gyfer digomisiynu, gwaredu ac adfer y tir;

e)    Datganiad dull ar gyfer gwaredu / ailgylchu priodol cyfarpar / strwythurau segur;

f)     Darpariaeth ar gyfer adolygu’r cynllun fel bo angen.

3.    Rhaid gweithredu’r Asesiad Risg Bioddiogelwch dyddiedig 9 Rhagfyr 2015 trwy gydol oes y datblygiad, oni bai y cytunir yn wahanol yn ysgrifenedig gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol.

4.    Os bwriedir gosod system oleuo ar y safle ar unrhyw adeg bydd gofyn cyflwyno a chytuno yn ysgrifenedig gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol fanylion y system oleuo hynny gan dangos math, union leoliad, lefel goleuedd a’r modd o ddiogelu rhag llygredd neu orlif golau.  Rhaid bydd gosod y system oleuo yn unol gyda’r manylion a gytunwyd.

5.    Rhaid i’r datblygiad gael ei weithredu’n llwyr unol gyda’r Cynllun Rheolaeth Tirwedd ac Ecolegol (v5) dyddiedig 10 Mawrth 2021, Adroddiad Monitro Ehedydd cyf S_MSF_V4 dyddiedig 9 Mawrth 2021 a’r Cynllun Tirlunio rhif 1137/29 drwy gydol oes y datblygiad, oni bai y cytunir yn wahanol yn ysgrifenedig gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol.

6.    Ni chaniateir unrhyw ddatblygiad gweithredol gymryd lle yn ystod unrhyw waith yn gysylltiedig gyda’r caniatâd yma o fewn 3 medr naill ochr i linell ganol y pibelli cyflenwad sy’n croesi’r safle.

7.    Rhaid i’r datblygiad gael ei weithredu mewn cydymffurfiaeth lwyr gyda’r Datganiad Dull Cynllun Adeiladu ac Asesiad Risg gan Corylus dyddiedig Rhagfyr 2015 er diogelu cyflwr strwythurol y ddwy bibell cyflenwad sy’n croesi’r safle.  Ni chaniateir cario allan unrhyw ddatblygiad pellach yn gysylltiedig gyda’r caniatâd yma hyd nes y bydd y mesurau diogelu wedi cael eu gweithredu a’u cwblhau

 

Dogfennau ategol: