Cyflwynir:
·
Datganiad o’r Cyfrifon ôl-Archwiliad;
·
Adroddiad ‘ISA260’ Archwilio
Cymru
·
Llythyr Cynrychiolaeth (Atodiad 1)
I ystyried a chymeradwyo’r wybodaeth cyn awdurdodi’r
Cadeirydd i ardystio’r llythyr
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Cofnod:
a) Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Cyllid yn gofyn i’r pwyllgor ystyried a
chymeradwyo’r Datganiad o’r Cyfrifon 2021/22 (ôl-archwiliad), adroddiad
‘ISA260’ Archwilio Cymru a’r Llythyr Cynrychiolaeth (Atodiad 1 i adroddiad Archwilio
Cymru), cyn awdurdodi’r Cadeirydd i ardystio’r llythyr yn electroneg.
Nododd yr Aelod Cabinet Cyllid bod y Swyddogion wedi rhyddhau’r cyfrifon
i Archwilio Cymru 13-06-2022 fel bod modd i Archwilio Cymru baratoi adroddiad
er cymeradwyaeth y Pwyllgor. Atgoffwyd yr Aelodau bod cyfrifon amodol wedi eu
cyflwyno i’r Pwyllgor 08-09-2022, ble amlygwyd y prif faterion ar nodiadau
perthnasol.
Ategodd y Pennaeth Cyllid bod oediad eleni i dderbyn adroddiad gan
Archwilio Cymru oherwydd mater
technegol yn ymwneud ag isadeiladwaith, oedd yn golygu mai yn Ionawr 2023 roedd cyfrifon terfynol 2021/22
holl Awdurdodau Lleol Cymru yn cael eu cymeradwyo. Diolchodd i’r holl
swyddogion oedd wedi bod yn rhan o’r broses.
Arweiniodd y Pennaeth Cyllid
Cynorthwyol - Cyfrifeg a Phensiynau yr Aelodau drwy’r adroddiad gan amlygu bod mân addasiadau i’r un a gyflwynwyd i’r Pwyllgor ym mis Medi 2022.
Tynnwyd sylw at y canlynol:
·
Nodyn 15 -
Eiddo, Offer a Chyfarpar – I gydymffurfio gyda gofynion cenedlaethol, isadeiladwaith wedi
ei dynnu allan o’r prif dabl yn Nodyn 15 ar gyfer y ddwy flynedd ac wedi ei
ychwanegu fel rhan ar wahân
·
Oherwydd chwyddiant uchel, o
gymharu gyda chwyddiant sefydlog isel dros y blynyddoedd diwethaf, bod
goblygiadau ar y prisio, ac felly trefniadau arferol wedi eu haddasu. O
ganlyniad, y prisio yn uwch mewn ymateb i’r chwyddiant uwch.
·
Nodyn
15 Eiddo, Offer a Chyfarpar – bu adolygiad o’r asedau oedd wedi gorffen cael eu
dibrisio, ond yn parhau ar y gofrestr asedau.
Y rhai nad oedd bellach yn weithredol wedi eu dadgydnabod,
ac wedi eu dileu o’r nodyn.
·
Nodyn
19 – Arian a Chyfwerthoedd arian – addasiad i drefn o
ddangos ffigyrau yn ymwneud â’r Gronfa Bensiwn - addasiad ar yr elfen
gorddrafft ac yna addasiad cyfwerth ar y credydwyr (addasiad ar gyfer 2021/22 a
2020/21).
·
Nodyn
30 – Taliadau i Swyddogion – mân addasiadau yn rhannol oherwydd anghysondeb
rhwng cyfarwyddiadau CIPFA a’r Ddeddf (cyfarwyddiadau CIPFA wedi eu dilyn)
·
Nodyn
35 – Prydlesau – cwmni Cynnal wedi dod i
ben diwedd Mawrth 2022, ond yn parhau i ymddangos yn y nodyn – nid oedd bellach
angen ei gynnwys.
·
Nodyn 27 - Dadansoddiad Natur
Gwariant ac Incwm - addasiad technegol
yn ymwneud a chategoreiddio incwm (dim effaith ar y llinell waelod ond yn
hytrach rhwng un is-bennawd a’r llall)
Cyfeiriwyd at ddau argymhelliad gan Archwilio
Cymru.
1.
Yn dilyn adolygiad o
gredydwyr tymor byr, bod credydwyr y Cyngor wedi eu gor
ddatgan o £274k yn 31/03/2022. Cafwyd eglurhad mai mater o amseriad oedd yn
gyfrifol am hyn ac er bod y credydwr angen bod yno yn flaenorol, roedd y
sefyllfa wedi newid erbyn diwedd y flwyddyn ariannol a felly dylid fod wedi
dileu’r swm. Gan nad oedd y swm o £274k yn faterol, yr addasiad yn cael ei
weithredu yng nghyfrifon 2022/23.
2. Adolygu ac atgyfnerthu papurau gwaith
ymhellach i ddarparu trywydd archwilio clir.
Y bwriad yw cydweithio ar yr argymhellion gydag Archwilio Cymru ar gyfer
cyfrifon 2022/23.
b) Diolchwyd am y cyflwyniad
c) Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r £274k a’i berthnasedd gyda
chyfanswm potensial risg o £3,308,000, nodwyd mai £274k oedd cyfanswm y gwall a
hynny oherwydd gwerth yr hen gredydwyr o gymharu gyda rhai cyfredol.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r defnydd o ganllawiau CIPFA a’r
angen felly i gysylltu gyda CIPFA i nodi bod eu canllawiau yn groes i’r Ddeddf,
nodwyd bod cyfle i dynnu sylw at hyn mewn cyfarfod gyda CIPFA 31-01-23
ch) Gwahoddwyd
Yvonne Thomas (Archwilio Cymru) i gyflwyno adroddiad ‘ISA260’. Adroddwyd na all
archwilwyr
roi sicrwydd cyflawn bod cyfrifon wedi’u datgan yn gywir ond yn hytrach yn
gweithio i lefel o ‘berthnasedd’. Nodwyd bod yr
archwilwyr yn bwriadu cyhoeddi barn archwilio ddiamod ar y cyfrifon, unwaith y
byddai’r Llythyr Cynrychiolaeth wedi ei arwyddo. Diolchwyd i’r Swyddogion am eu
cydweithrediad.
d) Llongyfarchwyd yr Adran Cyllid ar y gwaith gan nodi boddhad o dderbyn
datganiad di-amod.
PENDERFYNWYD
·
Derbyn a chymeradwyo Adroddiad
'ISA260’ gan Archwilio Cymru ar gyfer Cyngor Gwynedd
·
Derbyn
a chymeradwyo Datganiad o’r Cyfrifon 2021/22 (ôl-archwiliad) - Cadeirydd y
Pwyllgor i ardystio’r Datganiad o Gyfrifoldebau am y Datganiad o’r Cyfrifon
·
Cadeirydd
y Pwyllgor ynghyd a’r Pennaeth Cyllid i ardystio’r Llythyr Cynrychiolaeth yn
electroneg
·
Llongyfarch
y swyddogion ar eu gwaith o dderbyn datganiad diamod
Dogfennau ategol: