skip to main content

Agenda item

 

I dderbyn y wybodaeth, ystyried risgiau sy’n deillio o’r tafluniadau gwariant yn erbyn y gyllideb, a chraffu penderfyniadau’r Cabinet yng nghyswllt rheoli cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sefyllfa a’r risgiau yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau
  2. Cytuno gydag argymhelliad y Cabinet (24-01-23) i gymeradwyo:

·         Trosglwyddo £3.188 miliwn o danwariant ar gyllidebau Corfforaethol i Gronfa Strategaeth Ariannol y Cyngor.

·         Pan yn amserol, ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, defnyddio

a)    Balansau Ysgolion i gyllido costau ychwanegol chwyddiant cyflogau athrawon, cymhorthyddïon, staff gweinyddol a thrydan sydd uwchlaw lefel y gyllideb yn yr ysgolion

b)    Cronfa Premiwm Treth Cyngor i gyllido’r pwysau ychwanegol yn y maes Digartrefedd

c)    Cronfa Trefniadau adfer yn sgil Covid a sefydlwyd i gyllido heriau ariannol cysylltiedig sy'n wynebu'r Cyngor.

 

Cofnod:

a)    Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod Cabinet Cyllid yn gofyn i’r pwyllgor graffu’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau, ac ystyried penderfyniadau’r Cabinet 24-01-23.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun i’r adroddiad drwy nodi:-

·         Er nad yw effaith Covid mor sylweddol yn 2022/23 o’i gymharu â’r ddwy flynedd flaenorol, bod costau ychwanegol, colledion incwm a llithriad ar gynlluniau arbedion yn parhau mewn rhai meysydd.

·         Bod rhagolygon presennol yn awgrymu y bydd yr Adrannau Oedolion, Iechyd a Llesiant, Plant a Theuluoedd, Addysg, Economi a Chymuned, Priffyrdd a Bwrdeistrefol a Thai ac Eiddo yn gorwario erbyn diwedd y flwyddyn.

·         Bod oediad mewn gwireddu Arbedion yn ffactor

 

Ategodd mai adrodd ar y sefyllfa oedd y swyddogion Cyllid ac mai’r Adrannau eu hunain oedd yn gyfrifol am eu cyllidebau.

 

b)    Amlygodd yr Pennaeth Cyllid Cynorthwyol y canlynol:

·         Y byddai’r Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant gyda gorwariant o dros £2.2 miliwn eleni, a hynny yn gyfuniad o nifer o ffactorau, gan gynnwys methiant i wireddu gwerth £930k o arbedion.

·         Y byddai’r Adran Addysg gyda gorwariant o £1.6m sydd yn ganlyniad i effaith cost ychwanegol chwyddiant cyflogau athrawon, cymorthyddion a staff gweinyddol (£1,031k uwchlaw‘r gyllideb eleni); a chostau prisau trydan uwch. Ategwyd, o ystyried fod yr ysgolion eisoes wedi elwa o bron i filiwn o arbedion ynni yn deillio o Covid a'r cyfnodau clo cysylltiedig, byddai’n briodol defnyddio balansau ysgolion i gyllido'r pwysau ychwanegol eleni.

·         Byw’n Iach - bod sgil effaith Covid yn parhau yn 2022/23 ac yn amharu ar allu’r cwmni i gynhyrchu incwm. O ganlyniad, cadarnhawyd bod y Cyngor wedi cymeradwyo cefnogaeth ariannol angenrheidiol i gynnal gwasanaethau drwy ymestyn y cyfnod o sicrwydd a roddwyd i'r Cwmni hyd at ddiwedd 2022/23, sydd oddeutu £839k eleni. Nodwyd mai prisiau trydan uwch sydd yn gyfrifol am weddill gorwariant Byw’n Iach.

·         Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol – bod y tueddiad blynyddol o orwariant yn y maes bwrdeistrefol yn parhau, gyda’r problemau amlycaf yn y maes casglu gwastraff ac ailgylchu.  Yr adran hefyd yn cael trafferthion gwireddu arbedion gwerth £608k.

·         Tai ac Eiddo – goblygiadau newid i ddeddfwriaeth yn ymwneud â Digartrefedd yn golygu pwysau ariannol sylweddol. Er bod dyraniad o £1.5m o gronfa trefniadau yn sgil covid y Cyngor wedi ei roi i gynorthwyo’r sefyllfa, rhagwelir gorwariant net o £2.7miliwn eleni.

·         Corfforaethol - rhagdybiaethau darbodus wrth osod cyllideb 2022/23 a newid i ddeddfwriaeth yn gyfrifol am gynnyrch treth ychwanegol, gyda thai yn trosglwyddo o drethi annomestig i dreth cyngor ynghyd â lleihad yn y niferoedd sydd yn hawlio gostyngiad treth cyngor o’i gymharu â blynyddoedd blaenorol. Y cynnydd diweddar mewn cyfraddau llog yn golygu fod y rhagolygon derbyniad llog £1.3 miliwn yn fwy ffafriol nag a gyllidebwyd amdano.

 

Adroddwyd bwriad o ddefnyddio cronfeydd wrth gefn y Cyngor a balansau’r Ysgolion i gyllido’r bwlch ariannol o £7.4 miliwn a ragwelir am 2022/23. O ganlyniad, drwy ddefnyddio cronfeydd penodol, bod balansau cyffredinol wedi eu gwarchod ac ar gael i wynebu heriau’r dyfodol.

 

c)    Diolchwyd am yr adroddiad

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â Chronfa Adfer yn sgil Covid, ac os yw’n gronfa tu allan i falansau’r Cyngor, cadarnhawyd bod y Gronfa yn un ychwanegol ac wedi ei chreu mewn ymateb i heriau Covid. Ategwyd, gydag arian adfer y Llywodraeth wedi dod i ben, bod y Gronfa wedi ei sefydlu mewn ymateb i hynny.

 

Mewn ymateb i sylw yn yr adroddiad o ‘ddefnyddio balansau ysgolion i gyllido'r pwysau ychwanegol eleni’, os oes effaith ‘mwy nag un eleni yma’ a bod defnyddio balansau yn rhywbeth blynyddol, nodwyd bod cyllidebau ysgolion wedi eu gosod ar gyfer 2023/34 a’r cyflogau wedi eu gosod ar lefel ‘cynnydd’ 22/23.  Gan fod y cynnydd wedi ei gyflwyno ym mis Hydref ar lefel chwyddiant, gwelwyd bod y costau gwirioneddol yn fwy ac felly yn creu costau ychwanegol uwchlaw lefel y gyllideb.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â diffiniad “digartrefedd” ac os yw’r costau ychwanegol o ganlyniad i gynnydd real mewn digartrefedd neu fod y term digartrefedd wedi ei ail ddiffinio mewn ymateb i’r ddeddfwriaeth newydd, nodwyd bod cynnydd yn y nifer o unigolion digartref o dan ddiffiniad y ddeddf.  Canlyniad hyn yw fod y Cyngor gorfod ymdrin â mwy o achosion, ac felly’n gorfod darganfod / darparu llety ar eu cyfer. Ategwyd bod y sefyllfa fel effaith caseg eira - diffyg llety ac o ganlyniad y digartref yn cael eu gosod mewn llety dros dro sy’n creu effaith gynyddol ar yr Awdurdodau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â bwriad y Prif Weithredwr i  gyfarfod gyda Phennaeth yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol i drafod gorwariant maes ‘gwastraff’, adroddwyd bod y cyfarfod, gyda gwahoddiad i Pennaeth yr Adran Amgylchedd wedi ei gynnal, a bod adroddiad o ddeilliant y cyfarfod hwnnw i’w gyflwyno i’r Cabinet yn fuan. Ategwyd bod bwriad ymgynghori gyda WRAP i ystyried y cylch casglu, trefniadau casglu a chamau posib i reoli’r gwariant sydd yn bryder blynyddol. Mewn ymateb i gwestiwn ategol ynglŷn â’r adroddiad, nodwyd y byddai’r adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau fydd yn rhoi adborth o’r sylwadau a'r camau gweithredu.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â defnyddio arian premiwm rhai dosbarthau o ail gartrefi ac eiddo gwag hir dymor i gau’r bwlch ariannol ym maes digartrefedd yn hytrach na defnyddio reserfau o ystyried mai bwriad arian y premiwm oedd i weithredu Cynllun Tai'r Cyngor a chadw pobl leol yn eu cymunedau, nodwyd mai UN waith y bydd arian y premiwm yn cael ei ddefnyddio ar gyfer digartrefedd ac na fydd hyn yn cael effaith ar weithredu’r Cynllun Tai. Ategwyd, yn sicr, na fydd arian y premiwm yn cael ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw faes arall ac na fydd defnydd cyffredinol iddo.

 

PENDERFYNWYD

 

1.    Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sefyllfa a’r risgiau yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau

2.    Cytuno gydag argymhelliad y Cabinet (24-01-23) i gymeradwyo:

·         Trosglwyddo £3.188 miliwn o danwariant ar gyllidebau Corfforaethol i Gronfa Strategaeth Ariannol y Cyngor.

·         Pan yn amserol, ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, defnyddio

a)    Balansau Ysgolion i gyllido costau ychwanegol chwyddiant cyflogau athrawon, cymhorthyddïon, staff gweinyddol a thrydan sydd uwchlaw lefel y gyllideb yn yr ysgolion

b)    Cronfa Premiwm Treth Cyngor i gyllido’r pwysau ychwanegol yn y maes Digartrefedd

c)    Cronfa Trefniadau adfer yn sgil Covid a sefydlwyd i gyllido heriau ariannol cysylltiedig sy'n wynebu'r Cyngor.

 

 

Dogfennau ategol: