skip to main content

Agenda item

 

I dderbyn y wybodaeth, ystyried risgiau cyffredinol sy’n deillio o’r llithriadau, a chraffu penderfyniadau’r Cabinet yng nghyswllt y Trosolwg Arbedion

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Derbyn yr adroddiad
  • Nodi’r cynnydd, y sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt Trosolwg Arbedion

 

Cofnod:

a)    Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid yn gofyn i’r pwyllgor nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt y Trosolwg Arbedion, ystyried penderfyniadau’r Cabinet (24-01-2023) a sylwebu fel bo angen.

 

b)    Ategodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol,

 

·         Ers 2015/16, bod gwerth £35.4m o arbedion wedi eu cymeradwyo i’w gwireddu rhwng 2015/16 - 2022/23. Nodwyd fod dros £33.5 miliwn o’r arbedion yma bellach wedi eu gwireddu sydd yn 95% o’r swm gofynnol dros y cyfnod.

·         Y prif gynlluniau sydd eto i’w cyflawni yw cynlluniau gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol.

·         22% o arbedion 2022/23 eisoes wedi eu gwireddu a 2% pellach ar drac i gyflawni’n amserol. Adrannau sydd gyda’r gwerth uchaf o ran cynlluniau sydd eto i’w cyflawni yw’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol a’r Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant.

·         Bod gwerth £1.129m o arbedion eisoes wedi eu cymeradwyo ar gyfer 2023/24 gyda chynlluniau arbedion a thoriadau ychwanegol dan ystyriaeth

·         Bod gwireddu gwerth £33.5m o arbedion (allan o £35.4 miliwn) ers Ebrill 2015 wedi bod yn heriol gydag oediad a risgiau i gyflawni rhai o’r cynlluniau sy’n weddill.

 

Adroddwyd bod y Cabinet wedi derbyn yr holl argymhellion ynghyd a’r wybodaeth am y cynnydd i wireddu cynlluniau arbedion 2022/23.

 

c)    Diolchwyd am yr adroddiad. Nodwyd yr angen i ganolbwyntio ar y llwyddiant  - bod 95% o’r Arbedion wedi eu gwireddu - y  tuedd yw rhoi gormod o ffocws ar y rhai hynny sydd heb eu gwireddu, sydd efallai'r rhai anoddach.

 

Mewn ymateb i sylw bod rhai o’r cynlluniau yn rai o godi costau / ennill incwm yn hytrach na chynlluniau arbedion ar effaith caiff hynny o ran costau darpariaeth i drigolion sydd efallai, o ganlyniad yn cael effaith ar y gwasanaeth, nodwyd mai cynlluniau arbedion sy’n cael eu cyflwyno gan yr Adrannau a hynny mewn  ymateb i ganran sydd yn cael ei gosod. Bydd y cynlluniau hynny yn cael eu hasesu gan Aelodau ac os bydd codi incwm yn rhan o’r cynllun, bod hynny wedi derbyn ystyriaeth. Mewn ymateb i gwestiwn ategol, ynglŷn ag asesu’r cynlluniau, cadarnhawyd bod asesiadau cyfreithiol, cyllidol a chydraddoldeb yn cael ei weithredu ar gyfer pob cynllun.

 

Mewn ymateb i sylw bod 95% yn ganlyniad derbyniol iawn, ond i’r dyfodol, anodd fydd canfod arbedion ynghyd sgil effaith toriadau posib, gwnaed cais am adroddiad yn nodi’r strategaeth sydd tu cefn i’r drefn toriadau / arbedion o flaenoriaethu a gosod  targedau. Nododd y Pennaeth Cyllid y bydd y Strategaeth Arbedion yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor yn y  cyfarfod ar y 9fed o Chwefror. Yn y cyfarfod hwnnw, bydd y cynigion ar gyfer toriadau yn cael eu cyflwyno am sylwadau gan y Pwyllgor fydd yn eu tro yn cael eu cynnwys mewn adroddiad i’r Cabinet (14-02-23), fydd o ganlyniad yn cynnig argymhellion i’r Cyngor Llawn 02-03-23.

 

Ategodd yr Aelod Cabinet bod Cadeiryddion Craffu ac Arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol i dderbyn cyflwyniad ar gynigion i arbedion a thoriadau 2023/24 a’r Aelodau Etholedig i dderbyn gwahoddiad i gyflwyniad gan y Prif Weithredwr.

 

PENDERFYNWYD

 

·         Derbyn yr adroddiad

·         Nodi’r cynnydd, y sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt Trosolwg Arbedion

 

Dogfennau ategol: