Agenda item

Rhoi cyfle i aelodau’r Pwyllgor graffu cynnwys y Cynllun Llesiant Drafft Gwynedd a Môn a chyflwyno unrhyw sylwadau.

Penderfyniad:

(i)         Derbyn yr adroddiad.

(ii)        Gofyn i Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn sicrhau gwarchodaeth i’r Iaith Gymraeg yn y Cynllun Llesiant.

(iii)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r amcan llesiant ‘Rydym am weithio gyda’n gilydd i liniaru effaith tlodi ar lesiant ein cymunedau’ gan ei fod yn holl bwysig.

(iv)      Bod angen sicrhau bod ein plant a phobl ifanc yn cael bob tegwch.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Arweinydd y Cyngor a Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn. Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

-      Esboniwyd byddai’r Cynllun Llesiant yn cael ei gyhoeddi ym mis Mai, gyda’r ymgynghoriad yn cael ei gynnal nes 6 Mawrth 2023.

-      Ymhelaethwyd bod y gwaith i wneud y Cynllun Llesiant drafft wedi cael ei ddatblygu dros yr 18 mis diwethaf. Cynhaliwyd gweithdai dros yr haf gydag aelodau’r bwrdd er mwyn dysgu gwersi o’r cynllun llesiant blaenorol a gosod meini prawf er mwyn cytuno ar amcanion newydd. Nodwyd bod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn yn awyddus i sicrhau eu bod yn ychwanegu gwerth drwy weithio gyda'i gilydd heb ddyblygu gwaith byddai’n cael ei gyflawni beth bynnag.

-      Cadarnhawyd bod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi llunio tri Amcan Llesiant ar gyfer y cyfnod 2023-2028. Roedd y rhain yn feysydd lle’r oedd y Bwrdd yn credu fod modd i’w aelodau gydweithio’n well er mwyn sicrhau canlyniad gorau posib i bobl Gwynedd a Môn. Yr amcanion drafft oedd:

o   Rydym am weithio gyda'n gilydd i liniaru effaith tlodi ar lesiant ein cymunedau.

o   Rydym am weithio gyda'n gilydd i flaenoriaethu lles a llwyddiant ein plant a phobl ifanc.

o   Rydym am weithio gyda'n gilydd i gefnogi ein cymunedau i symud tuag at Sero Net Carbon.

-      Pwysleisiwyd bod yr Iaith Gymraeg yn llinyn euraidd a fyddai’n cael ei hyrwyddo ym mhob maes yng nghynllun y Bwrdd.

-      Eglurwyd bod y Bwrdd yn parhau i ymgynghori drwy rannu’r Cynllun Llesiant Drafft gyda chynghorau tref a chymuned, y trydydd sector, fforymau pobl hŷn, plant mewn gofal a myfyrwyr colegau a chweched dosbarth.

-      Cadarnhawyd byddai’r Bwrdd yn addasu’r cynllun llesiant ddrafft yn dilyn y cyfnod ymgynghori pe byddai angen cyn ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn a’i gyhoeddi ym mis Mai.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Atgoffwyd yr aelodau bod y Pwyllgor yn ymgynghorai statudol. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol:

 

Rhannwyd pryder am warchodaeth yr iaith Gymraeg yn y Cynllun, yn enwedig yn dilyn canlyniadau’r Cyfrifiad diweddar. Nodwyd er bod yr adroddiad yn nodi fod yr iaith yn llinyn euraidd, nid oedd wedi ei gynnwys fel amcan penodol yn y Cynllun newydd. Holwyd os byddai’r Bwrdd yn ystyried newid un o’r amcanion i gynnwys yr iaith Gymraeg neu ychwanegu amcan ychwanegol.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau uchod:

-      sicrhaodd y Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn bod yr iaith wedi ei wreiddio yn holl waith y Bwrdd. Nid oedd yr iaith wedi ei nodi fel amcan oherwydd bod holl aelodau’r Bwrdd yn gweithredu’n Gymraeg yn barod ac felly ddim yn darged newydd. Nodwyd y byddai’r Bwrdd yn ystyried diwygio’r cynllun er mwyn amlygu statws y Gymraeg o fewn y Cynllun.

-      nododd Arweinydd y Cyngor bod yr is-grŵp iaith hefyd yn gweithio’n galed er mwyn sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn cael ei ddefnyddio gan holl aelodau’r Bwrdd.

 

Ystyriwyd sut fyddai’r amcanion yn cael eu hariannu a pha mor debygol oedd trigolion i lwyddo eu dilyn yn ystod yr argyfwng costau byw.

-      Mewn ymateb i’r sylwadau, cadarnhaodd Arweinydd y Cyngor bod ariannu prosiectau fel y Cynllun Llesiant yn heriol iawn. Roedd hyn oherwydd bod Llywodraeth Prydain yn rheoli llawer iawn o’r arian byddai’n effeithio ar hyn. Er hyn, roedd y Bwrdd yn ceisio dod ynghyd i ddatrys problemau effeithiau tlodi er mwyn ceisio adfer y sefyllfa.

 

Cyfeiriwyd at amcan llesiant 2, gofynnwyd sut adnabuwyd partneriaid. Mewn ymateb, nododd Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn bod trafodaethau wedi eu cynnal gyda’r Gwasanaeth Ieuenctid a rhoddid ystyriaeth i addasu aelodaeth y Bwrdd yn dilyn mabwysiadu amcanion llesiant.

 

Gofynnwyd sut roedd y Bwrdd yn gobeithio anelu at sero net carbon, a sut effaith byddai hynny yn ei gael o fewn ardaloedd cefn gwlad Gwynedd a Môn.

 

Mewn ymateb i’r ymholiad:

-      nododd Arweinydd y Cyngor ei fod yn bwysig iawn ymgeisio i gyrraedd sero net carbon. Pwysleisiodd bod gan bob awdurdod lleol gyfrifoldeb i ymgeisio at y nod yma. Gobeithir bod pob partner o fewn y Bwrdd yn ymrwymo i leihau ôl troed carbon a hyrwyddo a hwyluso’r gobaith o gyrraedd sero net carbon. Nid oedd modd rhannu cynlluniau penodol ar hyn o bryd nes byddai’r Bwrdd yn gallu rhannu syniadau o beth allai weithio a pa systemau oedd ddim yn gweithio mor effeithiol.

-      cadarnhaodd y Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn bod modd asesu os oedd y partneriaid yn llwyddo i ymrwymo i gyrraedd sero net carbon drwy osod mesuryddion. Eglurodd bod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn yn cydweithio gyda byrddau tebyg yn genedlaethol er mwyn ceisio canfod dull effeithiol o fesur hyn.

 

PENDERFYNWYD

(i)         Derbyn yr adroddiad.

(ii)        Gofyn i Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn sicrhau gwarchodaeth i’r Iaith Gymraeg yn y Cynllun Llesiant.

(iii)      Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r amcan llesiant ‘Rydym am weithio gyda’n gilydd i liniaru effaith tlodi ar lesiant ein cymunedau’ gan ei fod yn holl bwysig.

(iv)      Bod angen sicrhau bod ein plant a phobl ifanc yn cael bob tegwch.

 

Dogfennau ategol: