1. I
amlinellu’r materion sydd angen sylw yn y meysydd Gwastraff ac Ailgylchu.
2. I
gyflwyno rhaglen waith i adolygu materion sydd angen sylw ym meysydd Gwastraff
ac Ailgylchu.
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad, gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd
yn ystod y drafodaeth.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet
Amgylchedd, Pennaeth Adran Amgylchedd a Phennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd.
Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:
-
Cadarnhawyd bod y
gwasanaeth casglu gwastraff ac ailgylchu wedi ei drosglwyddo i’r Adran
Amgylchedd ers Hydref 2022. Roedd y Pennaeth Adran wedi bod yn dysgu mwy am y
gwasanaeth ac yn ymgyfarwyddo gyda’r gwaith drwy fynd ar gylchdeithiau gyda
rhai o’r gweithlu.
-
Eglurwyd bod gweithlu’r
gwasanaeth yn ymroddgar iawn gan eu bod yn darparu gwasanaeth wythnosol i tua
63,400 o anheddau ar draws y sir.
-
Datganwyd bod canrannau
ailgylchu Cymru yn dda iawn o’i gymharu â gwledydd eraill. Eglurwyd bod targed
wedi ei osod gan Lywodraeth Cymru i ailgylchu 70% o holl wastraff domestig
erbyn 2025. Roedd yn her i bob awdurdod lleol.
-
Diolchwyd i’r adran
Priffyrdd a Bwrdeistrefol am ddatblygu systemau i sicrhau fod canran ailgylchu
domestig Gwynedd yn sefydlog o gwmpas 64%. Er hyn, cydnabuwyd yr angen i wneud
rhywbeth mawr er mwyn cyrraedd y targed o 70% erbyn 2025. Nododd ni fyddai’n
bosibl ei gyrraedd drwy wneud man newidiadau i weithdrefnau presennol.
-
Eglurwyd bod trefniadau
gweithio’r gwasanaeth wedi newid o shifftiau 12 awr (tri diwrnod ymlaen, tri
diwrnod i ffwrdd) i fod yn gweithio'r un oriau dros 5 niwrnod yr wythnos. Roedd
hyn yn heriol dros gyfnod Covid-19 ond bellach roedd y gweithlu wedi addasu
iddo ac yn gweithio ar sylfaen Tasg a Gorffen. Gobeithiwyd bod hyn yn mynd i
arwain at arbedion o fewn y gwasanaeth ond yn anffodus roedd y costau yn fwy
na ragwelwyd. Byddai’r adran yn ail edrych
ar y trefniant hwn er mwyn asesu os oedd yn optimeiddio’r gwasanaeth i’w llawn
botensial.
-
Adroddwyd bod casglu
gwastraff yn costio £232 yr annedd. Eglurwyd mai hwn oedd yr ail swm uchaf yng
Nghymru. Cysidrwyd bod hyn gan fod Gwynedd yn sir eang iawn. Er hyn, roedd
perfformiad y gwasanaeth yn dda iawn o ran canran ailgylchu.
-
Cadarnhawyd bod
gorwariant sylweddol yn y maes casglu a thrin gwastraff. Oherwydd natur
gorfforol y gwaith, roedd lefelau salwch staff yn uchel. Cydnabuwyd bod y lefel
hwn yn uwch na rhai o awdurdodau eraill Cymru. Golygai bod rhai aelodau o’r
gweithlu yn gorfod gweithio oriau ychwanegol. Tybir i’r ffigyrau gorwariant fod
o gwmpas £1.4 miliwn eleni ar gyllideb o oddeutu £5 miliwn.
-
Pwysleisiwyd bod iechyd a
diogelwch y gweithlu yn ganolog i’r gwasanaeth. Nid oedd strategaeth gwastraff
ac ailgylchu amlwg gan y Cyngor. Roedd yr adran yn gobeithio datblygu hyn yn y
dyfodol er mwyn sicrhau bod iechyd a diogelwch staff yn cael ei warchod.
-
Dywedwyd bod yr adran yn
derbyn cwynion cyson bod bocsys a biniau ailgylchu wedi torri a bod gwastraff
yn chwythu ar hyd y ffordd gan nad oedd wedi cael ei gasglu. Tybir fod hyn
hefyd yn effaith o salwch staff ac roedd yr adran yn ail asesu sut i ddarparu’r
gwasanaeth yn y dull mwyaf effeithiol. Roedd y Llywodraeth yn obeithiol byddai
awdurdodau lleol yn gallu didoli gwastraff ar ochr ffordd.
-
Datganwyd bod yr adran yn
ymgeisio i dderbyn systemau technolegol newydd er mwyn monitro’r gwasanaeth yn
amserol ac i werthuso perfformiad y gwasanaeth. Gobeithir hefyd ddatblygu Portal er mwyn i bobl gallu gweld y rheswm pam nad oedd y
gwastraff wedi cael ei gasglu a phryd byddai’r casgliad nesaf.
-
Cadarnhawyd bod llawer o
gytundebau gyda darparwyr er mwyn gallu cynnal y gwasanaeth. Adroddwyd bod yr
adran yn awyddus i gryfhau’r cytundebau hynny er mwyn lleihau costau a gwella
ansawdd y gwasanaeth.
-
Esboniwyd bod yr adran
wedi cael cefnogaeth gan WRAP Cymru i edrych ar sut allai’r adran wella’r
gwasanaeth, er mwyn ei wneud mor syml ac effeithiol a phosibl.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol:
Gofynnwyd a oedd system yn bodoli lle’r oedd
cynghorwyr yn cael neges pan nad oedd gwastraff wedi ei gasglu er mwyn rhannu’r
wybodaeth gyda thrigolion eu ward.
-
Mewn ymateb i’r
ymholiad, nododd Pennaeth Adran Amgylchedd nad oedd system o’r fath mewn lle ar
hyn o bryd. Roedd yr adran yn gobeithio byddai system o’r fath yn cael ei
ddatblygu ar ôl edrych ar ffigyrau’r gweithlu a derbyn data i fwydo i mewn i’r
system.
Awgrymodd aelod y dylid ystyried y
posibilrwydd o ddefnyddio’r system a oedd yn bodoli gan y Tîm Cymunedau Glân a
Thaclus ar gyfer aelodau. Nododd yn y cyfamser dylid cymryd camau i gysylltu
gydag aelodau lleol.
Trafodwyd bod yr adran wedi diwygio
cylchdeithiau fel bod yr un aelod o staff yn gweithio ar yr un teithiau.
Credwyd bod hyn wedi bod yn effeithiol ac ystyriwyd os oedd safon y gwasanaeth
yn gyson drwy’r sir yn dilyn y newid.
-
Mewn ymateb i’r
ymholiad, cadarnhaodd Pennaeth Adran Amgylchedd bod safon y gwasanaeth sy’n
cael ei ddarparu gan y gwasanaeth yn dda iawn ar draws y sir. Fodd bynnag,
roedd yr adran yn ceisio newid pa gylchdeithiau roedd gweithwyr yn ei gwblhau o
dro i dro er mwyn osgoi diflastod a salwch staff. Golyga hyn bod rhai
trafferthion yn codi wrth newid cylchdaith gan fod ystyriaethau gwahanol angen
cael eu cyflawni ar gyfer gwahanol gylchdeithiau ac felly efallai bod rhai
problemau yn codi o’i bryd i’w gilydd.
Holwyd os oedd gan yr adran stoc o ddeunyddiau
ailgylchu a sut byddai trigolion yn mynd o gwmpas holi am rhai newydd os byddai
unrhyw beth yn digwydd i’w bocsys neu finiau.
-
Mewn ymateb i’r
ymholiad, nododd Pennaeth Adran Amgylchedd bod gan yr adran stoc o finiau a bocsys
ailgylchu ar safle ger Clynnog Fawr. Eglurodd mai’r cam cyntaf byddai ceisio
trwsio’r bocsys, cartiau a biniau ailgylchu cyn rhoi
deunyddiau newydd i drigolion, yn y gobaith o arbed costau.
Rhoddwyd sylw i drigolion a oedd yn byw mewn
mannau poblog o’r sir, neu mewn stadau a fflatiau ac ystyried os ddylai
unigolion bod yn fwy ystyriol o’r hyn maent yn ei wneud gyda’u gwastraff er
mwyn sicrhau nad oedd yn chwythu i ffwrdd. Ystyriwyd hefyd os byddai’r adran yn
cysidro rhoi biniau gwyrdd mawr mewn sefyllfaoedd o’r fath, gyda goriadau i’r
rhai fyddai yn eu defnyddio. Mewn ymateb i’r ymholiad:
-
cadarnhaodd Pennaeth
Adran Amgylchedd y byddai’n wych os byddai pawb yn bod yn ofalus o’u cyfarpar
ailgylchu – megis sicrhau bod y caeadau wedi cael eu rhoi ymlaen yn gywir. Er
hyn, byddai hynny yn effeithiol ym mhob ardal o’r sir nid dim ond y rhai mwyaf
poblog yn unig. Cadarnhawyd bod y plastig ar y cyfarpar yn galed iawn a
chydnabuwyd bod y bocsys yn torri’n hawdd.
-
cytunodd Pennaeth
Cynorthwyol Adran Amgylchedd bod rhoi biniau mawr yn opsiwn da ar gyfer rhai
adeiladau a chymunedau. Ond, yn anffodus, nid oedd loriau presennol yr adran yn
gallu codi’r mathau hynny o finiau i fyny ar hyn o bryd felly ni fyddai modd eu
gwagio.
Cymharwyd ffigyrau canrannau ailgylchu Gwynedd
gyda Cheredigion a Phowys ac ystyriwyd sut roedd y siroedd hyn yn llwyddo i
ailgylchu canrannau uchel o wastraff. Mewn ymateb i’r ymholiad nododd Pennaeth
Adran Amgylchedd:
-
mai un ffactor sy’n
debygol o effeithiau canrannau ailgylchu Gwynedd oedd bod pobl ddim o reidrwydd
yn rhoi'r gwastraff ailgylchu yn y bocs cywir, neu yn eu rhoi yn y bin gwyrdd
yn hytrach na’i ailgylchu. Tybiwyd bod y siroedd eraill yn casglu holl eitemau
ailgylchu mewn un bag ac wedyn bod staff ac offer yn eu didoli. Dyma pam roedd
yr Adran yn cefnogi’r syniad o ddidoli gwastraff ailgylchu ar ochr stryd.
-
bod yr adran yn annog
unrhyw un i gysylltu â nhw gyda chwynion er mwyn cael dealltwriaeth o’r
trafferthion sy’n wynebu pobl a gallu datblygu ffyrdd o’u datrys. Gobeithir
byddai’r nifer o gwynion yn lleihau mewn amser gan fod llai o broblemau yn codi
o fewn y gwasanaeth.
-
bod gan Sir Benfro
agwedd hwyliog ac arloesol iawn tuag at y gwasanaeth a thybir fod hyn yn arwain
at fwy o eitemau’n cael eu hailgylchu. Roedd yn sir debyg i Wynedd ond yn llai
o faint. Nodwyd hefyd bod gan weithlu’r gwasanaeth yn Sir Benfro berthynas agos
gyda staff y swyddfeydd yn y sir, sy’n annog perfformiad da yn y gwaith. Roedd perthynas
fel hyn yn rhywbeth roedd yr adran yn gobeithio llwyddo ei gael yma yng
Ngwynedd.
Trafodwyd os oedd yr Adran wedi ystyried cael
biniau mawr cymunedol er mwyn casglu gwastraff a ellir ei ailgylchu mewn rhai
ardaloedd.
-
Mewn ymateb i’r
ymholiad, nododd Pennaeth Adran Amgylchedd bod biniau fel rhain wedi bod yn
effeithiol mewn rhai cymunedau yn y gorffennol. Fodd bynnag, byddai rhaid i’r
adran ystyried agwedd y cyhoedd tuag atynt cyn gosod biniau newydd gan eu bod
yn eitemau hawdd iawn i’w difrodi neu gamddefnyddio, gan greu costau ychwanegol
i’r adran.
Manylwyd ar y ffaith bod cyfraddau salwch
staff yn uchel a holwyd sut roedd yr adran yn cefnogi eu gweithlu.
-
Mewn ymateb i’r
ymholiad, nododd Pennaeth Adran Amgylchedd bod iechyd a diogelwch y staff yn
ganolog i’r gwasanaeth. Roedd amgylchiadau staff yn cael eu monitro mor fuan â
phosibl er mwyn sicrhau nad oedd neb yn niweidio’i hunain yn y gwaith.
Ymhelaethodd bod yr adran yn trefnu hyfforddiant i’r gweithlu yn gyson er mwyn
sicrhau bod rheolau ac arferion da yn cael eu dilyn.
Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod yng nghyswllt
barn y gweithlu ar y ffordd o weithio, nododd Pennaeth Adran Amgylchedd bod y
gweithlu yn awyddus i drafod y patrwm gwaith. Eglurodd bod trafodaethau
cychwynnol o ran materion salwch a chostau wedi eu cynnal gyda’r undebau a
bwriedir ymweld â’r gweithlu gyda’r swyddogion undeb.
Holwyd os oedd gan yr adran unrhyw arweiniad
pryd byddai’r rhaglen waith yn barod. Gofynnwyd iddynt ddod yn ôl at y Pwyllgor
Craffu pan fyddai’n barod.
Diolchwyd am yr adroddiad.
PENDERFYNWYD
Derbyn yr adroddiad, gan nodi’r
sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.
Dogfennau ategol: