Agenda item

Siop Hwylus, Brook House, Stryd Fawr, Llanberis LL55 4SU

 

I ystyried y cais

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Caniatau y cais yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003.

 

Oriau Gwerthu alcohol 08:00 - 23:00 bob dydd. Dim oriau ychwanegol ar ôl 23:00

 

Ymgorffori'r materion sydd wedi eu rhagnodi yn Atodlen Weithredol (Rhan M) y cais fel amodau ar y drwydded.

 

Ymgorffori'r amodau a argymhellwyd gan yr Heddlu fel amodau i’r drwydded.

 

Nodyn:

Sicrhau cydymffurfio gyda gofynion y Gwasaneth Tân cyn agor

 

Cofnod:

 

CAIS AM DRWYDDED EIDDO – Siop Hwylus, Brook House, Stryd Fawr, Llanberis, LL55 4SU

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

a)    Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer menter busnes newydd mewn eiddo sydd ar hyn o bryd yn sefyll yn wag. Eglurwyd mai’r bwriad yw addasu a gwella’r adeilad er pwrpas bod yn siop hwylus, yn gwerthu amrywiaeth o nwyddau gan gynnwys alcohol.

 

Cyfeiriwyd at oriau arfaethedig safonol ar gyfer gwerthiant alcohol oddi ar yr eiddo o 06:00 tan 23:00 pob diwrnod yr wythnos; er bod bwriad wedi ei nodi fel amser ansafonol i werthu alcohol o’r siop o 06:00 tan 02:00 drannoeth, bob diwrnod o’r 1af o Ebrill tan 30ain o Fedi. Cyfeiriwyd at ohebiaeth a ddaeth i law gan gynrychiolydd yr ymgeisydd yn nodi cynnig i leihau oriau gwerthu alcohol o 06:00 tan 23:00 (hyd 00:00 rhwng 1af o Ebrill a 30ain o Fedi), fyddai yn cyfarch rhai o’r pryderon.

 

Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded.

Tynnwyd sylw at yr ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod gwrthwynebiadau i’r cais wedi eu derbyn gan aelod o’r cyhoedd, y Cyngor Cymuned a’r Aelod Lleol oedd yn cyfeirio at bryderon mewn perthynas ar Amcanion Trwyddedu o Atal Trosedd ac Anrhefn, Niwsans Cyhoeddus, Diogelwch y Cyhoedd a Diogelu plant rhag niwed.  Amlygwyd bod Heddlu Gogledd Cymru yn cwestiynu’r oriau estynedig sylweddol ar gyfer gwerthu alcohol am hanner y flwyddyn fel amseroedd ansafonol ar y cais ac roedd y Gwasanaeth Tân yn nodi na fu’n bosib asesu cydymffurfiaeth gyda darpariaethau gofynion tân gan nad oedd gwybodaeth ddigonol ynglŷn â pherchnogaeth y safle.

 

Er y cynnig gan gynrychiolydd yr ymgeisydd i leihau’r oriau ansafonol, argymhellwyd i’r Pwyllgor geisio eglurder llawn ynglŷn ag oriau ansafonol y cais, sylwadau’r Heddlu a gofynion Deddf Drwyddedu 2003.

 

a)                    Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·         Cyfle i Aelodau’r is-bwyllgor ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.

·         Ar ddisgresiwn y Cadeirydd, yr ymgeisydd neu ei gynrychiolydd i ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.

·         Rhoi cyfle i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd ymhelaethu ar y cais a galw tystion

·         Rhoi cyfle i Aelodau’r is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd

·         Ar ddisgresiwn y Cadeirydd gall cynrychiolydd y Cyngor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd

·         Rhoi gwahoddiad i bob Ymgynghorai gefnogi unrhyw sylwadau ysgrifenedig

·         Rhoi cyfle i gynrychiolydd y Cyngor a’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd grynhoi eu

hachos.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r nifer o siopau sydd yn gwerthu alcohol tan hanner nos yng Ngwynedd, nododd y Rheolwr Trwyddedu bod yr oriau yn amrywio ar draws y Sir.  Amlygwyd bod siopau eraill yn Llanberis yn gwerthu alcohol tan 23:00 a/neu 00:00. Mewn ymateb i gwestiwn ategol ynglŷn â beth yw’r oriau mwyaf cyffredin ar gyfer dechrau gwerthu alcohol, nodwyd bod y Ddeddf wedi cyflwyno cyfundrefn i werthu alcohol am 24awr mewn rhai llefydd, ond mewn cymunedau lleol awgrymir i’r oriau gwerthu alcohol weddu angen y gymuned. Ategwyd mai 08:00 yw’r amser mwyaf cyffredin, ond rhai yn agor am 07:00.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â thystiolaeth o drafferthion yn ymwneud ac oriau agor hwyr, nododd yr Heddlu nad oedd tystiolaeth benodol i gysylltu’r eiddo (gwag) â throsedd ag anrhefn yn Llanberis er bod y gwrthwynebwyr yn nodi bod problemau yn bodoli.

 

b)                    Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd:

·         Bod cyfle yma i agor siop hwylus newydd fydd yn gwerthu alcohol fel rhan o’r busnes

·         Bod cais wedi ei wneud am brydles tymor hir ar gyfer llawr gwaelod yr eiddo - yr ymgeisydd wedi symud i’r ardal

·         Bod yr eiddo mewn cyflwr gwael - bydd yr adeilad yn cael ei adnewyddu

·         Bod yr ymgeisydd gyda phrofiad o weithio yn y maes; yn berson cyfrifol

·         Bod cynnig i leihau’r oriau gwerthu alcohol i 06:00 - 23:00 heb oriau ansafonol pellach

·         Bod yr ymgeisydd eisiau cyd-weithio gyda’r gymuned leol a goresgyn eu pryderon

·         Bod yr ymgeisydd yn cytuno gydag amodau’r drwydded

·         Bydd TCC o ansawdd yn cael ei osod  tu mewn a thu allan i’r adeilad; hyfforddiant yn cael ei gynnig i staff a gweithredu Polisi Her 25

·         Unwaith y bydd y brydles wedi ei chytuno bydd modd darparu asesiad tân gyda chynnig i gwrdd â’r Swyddog Tân ar y safle

·         Bod bwriad gwerthu alcohol yn gyfrifol

·         Tystiolaeth yn awgrymu nad oes problemau trosedd ac anrhefn yn berthnasol i’r eiddo dan sylw

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â dechrau gwerthu alcohol am 06:00, nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd mai dyma beth oedd oriau agor y siop gan dderbyn nad oedd galw uchel am alcohol ar yr amser yma. Ategodd bod modd cytuno i ddechrau gwerthu alcohol am 07:00 neu 08:00 os byddai hyn yn fwy ffafriol. Cyfeiriodd at y canllawiau cenedlaethol gan nodi’r hawl i werthu alcohol yn ystod oriau agor y siop, ond yn fodlon ystyried dechrau gwerthu alcohol yn hwyrach os mai dyna ddymuniad yr Is-bwyllgor.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chyfiawnhau gwerthu alcohol yn hwyr yn y nos, nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd bod y Ddeddf yn caniatáu hyblygrwydd a bod yr ymgeisydd bellach yn cynnig gwerthu alcohol tan 23:00 drwy’r flwyddyn.  Mewn ymateb i gwestiwn ategol ynglŷn â’r oriau ansafonol, cadarnhaodd bod yr ymgeisydd yn tynnu'r oriau ansafonol o’r cais yn ôl, a’r cais bellach yn gofyn am oriau gwerthu alcohol o 06:00 - 23:00, 365 diwrnod y flwyddyn.

 

ch)       Manteisiodd yr ymgynghorai oedd yn bresennol ar y cyfle i ymhelaethu ar sylwadau a gyflwynwyd ganddynt drwy lythyr.

 

Heather Jones (Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru)

·         Bod yr eiddo yn wag ac nad oedd gwybodaeth hanesyddol am ddiogelwch yr adeilad

·         Nad oedd y Gwasanaeth Tân mewn sefyllfa i sicrhau y byddai’r cyhoedd yn saff yn yr adeilad

·         Rhan o’r adeilad yn unig fydd yn siop. Yr adeilad yn adeilad aml bwrpas gyda Airbnb ar yr ail lawr. Gyda phrydles, angen sicrhau pwy yw’r person cyfrifol.

·         Awgrym i’r Is-bwyllgor beidio caniatáu’r drwydded hyd nes bydd ymweliad safle wedi ei drefnu a chyfrifoldebau’r siop a’r llety wedi eu cadarnhau

Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd bod gofynion y Gwasanaeth Tân yn wahanol i ofynion trwyddedu. Cadarnhaodd, unwaith y bydd y brydles wedi ei chaniatáu, bydd modd canolbwyntio ar yr adeilad gan drefnu i’r Gwasanaeth Tân ymweld â’r eiddo. Ategodd bod yr ymgeisydd yn berson cyfrifol ac y byddai yn gwneud yn siŵr y bydd yn cyfarch gofynion y Gwasanaeth  Tân

Cyng. Kim Jones  (Aelod Lleol)

·         Yn diolch i’r ymgeisydd am ailystyried yr oriau gwerthu alcohol

·         Bod y ddwy siop arall yn y pentref yn dechrau gwerthu alcohol am 08:00

·         Bod yr eiddo wedi ei leoli gerllaw gwesty i’r digartref ac unigolion bregus - angen sicrhau nad yw’r siop yn cael dylanwad ar y sefyllfa fyddai o ganlyniad yn rhoi pwysau ychwanegol ar y syrjeri leol

·         Hapus gyda chyfaddawd i ddechrau gwerthu alcohol am 08:00 - nid yw’n rhesymol agor am 06:00. Croesawu cau am 23:00

 

Mewn ymateb, nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd bod canllawiau cenedlaethol yn caniatáu hyblygrwydd ar y drwydded ac er yn dymuno agor am 06:00 i werthu papurau newydd,  dim bwriad bellach i werthu alcohol ar yr adeg yma. Yr ymgeisydd yn berson cyfrifol, yn fodlon addasu oriau’r drwydded i gyd-fynd ag oriau agor siopau lleol eraill.

Elizabeth Williams (Heddlu Gogledd Cymru)

·         Bod yr oriau gwreiddiol yn achosi pryder, ond yn amlwg, yr ymgeisydd yn barod i addasu – hyn yn newyddion da.

·         Wedi edrych am dystiolaeth o achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol a pherthnasedd yr eiddo. Yr eiddo wedi cau ac felly annheg fyddai ystyried bod ymddygiad gwrthgymdeithasol yn berthnasol i’r eiddo penodol yma.

 

Mr Dei Tomos (Clerc Cyngor Cymuned Llanberis) 

·         Bod yr oriau gwreiddiol 06:00 – 02:00 yn hollol afresymol

·         Cynnig oriau 08:00 - 23:00 i gydymffurfio gyda siopau eraill yn y pentref

·         Bod diffyg cofnod o gamymddwyn efallai yn amlygu diffyg heddweision yn yr ardal

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag addasu’r adeilad ac y byddai’n afresymol gofyn i’r ymgeisydd sicrhau bod y llety ar yr ail lawr yn ddiogel, nododd y Rheolwr Trwyddedu nad oedd canllawiau na rheolau ar gyfer lletyai Airbnb ac nad oedd y mater yn berthnasol i’r gyfundrefn drwyddedu. Ategodd y byddai gan y Gwasanaeth Tân bwerau gorfodi materion diogelwch.

Yn manteisio ar y cyfle i grynhoi eu hachos, nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd;

·         Bod yr ymgeisydd yn bwriadu cydymffurfio gyda’r holl ofynion

·         Yn derbyn bod angen cydweithio gyda thenantiaeth yr Airbnb a’r Gwasanaeth Tân i sicrhau diogelwch y safle

·         Bod yr ymgeisydd yn buddsoddi’n sylweddol i’r eiddo - yn fenter newydd fyddai’n troi dolur llygad yn y pentref i fusnes da

·         Bod gan yr ymgeisydd brofiad yn y maes a thrwydded bersonol

·         Yn derbyn y gofyn i stopio gwerthu alcohol am 23:00 ac yn fwy na bodlon addasu oriau dechrau gwerthu alcohol i 07:00 neu 08:00

·         Yn hapus bod y gwrthwynebwyr yn weddol fodlon gyda’r sefyllfa - yr ymgeisydd eisiau gweithio gyda’r gymuned leol

·         Nad oedd tystiolaeth bod problemau gwrth gymdeithasol yn berthnasol i’r eiddo presennol - bydd yr eiddo newydd gyda TCC tu mewn a thu allan i’r siop

·         Derbyn os bydd rhywbeth yn mynd o’i le, bydd angen adolygu’r trefniant

 

Yn manteisio ar y cyfle i grynhoi ei hachos, nododd y Rheolwr Trwyddedu ei bod yn argymell i’r Is-bwyllgor ystyried yr oriau diwygiedig a’r cynnig i ddechrau gwerthu alcohol yn hwyrach yn y bore i gyd-fynd a siopau lleol eraill.

c)            Diolchwyd i bawb am gyflwyno sylwadau ar y cais.

 

Ymneilltuodd yr ymatebwyr a’r Rheolwr Trwyddedu o’r cyfarfod tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

Wrth gyrraedd y penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor ffurflen gais yr ymgeisydd, sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y partïon â diddordeb, adroddiad y Swyddog Trwyddedu ynghyd â sylwadau llafar pob parti yn bresennol yn y gwrandawiad.  Ystyriwyd  Polisi Trwyddedu’r Cyngor a chanllawiau’r Swyddfa Gartref. Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth briodol i’r holl sylwadau gan eu pwyso a’u mesur yn erbyn yr  amcanion trwyddedu o dan y Ddeddf Trwyddedu 2003, sef:

 

                       i.       Atal trosedd ac anhrefn

                      ii.       Atal niwsans cyhoeddus

                     iii.       Sicrhau diogelwch cyhoeddus

                     iv.       Gwarchod plant rhag niwed

 

Diystyrwyd y sylwadau a ddaeth i law i’r graddau eu bod yn amherthnasol i’r amcanion uchod.

PENDERFYNWYD: Caniatáu y cais yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003.

 

1.    Oriau agor:  Sul-Sadwrn: 06:00 – 23:00

 

2.    Cyflenwi alcohol i yfed oddi ar yr eiddo: Sul-Sadwrn: 08:00 – 23:00

 

3.    Ymgorfforir y materion sydd wedi eu rhagnodi yn Atodlen Weithredol (Rhan M) y cais fel amodau ar y drwydded.

 

Nodyn: 

Sicrhau cydymffurfio gyda gofynion y Gwasanaeth Tân cyn agor

Rhesymau

Yng nghyd-destun Atal Trosedd ac Anhrefn roedd yr Is-bwyllgor yn nodi’r pryderon a fynegwyd am ymddygiad gwrth gymdeithasol.  Serch hynny, nid oedd unrhyw dystiolaeth wedi ei gyflwyno am broblemau yn tarddu o’r eiddo nag i awgrymu y byddai problemau o’r fath yn codi pe bai’r drwyddedu yn cael ei chaniatáu .  Ategwyd bod tystiolaeth yr heddlu bob tro yn ganolog wrth ystyried yr egwyddor yma ac roeddynt wedi cadarnhau nad oedd tystiolaeth ganddynt i wrthwynebu’r cais ac y byddai’n annheg ystyried digwyddiadau o ymddygiad gwrth gymdeithasol fel tystiolaeth yn erbyn yr eiddo yma.

Yng nghyd-destun Diogelwch Cyhoeddus ni chyflwynwyd tystiolaeth y byddai caniatáu'r drwydded yn creu problemau o’r fath.  Serch hynny, ystyriwyd sylwadau’r Gwasanaeth Tân yn ofalus a nodwyd eu pryderon. Eglurwyd y byddai’n rhaid i’r ymgeisydd gyd-ymffurfio gyda gofynion penodol a statudol y Gwasanaeth Tân cyn cael agor y busnes.  Nid oedd hyn felly yn fater i’r gyfundrefn drwyddedu, ond hoffai’r Is-bwyllgor bwysleisio pwysigrwydd cyd-ymffurfio gyda gofynion o’r fath.

Yng nghyd-destun Atal niwsans cyhoeddus, Ni chyflwynwyd tystiolaeth oedd yn gysylltiedig â’r eiddo, ond fe ystyriwyd y gofidion a fynegwyd am yr oriau agor cynnar yng nghyd-destun natur yr ardal gyfagos, amseroedd agor siopau cyfagos ac agosatrwydd yr eiddo at yr hostel.  Nodwyd bod yr ymgeisydd yn fodlon addasu’r amser cychwyn  ac y byddai’n derbyn 08:00 pe bai’r Is-bwyllgor yn ystyried hynny’n briodol. Roedd yr is-bwyllgor o’r farn  y byddai caniatáu  cyflenwi alcohol o 08:00 ymlaen yn addas ac yn rhesymol yn yr amgylchiadau.

Yng nghyd-destun Gwarchod Plant Rhag Niwed nodwyd bod mesurau yn yr Atodlen  Weithredol oedd y cyfarch yr egwyddor yma.

Roedd yr Is-bwyllgor yn falch o weld y cyd-weithredu gan bawb yn yr achos yma a bod yr ymgeisydd wedi ystyried y sylwadau a gyflwynwyd ac wedi bod yn fodlon cyfaddawdu.  O dan yr amgylchiadau roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod y cais yn gydnaws â’r pedwar amcan trwyddedu, ac felly caniatawyd y cais.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd wedi cyflwyno sylwadau ysgrifenedig. Ategwyd bod gan bob parti i’r cais yr hawl i gyflwyno apêl yn Llys Ynadon Caernarfon yn erbyn penderfyniad yr Is-bwyllgor. Dylid cyfeirio unrhyw apêl o’r fath drwy roi rhybudd o apêl i’r Prif Weithredwr, Llys Ynadon Llandudno, Llandudno, o fewn cyfnod o 21 diwrnod gan gychwyn â’r dyddiad y bydd yr apelydd yn derbyn llythyr (neu gopi ohono) yn cadarnhau’r penderfyniad.

 

Dogfennau ategol: