Agenda item

Aelod Cabinet – Y Cynghorwyr Dyfrig Siencyn a Nia Jeffreys

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod.

 

Penderfyniad:

 

(1)  Derbyn yr adroddiad, gan argymell y dylid ystyried diwygio Gweledigaeth Cynllun Economi Ymweld Cynaliadwy Gwynedd ac Eryri 2035 i ddarllen:-

 

“Economi Ymweld sy’n:-

(i)     Costrelu iaith a diwylliant Gwynedd ac Eryri;

(ii)    Er budd a lles pobl, amgylchedd, iaith a diwylliant Gwynedd ac Eryri”.

 

(2)  Gofyn i’r Aelod Cabinet gyfleu sylwadau’r pwyllgor i’r Cabinet.

 

Cofnod:

 

Croesawyd y Dirprwy Arweinydd a swyddogion yr Adran Economi a Chymuned i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd adroddiad yr Arweinydd a’r Dirprwy Arweinydd yn gwahodd y pwyllgor i graffu:-

 

    Os ydi Cynllun Strategol Economi Ymweld Cynaliadwy Gwynedd ac Eryri yn cyd-fynd ag uchelgais a blaenoriaethau’r Cyngor ar gyfer Economi Ymweld Cynaliadwy yn y dyfodol (Atodiad 1 i’r adroddiad a gyflwynwyd i’r pwyllgor);

    Os ydi’r strwythur gweithredu ar y cyd gydag Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn addas (Atodiad 2); a

    Threfniadau sefydlu Partneriaeth Economi Ymweld Cynaliadwy Newydd i lywio gweithrediad y Cynllun Gweithredu (Atodiad 3).

 

Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun.  Rhoddodd y Pennaeth Cynorthwyol Diwylliant drosolwg o gynnwys yr adroddiad a’r cynllun, ac ymhelaethodd Rheolwr Partneriaethau Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ar strwythur a chamau gweithredu’r bartneriaeth.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Awgrymwyd, gan fod twristiaeth yng Ngwynedd ac Eryri yn seiliedig i raddau helaeth ar dirwedd yr ardal, y dylai tirfeddianwyr gael eu cynrychioli ar y bartneriaeth.

·         Nodwyd bod elfennau perthnasol i’r drafodaeth ar goll o’r adroddiad a’r atodiadau.  Roedd tueddiad i anwybyddu anghytuno a gwrthdaro posib’ dros adnoddau.  Roedd sôn am effaith posib’ ar y Gymraeg, ond roedd yr effaith hynny’n sicr.  Nid oedd cyfeiriad chwaith at yr effaith ar y gwasanaeth iechyd a’r heddlu yn ystod y tymor ymwelwyr.

·         Mynegwyd anfodlonrwydd ein bod, fel Cyngor, yn ddibynnol ar y Parc Cenedlaethol, sy’n gorff a dim atebolrwydd democrataidd yn perthyn iddo, i fod yn rhan o’r bartneriaeth gyda ni.

·         Nodwyd nad oedd yr un o’r cynlluniau sy’n rhan o’r Cynllun Arosfan o fewn ardal y Parc, ac felly nad oedd yn ateb y broblem lle mae mwyafrif y twristiaeth.  Hefyd, roedd yr astudiaeth achos yn cyfeirio at gynlluniau ar gyfer y mynyddoedd a’r llwybrau, ond gan mai’r prif beth i ni yw’r bobl sy’n byw yn y parc, lle mae’r cynlluniau ar gyfer y trefi a’r pentrefi yn y Parc?  Hefyd, roedd y cynlluniau ar gyfer glan môr ar goll o’r cynllun.  (Gan fod Rheolwr Partneriaethau Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi gorfod gadael y cyfarfod am gyfnod, gofynnwyd i’r Ymgynghorydd Craffu anfon sylwadau’r aelod ymlaen ati.)

·         Nodwyd bod hwn yn gynllun strategol canmoladwy iawn.  Roedd yn dda gweld y ddau awdurdod yn cydweithio’n agos, a diolchwyd i’r Dirprwy Arweinydd a’r swyddogion am y cydweithio.

·         Mynegwyd siomedigaeth fod y swyddog o’r Parc wedi gorfod gadael y cyfarfod, a nodwyd y dylai uwch swyddog o’r Parc fod wedi bod yn rhan o’r drafodaeth hon.

·         Nodwyd bod y gwaith a gyflawnwyd gan y Pennaeth Cynorthwyol Diwylliant ar y Cynllun Rheoli Safle Treftadaeth y Byd UNESCO wedi gorfodi’r cydweithio rhwng y ddau awdurdod i raddau gan fod y rhan fwyaf o’r ardaloedd llechi y tu allan i ffiniau’r Parc, ond yno mae cymunedau Gwynedd.  Gan hynny, roedd angen rhoi ffiniau o’r neilltu weithiau, ac roedd twristiaeth yn sector sydd ddim yn parchu ffiniau.

·         Canmolwyd yr amcanion twristiaeth newydd ac awgrymwyd bod yr adroddiad hwn yn arwain y gad i raddau o ran dechrau ystyried ardrawiad twristiaeth ar gymuned, iaith a diwylliant, sef rhywbeth a ddaeth yn amlwg iawn i bobl adeg y cyfnodau clo pan nad oedd yna dwristiaid yng Ngwynedd.

·         Nodwyd ei bod yn uchelgeisiol iawn i geisio cael 3 lefel y bartneriaeth i gydweithio, gan y byddai pawb eisiau bod yn rhan o’r bartneriaeth ar yr ochr wleidyddol.

·         Awgrymwyd, petai’r Dreth Twristiaeth yn dod i rym, y byddai’r bartneriaeth a’r grŵp gweithredu yn ffordd wych o benderfynu ar y grantiau fyddai’n cael eu dyrannu o unrhyw gronfa fyddai ar gael i’r diben hynny.

·         Mynegwyd pryder na chafodd y pwyllgor gyfle i ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Gynllun Trwyddedu Statudol i Ddarparwyr Llety Ymwelwyr yng Nghymru, sy’n dod i ben ar 17 Mawrth, a holwyd beth yw ymateb y Cyngor i hyn. 

·         Awgrymwyd, er bod yna egwyddorion clodwiw a dyheadau yn y cynllun strategol, nad oes cyfeiriad at sut mae gweithredu hynny na sut i’w fesur yn y dyfodol. 

·         Nodwyd nad oedd yna unrhyw beth yn y strategaeth ar hyn o bryd sy’n mynd i’r afael â gor-ddatblygu twristiaeth, ac mai denu mwy yw’r neges barhaus.  Cydnabyddid bod yna fuddion, e.e. mwy o doiledau, gwaith tymhorol, ayb, ond nid ydym yn rheoli’r farchnad mewn unrhyw ffordd, ac ni chredir bod modd i ni wneud hynny gyda’r strategaeth fel y mae.

·         Awgrymwyd bod tueddiad i fynegi’r hyn rydym yn dymuno ei weld, yn hytrach na’r hyn nad ydym yn dymuno ei weld.  Credid bod rhai datblygiadau yn anghynaladwy i gymunedau.  Dylid modelu ar sail yr hyn rydym yn ceisio ei osgoi, a dylai’r cynllun gyfeirio at hynny.

·         Nodwyd bod twristiaeth i’w groesawu, ac yn rhan o’r economi, ond mai’r her yw ei wneud yn gynaliadwy, fel bod pobl Gwynedd yn cael buddion economaidd ohono, ac nid swyddi tymhorol yn unig.  Hefyd, bod ein hiaith, ein diwylliant a’n treftadaeth yn cael eu gwarchod, bod yna gartrefi i bobl fyw ynddynt, ac nad ydi’r sir yn troi’n barc gwyliau mawr.

·         Awgrymwyd, os datblygu rhwydweithiau bysus, y dylid creu meysydd parcio mwy mewn trefi fel Caernarfon a Phorthmadog ar gyrion y Parc, fel nag ydi ymwelwyr yn ymweld ag un lleoliad yng Ngwynedd, neu o fewn y Parc, yn unig.  I’r gwrthwyneb, nodwyd y byddai rhedeg bysus o’r trefi yn tynnu cyflogaeth oddi ar ardal Eryri, gan y byddai’n annog pobl i fynd yn syth yn ôl i’r trefi, yn hytrach na’u bod yn aros ac yn gwario’u harian yn lleol o fewn ardal y Parc.

·         Nodwyd y croesawid y bwriad i sefydlu 5 safle arosfan ar draws Gwynedd.  Awgrymwyd, er enghraifft, y gellid defnyddio tir yn agos at y Foryd yng Nghaernarfon ar gyfer y math yma o ddatblygiad, gyda’r Cyngor Tref yn rheoli’r safle a’r elw yn mynd i’r gymuned.  O bosib’ bod yna grwpiau cymunedol ledled y sir allai ymgymryd â’r math yma o waith hefyd, gyda’r elw yn cael ei drosglwyddo i’r cymunedau hynny.  Pwysleisiwyd hefyd bwysigrwydd yr elfen gorfodaeth, er mwyn sicrhau bod yr arosfanau yn cael eu cadw’n lan a thaclus.

·         Canmolwyd gwaith gwych y Timau Tacluso Ardal Ni, a phwysleisiwyd pwysigrwydd gwarchod y buddsoddiad yma yn y cyfnod economaidd heriol sydd ohoni, gan eu bod yn gwneud gwir wahaniaeth i gymunedau ar draws Gwynedd.

·         Awgrymwyd nad oedd pwrpas defnyddio arian cyhoeddus i farchnata Gwynedd ac Eryri mewn cyfnod o doriadau, gan fod digonedd o bobl yn gwybod bellach am yr ardal, ac y byddai’n well canolbwyntio ar wella isadeiledd Gwynedd a’r Parc, gan adael yr elfen marchnata i Croeso Cymru.

·         Nodwyd mai un agwedd ar y mewnlifiad yw pobl yn symud i mewn i’r ardal, yn prynu tai ac yn eu haddasu i gael incwm, ac ni chredid y dylid cefnogi twristiaeth o’r fath.  Yn hytrach, dylid cefnogi twristiaeth lle mae’r asedau sy’n cael eu defnyddio, boed yn dir neu adeiladau, yn nwylo brodorion, a thwristiaeth sy’n darparu cyflogaeth ar gyfer y brodorion, eithr dim gormod o swyddi rhag annog rhagor o fewnlifiad poblogaeth.

·         Nodwyd bod yna ymdeimlad yn gyffredinol bod cyflogau’n isel i’r rhai sy’n gyflogedig yn y sector twristiaeth, ac y byddai’n fuddiol gwybod beth yw’r ffigurau cyflog cyfartalog yn y maes.  O ystyried ei bod yn anodd llenwi swyddi ym maes twristiaeth, a gan nad yw diweithdra yn broblem fawr yn lleol, rhaid gofyn oes angen y swyddi yma o gwbl?  Hefyd, mae’r sector ymwelwyr yn ddibynnol iawn ar gyflogi plant, sy’n awgrymu bod y cyflog yn isel iawn, ond ni cheir cyfeiriad at hynny yn yr adroddiad.

·         Nodwyd bod cwmnïau yn methu cael digon o bobl i weithio iddynt, hyd yn oed cwmnïau sy’n cynnal twristiaeth drwy gydol y flwyddyn, a rhaid hybu cyfleoedd o’r fath i’r bobl leol, yn ogystal â chefnogi’r busnesau eu hunain.

·         Nodwyd bod y sector twristiaeth yng Ngwynedd yn cynnwys amrediad mawr iawn o fusnesau a llawer o’r rhain yn fusnesau bach, ac os yw’r egwyddorion am gael eu gweithredu’n llawn ac yn effeithiol, rhaid sicrhau bod y sector yn ei chyfanrwydd yn prynu i mewn i hyn.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, ac i gwestiynau gan aelodau, nodwyd:-

 

·         Y cytunid y dylai tirfeddianwyr gael eu cynrychioli ar y bartneriaeth, ac y byddai’r cylch gorchwyl drafft yn cael ei addasu i gynnwys cynrychiolwyr o’r undebau amaeth neu gynrychiolwyr o’r tirfeddianwyr.

·         Ei bod yn bwysig cael cynrychiolaeth o’r gwasanaethau brys ar y bartneriaeth oherwydd y pwysau ychwanegol yn ystod y tymor gwyliau.  O ran y cyfeiriad at wrthdaro posib’ dros adnoddau, byddai’r bartneriaeth yn gyfrwng ar gyfer annog trafodaeth agored a gonest rhwng pawb, ac roedd yr holl bartïon yn dymuno cydweithio a mynd i’r afael â’r problemau.  Nodwyd ymhellach fod angen cyfleu’r neges i bobl sy’n dymuno ymweld â’r ardal ynglŷn â’r angen i barchu’r amgylchedd, ac ati, a gobeithid gweithio ar y math yma o negeseuon drwy’r cynllun.  Hefyd, roedd yna gydweithio agos yn digwydd gyda Phrifysgol Bangor, oedd wedi llwyddo i sicrhau grantiau ar gyfer cynnal ymchwil ar adnabod effaith yr economi ymweld ar y Gymraeg, a gobeithid y byddai’r gwaith yma’n esgor ar dystiolaeth ddiweddar a chyfredol fyddai’n llywio blaenoriaethau’r cynllun economi ymweld i’r dyfodol.

·         O ran targedu cyllid ar gyfer ariannu’r blaenoriaethau, nodwyd bod y gwasanaeth yn edrych ar sawl cronfa ariannu.  Cyflwynwyd rhai ceisiadau eisoes i ariannu rhai o’r prosiectau a amlygwyd yn yr adroddiad strategol, boed hynny’n gronfeydd y loteri, cronfeydd Llywodraeth Cymru, neu Lywodraeth y DU.  Hefyd, roedd yna gronfa benodol ar gael drwy Croeso Cymru ar gyfer cefnogi gwaith rheolaeth cyrchfan, a chafwyd cryn lwyddiant yn targedu’r arian yma yn y gorffennol.  Llwyddwyd i sicrhau arian ar gyfer cyfleusterau parcio a thoiledau, a dyma’r gronfa oedd yn ariannu’r cynllun ‘aires’.  Roedd yna fuddsoddiad o’r gronfa yma hefyd wedi’i wneud ym Mharc Glynllifon a Pharc Padarn, ac roedd y gwasanaeth yn edrych ar hyn o bryd ar y cyfleoedd sy’n codi drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) ar gyfer cefnogi busnesau, y materion diwylliannol sydd wedi codi o’r cynllun, dynodiad Safle Treftadaeth y Byd a’r gweithgaredd yn deillio o’r Cynllun Economi Ymweld.  Byddai ystyriaeth yn y fan honno i’r cynnig arfordirol.  Yn yr adborth a gafwyd o’r grwpiau, roedd y pwysau dybryd ar yr is-adeiledd a’r angen i fuddsoddi yn hynny yn ffactor oedd yn codi’n rheolaidd gan yr aelodau, cynrychiolwyr cymunedau a busnesau.  O ganlyniad, cynhaliwyd adolygiad o’r is-adeiledd arfordirol, ac roedd gwaith ar droed yn drawsadrannol i edrych ar gronfeydd posib’ i’w targedu.

·         Y byddai’r Cyngor yn ymateb i’r ymgynghoriad ar Gynllun Trwyddedu Statudol i Ddarparwyr Llety Ymwelwyr yng Nghymru, a bod croeso i’r aelodau gyflwyno unrhyw sylwadau fel y gellir eu hymgorffori yn yr ymateb.

·         Y bu’r gwasanaeth yn edrych ar ymarfer da yn rhyngwladol i fesur gweithgaredd o ran rheolaeth cyrchfan a thwristiaeth gynaliadwy, gan ddefnyddio ffigurau ac ystadegau o ran adrodd ar faterion economaidd.  Bellach, edrychid ar deulu ehangach o ystadegau a dangosyddion i osod cyfeiriad ac i gynorthwyo o ran dangos cynnydd ar brosiectau penodol.  Sefydlwyd grŵp ymchwil i edrych ar yr union faterion a godwyd gan yr aelod er mwyn sicrhau bod gennym dargedau a mesuryddion fydd yn goleuo’r broses, a hefyd fel ffordd o adrodd yn ôl i aelodau, busnesau a chymunedau ar unrhyw gynnydd, neu ddiffyg cynnydd.  Nodwyd bod gwaith hefyd yn cael ei wneud ar asedau cyfathrebu a chyswllt gyda busnesau.  Holodd yr aelod ymhellach a fyddai modd ymgorffori hynny fel atodiad i’r cynllun strategol, fel bod pawb yn glir bod y mesuryddion yma’n rhan ohono.  Mewn ymateb, nodwyd ei bod yn hanfodol bod y gwaith yma’n cael ei integreiddio ac yn dylanwadu’r prif nodau a’r amcanion.  Eglurwyd ymhellach bod y mesuryddion wedi’u tynnu allan o’r drafft cychwynnol o’r cynllun, fel bod modd i’r bartneriaeth newydd gymryd perchnogaeth o’u cynllun gweithredu, a byddai yna adolygiad blynyddol o’n cerrig milltir, cyn i’r bartneriaeth gytuno ar y mesuryddion.  Canolbwyntiwyd ar tua 50-60 o fesuryddion er mwyn mesur effaith pob un o’r egwyddorion, gyda’r bwriad o’u cyflwyno i’r bartneriaeth, gan ofyn iddynt adnabod ein blaenoriaethau ni a’r mesuryddion sy’n cael eu tracio gennym yn ystod y flwyddyn, ynghyd â’r canlyniad disgwyliedig o’r gweithredu.  Byddai hon yn broses flynyddol fyddai’n cael ei hadolygu a’i diweddaru mewn ymateb i flaenoriaethau’r economi ymweld a’n cymunedau, a gobeithid y byddai hynny yn dod allan yn glir yn y broses o sefydlu’r bartneriaeth, ac wrth iddi aeddfedu.

·         O ran gor-ddatblygu twristiaeth a rheolaeth o’r farchnad, er y byddai modd i rai rhannau o’r sir ddatblygu / cynnig economi ymweld, a thynnu pobl o’r ardaloedd mwy prysur, ni chredid bod y cynllun yn ceisio denu mwy o ymwelwyr i Wynedd, yn arbennig yn ystod yr haf.  Y bwriad fyddai annog ymwelwyr i ddod ar adegau gwahanol, ac i fynd i ardaloedd gwahanol, gan hefyd dargedu’r marchnadoedd tramor, a sicrhau bod yna fwy o gyfleon cyflogaeth a chyflogaeth well yn lleol, gan hefyd greu mwy o gyfleon gyrfaol i bobl o fewn y sector economi ymweld yn lleol.  Roedd yna ddymuniad hefyd i ddatblygu twristiaeth gymunedol fel bod y buddion yn mynd yn ôl i’r gymuned leol.  Roedd hyn oll yn her, ond gobeithid, drwy weithio mewn partneriaeth, bod modd ymateb i’r her.

·         O ran amlygu’r math o dwristiaeth y byddem yn dymuno ei osgoi, mai’r balans sy’n anodd.  Rydym yn dymuno i ymwelwyr ddod yma, ond hefyd yn dymuno iddyn nhw barchu ein hiaith, ein diwylliant a’n amgylchedd, fel bod twristiaeth yn dod â’r budd mwyaf i’r bobl leol.

·         O ran parcio yn Eryri, bod gan y Parc ei gynllun trafnidiaeth gynaliadwy sy’n edrych ar ddatblygu mwy o hybiau o amgylch y Parc er mwyn cludo pobl i mewn, ac roedd trafodaethau parhaus yn digwydd rhwng y Parc, Cyngor Gwynedd, Cyngor Conwy a Thrafnidiaeth Cymru ynglŷn â gweithredu’r strategaeth honno.

·         Bod y cynllun arosfan yn cael ei ddatblygu gydag arian cronfa Pethau Bychain Croeso Cymru.  Roedd yn brosiect sy’n cael ei arwain gan yr Adran Amgylchedd, gyda chefnogaeth yr Adran Economi, a chyflwynwyd ceisiadau cynllunio yn ddiweddar ar gyfer 5 lleoliad ym meysydd parcio’r Cyngor – maes parcio Shell yng Nghaernarfon, Parc Padarn, Cricieth, Pwllheli a Bermo.  Bu’n fwriad cael cynllun yn Nhywyn hefyd, ond ni lwyddwyd i adnabod lleoliad.  Eglurwyd mai cynllun peilot ydoedd, a bod y gwaith ymchwil a gyflawnwyd o ran y diddordeb, y gwaith rheoleiddio ac adborth y cymunedau ar gael ar gyfer busnes neu gymunedau sy’n awyddus i ddatblygu eu cynlluniau eu hunain.  O ran yr agweddau rheolaeth, byddai’r Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd yn gweithredu pecyn gorfodaeth dros y misoedd nesaf er mwyn taclo lleoliadau penodol sydd wedi bod yn wirioneddol broblemus dros y 2-3 blynedd ddiwethaf.  Byddai yna hefyd waith cyfathrebu i’w wneud o ran ymarfer da a’r disgwyliadau ar y bobl hynny fydd yn defnyddio’r arosfannau. 

·         Nad oedd y Cyngor wedi bod yn marchnata Gwynedd o gwbl yn ystod y cyfnod Cofid, nac ar ôl hynny, a bod y gyllideb ar gyfer marchnata wedi ei chwtogi’n sylweddol dros y blynyddoedd.  Eglurwyd bod Croeso Cymru yn dueddol o ganolbwyntio ar Gymru fel brand, yn hytrach na marchnata ardaloedd gwahanol o Gymru, a bod lle i’r Cyngor farchnata, neu greu ymgyrch i dargedu cynulleidfaoedd penodol, neu i bobl ymweld â’r ardal ar gyfnodau penodol, neu i bobl beidio ag ymweld â’r ardal ar gyfnodau penodol hefyd.  O ran ariannu’r is-adeiledd, byddai cyfle’n codi’n fuan drwy gronfa newydd Y Pethau Pwysig Croeso Cymru, ynghyd â chyfleoedd dros y 18 mis nesaf drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSBF) i fuddsoddi yn ein cymunedau, is-adeiledd, marchnata a digwyddiadau.  Nodwyd ymhellach y cytunwyd yn sgil y toriadau i’r gyllideb marchnata bod swm sylweddol o’r buddsoddiad yna yn cael ei ddefnyddio i gynnal gwefan Eryri Mynyddoedd a Môr, a bellach roedd manylion dros 800 o fusnesau yn cael eu harddangos ar y wefan, gyda dros 1m yn edrych ar y wefan mewn blwyddyn.  Gwelwyd cynnydd hefyd o 30% yn y niferoedd sy’n dilyn Eryri Mynydd a Môr ar Instagram.  Gan hynny, roedd yn bwysig ein bod, ar lefel lleol, yn amlygu beth sy’n bwysig i’r ardal a’n rhinweddau arbennig, ein hamgylchedd, ein diwylliant a’n hiaith.

·         O ran marchnata’r rhwydwaith bysus i bobl o ffwrdd sydd wedi arfer gyrru’n syth o’u cartref i Eryri, nodwyd y sefydlwyd gweithgor i drafod y cynllun trafnidiaeth a pharcio a’r gwasanaeth Sherpa, ac y bwriedid cwblhau astudiaethau o ran sut mae ymgysylltu ac egluro beth yw’r cynnig newydd.  Unwaith y byddai’r cynlluniau wedi’u cytuno, byddai’r Gwasanaeth yn amlygu eu hargaeledd i gymunedau ac yn rhannu gwybodaeth drwy’r Bwletin Busnes.  Byddai’r cynlluniau hefyd yn cael eu hamlygu ar y cyfryngau cymdeithasol ac ar wefan y Cyngor, ac roedd y Tîm Cludiant Cyhoeddus yn arwain ar y gwaith, mewn cydweithrediad â’r Adran Economi.

·         O ran yr angen i’r sector cyfan brynu i mewn i’r egwyddorion, roedd yn amlwg o’r ymgynghori gydag arbenigwyr Prydeinig a rhyngwladol mai’r cynlluniau rheolaeth cyrchfan twristiaeth gynaliadwy sy’n gweithio orau yw’r rhai lle mae yna fwy o berchnogaeth ar lefel lleol.  Daeth yn amlwg iawn hefyd o’r ymgynghori bod darparu cefnogaeth i’r sector allu prynu i mewn i hyn a dod yn rhan o’r broses yn gorfod bod yn ganolog i unrhyw bartneriaeth symud ymlaen.  Byddai hynny’n cael ei ystyried, felly, wrth edrych ar y pecyn cefnogaeth i fusnesau.  Roedd gwaith wedi’i gwblhau eisoes i amlygu a chael asedau cyfathrebu i amlygu ymarfer da.  Byddai rheini’n cael eu hamlygu ymhellach pan fyddai’r cynllun yn cael ei lansio.  Roedd y Gwasanaeth yn adeiladu ar y gwaith a gyflawnwyd yn flaenorol o ran y gwaith rheolaeth cyrchfan, ond roedd yna waith mwy manwl i’w wneud o ran egluro, annog a dangos ymarfer da, ac amlygu’r cyfeiriad y dymunir symud iddo i’r dyfodol.  Ni fyddai pawb yn ei dderbyn, ond roedd sawl un a fu’n rhan o’r trafodaethau hyd yma yn edrych ymlaen at gydweithio, ac roedd y partneriaethu lleol am fod yn allweddol yn hyn o beth.  Nodwyd ymhellach mai un o flaenoriaethau gweithredu’r cynllun oedd y bwriad i sefydlu’r llysgenhadon, neu arweinyddion, lleol, fel bod yna berchnogaeth leol.  O brofiad ardaloedd eraill, efallai na fyddai’r unigolion hyn yn bobl sy’n ymwneud â’r sector economi ymweld, ond yn bobl sy’n prynu i mewn i’r weledigaeth o economi ymweld cynaliadwy a pherchnogaeth gymunedol o’r economi ymweld.  Hwn fyddai un o’r camau gweithredu cyntaf rhwng gwanwyn a haf eleni i ddatblygu’r rhwydwaith o lysgenhadon/arweinyddion.

·         Y disgwylid y byddai cynnydd o ran gweithrediad yn cael ei adrodd i bwyllgor ac i’r Cabinet.  Yn amlwg, byddai yna adrodd i’r bartneriaeth hefyd, a byddai’r trefniadau arferol o adrodd i fyny yn digwydd wedyn, gan gynnwys adrodd drwy’r drefn herio perfformiad.  Eglurwyd hefyd, gan y bu’r gweithgaredd yma’n rhan o Gynllun Gwynedd yn flaenorol, sef y Cynllun Elwa o Dwristiaeth, bod yna adrodd uwch ar y maes yma.

 

Mynegwyd dymuniad i’r weledigaeth nodi’n glir ein bod yn dymuno cael economi ymweld sy’n costrelu iaith a diwylliant Gwynedd ac Eryri er budd a lles pobl, amgylchedd, iaith a diwylliant Gwynedd ac Eryri.  Byddai hynny’n sicrhau bod y weledigaeth ar gyfer cael unrhyw ddatblygiad twristaidd yn parchu’r iaith a’r diwylliant, ac nad ydym yn derbyn datblygiadau sy’n fwy estronol o ran natur, a ddim yn dangos parch.  Mewn ymateb, nodwyd mai dyma lle’r oedd y gwaith trawsadrannol yn digwydd, ac y byddai ystyriaeth o’r egwyddorion yn gam pwysig wrth benderfynu ar geisiadau am gymorth ariannol, cefnogi digwyddiadau neu geisiadau cynllunio.

 

PENDERFYNWYD

(1)       Derbyn yr adroddiad, gan argymell y dylid ystyried diwygio Gweledigaeth Cynllun Economi Ymweld Cynaliadwy Gwynedd ac Eryri 2035 i ddarllen:-

 

“Economi Ymweld sy’n:-

(i)        Costrelu iaith a diwylliant Gwynedd ac Eryri;

(ii)       Er budd a lles pobl, amgylchedd, iaith a diwylliant Gwynedd ac Eryri”.

 

(2)       Gofyn i’r Aelod Cabinet gyfleu sylwadau’r pwyllgor i’r Cabinet.

 

 

Dogfennau ategol: