Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Ioan Thomas

Penderfyniad:

Argymhellwyd i’r Cyngor (yn ei gyfarfod ar 2 Mawrth 2023) y dylid:

 

1.     Sefydlu cyllideb o £317,880,310 ar gyfer 2023/24 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £227,842,930 a £90,037,380 o incwm o’r Dreth Cyngor (sy’n gynnydd o 4.95% ar dreth anheddau unigol).

 

2.     Sefydlu rhaglen gyfalaf o £67,780,150 yn 2023/24 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad 4 i’r adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas 

 

PENDERFYNIAD 

 

Argymhellwyd i’r Cyngor (yn ei gyfarfod ar 2 Mawrth 2023) y dylid: 

 

1.    Sefydlu cyllideb o £317,880,310 ar gyfer 2023/24 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £227,842,930 a £90,037,380 o incwm o’r Dreth Cyngor (sy’n gynnydd o 4.95% ar dreth anheddau unigol). 

 

2.    Sefydlu rhaglen gyfalaf o £67,780,150 yn 2023/24 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad 4 i’r adroddiad.  

 

TRAFODAETH 

 

Cyflwynwyd yr adroddiad a nodwyd y penderfyniad a geisir. Nodwyd nad yw’r argymhelliad i godi treth cyngor mewn cyfnod o gostau byw cynyddol yn argymhelliad hawdd i’w wneud wrth ystyried yr effaith ar drigolion Gwynedd. Cyfeiriwyd ar yr heriau ariannol sydd yn wynebu Awdurdodau Lleol ar draws Gymru yn enwedig wrth ystyried y lefelau chwyddiant diweddar sydd yn bresennol dros 10%.  

 

Mynegwyd bod Cyngor Gwynedd wedi derbyn cynnydd grant o 7% ar gyfer 2023/24 sy’n welliant sylweddol ar y setliad dangosol ac yn cyfateb i gynnydd gwerth £14.6 miliwn mewn ariannu allanol. Er hyn pwysleisiwyd nad yw’r swm yma yn ddigonol i gwrdd â chwyddiant a’r pwysau ychwanegol ar wasanaethau. 

 

Cyfeiriwyd at y ddarpariaeth am chwyddiant cyflogau sy’n £14.2 miliwn. Eglurwyd bod chwyddiant cyflogau yng nghyllideb 2023/24 yn cynnwys elfen i gywiro’r bwlch 2022/23 gan bod y cytundeb terfynol yn uwch na’r hyn oedd wedi ei gyllidebu amdano, yn ogystal ag ystyried chwyddiant tybiannol ar gyfer 2023/24. Soniwyd hefyd bod darpariaeth ar gyfer chwyddiant arall o £11.1 miliwn sy’n cynnwys £3.3 miliwn o chwyddiant ar brisiau trydan a £3 miliwn yn y maes gofal.  

 

Argymhellwyd i gymeradwyo bidiau gwerth £2.75 miliwn am adnoddau parhaol ychwanegol a gyflwynwyd gan Adrannau’r Cyngor i gwrdd â phwysau anorfod ar wasanaethau. Credwyd bod y bidiau yma yn angenrheidiol ac yn ychwanegol i’r £3 miliwn o ychwanegiad i gyllideb Digartrefedd sy’n cael ei ariannu o’r Premiwm Treth Cyngor. 

 

Eglurwyd bod yr holl fidiau a gyflwynwyd wedi cael eu herio yn drylwyr gan y Tîm Arweinyddiaeth yn ogystal â’u hystyried yn y Seminar Cyllideb efo’r holl aelodau a gynhaliwyd ar 26 Ionawr 2023. 

 

I grynhoi, nodwyd bod anghenion gwario’r Cyngor (cyn tynnu arbedion) ar gyfer 2023/24 yn £323.1 miliwn fel sydd wedi ei nodi yn rhan 3 o’r adroddiad. Nodwyd yn rhan 2 fod y grant oddi wrth Lywodraeth Cymru am fod yn £227.8 miliwn. Golyga hyn bod bwlch gweddilliol o £95.2 miliwn angen ei lenwi. Argymhellir cyfarch y bwlch drwy gynyddu’r Dreth Cyngor yn ogystal â defnyddio’r arbedion; byddai defnyddio’r arbedion sydd eisoes wedi eu cymeradwyo ar gyfer 2023/24 a’r rhai newydd yn creu cyfanswm o £5.2 miliwn fyddai’n cael ei ddefnyddio i leihau’r bwlch ariannol. Byddai cynyddu’r Dreth Cyngor o 4.95% yn cynhyrchu ychydig dros £90 miliwn o incwm, byddai hyn yn ddigonol i lenwi’r bwlch ariannol.  

 

Tynnwyd sylw at Atodiad 4 sydd yn adlewyrchu’r gofynion cyfalaf, ynghyd â’r ariannu, er mwyn sefydlu rhaglen gyfan gwerth £67 miliwn yn 2023/24. Nodwyd y bydd y Pennaeth Cyllid yn nodi’r sylwadau gafodd eu derbyn gan aelodau’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a gynhaliwyd ar 9 Chwefror 2023. 

 

Ychwanegodd y Pennaeth Cyllid nad oedd pwyntiau penodol gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i’r Cabinet ystyried ond y byddai yn cyfeirio at y sylwadau a dderbyniwyd. Derbyniwyd cwestiwn am y defnydd o falensau gyda’r Pennaeth Cyllid yn egluro pam ei fod ddim yn ddefnydd sy’n cael ei wneud gan y Cyngor; cafodd yr ymateb hwn ei dderbyn gan y Pwyllgor. Derbyniwyd sylw ar gostau chwyddiant ar gyflogau athrawon gan y bod sôn gan Lywodraeth Cymru am gynnydd pellach ar gyflogau athrawon. Cwestiynwyd os byddai’n rhaid addasu’r gyllideb i gwrdd â hyn. Mynegodd y Pennaeth Cyllid nad oes digon o fanylion wedi eu derbyn hyd yma am y cynnig hwn ond byddem yn disgwyl i Lywodraeth Cymru yn ariannu’r cynnydd drwy grant ychwanegol. Ategodd nad oes digon o wybodaeth wedi ei dderbyn i addasu’r gyllideb. 

 

Derbyniwyd cwestiwn pellach ar y Cyd-bwyllgor Corfforedig a’i ardoll yn cynyddu. Soniwyd bod cyfrifoldebau’r Cyd-bwyllgor Corfforedig yn parhau i dyfu drwy’r Is-bwyllgorau rhanbarthol Cynllunio a Thrafnidiaeth sydd yn y broses o gael eu sefydlu. Nodwyd bod penderfyniadau angen eu gwneud a cyfeiriwyd at y trafodaethau am y bwriad o uno cyfrifoldebau llywodraethu’r CBC efo’r Bwrdd Uchelgais Economaidd. Sicrhawyd bod y Swyddogion Cyllid yn gwneud eu gorau i gadw costau lawr mewn perthynas â’r gwaith rhanbarthol. 

 

Yn ogystal â’r uchod, holodd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio os fydd y flwyddyn ariannol 2024/25 yn anoddach eto. Eglurwyd bod cynlluniau wedi eu gwneud i lenwi’r bwlch ariannol am y ddwy flynedd nesaf ond ei bod yn anodd rhagdybio beth fydd y lefelau chwyddiant erbyn hynny a beth fydd y setliad. Ategwyd bod Aelodau’r Pwyllgor yn fach i gefnogi’r bidiau.  

 

Yn olaf holwyd am ddefnydd y Premiwm at bwrpasau Digartrefedd i ymdrin â gorwariant pellach ond cyfeiriwyd at y swm benodol o £3 miliwn sydd eisoes wedi ei glustnodi ar gyfer 2023/24 at y pwrpas hwn. 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth 

·                  Gofynnwyd pe bai’r Cyngor heb gytuno i gynyddu’r Premiwm o 100% i 150% yn ôl ym mis Rhagfyr 2022 faint yn fwy byddai’n rhaid ei neilltuo i leddfu’r bwlch i ddelio â Digartrefedd. 

·                  Mewn ymateb nododd y Pennaeth Cyllid y byddai’r bwlch yn gyfatebol â chynyddu’r Dreth Cyngor 3% - 4% 

·                  Holwyd am effaith cynyddu’r Dreth Cyngor. Cymerwyd y cyfle i sôn am waith y tîm budd-daliadau a’r cymorth sy’n cael ei gynnig gan y Cyngor. Soniwyd am y Cynllun Gostyngiad Treth Cyngor ac anogwyd trigolion Gwynedd i ymgeisio amdano, nodwyd bod gwybodaeth bellach i’w gael ar wefan y Cyngor. Ychwanegwyd bydd rhai yn anghymwys am y Cynllun oherwydd bod rheolau caeth yn bodoli gan y Llywodraeth ond bod cymorth pellach ar gael gan y Cyngor o wahanol Adrannau megis y tîm taclo tlodi i geisio llenwi’r bwlch. Cydnabuwyd bod swyddogion yn arfer annog ceisiadau am fudd-daliadau ac efallai bod y bwlch yma yn un sydd angen ei gyfarch yn y dyfodol.  

·                  Argymhellwyd bod unrhyw un sy’n cael trafferthion talu’r Dreth Cyngor yn cysylltu â´r Adran ac nid yn unig y rhai sy’n derbyn budd-daliadau, bydd cymorth ar gael i bawb.  

·                  Mynegwyd bod yr adroddiad yn cyfeirio at rai elfennau cadarnhaol iawn a’n dangos gallu’r Cyngor i ddelio â risgiau. Ychwanegwyd mai un o brif risgiau’r Cyngor dros y flwyddyn ddiwethaf oedd ei anallu i ddarparu digon o ofal oherwydd diffyg gofalwyr. Nodwyd bellach bod y Cyngor wrth osod y gyllideb wedi gallu cwrdd â’r pwysau hwn drwy gynyddu cyflogau gofalwyr i lefel gystadleuol sy’n adlewyrchu eu dyletswyddau. Gobeithiwyd y bydd hyn yn galluogi’r Cyngor i allu denu mwy o ofalwyr i wneud y gwaith angenrheidiol yma sydd yn gam positif. 

 

Awdur:Dewi Aeron Morgan, Pennaeth Cyllid

Dogfennau ategol: