Adroddiad
gan Dewi A Morgan, (Pennaeth Cyllid)
Cofnod:
Cafwyd cyflwyniad gan y Pennaeth Cyllid, o dan y penawdau
isod :
Yr Amserlen o ran penderfynu ar a cheisio cael cytundeb ar
y Strategaeth Gyllidol
Y Gyllideb Refeniw : Yr Hafaliad
Rhagolygon Cyffredinol Cyllideb 2023/24
Chwyddiant Cyflogau o £14.2M
Chwyddiant ar Wasanaethau a Chyflenwadau o £11.1m
Cyfeiriwyd at y Demograffi Gofal ac Addysg, gan nodi bod
Gofal Plant yn £32k, ac Ysgolion yn £229K, hynny yw :
Ysgolion
Cynradd (£135k)
Ysgolion
Uwchradd £49
Ysgolion
Arbennig £315K
Yn seiliedig at leihad (cynradd) / cynnydd
(uwchradd/arbennig) mewn nifer disgyblion
Tynnwyd sylw hefyd at y :
Setliad Grant 2023/2024, a’r Pwysau ar Wasanaethau, gan
nodi - Bidiau Refeniw Parhaol £2.7m - Adran Addysg - darparu cinio ysgolion
Cynradd, Dilynol ac Arbennig £285,580
Cyfeiriodd hefyd at benawdau :
Bidiau Refeniw - Addysg yn £285,580
Cynlluniau Arbedion Cynlluniedig
Rhagolygon Cyfredol Cyllideb 2023/24
Hafaliad 2023/24
Cyfeiriodd yn benodol at Arbedion Ysgolion, gan nodi
bod :
Trafodaethau wedi
cychwyn ar 6%
Paratoi ar
gyfer 3%
Rhai ysgolion
yn wynebu gormodedd - ond nid oherwydd y toriad arfaethedig
Hepgor
Ysgolion Arbennig
Effaith y gyfundrefn
warchodaeth i ysgolion bychan = pawb arall yn gorfod cyfrannu mwy
Rhai
ysgolion yn cael ei gwthio dros y 3%
Felly
cynnig cap o 3%
Arbediad
ar draws y sector felly yn 2.39%
1.39% a
0.99% dros ddwy flynedd
Cynlluniau Arbed Newydd
23/24 24/25 cyfanswm
Ysgolion
Cynradd 541,600 386,900 928,500
Ysgolion
Uwchradd 605,000 432,600 1,037,600
Ysgolion
Arbennig 0 0 0
Cyfanswm 1,146,600 819,500 1,966,100
Cynlluniau Arbed Newydd 2023/24
Arbedion Adrannau (heb gynnwys ysgolion) £3,097,370
Arbedion Ysgolion £1,146,600
Cynlluniau Arbed Newydd 2023/24 Addysg Ganolog yn £835,000
Nododd hefyd Treth Cyngor a Rhagolygon 2024/25
Diolchwyd am y cyflwyniad gan y Pennaeth Cyllid. Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet Cyllid ar y
drefn a gymerwyd i ddod i benderfyniad ar y toriadau arfaethedig, gan nodi bod
y Cabinet wedi ceisio bod yn deg, ac wedi ystyried Adrannau y Cyngor i gyd, gan
edrych ar gynigion arbedion dros dri dydd.
Nododd bod rhai materion positif wedi codi megis y setliad wedi bod
mymryn yn well na’r disgwyl, bod swm wedi dod i law o ran ffordd y Cyngor o
ymdrin â benthyciadau, ac roedd yn teimlo fod y Cabinet wedi gwneud eu gorau
dros bob Adran. Nododd y Pennaeth Addysg bod sylw priodol a herio pob Pennaeth
Gwasanaeth wedi digwydd, ac mae nid ar chwarae bach yr ystyriwyd toriadau i
addysg.
Nododd y Cadeirydd nad oes neb byth yn hoff o doriadau, a
chwestiynwyd beth yw effaith toriadau canolog ar ysgolion? Cadarnhawyd bod unrhyw ardrawiad ar ysgolion
wedi ei gadw i’r lleiafrif, ac y bydd
unrhyw effaith ar GwE yn cael ei drafod ar lefel Prif Weithredwyr.
Ar gais y Cadeirydd cadarnhawyd bod y ffigyrau yn ymdrin
â 2023/2024 a 2024/2025 a bod y Cyngor yn ceisio cynllunio fesul dwy
flynedd. Nodwyd wrth gwrs nad yw yn
wybodus beth fydd y ffigwr chwyddiant yn y dyfodol, ond bod yr Adran Gyllid yn
gweithio ar sail y bydd y toriadau hyn yn ddigonol, ond wrth gwrs yn methu a
gwarantu. Atgoffodd y Pennaeth Addysg
pawb bod y % wedi ei rannu fel bod y flwyddyn gyntaf yn drymach gan fod gan
ysgolion fwy o falansau y flwyddyn hon.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: