Agenda item

Ystyried yr adroddiad a chraffu’r wybodaeth cyn i’r Cabinet argymell cyllideb 2023/24 i’r Cyngor llawn

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Derbyn yr adroddiad gan nodi’r cynnwys
  • Derbyn priodoldeb ariannol y cynigion a’r risgiau perthnasol
  • Cyflwyno sylwadau o’r drafodaeth ar yr opsiynau i’r Cabinet eu hystyried wrth drafod Cyllideb 2023/24 yn eu cyfarfod 14/2/23

 

Cofnod:

a)    Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet Cyllid yn nodi fod y Cyngor wedi derbyn cynnydd grant drafft o 7.0%, sy’n cyfateb i werth £14.6m mewn ariannu allanol (cyfartaledd ledled Cymru yn 7.9%) ar gyfer 2023/24 sy’n welliant sylweddol ar y setliad dangosol a gyhoeddwyd yn Rhagfyr 2022.  Er derbyn setliad rhesymol eleni, adroddwyd y byddai nifer o ffactorau yn creu pwysau gwariant ychwanegol ar wasanaethau’r Cyngor yn 2023/24 gyda’r angen i gynyddu gwariant o £27.8m i gwrdd â phwysau ar gyllidebau’r gwasanaethau.  Yn ogystal â chyfarch graddfa chwyddiant uwch nag y bu ers sawl blwyddyn, bod cyfle i ymdrin â phwysau gwario ehangach gan gynnwys mynd i’r afael â chostau parhaus sy’n deillio o’r argyfwng Covid-19, a dileu neu ohirio cynlluniau arbedion nad yw’n ymarferol i’w gwireddu yn 2023/24.

 

Amlygwyd mai rôl y Pwyllgor oedd craffu’r wybodaeth gan sicrhau bod y Cabinet a’r Cyngor yn glir o’r ffeithiau sydd yn cael eu cyflwyno iddynt fel bod y penderfyniad yn seiliedig ar wybodaeth gadarn.

 

Gwahoddwyd y Pennaeth Cyllid yn ei rôl fel swyddog cyllid statudol i  gyflwyno’r wybodaeth i fynegi ei farn a manylu ar gadernid yr amcangyfrifon oedd yn sail i’r gyllideb ynghyd a’r risgiau posib a’r camau lliniaru.

 

Amlygodd, y ceisir penderfyniad y Cabinet yn ei gyfarfod 14/02/23 i argymell i’r Cyngor Llawn (2/03/23) sefydlu cyllideb o £317,880,310 ar gyfer 2023/24 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £227,842,930 a £90,037,380 o incwm o’r Dreth Cyngor (gyda chynnydd o 4.95% ar dreth anheddau unigol)  a sefydlu rhaglen gyfalaf o £67,780,150 yn 2023/24.

 

Eglurwyd bod Gofynion Gwario Ychwanegol wedi eu hystyried yn y gyllideb ac amlygwyd y meysydd hynny;

 

·         Chwyddiant Cyflogau o £14.2m - y gyllideb yn neilltuo amcan gynnydd yng nghytundeb tâl 2023/24 o 4% ar gyfer yr holl weithlu, a hynny ar ôl ychwanegiad i adlewyrchu’r sefyllfa fod cytundeb tâl terfynol 2022/23 wedi bod yn uwch na’r hyn oedd wedi ei gyllido amdano

·         Chwyddiant Arall o £11.1m - swm sy’n cynnwys darpariaeth ar gyfer ystod eang o newidiadau ar raddfa chwyddiant meysydd penodol (Cartrefi Gofal Preswyl Annibynnol, Gofal Dibreswyl, Ynni, Tanwydd, Cynnydd prisiau eraill).

·         Ardollau i gyrff perthnasol yn cynyddu

·         Demograffi - lleihad net mewn nifer disgyblion a chynnydd mewn plant yn derbyn gofal

·         Pwysau ar Wasanaethau o £5.75m - argymell cymeradwyo bidiau gwerth £2.75m am adnoddau parhaol ychwanegol a gyflwynwyd gan adrannau’r Cyngor i gwrdd â phwysau anorfod ar eu gwasanaethau.  Yn ychwanegol i’r bidiau parhaol, argymhellwyd cymeradwyo ychwanegiad i’r gyllideb Digartrefedd o £3m sydd yn cael ei ariannu o’r Premiwm Treth Cyngor, yn unol â phenderfyniad y Cyngor llawn ar 1 Rhagfyr 2022. Nodwyd bod y bidiau a gyflwynwyd wedi eu herio’n drylwyr gan y Tîm Arweinyddiaeth cyn eu hargymell i’w cymeradwyo gan y Cabinet.

 

Cyfeiriwyd at ystyriaethau eraill lle nodwyd effaith cynnydd mewn derbyniadau llog mewn dychweliadau wrth fuddsoddi balansau â llif arian y Cyngor ynghyd a lleihad mewn cyfraniad pensiwn y cyflogwr yn sgil yr ailbrisiad teirblynyddol. Amlygwyd hefyd byddai defnyddio dull mwy darbodus i glirio dyled Gofyn Cyllido Cyfalaf mewn llai  o flynyddoedd hefyd yn cynnig arbediad o £2.4m - daw hyn yn sgil adolygu’r polisi Darpariaeth Lleiafswm Refeniw (DLlR).

 

Yng nghyd-destun y cynlluniau arbedion, nodwyd bod Cyngor Gwynedd wedi gwireddu dros £33.5m o gynlluniau arbedion ers 2015/16. Amlygwyd bod arbedion gwerth £950,250 oedd eisoes wedi eu rhaglennu i leihau bwlch Cyllideb 2023/24 wedi llithro o ganlyniad i effaith sylweddol covid-19. Bydd yr arbedion hyn yn cael eu cyflawni yn ystod 2023/24 gyda’r cyrhaeddiad yn cael ei adolygu yn flynyddol.

 

Yn dilyn derbyn gwybodaeth am y setliad gan Lywodraeth Cymru, adnabuwyd bwlch ariannol o £12.4m dros ddwy flynedd, gyda £6.4 o arbedion eisoes wedi eu hadnabod ar gyfer 2023/24. Y bwriad yw comisiynu gwaith pellach i sefyldu’r ail wedd o arbedion a thoriadau (oddeutu £1.6m - £2.2m ) cyn gosod cyllideb 2024/25.

 

Roedd y Pennaeth Cyllid o’r farn fod y gyllideb y ar gyfer 2023/24 yn un gadarn, digonol a chyrhaeddawy.

 

b)    Diolchwyd am yr adroddiad

 

c)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Cytuno gyda’r farn o beidio defnyddio balansau

·         Bod angen rhagweld y cynnig diweddar i gynyddu cyflogau athrawon

·         Bod angen pwyso ar y Llywodraeth i roi grant i alluogi newid

·         Bod yr adroddiad yn cynnig manylion digonol a chadarn

·         Bod ariannu bidiau newydd i'w groesawu

·         Bod y gostyngiad mewn cyfraniadau pensiwn i’w groesawu ynghyd â llog ychwanegol ar falansau

·         Mai anodd fydd canfod ‘one offs‘ ar gyfer 2024/25

·         Diolch i Arlingclose eto eleni am gyflwyniad da (ar 3ydd Chwefror)

 

Mewn ymateb i gwestiwn pam nad oedd Cyngor Gwynedd fel rhai Cynghorau eraill yn defnyddio balansau, nodwyd, er bod gan Cyngor Gwynedd falansau iach, bod y mwyafrif wedi ei glustnodi ar gyfer cynlluniau i wireddu Cynllun y Cyngor ac i ymdopi gyda gwariant angenrheidiol e,e cynnydd mewn chwyddiant. Ategwyd, os daw yn arferiad i ddefnyddio balansau, buan iawn y bydd sefyllfa o ansefydlogrwydd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am yr arian oedd wedi ei glustnodi ar gyfer sefydlu Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd (CBC), nodwyd bod sefydlu CBC wedi ‘ei roi’ ar yr Awdurdodau Lleol ac felly bydd rhaid ymdopi gyda’r sefyllfa. Fel y bydd trefniadau yn datblygu, nodwyd efallai bydd rhai swyddogaethau yn gostwng mewn ymateb i gyfleoedd a sefyllfaoedd posib. Ategwyd mai Cyngor Gwynedd sy’n darparu gwasanaethau Cyllid a Chefnogol ar gyfer y CBC a bod swyddogion yn annog a darbwyllo cadw costau i lawr wrth sefydlu trefn.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â defnyddio arian premiwm rhai dosbarthau o ail gartrefi ac eiddo gwag hir dymor i gau’r bwlch ariannol ym maes digartrefedd yn hytrach na defnyddio reserfau o ystyried mai bwriad arian y premiwm oedd i weithredu Cynllun Tai'r Cyngor a chadw pobl leol yn eu cymunedau, nodwyd mai UN waith y bydd disgwyl defnyddi’r gronfa sydd eisoes wedi ei gasglu o arian y premiwm yn cael er mwyn ymdrin â gorwariant yn y maes digartrefedd, ac na fydd hyn yn cael effaith ar weithredu’r Cynllun Tai.  Ategwyd fod trafodaethau yn digwydd gyda’r Adran Tai ac Eiddo er mwyn gostwng y gorwariant a ragwelir yn 2022/23. Ategwyd, yn sicr, na fydd arian y premiwm yn cael ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw faes arall ac na fydd defnydd cyffredinol iddo.  O 2023/24 ymlaen, tan fydd newid yn y polisi Premiwm, bydd swm penodol wedi ei glustnodi o’r Premiwm er mwyn ymdrin â chostau cynyddol digartrefedd.

             

            PENDERFYNWYD

 

·         Derbyn yr adroddiad gan nodi’r cynnwys

·         Derbyn priodoldeb ariannol y cynigion a’r risgiau perthnasol

·         Cyflwyno sylwadau o’r drafodaeth ar yr opsiynau i’r Cabinet eu hystyried wrth drafod Cyllideb 2023/24 yn eu cyfarfod 14/2/23

 

Dogfennau ategol: