I graffu’r
sail tystiolaeth, yr opsiynau ardaloedd a’r opsiwn a ffafrir ar gyfer cyflwyno
Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn Ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd a fyddai’n
galluogi rheoli’r trosglwyddiad mewn defnydd o dai preswyl i ddefnydd gwyliau
(ail-gartrefi a llety gwyliau).
Penderfyniad:
·
Derbyn yr
adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.
·
Argymell i’r
Cabinet y dylid cymeradwyo yr opsiwn a ffafrir o ran cyflwyno Cyfarwyddyd
Erthygl 4, sef ‘Opsiwn 4: Gwynedd gyfan (Ardal yr Awdurdod Cynllunio Lleol
Gwynedd)’.
·
Gofyn i’r
swyddogion polisi cynllunio ail-edrych ar y trothwy y diffinir gorddarpariaeth
o lety gwyliau ac ail gartrefi mewn cymunedau, yn ystod y broses o lunio
Cynllun Datblygu Lleol newydd.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet
Amgylchedd, Pennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd ac Arweinydd Tîm (Uned Polisi
Cynllunio ar y Cyd – Gwyned a Môn). Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau
canlynol:
-
Atgoffwyd
yr aelodau bod tri dosbarth defnydd newydd bellach wedi dod i rym, sef:
o C3 – Prif Gartref
o C5 – Ail Gartref Eilaidd
o C6 – Llety Gwyliau
-
Cadarnhawyd
bod perchnogion tai yn gallu newid dosbarth defnydd eu tai heb gais cynllunio a
byddai cyfarwyddyd Erthygl 4 yn rheoli hyn, drwy ychwanegu’r orfodaeth i wneud
cais cynllunio cyn newid dosbarth defnydd eu tai.
-
Pwysleisiwyd
bod cyflwyno cyfarwyddyd Erthygl 4 yn ddull o reoli stoc dai oddi fewn
ardaloedd, a thrwy hynny hwyluso gallu pobl leol gael tai o fewn eu cymunedau.
-
Adroddwyd
bod y broses o gyflwyno’r cyfarwyddyd yn newydd a digynsail a chadarnhawyd bod
yr adran yn y broses o dderbyn cyngor cyfreithiol ar gyfer y gwahanol agweddau
o’r broses.
-
Eglurwyd
ni fyddai cyfarwyddyd Erthygl 4 yn berthnasol i ardal awdurdod cynllunio Parc
Cenedlaethol Eryri. Er hyn, mae swyddogion yr adran yn cydweithio yn agos
gyda’r Parc i rannu buddion/profiadau.
-
Adroddwyd
bod cynnydd wedi bod mewn niferoedd yn trosglwyddo o fod yn uned breswyl i
fusnes llety gwyliau gan dalu treth annomestig.
-
Nodwyd
bod ystyriaeth wedi cael ei roi i gyfres o opsiynau ardaloedd cyn i’r
swyddogion dod i gasgliad ar y ffordd gorau o gyflwyno cyfarwyddyd Erthygl 4
sef:
o Opsiwn 1: Dwyfor (ardal beilot y
Llywodraeth)
o Opsiwn 2: Ardaloedd Cynghorau
Cymuned/Tref/Dinas ble fo’r ddarpariaeth bresennol o gartrefi gwyliau yn fwy na
15% o’r stoc dai
o Opsiwn 3: Ardaloedd Bregus (ardaloedd sydd
dan fygythiad)
o Opsiwn 4: Gwynedd gyfan (Ardal Awdurdod
Cynllunio Lleol Gwynedd).
-
Cadarnhawyd
bod gwaith ymchwil y swyddogion yn awgrymu mai’r opsiwn a ffafrir i gyflwyno
cyfarwyddyd Erthygl 4 ydi Gwynedd gyfan (Opsiwn 4). Er hyn, nodwyd nad oes modd
bod yn sicr o oblygiadau ar yr ardal. Tybiwyd mai dyma’r opsiwn symlaf ymlaen
gan na fyddai amheuaeth o ba ardaloedd sy’n disgyn o dan reolaeth y cyfarwyddyd
– oni bai am ardaloedd o dan reolaeth cynllunio ardal Parc Cenedlaethol Eryri.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol:
Nododd aelod ei fod yn falch bod
argymhelliad clir ond yn pryderu am yr effaith bosib ar ardaloedd o dan y
trothwy gormodedd o ail gartrefi a llety gwyliau o 15% o’r stoc dai.
Eglurodd y Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd
na fyddai gweithredu cyfarwyddyd Erthygl 4 yn newid polisïau cynllunio ac mai
polisiau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd,
fydd dal yn weithredol yn dilyn cyflwyno
cyfarwyddyd erthygl 4.
Mewn ymateb i ymholiad am ddiffiniad o ‘ail
gartrefi a llety gwyliau’, adroddodd Bennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd nad
oes polisi penodol ar gyfer llety gwyliau ac ail gartrefi. Er hyn, eglurwyd bod
cymal ym Mholisi TWR 2 yn sicrhau na fydd caniatâd cynllunio yn cael ei
ganiatáu os yw’n amharu ar stoc dai Gwynedd. Sicrhawyd bod pob cais yn cael ei
ddelio ar ei rinweddau unigol ac felly nid oes modd cadarnhau bod y cymal hwn
ym Mholisi TWR 2 yn mynd i atal pob cais cynllunio sy’n effeithio ar y stoc
dai. Pwysleisiwyd hefyd fod posibilrwydd y byddai ymgeiswyr yn apelio
penderfyniadau ar sail y cymal. Cytunwyd, y byddai’n fuddiol i ymhelaethu ar yr
arweiniad yn y Canllaw Cynllunio Atodol (Cyfleusterau a llety i dwristiaid) os
yw’r Cabinet yn cadarnhau bwriad i weithredu ar gyfarwyddyd Erthygl 4
Mewn ymateb i ymholiad ychwanegol i ddiwygio
geiriad Polisi TWR 2 i gynnwys ‘ail gartrefi’, cadarnhaodd Aelod Cabinet
Amgylchedd byddai hyn yn ystyriaeth wrth i Gynllun Datblygu Lleol newydd gael
ei ddatblygu.
Mewn ymateb i ymholiad atodol, cadarnhawyd
gan Bennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd bod y term ‘gormodedd’ yn cael ei
ddiffinio yng Nghanllaw Cynllunio Atodol - Cyfleusterau a Llety i Dwristiaid.
Mewn ymateb i ymholiad atodol, cadarnhawyd
gan Arweinydd Tîm (Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd -
Gwynedd a Môn) nad yw llety gwyliau yn cael eu cynnwys oddi fewn y
diffiniad o ‘stoc dai’. Nodwyd fod y polisi wedi cael ei lunio cyn cyflwyno y
deddfwriaeth cynllunio newydd a chan hynny nid oedd yn bosib (ar yr amser) i
wahaniaethu rhwng y defnyddiau.
Nododd aelod bod Llywodraeth Cymru wedi
ymateb i alwadau ymgyrchwyr ond wedi creu mwy o fiwrocratiaeth. Roedd rhaid
gwneud y gorau o’r sefyllfa. Cyfeiriodd at ffynhonellau
ariannu er mwyn plismona’r newidiadau a’r angen am adnoddau staffio. Nododd
drwy weithredu cyfarwyddyd Erthygl 4 yn ardal Awdurdod Cynllunio Gwynedd y
byddai effaith ar ardal Awdurdod Cynllunio Parc Cenedlaethol Eryri, a’i fod yn
mawr obeithio y byddai cyfarwyddyd yn weithredol drwy’r sir i gyd.
Mewn ymateb i ymholiad ar amseru’r gwaith o
baratoi Cynllun Datblygu Lleol newydd
Gwynedd a materion cyfarwyddyd Erthygl 4, eglurodd Pennaeth
Cynorthwyol Adran Amgylchedd bod Cynghorau Gwynedd a Môn wedi penderfynu
peidio gweithredu ar y cyd gyda pholisïau cynllunio yn y dyfodol. Oherwydd hyn,
ac fel yr eglurwyd yn yr adroddiad i’r Cabinet, mae oediad wedi bod i’r gwaith
ar y Cynllun Datblygu Lleol newydd.
O safbwynt pryderon a godwyd am adnoddau,
pwysleisiwyd bod proses creu pecyn recriwtio swyddog i gynorthwyo gyda
gweithrediad y Cyfarwyddyd Erthygl 4 wedi cychwyn.
Holodd aelod am yr amserlen, mewn ymateb
nododd Pennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd y bwriedid cyflwyno adroddiad ar
yr opsiwn a ffafrir i’r Cabinet yn Ebrill/Mai gyda’r cam nesaf, os cymeradwyir,
i gynnal ymgynghoriad.
Mewn ymateb i ymholiad ar sut bydd y
cyfarwyddyd yn cael ei weithredu, adroddodd Aelod Cabinet Amgylchedd bod
cefnogaeth ariannol yn cael ei ddarparu gan y Llywodraeth. Cydnabuwyd mai prif
sialens yr adran wrth weithredu’r cyfarwyddyd bydd i benodi swyddogion.
Eglurwyd bod prosesau recriwtio cyffredinol yn heriol iawn ar hyn o bryd ond
mae’r adran yn gweithredu er mwyn denu
swyddogion – gyda’r trefniadau yn cynnwys
arfarnu swyddi yn dilyn adolygu
disgrifiadau swyddi, datblygu pecyn recriwtio, cyflogi hyfforddai
cynllunio oddi fewn system Cynllun Yfory ac mae’r Gwasanaeth yn rhan o brosiect
Cynllunio Gweithlu’r Cyngor. Ymhelaethodd Pennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd
ei bod yn anodd rhagweld yn union faint o swyddogion bydd angen eu penodi er
mwyn gweithredu’r cyfarwyddyd, gan ragrybuddio ( er trefniadau sydd ar waith) y
gall recriwtio fod yn heriol. Manylwyd bod y Llywodraeth yn datgan bwriad i
ddarparu arian ar gyfer y Ardal Dwyfor (sef ardal peilot y Llywodraeth) gyda
gwaith t, ond bod y Cyngor hefyd yn cyfrannu’n ariannol gyda bid un-tro wedi ei
gyflwyno er mwyn gallu cyflwyno’r cyfarwyddyd i ardaloedd eraill yn ardal
awdurdod cynllunio Gwynedd .
Mewn ymateb i ymholiad atodol, cydnabuwyd
gan Bennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd bod sialensiau ariannol ychwanegol yn
gallu deillio o gyfarwyddyd Erthygl 4, megis heriau cyfreithiol. Er hyn,
manylwyd bod yr adran wedi gwneud ceisiadau am arian ychwanegol a gobeithir
bydd unrhyw her gyfreithiol yn gallu cael ei ariannu drwy gyllideb hyn.
Cyfeiriwyd at dabl yn yr adroddiad a oedd yn
cyflwyno trosolwg bras o’r camau angenrheidiol fyddai angen eu cymryd ynghyd a
gosod amserlen fras ar gyfer cyflawni’r camau. Eglurodd Arweinydd Tîm (Uned
Polisi Cynllunio ar y Cyd - Gwynedd a Môn) y disgwylid am arweiniad cyfreithiol
o ran cydymffurfio gyda’r gofyn i rybuddio’r sawl a effeithir a’r gofyniad o
osod rhybudd.
Eglurwyd gan Aelod Cabinet Amgylchedd nad
oedd casgliadau’r swyddogion yn cynnwys unrhyw ardal o fewn tiriogaeth Parc
Cenedlaethol Eryri oherwydd mae gan y Parc ei reolaeth cynllunio annibynnol. Yn
ogystal â hyn, mae rhannau o’r Parc wedi ei leoli yng Nghonwy..
Ymhelaethwyd gan Bennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd bod yr Adran yn
cydweithio yn agos gyda’r Parc drwy gydol y broses er mwyn eu hannog i gyflwyno
cyfarwyddyd Erthygl 4 eu hunain. Eglurwyd bod swyddogion y Parc angen cysidro
eu hadnoddau a’r amrywiol effeithiau cyn cyflwyno’r cyfarwyddyd.
Nodwyd gan nifer o aelodau bod y ganran a
ystyrir fel gormodedd o lety gwyliau wedi newid i fwy na 15% o’r stoc dai, ac
mai 10% oedd y ffigwr hwn yn y gorffennol. Mewn ymateb i ymholiad pam bod y
newid hwn wedi digwydd, eglurwyd gan Arweinydd Tîm (Uned Polisi Cynllunio ar y
Cyd - Gwynedd a Môn) bod swyddogion wedi edrych ar Canllawiau Cynllunio Atodol
blaenorol a oedd mewn defnydd gyda Chynllun Datblygu Lleol Unedol. Wrth
ddatblygu Canllawiau Cynllunio Atodol newydd, fe oedd yn ategu’r canllawiau a
oedd eisoes yn bodoli er mwyn creu Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.
Ymhelaethwyd pan fo’r ffigwr blaenorol o 10% yn weithredol ystyriwyd ail
gartrefi a llety gwyliau ar wahân, ble mae’r ffigwr o 15% yn cynnwys ail gartrefi a llety gwyliau. Cadarnhawyd bod
swyddogion wedi cysidro ardaloedd sydd â chanran o 15% neu uwch er mwyn
ystyried os yw’r trefniant newydd yn effeithiol a theg.
Rhannwyd pryder gan nifer o aelodau bod y
rhicyn gorddarpariaeth o ail gartrefi a llety gwyliau o 15% o dai'r ardaloedd yn rhy uchel mewn rhai cymunedau ac yn gallu
achosi sefyllfaoedd ble mae mwy o dai gwyliau ar gael mewn rhai ardaloedd na’r
sefyllfa bresennol. Gofynnwyd i swyddogion ail ystyried newid y rhicyn
perthnasol i lawr i 10% ar gyfer Gwynedd gyfan.
PENDERFYNWYD:
· Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod
y drafodaeth.
· Argymell i’r Cabinet y dylid cymeradwyo yr opsiwn a ffafrir o
ran cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4, sef ‘Opsiwn 4: Gwynedd gyfan (Ardal yr
Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd)’.
· Gofyn i’r swyddogion polisi
cynllunio ail-edrych ar y trothwy y diffinnir gorddarpariaeth o lety gwyliau ac
ail gartrefi mewn cymunedau, yn ystod y broses o lunio Cynllun Datblygu Lleol
newydd.
Dogfennau ategol: