Penderfyniad:
Cofnod:
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y byddai'r penderfyniad yn cael ei
wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd
mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau
ar y meini prawf wrth ystyried
cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r
cyhoedd drwy sicrhau:
• Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol
• Nad yw'r unigolyn yn
fygythiad i'r cyhoedd
• Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl
anonest
• Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu
• Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu
• Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn
hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad
ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio
preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol ac adroddiad yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA)
Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn
argymell i’r Is-bwyllgor ganiatáu y cais. Roedd trwydded
yrru'r ymgeisydd yn drwydded lân.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â diffyg yr ymgeisydd i nodi ei golfan ar
y ffurflen gais ac nad oedd cyfeiriad
at hyn yn yr adroddiad (er bod Canllawiau Cenedlaethol IOL yn nodi hyn
fel mater difrifol), nododd y Rheolwr Trwyddedu bod ymgeiswyr o dro i dro yn
camddeall yr hyn sydd angen ei
nodi ar y ffurflen gais gan ystyried mai collfarnau / arnodiadau gyrru neu gollfarnau
diweddar sydd angen eu cofnodi. Ategwyd, gyda chynnydd
yn y nifer o geisiadau sydd yn cael eu cyflwyno
ar y wefan, bod llai o gyfle
i ymgeiswyr holi swyddogion,
ac felly yn rhoi cyfle
i’r ymgeisydd ymhelaethu ar y mater yn yr is-bwyllgor.
Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu
ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir
y gollfarn a’i amgylchiadau personol. Nododd ei ddymuniad
o gael swydd y byddai’n rhoi incwm
ychwanegol iddo a swydd fyddai’n codi hyder yn
ei allu i gyfathrebu gyda’r cyhoedd. Ategodd nad oedd wedi
cynnwys y gollfarn ar y ffurflen gais gan fod cyfnod o dair
blynedd wedi mynd heibio ac
roedd dan yr argraff nad oedd angen
datgelu collfarn hanesyddol.
PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd
yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded
gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat
gyda Chyngor Gwynedd.
Wrth gyrraedd eu penderfyniad,
roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:
·
Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat
a Cherbydau Hacni Cyngor
Gwynedd’
·
ffurflen gais yr ymgeisydd
·
adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad
DBS ac adroddiad Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau
·
sylwadau ar lafar gan yr ymgeisydd
Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol
Cefndir
Yn Chwefror 2014 cafwyd
yr ymgeisydd yn euog o Ddinistrio neu Ddifrodi eiddo
(gwerth yr eiddo £5000 neu lai o dan Ddeddf Difrod Troseddol 1971 yn unig), yn
groes i Ddeddf Difrod Troseddol 1971, a.1(1). Bu
iddo dderbyn ‘rhyddhad amodol’ ynghyd a gorchymyn i dalu costau £85, iawndal o £30 a chostau dioddefwr o £15.
CYMALAU PERTHNASOL Y POLISI
Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle
nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael
ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw
gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei
fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr
ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol. Mae paragraff 2.4 yn nodi
pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn euog o drosedd(au)
neu fod mater arall/materion eraill i'w (h)ystyried yng nghyswllt hynny, ni
chaiff y cyngor adolygu rhinweddau'r gollfarn honno na'r mater arall hwnnw.
Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn
Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r
Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf
1974 neu beidio.
Mae paragraff 6.0 o’r Polisi yn cyfarch troseddau o
drais. Ym mharagraff 6.1 nodir, gan fod gyrwyr trwyddedig yn dod i gysylltiad
agos gyda'r cyhoedd yn rheolaidd y byddai is-bwyllgor yn mabwysiadu safbwynt
cadarn at y rhai hynny sydd â throseddau yn ymwneud a thrais.
Mae paragraff 6.5 o’r Polisi yn nodi y bydd cais am
drwydded fel rheol yn cael ei wrthod os oes gan yr ymgeisydd fater i’w ystyried
am ymosodiad sy’n achosi gwir niwed
corfforol o dan Ddeddf Trefn Gyhoeddus 1986 sydd yn llai na 3 blynedd cyn
dyddiad y cais.
CASGLIADAU
Ystyriodd yr Is-bwyllgor esboniad yr ymgeisydd o’r amgylchiadau a arweiniodd at gollfarn 2014 ynghyd ag argymhelliad y swyddog i ganiatáu y cais.
Daeth yr Is-bwyllgor i gasgliad bod collfarn 2014 yn drosedd o drais
i bwrpas y Polisi a bod digon o amser wedi
mynd heibio i’r trothwy tair
blynedd ers i’r ymgeisydd gael
ei ddyfarnu'n euog. Ystyriwyd esboniadau’r ymgeisydd a’r rhesymau dros
ei ymddygiad yn 2014 gan dderbyn
ei fod eisiau
rhoi'r mater tu cefn iddo a symud
ymlaen. Wedi ystyried natur y drosedd, y ddedfryd a roddwyd a’r ffaith
nad oedd unrhyw hanes pellach
o droseddu, nid oedd rheswm dros
beidio dilyn polisi’r awdurdod yn yr achos yma
a chaniatáu’r cais.
Penderfynodd yr Is-bwyllgor o blaid
caniatáu y cais a bod yr ymgeisydd yn berson
addas a phriodol i ddal trwydded gyrrwr
cerbyd hacni a hurio preifat
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r
penderfyniad yn cael ei gadarnhau
yn ffurfiol drwy lythyr i’r
ymgeisydd.
Gwnaed cais i’r Uned Drwyddedu adolygu’r ffurflen gais a nodi’n glir bod
angen datgelu gwybodaeth am bob collfarn, boed yn hanesyddol neu
beidio.